Neidio i'r prif gynnwy

Nodau ymchwil a methodoleg

Nodau ymchwil

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau trydedd don y gwerthusiad dulliau cymysg o brofiadau manwerthwyr ac effeithiau’r Isafbris am Alcohol (MPA) yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r ymchwil hefyd yn archwilio’r effaith ar bryniannau alcohol trwy ddadansoddi data eilaidd.

Methodoleg

Dulliau ansoddol

Hon oedd y drydedd don a’r olaf o gasglu data ansoddol. Gwelwyd lleihad yn nifer y cyfranogwyr yn y drydedd don, a aeth o 30 yn yr ail don i 22 yn y drydedd don oherwydd cyfradd gadael y sampl. Cymerodd 14 o gyfranogwyr rhan yn y tair ton. Roedd y sampl yn cynnwys manwerthwyr ledled pum rhanbarth yng Nghymru; manwerthwyr annibynnol a manwerthwyr cadwyn; manwerthwyr micro, bach a chanolig; a chyfuniad o drwyddedwyr mewnfasnach, trwyddedwyr allfasnach, neu drwyddedwyr mewnfasnach ac allfasnach.

Dulliau meintiol 

Asesodd ein dadansoddiad effaith yr Isafbris am Alcohol a gyflwynwyd yng Nghymru ym mis Mawrth 2020. Gan ddefnyddio dadansoddiadau Cyfres Amser Fylchog Reoledig (CITS), cymarasom dueddiadau prynu alcohol yng Nghymru â’r tueddiadau yn Lloegr, lle na chafodd yr Isafbris am Alcohol ei gyflwyno. Defnyddiasom ddata unedau alcohol a brynwyd ac a ddygwyd yn ôl i’r cartref Worldpanel Kantar dros y cyfnod 2016-2023 i gynnal y dadansoddiad. Mae Cyfres Amser Fylchog Reoledig (CITS) yn ddull ystadegol a ddefnyddir i werthuso effaith ymyrraeth neu driniaeth drwy gymharu’r newidiadau i ganlyniadau dros amser rhwng grŵp lle cyflwynwyd yr ymyrraeth (Cymru) a grŵp cymharu na chafodd yr ymyrraeth (Lloegr). 

Mae’r dull hwn yn caniatáu i ymchwilwyr amcangyfrif effaith yr ymyrraeth tra’n rheoli ar gyfer tueddiadau gwaelodol a ffactorau allanol sy’n dylanwadu ar y ddau grŵp, gan ein gwneud yn fwy hyderus bod unrhyw effeithiau a welir wedi’u hachosi gan Isafbris am Alcohol. Bu’r dull hwn yn help i ynysu effeithiau’r Isafbris am Alcohol o’r cyfnod cydamserol o fesurau diogelu yn erbyn COVID-19, gan fod Cymru a Lloegr wedi’u heffeithio gan y pandemig, ond dim ond Cymru a weithredodd yr Isafbris am Alcohol

Cyd-destun

Cyd-destun COVID-19, chwyddiant uchel, a chynyddu costau byw

Dylid nodi bod profiadau’r manwerthwyr a’u barn am weithredu ac effaith yr Isafbris am Alcohol wedi’u heffeithio ar draws y tair ton gan effeithiau mesurau lliniaru COVID-19, yr adferiad economaidd ar eu hôl, ac yn fwy amlwg yn ystod yr ail don a’r drydedd don, chwyddiant uchel.

Casglwyd data sylfaenol yn hydref a gaeaf 2019/ 2020 yn union cyn dechrau’r pandemig COVID-19 ym mis Mawrth 2020 a wnaeth gohirio’r ail don o gasglu data hyd hydref 2022. Roedd manwerthwyr allfasnach yn parhau i fod ar agor yn ystod y cyfnod cyfamserol, ond roedd manwerthwyr mewnfasnach yn aml ar gau ac yn ymadfer o’r mesurau a oedd yn weithredol ar eu busnesau pan gafodd y data eu casglu

Yn ystod yr ail don a’r drydedd don roedd manwerthwyr yn ymdrin â chwyddiant uwch nag arfer, ac yn arbennig felly yn ystod y drydedd don. Ni chodwyd yr isafbris uned o 50c dros oes yr astudiaeth, ac mae angen deall effeithiau’r polisi yn y drydedd don yng nghyd-destun chwyddiant uwch a’r cynnydd mewn costau byw.

Prif ganfyddiadau

Canfyddiadau ansoddol

Canfyddiadau cyffredinol

Teimlai manwerthwyr bod y polisi Isafbris am Alcohol yn cael yr effaith a ddymunir, sef lleihau gwerthiant alcohol cryfach, rhad trwy wneud cynhyrchion o’r math yn ddrutach. O ganlyniad, dywedwyd bod cwsmeriaid yn prynu llai ohonynt, ac roedd y manwerthwyr yn llai tebygol o stocio’r cynhyrchion hyn. Roedd hyn yn arbennig o wir ymysg manwerthwyr allfasnach. 

Hefyd, mae’r polisi bellach wedi ymwreiddio’n arfer ym musnes pob dydd y manwerthwyr. Fodd bynnag, efallai bod effeithiau’r polisi wedi’u gwanhau ers yr ail don wrth i effaith chwyddiant uchel bwrw cysgod dros y cynnydd mewn prisiau a achoswyd gan yr Isafbris Uned. Yn yr un cyfnod, arhosodd yr Isafbris Uned yn 50c.   

Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth

Gwelwyd gwelliant cynyddol yn lefelau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r polisi dros y tair ton o gasglu data. Roedd manwerthwyr yn dueddol o ddangos mwy o gefnogaeth i’r polisi pan oeddent yn deall ei fod wedi’i dargedu at leihau niwed ymysg y boblogaeth yn gyffredinol. Dangosant lai o gefnogaeth iddo lle roeddent yn credu, yn anghywir, bod y polisi wedi’i dargedu at yfwyr problemus. Dywedodd rhai manwerthwyr efallai y byddant yn elwa o gael briffiadau neu gyrsiau diweddaru byr ar brisio cynhyrchion â disgownt. 

Profiadau o’r Isafbris am Alcohol a’i gorfodi

Yn y drydedd don, dywedodd masnachwyr bod yr Isafbris am Alcohol wedi dod yn rhan o’u busnes arferol bob dydd. Lleihawyd yr anawsterau blaenorol a gafwyd o ran cyfrifo hyrwyddiadau, cynigion a disgowntiau trwy ddefnyddio ap MUP Llywodraeth Cymru, neu drwy brisio canolog gan bencadlysoedd siopau cadwyn. Golygai’r ffaith bod manwerthwyr wedi rhoi’r gorau ar werthu rhywfaint o’r cynhyrchion alcohol cryfach, rhatach nad oedd cymaint  o gynhyrchion yn cael eu gwerthu am lai na’r pris a ganiatawyd, yr oedd angen eu gwirio a chynyddu eu prisiau. 

Roedd amledd a natur gwiriadau cydymffurfiaeth gan Safonau Masnach yn amrywio, ond yn gyffredinol roedd manwerthwyr yn fodlon cydymffurfio â’u rhwymedigaethau cyfreithiol o ran yr Isafbris am Alcohol.

Effeithiau

Dywedodd manwerthwyr bod y galw am alcohol cryfach wedi lleihau wrth i brisiau godi. Roedd manwerthwyr mewnfasnach wedi lleihau eu stociau, rhoi’r gorau’n raddol i stocio cynhyrchion tebyg (e.e., seidr cryfach, cost isel), neu eu disodli â chynhyrchion premiwm, cyfaint is, a ystyriwyd yn werth gwell i gwsmeriaid. 

Effaith gadarnhaol y polisi Isafbris am Alcohol oedd bod masnachwyr mewnfasnach yn teimlo iddo greu cystadleuaeth decach rhyngddynt a masnachwyr allfasnach, yn enwedig yr archfarchnadoedd.

Roedd effeithiau negyddol yr Isafbris am Alcohol a drafodwyd yn yr ail don (e.e., costau hyfforddiant, gwastraff cynnyrch, a gwirio cynhyrchion â disgownt a ddosbarthwyd o Loegr) yn llai amlwg yn adroddiadau’r manwerthwyr yn y drydedd don. Dywedodd manwerthwyr nad oedd unrhyw effaith weladwy ar eu gwerthiannau oherwydd cwsmeriaid yn croesi’r ffin i brynu alcohol rhatach yn Lloegr.

Roedd manwerthwyr yn ei chael yn anodd mesur effaith yr Isafbris am Alcohol ar yfwyr problemus, ond roeddent wedi sylwi nad oedd cymaint o gwsmeriaid a ddisgrifiasant yn ‘drafferthus’ yn dod i’w siopau i brynu alcohol cryf a oedd yn rhad yn flaenorol. 

Canfyddiadau meintiol

Canfyddiadau cyffredinol

Yn gyffredinol, cafodd y polisi Isafbris am Alcohol effaith arwyddocaol yn ystadegol ar nifer yr unedau alcohol a brynwyd gan aelwydydd. I gychwyn, gwelwyd cynnydd amlwg ym mhryniannau alcohol yng Nghymru yn dilyn cyflwyno’r Isafbris am Alcohol, a oedd yn cyd-daro â’r mesurau lliniaru COVID-19. Fodd bynnag, roedd yr ymchwydd hwn yn llai yng Nghymru nag yn Lloegr, a gostyngodd pryniant alcohol yn gynt yng Nghymru wedi hynny. 

Grwpiau economaidd-gymdeithasol 

Ni welwyd newid arwyddocaol yn ystadegol ymysg grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch yng Nghymru yn syth ar ôl cyflwyno’r Isafbris am Alcohol, ond gwelwyd gostyngiad cyflymach mewn pryniant alcohol ar ôl cyflwyno’r Isafbris nag a welwyd yn Lloegr. I’r gwrthwyneb, gwelwyd llai o gynnydd i gychwyn mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is yng Nghymru, ond nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol yn ystadegol yn y duedd ostyngol wedi hynny.

Grwpiau prynu alcohol

Ni welwyd gwahaniaethau arwyddocaol yn ystadegol wrth ddadansoddi effeithiau’r Isafbris am Alcohol ar draws grwpiau a brynasant lefelau isel, canolig ac uchel o alcohol. 

Casgliadau

Gyda’i gilydd, mae canlyniadau’r ymchwil ansoddol a’r ymchwil meintiol yn dangos bod gweithredu’r polisi Isafbris am Alcohol yng Nghymru wedi cael yr effaith a ddymunwyd sef lleihau nifer yr unedau alcohol a brynwyd gan aelwydydd. 

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Martin Mitchella, Nevena  Ilica, Conor O’Sheaa, Elena Cossua, Thea Scheia, Colin Angusb, Andi Fugarda, Terry Ng-Knighta a Caterina Branzantia

[a] Canolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol 

[b] Ysgol Feddygaeth ac Iechyd y Boblogaeth, Prifysgol Sheffield

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
E-bost: Ymchwil.IechydAGwasanaethauCymdeithasol@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 81/2024
ISBN Digidol 978-1-83625-874-2

GSR logo