Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a methodoleg

Mae'r papur hwn yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol y gwerthusiad o flwyddyn 4 y Cynnig Gofal Plant i Gymru rhwng Mis Medi 2020 a mis Awst 2021. Bydd adroddiad llawn o'r canfyddiadau’n cael ei gyhoeddi maes o law.

O dan y Cynnig Gofal Plant, mae rhieni sy'n gweithio yn cael cynnig hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi’u hariannu gan y llywodraeth, ar gyfer plant 3 a 4 oed. Mae'r Cynnig yn adeiladu ar yr ymrwymiad cyffredinol presennol i addysg gynnar, sy'n rhoi o leiaf 10 awr yr wythnos o ddarpariaeth i bob plentyn 3 a 4 oed o dan y ddarpariaeth Meithrin y Cyfnod Sylfaen (FPN). O dan y Cynnig Gofal Plant mae gan rieni sy'n gweithio hawl i uchafswm o 20 awr o ofal plant a ariennir yn ogystal â'r isafswm o 10 awr o FPN bob wythnos, sef cyfanswm o 30 awr o ddarpariaeth a ariennir.

Nod y gwerthusiad oedd asesu pa mor effeithiol yw’r modd y caiff y Cynnig ei gyflwyno i deuluoedd; darparu gwersi i lywio'r gwaith cyflwyno yn y dyfodol; archwilio'r effaith y mae'r Cynnig yn ei chael ar gyflogadwyedd rhieni, llesiant ac incwm gwario a sut y gallai fod wedi helpu i liniaru effeithiau COVID-19, ac effaith y Cynnig ar y sector gofal plant. Mae tystiolaeth y gwerthusiad yn seiliedig ar:

  • gyfweliadau rhithwir â swyddogion Llywodraeth Cymru
  • ymgynghoriadau ag awdurdodau lleol (grŵp trafod rhithwir gydag awdurdodau gweithredu; grŵp trafod rhithwir gydag awdurdodau ymgysylltu a chyfweliadau rhithwir unigol gyda phob awdurdod)
  • cyfweliadau rhithwir a thros y ffôn gyda sefydliadau sy’n rhanddeiliaid allweddol
  • arolwg ar-lein o'r darparwyr gofal plant sy'n cymryd rhan (363 o ymatebwyr)
  • cyfweliadau dros y ffôn â 50 o ddarparwyr gofal plant sy'n rhan o’r cynllun
  • arolwg ar-lein o rieni sydd wedi defnyddio’r Cynnig (2108 o ymatebwyr)
  • cyfweliadau dros y ffôn â 30 o rieni sydd wedi defnyddio’r Cynnig
  • adolygiad o ddata monitro

Gweithredu'r Cynnig

Mae'r canfyddiadau a gyflwynir yn yr adran hon yn defnyddio tystiolaeth a gasglwyd gan gynrychiolwyr awdurdodau lleol yn ogystal â chynrychiolwyr o dimau’r Cynnig Gofal Plant ac addysg blynyddoedd cynnar o fewn Llywodraeth Cymru.

Y Nifer a Fanteisiodd ar y Cynnig

Yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi 2020 a mis Awst 2021, darparwyd y Cynnig i 17,626 o blant.[1] Mae hyn yn gymharol gyson â'r nifer a gofnodwyd mewn blynyddoedd blaenorol, os nad fymryn yn uwch.[2] Fodd bynnag, nododd cynrychiolwyr awdurdodau lleol fod y nifer a fanteisiodd ar y Cynnig braidd yn araf i ddechrau, ym mis Medi 2020, gan fod llawer o rieni ar y pryd yn parhau i fod yn ansicr ynglŷn â defnyddio gofal plant ffurfiol yn sgil y pryderon am COVID-19. Nododd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol hefyd, yn fuan ar ôl y dechrau araf hwn, fod y nifer a fanteisiodd ar y Cynnig o ddiwedd mis Medi 2020 ymlaen yn debyg i'r niferoedd yn y blynyddoedd blaenorol.

Mae'r ffaith bod nifer cyson yn parhau i fanteisio ar y Cynnig yn ystod blwyddyn 4 ei weithrediad yn dangos bod ymwybyddiaeth o'r Cynnig ymhlith rhieni yn parhau'n gymharol uchel yn ystod y cyfnod hwn, er bod y cyfleoedd i'w hyrwyddo wedi bod yn gyfyngedig oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Nododd cynrychiolwyr awdurdodau lleol rai ffactorau sy'n debygol o fod wedi cyfrannu at lefel barhaus yr ymwybyddiaeth o'r Cynnig, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol a phobl yn clywed amdano ar dafod leferydd. Fodd bynnag, ym marn yr awdurdodau lleol hyn, roedd argaeledd y Cynllun Cymorth Gofal Plant drwy gyfnod y Coronafeirws (C-CAS), a oedd yn ariannu gofal plant i weithwyr hanfodol yn ystod y cyfnod clo cyntaf, hefyd wedi chwarae ei ran mewn codi ymwybyddiaeth, gan fod nifer o weithwyr allweddol sy’n rhieni a oedd wedi dibynnu ar drefniadau gofal plant anffurfiol yn flaenorol yn gweld yr angen i ddibynnu ar drefniadau gofal plant ffurfiol yn ystod y cyfnod clo. Drwy ddefnyddio C-CAS, daeth rhai o'r rhieni hyn yn ymwybodol am y tro cyntaf y byddent hefyd yn gymwys i gael y Cynnig, ac roedd hyn, ym marn yr awdurdodau lleol hyn, yn cefnogi mwy o bobl i fanteisio ar y Cynnig yn ystod y cyfnod rhwng Medi 2020 a Gorffennaf 2021.

Nododd cynrychiolwyr awdurdodau lleol fod nifer o rieni wedi bod yn pryderu am yr effaith y gallai'r cyfnod clo a diffyg rhyngweithio cymdeithasol fod wedi'i chael ar ddatblygiad eu plentyn/plant. O'r herwydd, roedd y rhieni hyn yn awyddus i fanteisio ar y Cynnig er mwyn cynyddu cyfleoedd i'w plant gwrdd â phlant eraill o'r un oed a chwarae gyda nhw.

Cyfeiriodd rhai rhieni a darparwyr at newidiadau yn y math o ofal plant a gafodd ei ddefnyddio drwy'r Cynnig ers mis Medi 2020. Roedd y rhain yn cynnwys enghreifftiau o blant gweithwyr hanfodol, a oedd eisoes yn cael gofal plant ffurfiol cyn y pandemig, a newidiodd i fynd i leoliad gwahanol yn ystod gwanwyn / haf 2020 er mwyn gallu defnyddio gofal plant a ariennir drwy C-CAS. Arhosodd rhai o'r plant hyn a oedd wedyn yn gymwys ar gyfer y Cynnig gyda'r darparwr newydd oherwydd bod yn well gan y teulu'r lleoliad newydd, oherwydd eu bod am gael llai o newidiadau, neu oherwydd bod y rhieni am sicrhau y gallent gael mynediad at ddarpariaeth gan ddarparwr a fyddai'n debygol o aros ar agor pe bai cyfnod clo arall. Mewn rhai achosion, arweiniodd hyn at newid o ofal plant anffurfiol i ddarpariaeth ffurfiol.

Ar y llaw arall, rhoddwyd enghreifftiau hefyd o rieni'n dewis defnyddio gofal plant mwy anffurfiol ochr yn ochr â threfniadau gofal plant ffurfiol er mwyn dal eu gafael ar opsiwn 'wrth gefn' i gyfyngu ar unrhyw amharu ar eu trefniadau gofal plant cyffredinol a allai ddigwydd pe bai’r lleoliad ffurfiol yn gorfod cau dros dro oherwydd COVID-19. Roedd enghreifftiau eraill yn cynnwys rhieni a oedd yn dewis defnyddio darpariaeth o un lleoliad yn unig, a oedd efallai wedi bod yn defnyddio gofal plant o ddau leoliad neu fwy o'r blaen, er mwyn cyfyngu ar y risg o drosglwyddo COVID-19. Roedd rhieni eraill yn cael gofal plant gan un darparwr yn unig gan nad oedd ganddynt unrhyw ddewis arall gan fod rhywfaint o ddarpariaeth, megis clybiau ar ôl ysgol a rhywfaint o ddarpariaeth sesiynol, wedi cau am gyfnodau oherwydd COVID-19.

Nid oedd y newidiadau hyn yn y ddarpariaeth yn arwain, o reidrwydd, at ostyngiad yng nghyfanswm yr oriau o ofal plant ffurfiol y manteisiwyd arnynt. Fodd bynnag, mewn llawer o achosion, arweiniodd at gynnydd yn oriau’r ddarpariaeth a ddefnyddiwyd mewn meithrinfeydd dydd a lleihad yn yr oriau a ddefnyddiwyd mewn lleoliadau gofal plant sesiynol. Gallai'r newidiadau hyn yn y defnydd o'r Cynnig fod wedi arwain at ganlyniadau i'r sector gofal plant yn ei gyfanrwydd.

Nododd y darparwyr ddarlun cymysg o ran y galw a'r nifer a fanteisiodd ar ofal plant yn eu lleoliadau yn ystod blwyddyn 4 o'i gymharu â chyn COVID-19. Nid oedd y rhan fwyaf o'r darparwyr yn yr arolwg (55%) wedi gweld unrhyw newid, gydag ychydig dros chwarter yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd yn y galw am leoedd, gwelodd y gweddill (18%) lai o alw.

[1] Daw'r ffigur hwn o'r data monitro tymhorol y mae pob awdurdod lleol yn eu hanfon at Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid yw'r ffigur yn cynnwys data coll am un neu ddau dymor ar gyfer dau ALl. Felly, bydd nifer gwirioneddol y plant y darparwyd y Cynnig iddynt yn ystod y cyfnod hwn ychydig yn uwch na'r ffigur hwn.

[2] Yn yr ail flwyddyn, defnyddiodd 15,929 o blant y Cynnig (cafodd y Cynnig ei gyflwyno'n llawn erbyn diwedd y flwyddyn) ac ym mlwyddyn 3, defnyddiodd 16,377 o blant y Cynnig (rhwng Medi 2019 a Mawrth 2020).

Prosesu ceisiadau rhieni am y Cynnig

Cafodd ceisiadau am y Cynnig eu hailagor ym mis Awst 2020 ar ôl cael eu hatal o fis Mawrth. Proseswyd ceisiadau yn ymwneud â phlant a oedd wedi bod yn gymwys i gael y Cynnig o dymor yr Haf 2020 yn ystod pythefnos olaf mis Awst. Yna roedd angen prosesu ceisiadau yn ymwneud â phlant a oedd wedi bod yn gymwys i gael y Cynnig o fis Medi 2020 ymlaen yn ystod pythefnos gyntaf mis Medi. O ganlyniad, bu'n rhaid i awdurdodau lleol a oedd yn gweithredu’r cynnig brosesu ceisiadau gan 2 garfan o rieni o fewn yr un amserlen ag yr oedd ganddynt i brosesu ceisiadau gan un garfan yn unig mewn blynyddoedd blaenorol. Roedd prosesu nifer fawr o geisiadau o fewn yr amser hwn yn heriol. Nododd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol eu bod wedi llwyddo i brosesu ceisiadau o fewn amserlen fyrrach nag yr oeddent wedi'i ragweld i ddechrau, fodd bynnag, roedd peth oedi'n codi ac felly nid oedd rhai rhieni'n gallu cael gofal plant wedi'i ariannu o'r dyddiad yr oedd ganddynt hawl iddo. Cafwyd peth oedi pellach yn sgil y ffaith bod rhai rhieni’n cael anawsterau yn cael gafael ar y dogfennau tystiolaeth yr oedd eu hangen. Fodd bynnag, lleiafrif oedd yr achosion hyn.

Llacio dros dro y meini prawf cymhwysedd yn ymwneud ag incwm

Cyn ailagor ceisiadau am y Cynnig ym mis Awst 2020, penderfynodd Llywodraeth Cymru, pe na bai rhiant yn gymwys mwyach (oherwydd bod eu hincwm, o ganlyniad i COVID-19, wedi gostwng yn is nag 16 awr ar yr isafswm cyflog cymwys neu wedi mynd dros £100k gros dros dro am eu bod yn weithiwr hanfodol ac y gallent ddangos bod eu hincwm wedi cynyddu o ganlyniad iddynt ymateb i'r pandemig), gallent barhau i dderbyn y Cynnig nes i gynlluniau cymorth cyflogaeth Llywodraeth y DU ar gyfer pobl gyflogedig a hunangyflogedig ddod i ben. Fodd bynnag, roedd angen iddynt ddangos bod eu henillion yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd yn ymwneud ag incwm ar gyfer y Cynnig cyn dechrau'r pandemig a'u bod wedi gweld gostyngiad neu gynnydd dros dro mewn incwm o ganlyniad i COVID-19.

Ni chodwyd unrhyw faterion o bwys gan awdurdodau gweithredu lleol na rhieni, yn ymwneud â llacio dros dro y meini prawf cymhwysedd yn ymwneud ag incwm. Nododd rhai awdurdodau lleol fod gwirio statws ffyrlo rhai rhieni yn ychwanegu rhai heriau at y broses o wirio cymhwysedd. Nododd yr awdurdodau lleol hyn hefyd y bydd ailwirio'r rhain rhywbryd yn y flwyddyn newydd, gan fod y cynllun ffyrlo bellach wedi dod i ben, yn debygol o greu heriau ychwanegol o ran adnoddau.

Mae awdurdodau sy’n gweithredu’r cynnig yn parhau i dynnu sylw at rai heriau parhaus sy'n ymwneud â gwirio cymhwysedd unigolion hunangyflogedig, yn enwedig busnesau a ddechreuodd o’r newydd yn ystod y cyfnod clo ac unigolion ar gontractau dim oriau.

Cyfathrebu â rhieni a darparwyr

Nododd awdurdodau gweithredu lleol a oedd yn cyflawni ac yn ymgysylltu'n uniongyrchol â rhieni a darparwyr, fod cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth o'r Cynnig, a darparu gwybodaeth a oedd yn uniongyrchol gysylltiedig â'r Cynnig, wedi'i gyfyngu oherwydd COVID-19. Fodd bynnag, mae hyn wedi ysgogi rhai awdurdodau lleol i gynyddu neu adolygu a gwella'r wybodaeth sydd ar gael ar-lein drwy eu gwefannau. Mae'r canfyddiadau'n dangos bod ymwybyddiaeth gyffredinol o'r Cynnig ymhlith rhieni wedi aros yn uchel, gan arwain at niferoedd tebyg yn manteisio ar y Cynnig. Fodd bynnag, mae'r canfyddiadau hefyd yn dangos, er ei bod yn ymddangos bod llawer o rieni'n ymwybodol o'r Cynnig, nad yw llawer yn ei ddeall yn llawn, a gall lefel y ddealltwriaeth fod wedi gostwng hyd yn oed yn ystod 2020 a 2021 o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Y pwyntiau penodol y mae rhieni'n parhau i fod yn aneglur yn eu cylch yw’r meini prawf cymhwysedd, y rhaniad rhwng gofal plant ac oriau FPN ac argaeledd darpariaeth a ariennir yn ystod gwyliau'r ysgol.

Materion a oedd yn ymwneud yn benodol â COVID-19

Creodd COVID-19 heriau i rai rhieni a phlant mewn perthynas â'u gallu i gael gafael ar elfennau FPN a gofal plant y Cynnig. Mewn achosion lle roedd plant yn cael gofal plant gan un darparwr a FPN gan ddarparwr arall mewn lleoliad gwahanol, roedd cael gafael ar FPN a gofal plant a ariennir yn her benodol yn ystod rhan olaf 2020 a dechrau 2021. Mewn achosion lle roedd plant yn defnyddio’r FPN a gyflwynwyd mewn lleoliadau ysgol, nid oedd y ddarpariaeth hon ar gael yn ystod cyfnodau pan oedd yr ysgolion ar gau, er bod y rhan fwyaf o ddarparwyr gofal plant yn parhau i fod ar agor. Yn ystod y cyfnodau hyn, dim ond hyd at 20 o'r 30 awr yr oeddent yn gymwys i’w cael bob wythnos y gallai plant a ariannwyd gan y Cynnig Gofal Plant gael mynediad atynt. Hyd yn oed pan oedd FPN yn yr ysgol ar gael, ataliodd rhai darparwyr eu gwasanaethau cludiant yn ôl ac ymlaen i'w lleoliadau neu gyfyngu ar y lleoliadau lle y byddent yn codi a gollwng er mwyn cynnal swigod a oedd yn cadw pellter cymdeithasol. O ganlyniad, dim ond gofal plant a ariannwyd gan y Cynnig Gofal Plant neu FPN y gallai llawer o rieni ei ddefnyddio, ond nid y ddau. Roedd hyn yn cyfyngu dros dro ar ddewis rhieni a mynediad at yr holl ddarpariaeth a ariannwyd a oedd ar gael iddynt.

Cyfeiriodd un awdurdod lleol at achos lle y daeth grŵp o ddarparwyr gofal plant at ei gilydd yn ystod 2020 i gyhoeddi na fyddent yn caniatáu i blant ddefnyddio eu lleoliad pe baent hefyd yn defnyddio FPN yn yr ysgol leol lle y byddent yn cymysgu â llawer o blant eraill ac y tybir eu bod yn cynyddu'r risg o ddal a lledaenu COVID-19. O ganlyniad, rhoddodd llawer o rieni y gorau i anfon eu plant i’r ddarpariaeth FPN a gynhelir er mwyn sicrhau y gallent barhau i gael gofal plant gan y darparwyr hyn. Felly, collodd y plant hyn y ddarpariaeth FPN yr oedd ganddynt hawl iddi yn ystod y cyfnod hwn, er bod y ddarpariaeth ar gael ar eu cyfer. Yn ogystal, bu'n rhaid i lawer o'r rhieni dalu am yr oriau ychwanegol o ofal plant yr oedd eu hangen arnynt ac y byddai eu plentyn, fel arall, wedi'u treulio yn y lleoliad FPN.

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a datblygiad plant yn ystod COVID-19

Nododd llawer o gynrychiolwyr awdurdodau lleol, rhieni a darparwyr gofal plant bryderon y gallai ynysu teuluoedd yn ystod cyfnodau clo COVID-19 fod wedi cael effaith negyddol ar ddatblygiad llawer o blant, gan gynnwys sgiliau lleferydd ac iaith yn ogystal â sgiliau cymdeithasol cyffredinol a sgiliau echddygol bras. Nododd rhai awdurdodau lleol fod y galw am gymorth ychwanegol i helpu plant ag anghenion yn ymwneud ag oedi yn eu datblygiad wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod 2020 i 2021. Er bod llawer o'r cymorth hwn wedi'i gyfeirio at blant o dan 3 oed nad ydynt eto'n gymwys ar gyfer y Cynnig, roedd rhai cynrychiolwyr awdurdodau lleol a darparwyr o'r farn y gallai gymryd sawl blwyddyn i fynd i'r afael ag effaith COVID-19 ar ddatblygiad plant. Felly, mae'n debygol y bydd cynnydd yn y cymorth sydd ei angen ar gyfer plant sy’n gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, hyd yn oed os nad yw wedi digwydd eto.

Nododd y rhan fwyaf o gynrychiolwyr awdurdodau lleol fod mwy o'r Grant Cymorth Ychwanegol sydd ar gael drwy'r Cynnig, bellach yn cael ei ddyrannu i ddarparwyr i'w galluogi i gefnogi plant ag anghenion cymorth ychwanegol. Nododd rhai cynrychiolwyr awdurdodau lleol hefyd eu bod yn gobeithio y byddai cyflwyno'r Cod ADY newydd yn gwella'r broses o nodi a chyfeirio cymorth tuag at blant cyn oed ysgol sydd ag ADY ac y bydd hyn yn sicrhau defnydd effeithiol o'r cyllid ychwanegol sydd ar gael.

Paratoi ar gyfer y system ddigidol newydd

Yn gyffredinol, dywedodd awdurdodau lleol eu bod yn teimlo eu bod yn wybodus ac yn cymryd rhan lawn yn y broses o symud tuag at system ddigidol ac roeddent yn croesawu hyn. Fodd bynnag, rhoed rhai hefyd o’r farn y byddent yn gwerthfawrogi cael mwy o wybodaeth am union fanylion y broses gyflwyno lawn yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Mynegodd rhai awdurdodau lleol bryderon bod aelodau o staff o fewn eu tîm yn dechrau amau y byddai eu rôl o fewn y tîm gofal plant yn cael ei dileu unwaith y byddai'r system ddigidol yn gwbl weithredol, gan ysgogi rhai i ystyried chwilio am waith mewn mannau eraill.   

Roedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol a darparwyr yn gobeithio y byddai'r system ddigidol yn sicrhau mwy o gysondeb ac yn cynyddu tryloywder, yn enwedig o ran gallu rhieni i olrhain a monitro agweddau ar y Cynnig gan gynnwys faint o ddarpariaeth gwyliau ysgol oedd ganddynt yn weddill.

Cysylltiadau â darpariaeth blynyddoedd cynnar a rhaglenni cymorth i rieni

Fel rhan o waith maes y gwerthusiad, aethom ati i adolygu'r ffordd, ac i ba raddau, y mae'r Cynnig Gofal Plant yn cyd-fynd â darpariaethau blynyddoedd cynnar eraill gan gynnwys Meithrin y Cyfnod Sylfaen (FPN) a darpariaeth gofal plant a ddarperir drwy Dechrau'n Deg; yn ogystal â rhaglenni cymorth i rieni sy'n cynnig cyllid gofal plant i alluogi rhieni i gael gafael ar gyflogaeth gynaliadwy gan gynnwys Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE).

Meithrin y Cyfnod Sylfaen (FPN)

Mae FPN yn rhan annatod o'r Cynnig Gofal Plant sy'n cynnwys o leiaf 10 o'r 30 awr o ddarpariaeth a ariennir sydd ar gael i blant cymwys. Pan gafodd y Cynnig ei dreialu am y tro cyntaf yn 2017, lleisiodd rhai rhanddeiliaid bryderon bod y gyfradd ariannu a gynigiwyd gan awdurdodau lleol i ddarparwyr i ddarparu FPN, mewn llawer o achosion, yn is na'r gyfradd safonol o £4.50 yr awr a gynigiwyd i ddarparwyr ar gyfer darparu'r oriau gofal plant a gynhwysir yn y Cynnig. O ganlyniad, roedd llawer yn pryderu y byddai rhai darparwyr nas cynhelir yn lleihau’r ddarpariaeth FPN neu'n rhoi'r gorau i’r ddarpariaeth er mwyn canolbwyntio eu hadnoddau’n fwy ar ddarparu gofal plant. Fodd bynnag, o fis Ionawr 2021, rhoddodd Llywodraeth Cymru arian ychwanegol i awdurdodau lleol i'w galluogi i gynyddu'r cyllid i'r sector nas cynhelir i gefnogi cysoni cyfraddau cyllido FPN a gofal plant o dan y Cynnig Gofal Plant.

Cafodd y datblygiad hwn ei gymeradwyo i raddau helaeth gan y darparwyr. Roedd y rhan fwyaf o'r farn y byddai cysoni cyfraddau cyllido yn helpu i sicrhau bod darpariaeth FPN mewn lleoliadau nas cynhelir yn parhau yn y dyfodol. Fodd bynnag, roedd lleiafrif yn pryderu y gallai'r broses symud rhywfaint o’r ddarpariaeth oddi wrth ddarparwyr llai i rai mwy.

Dechrau’n Deg

Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd â phlant o dan 4 oed yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae rhan o'r cymorth Dechrau'n Deg sydd ar gael yn cynnwys gofal plant rhan-amser a ariennir (12.5 awr yr wythnos) ar gyfer plant 2 i 3 oed. Mae gofal plant Dechrau'n Deg ar gyfer grŵp iau o blant na'r Cynnig Gofal Plant a dim ond rhai rhieni fydd yn defnyddio’r ddau gynllun. Fodd bynnag, mae rhai cysylltiadau a rhyngddibyniaethau rhwng Dechrau'n Deg a'r Cynnig.

Er enghraifft, nododd rhanddeiliaid yr ymgynghorwyd â hwy fod rhai tensiynau posibl yn bodoli mewn lleoliadau nas cynhelir sy'n darparu gofal plant a ariennir drwy Dechrau'n Deg yn ogystal â'r Cynnig Gofal Plant. Mae'r cymarebau staffio sy'n ofynnol ar gyfer plant iau (a ariennir drwy Dechrau'n Deg) yn uwch na'r rhai sydd eu hangen ar gyfer plant hŷn drwy'r Cynnig Gofal Plant. O ganlyniad, mae'r gost fesul plentyn, o ddarparu gofal plant a ariennir gan Dechrau'n Deg yn uwch na'r gost o ddarparu'r Cynnig. Gallai hyn, ym marn rhai rhanddeiliaid, annog rhai o'r darparwyr hyn i ddewis darparu gofal plant a ariennir gan y Cynnig yn hytrach na gofal plant a ariennir gan Dechrau'n Deg. Mae'r pryderon hyn yn debyg iawn i'r rhai a nodwyd yn flaenorol mewn perthynas â darpariaeth FPN mewn lleoliadau nas cynhelir.

Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE)

Mae PaCE yn cynorthwyo rhieni sy’n ddi-waith i gael hyfforddiant neu gyflogaeth os mai gofal plant yw eu prif rwystr rhag gwneud hynny. Drwy PaCE, gall rhieni di-waith gael cymorth gyda gofal plant tan y byddant yn cael swydd ac am eu mis cyntaf mewn cyflogaeth. I rai o'r rhieni hyn, byddai symud o gael cymorth drwy PaCE i gael cymorth gofal plant a ariennir drwy'r Cynnig Gofal Plant yn ymddangos yn ddilyniant naturiol.

Nododd cynghorwyr PaCE eu bod yn ymwybodol o'r Cynnig ond nad oeddent bob amser yn teimlo eu bod yn cael digon o wybodaeth am y Cynnig ac felly nid oeddent bob amser yn teimlo'n hyderus eu bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf amdano i rieni. Nododd cynghorwyr hefyd, mai eu barn hwy oedd fod gwybodaeth am y Cynnig ymhlith y rhieni y maent yn eu cefnogi hefyd yn eithaf prin. Nododd cynghorwyr PaCE hefyd nad yw'r rhieni y maent yn eu cefnogi bob amser yn ystyried opsiynau y tu hwnt i gael swydd ac felly nid yw'r Cynnig Gofal Plant bob amser yn flaenoriaeth iddynt.

Profiadau darparwyr o'r Cynnig

Mae'r adran hon yn cyflwyno'r dystiolaeth a gasglwyd yn bennaf drwy 50 o gyfweliadau manwl a gynhaliwyd gyda darparwyr gofal plant, arolwg ar-lein o ddarparwyr (363 o ymatebwyr); cyfweliadau manwl gyda sefydliadau Cwlwm[3] a thimau gofal plant awdurdodau lleol. Cafwyd ymatebion i'r arolwg gan ddarparwyr ym mhob awdurdod lleol; roedd eu hanner yn warchodwyr plant (50%), roedd ychydig dros draean (34%) yn lleoliadau gofal dydd llawn, roedd 14% yn ofal dydd sesiynol ac roedd dau% yn ofal plant y tu allan i'r ysgol.

[3] Mae Cwlwm yn cynnwys pum sefydliad sy'n cefnogi'r sector gofal plant: Blynyddoedd Cynnar Cymru, Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs, Mudiad Meithrin, Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA Cymru) a PACEY Cymru.

Gweinyddu'r Cynnig

Dywedodd dros hanner y darparwyr yn yr arolwg nad oeddynt yn treulio unrhyw amser ychwanegol neu eu bod yn treulio llai nag awr y mis ar dasgau gweinyddol yn gysylltiedig â'r Cynnig Gofal Plant. Mewn cyfweliadau, dywedodd y darparwyr bod cymryd rhan yn y Cynnig yn syml ar y cyfan. Canfu nifer fach o ddarparwyr a holwyd ac a gyfwelwyd fod y prosesau o ddarparu ffurflenni misol yn anodd, oherwydd trafferthion gyda defnyddio'r systemau ar-lein. Dywedodd y cyfweleion o awdurdodau lleol hefyd fod nifer fach iawn o ddarparwyr gofal plant yn dal i gael trafferth darparu ffurflenni cywir yn electronig.

Fel y nodwyd yn y gwerthusiadau o flynyddoedd blaenorol, mae swm, natur ac amserlen y tasgau gweinyddu sy'n ofynnol gan ddarparwyr yn parhau i amrywio yn dibynnu ar ba awdurdod gweithredu lleol y maent yn adrodd iddo / cyflwyno hawliadau iddo, gan gynnwys cyflwyno hawliadau papur ar gyfer rhai awdurdodau lleol. Mae hyn yn rhwystr penodol i ddarparwyr sy'n ymdrin â dau neu fwy o awdurdodau sy’n gweithredu’r cynnig. Yn ôl rhai darparwyr, gwaethygodd yr anawsterau hyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ei bod yn anodd cael gafael ar staff awdurdodau lleol oherwydd eu bod o yn gweithio gartref. Er y byddent fel arfer yn cael ateb ar unwaith bron i ymholiad dros y ffôn neu e-bost cyn COVID-19, gallai gymryd rhai dyddiau erbyn hyn.

Gallai ymdrin ag ymholiadau amrywiol gan rieni hefyd fod yn llafurus i ddarparwyr. Mewn cyfweliadau ac yn yr ymatebion i'r arolwg, eglurodd darparwyr nad yw'n ymddangos bod rhieni'n deall manylion y Cynnig a bod yn rhaid iddynt dreulio amser yn nodi manylion y Cynnig: rhoi gwybod i rieni faint o oriau y mae ganddynt hawl iddynt (a bod rhai rhieni wedi cysylltu â nhw yn disgwyl cael 30 awr o ofal plant), y gwahaniaeth rhwng FPN a gofal plant, y gwahanol oriau yn ystod y tymor a gwyliau ysgol ac mai dim ond 9 wythnos o ofal plant a ariennir sydd i’w gael yn ystod y gwyliau.

Mae'r Cynnig ar gael am 9 o’r 13 wythnos o wyliau ysgol. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, nododd darparwyr ac awdurdodau lleol fod dryswch o hyd ymhlith rhieni ynghylch defnyddio gofal plant yn ystod gwyliau'r ysgol, yn enwedig o ran y 4 wythnos y flwyddyn nad yw'r Cynnig ar gael. Yn sylwadau’r arolwg a’r cyfweliadau dywed y darparwyr eu bod yn cymryd gofal i esbonio ac atgoffa rhieni ond bod rhai rhieni'n dal i anghofio, a bod ffioedd mis Awst yn sioc iddynt.

Ymgysylltu â Rhieni

Roedd bron pob darparwr yn hyrwyddo'r Cynnig i rieni. Roedd chwarter y darparwyr a holwyd yn ymwybodol o rieni a allai fod yn gymwys ar gyfer y Cynnig ond nad oeddent wedi manteisio arno. Nododd y darparwyr ystod o resymau am hyn:

  • anawsterau (neu anawsterau canfyddedig) wrth gasglu tystiolaeth o hunangyflogaeth, yn enwedig i'r rhai sydd newydd gael eu cyflogi neu mewn busnesau teuluol
  • dryswch o ran y sefyllfa gyda chredydau treth
  • anhawster wrth gysylltu ag awdurdodau lleol i gael rhagor o wybodaeth
  • bod yn well eu byd (neu dybiaeth eu bod yn well eu byd) gyda gofal plant yn cael ei ariannu drwy gredyd cynhwysol
  • y broses ymgeisio yn ymddangos yn rhy frawychus

Roedd rhai darparwyr wedi newid arferion gwaith a'r ffordd yr oeddent yn cysylltu â rhieni am gyfnod, er enghraifft gweithredu polisi 'un lleoliad' ar gyfer rhieni, lleihau nifer yr ysgolion yr oeddent yn darparu gofal cofleidiol ar eu cyfer, neu ofyn i rieni gasglu eu plant y tu allan i’r adeilad. Fodd bynnag, dywedodd y rhan fwyaf o leoliadau eu bod wedi dychwelyd i 'normal' erbyn diwedd cyfnod y gwerthusiad (Awst 2021).

Effaith ar broffidioldeb a chynaliadwyedd

Dywedodd tua 66% o ddarparwyr fod y Cynnig wedi cael effaith gref neu rywfaint o effaith gadarnhaol ar broffidioldeb eu lleoliad a dywedodd 71% fod y Cynnig wedi cael effaith gref neu rywfaint o effaith gadarnhaol ar eu cynaliadwyedd (cyfran debyg i flynyddoedd blaenorol ar gyfer y ddau).

Dywedodd ychydig dros ddwy ran o dair o ddarparwyr yr arolwg (68%) fod y £4.50 yr awr yn gyfradd hyfyw iddynt. Roedd hyn yn wir am ddarparwyr ar draws pob math o leoliadau, a bron pob ardal awdurdod lleol, ac eithrio dwy ardal awdurdod lleol (Bro Morgannwg a Chaerdydd) lle roedd rhaniad o 50/50 gydag un hanner yn nodi bod y gyfradd yn hyfyw, a’r hanner arall yn dweud nad oedd yn hyfyw. Fodd bynnag, cafwyd galwadau i gynyddu'r gyfradd yn fuan, hyd yn oed ymhlith y darparwyr hynny a nododd fod y gyfradd yn hyfyw yn yr ymatebion i’r arolwg a’r cyfweliadau, a chan yr awdurdod lleol a chynrychiolwyr rhanddeiliaid. Tynnwyd sylw ganddynt at y costau cynyddol i ddarparwyr: costau'n gysylltiedig â COVID-19, chwyddiant, cynnydd mewn Isafswm Cyflog Cenedlaethol, biliau gwresogi a pheidio â bod mewn sefyllfa i gynnal digwyddiadau codi arian oherwydd COVID-19.

Esboniodd y darparwyr fod ffactorau eraill yn cyfrannu at hyfywedd eu busnes, sef y ffaith bod sicrwydd y byddai’r ffioedd yn cael eu talu, a bod darparu'r Cynnig Gofal Plant yn golygu y gallent gael gafael ar grantiau a oedd yn ategu'r hyn a gawsant fel ffioedd. Heb y grantiau hyn, ni fyddai'r £4.50 yn hyfyw i rai darparwyr.

Pryderon ynghylch cyflwr y sector gofal plant

Mynegodd awdurdodau lleol, rhanddeiliaid a rhai darparwyr eu hunain bryderon am gyflwr y sector gofal plant. Esboniwyd yn y cyfweliadau ansoddol fod y rhan fwyaf o'r sector wedi goroesi’r pandemig yn eithaf da ond bod effaith COVID-19 wedi bod yn anwastad: mae rhai meithrinfeydd dydd wedi bod ar agor drwy gydol y deunaw mis diwethaf ac maent mewn sefyllfa ariannol gymharol gref; nid oedd rhywfaint o ddarpariaeth ar ôl ysgol yn gallu agor am gyfnod oherwydd eu bod yn rhannu adeiladau gydag ysgolion ac roeddent yn fwy tebygol o fod wedi gweld gostyngiad yn y galw gan rieni nad oeddent yn dymuno defnyddio sawl lleoliad; ac mae rhai gwarchodwyr plant wedi penderfynu symud i swyddi eraill o fewn a thu allan i'r sector gofal plant.

Mae pryderon difrifol ynghylch materion staffio ar draws pob math o leoliadau, a allai effeithio ar y Cynnig yn y tymor byr a'r tymor canolig. Dywedodd lleoliadau nad oeddent yn gallu llenwi swyddi gwag; eu bod yn methu â llenwi swyddi pan oedd staff yn absennol oherwydd eu bod yn gwarchod eu hunain, neu'n sâl gyda COVID-19 neu salwch arall ac nad oeddent yn gallu recriwtio cymorth 1:1 i blant. Rhannwyd nifer bach o enghreifftiau lle yr oedd lleoliadau wedi gorfod cau rhan o'u darpariaeth oherwydd prinder staff neu wedi lleihau nifer y lleoedd ar gyfer plant iau. Fodd bynnag, ni ddywedodd unrhyw rieni nad oeddent yn gallu dod o hyd i ofal plant yn y cyfnod hwn.

Er bod heriau o ran recriwtio a chadw staff wedi codi ym mlynyddoedd blaenorol y Cynnig Gofal Plant, maent wedi gwaethygu oherwydd y pandemig, a dywedodd 19% o'r darparwyr a gymerodd ran yn yr arolwg fod COVID-19 wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i recriwtio staff. At hynny, mae pryderon bod staff wedi blino ac yn teimlo na chânt eu gwerthfawrogi, yn enwedig staff yn y lleoliadau hynny a arhosodd ar agor drwy gydol y pandemig. Cyfeiriodd rhanddeiliaid ac awdurdodau lleol at enghreifftiau o leoliadau a oedd wedi cau dros dro neu'n barhaol oherwydd prinder staff gan arwain at fylchau lleol mewn argaeledd gofal plant. Mae pryderon y gallai mwy o staff ystyried gadael y sector dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

Roedd rhanddeiliaid ac awdurdodau lleol o'r farn bod yr holl gymorth ariannol i'r sector (taliadau parhaus am ofal plant y Cynnig Gofal Plant am gyfnod o 3 mis yn ôl yng ngwanwyn 2020 (yn ystod Blwyddyn 3); y cynllun ffyrlo, grantiau darparwyr gofal plant ac ati) wedi helpu'r sefyllfa ac wedi cadw lleoliadau ar agor, ond nid o reidrwydd yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Cyfeiriodd llawer o'r darparwyr a gyfwelwyd ac a gymerodd ran yn yr arolwg at y cymorth ariannol fel rhywbeth a oedd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol sylweddol i'w hyfywedd fel busnes.

Profiadau rhieni o'r Cynnig

Mae'r adran hon yn cyflwyno'r dystiolaeth a gasglwyd yn bennaf drwy arolwg ar-lein o rieni sydd wedi defnyddio'r Cynnig (2,108 o ymatebwyr) a chyfweliadau manwl dilynol gyda 30 o'r rhieni hyn. O blith y 2,108 o rieni a ymatebodd i'r arolwg, roedd y rhan fwyaf (88%) yn defnyddio gofal plant ffurfiol yn flaenorol cyn defnyddio'r Cynnig. Fel rhan o'r Cynnig, defnyddiodd y rhan fwyaf o ymatebwyr (56%) ofal dydd llawn, defnyddiodd 28% ofal dydd sesiynol, defnyddiodd 14% ofal y tu allan i'r ysgol a defnyddiodd 12% warchodwyr plant.

Proffil cyflog rhieni sy'n defnyddio’r Cynnig

Cesglir data ar fandiau cyflog rhieni sy'n defnyddio'r Cynnig o'r data monitro tymhorol y mae pob awdurdod lleol yn ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru. Dengys dadansoddiad o'r data hwn mai £20,800 - £25,999 oedd band cyflog gros blynyddol canolrifol unigolion a ddefnyddiodd y Cynnig rhwng mis Medi 2020 a mis Awst 2021. Mae hyn yn is na'r cyflog amser llawn cyfartalog cenedlaethol o £28,158 y flwyddyn yn 2020, a gofnodwyd gan yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (y Swyddfa Ystadegau Gwladol) (Enillion wythnosol gros cyfartalog (canolrif) yn ôl gwlad yn y DU - rhanbarth yn Lloegr a blwyddyn (£) (StatsCymru)).

Ymwybyddiaeth gyffredinol rhieni o'r Cynnig

Roedd consensws ymhlith darparwyr ac awdurdodau lleol fod ymwybyddiaeth rhieni o'r Cynnig wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er nad yw awdurdodau lleol wedi gallu cynnal digwyddiadau i hyrwyddo'r Cynnig wyneb yn wyneb dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd cyfyngiadau COVID-19, nodwyd bod ymwybyddiaeth dda o'r Cynnig ar y cyfan. Roedd y rhan fwyaf o'r rhieni a holwyd (75%) eisoes yn ymwybodol o'r Cynnig cyn iddynt glywed eu bod yn gymwys. Gellid priodoli hyn i'r ffaith bod y Cynnig wedi bod ar gael ers rhai blynyddoedd bellach ac y byddai rhai rhieni wedi defnyddio'r Cynnig o'r blaen ar gyfer plentyn hŷn. Fodd bynnag, fel y canfu'r gwerthusiadau blaenorol, yn aml roedd rhieni eisoes yn defnyddio gofal plant ffurfiol cyn defnyddio'r Cynnig (88% o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg) a dywedwyd wrthynt am y Cynnig gan eu darparwr gofal plant (53% o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg). Fodd bynnag, awgrymodd cyfweliadau â chynghorwyr Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE) fod ymwybyddiaeth o'r Cynnig yn isel ymhlith y rhai nad ydynt mewn gwaith, ac y mae gofal plant yn rhwystr rhag gweithio. Mae hyn yn awgrymu, er y gallai ymwybyddiaeth fod yn uchel ymhlith rhieni sydd eisoes mewn gwaith ac eisoes yn defnyddio gofal plant ffurfiol cyn defnyddio'r Cynnig, bod ymwybyddiaeth ymhlith rhieni di-waith yn isel.

Y broses o wneud cais

Roedd y mwyafrif helaeth o'r rhieni a holwyd (80%) o'r farn ei bod yn hawdd gwneud cais am y Cynnig. O blith y rhai a ddywedodd eu bod yn ei chael yn broses anodd, dywedodd ychydig yn llai na’u hanner ei bod yn cymryd llawer o amser i gwblhau'r cais neu eu bod yn ei chael hi’n anodd darparu'r dogfennau ategol gofynnol fel prawf cymhwysedd. Roedd bron pob un (99%) yn gallu cwblhau'r holl broses ymgeisio yn eu dewis iaith.

Cymhwyster a hawl (gan gynnwys gwyliau ysgol)

Dangosodd ymatebion a chyfweliadau'r arolwg fod llawer o rieni'n parhau i fod yn ddryslyd ynglŷn â'r hyn y mae'r Cynnig yn ei gynnwys o ran oriau gofal plant a FPN. Disgrifiodd y rhieni a gyfwelwyd eu bod yn treulio llawer o amser yn ceisio ymchwilio a chanfod beth oedd ganddynt hawl iddo, ble a phryd. Gofynnwyd am wybodaeth symlach, sy’n haws cael gafael arni, a chyda'r union geisiadau am FPN a'r Cynnig Gofal Plant a'r dyddiadau dechrau wedi'u nodi'n glir. Mater penodol a oedd yn peri dryswch oedd cydbwysedd yr oriau rhwng gofal plant a FPN (a chamargraff wrth gynllunio gofal plant y byddai ganddynt 30 awr o ofal plant); pryd yn union y byddai eu plentyn yn gymwys i gael gofal plant ac FPN; a phryd i wneud cais am y ddau gynllun.

Nododd tua thraean o'r rhieni a holwyd nad oedd yn glir, wrth wneud cais am y Cynnig, pa ddarpariaeth gofal plant a gwmpaswyd gan y Cynnig yn ystod gwyliau'r ysgol. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, soniwyd am achosion yn ystod cyfweliadau â darparwr a rhieni lle nad oedd rhieni wedi deall nad oedd y Cynnig yn cwmpasu blwyddyn lawn a’u bod yn cael eu synnu pan oedd yn rhaid iddynt dalu ffioedd yn ystod gwyliau'r haf ym mis Awst.

Symud o ofal plant anffurfiol i ofal plant ffurfiol

Roedd y mwyafrif helaeth o'r rhieni a gymerodd ran yn yr arolwg yn defnyddio gofal plant ffurfiol cyn iddynt ddechrau defnyddio'r Cynnig (88%). Mae hyn ychydig yn is na gwerthusiad y blynyddoedd blaenorol o'r Cynnig (blwyddyn 3: 93%; blwyddyn 2: 89%; a blwyddyn 1: 94%). Mae hyn yn awgrymu y gallai ymwybyddiaeth o'r Cynnig fod wedi dechrau gwella ymhlith rhieni nad oeddent yn defnyddio gofal plant ffurfiol o'r blaen. Fodd bynnag, mae'n dal i fod yn wir bod y rhan fwyaf o rieni sy'n defnyddio'r Cynnig eisoes yn defnyddio gofal plant cyn defnyddio'r Cynnig ac fel y nodwyd uchod, wedi cael gwybod am y Cynnig drwy eu darparwr gofal plant.

O blith y rhieni a oedd yn defnyddio gofal plant ffurfiol cyn defnyddio'r Cynnig, cynyddodd 45% ohonynt yr oriau gofal plant ar ôl dechrau defnyddio'r Cynnig. Ar gyfartaledd, ychwanegodd y rhieni hyn 12 awr at eu horiau gofal plant. Felly, er bod y rhan fwyaf o rieni'n defnyddio gofal plant ffurfiol cyn defnyddio'r Cynnig, roedd modd i lawer gynyddu'r oriau a ddefnyddiwyd ganddynt oherwydd y Cynnig. Roedd hyn hefyd yn golygu bod rhieni'n gallu lleihau nifer yr oriau o ofal anffurfiol (a ddarperir yn aml gan neiniau a theidiau neu aelodau eraill o'r teulu). O ran y rhai a ymatebodd i'r arolwg, gostyngodd nifer cyfartalog yr oriau gofal anffurfiol o 11 awr cyn defnyddio'r Cynnig, i 7 awr a hanner wrth ddefnyddio'r Cynnig.

Darpariaeth cyfrwng Cymraeg a ariennir gan y Cynnig

At ei gilydd, mae ymatebion rhieni yn yr arolwg yn awgrymu bod y rhan fwyaf o'r rhieni hynny a oedd am ddefnyddio darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg wedi gallu gwneud hynny (93%). O blith y lleiafrif a oedd am ddefnyddio darpariaeth cyfrwng Cymraeg ond nad oeddent wedi gallu gwneud hynny (7%), y rhesymau dros hyn oedd nad oedd darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael yn lleol; roedd y ddarpariaeth leol yn llawn; neu nid oedd eu lleoliad cyfrwng Cymraeg lleol (Cylch Meithrin yn aml) yn cynnig yr oriau llawn yr oedd eu hangen ar rieni ac felly byddai eu plentyn wedi gorfod mynychu lleoliad arall hefyd, ac roedd y logisteg yn golygu nad oedd hyn yn opsiwn i'r rhieni hynny. Fodd bynnag, lleiafrif bach o achosion oedd y rhain ac roedd mynediad cyffredinol i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i'r mwyafrif helaeth o'r rhai a oedd am ei ddefnyddio yn ddigonol.

Effaith y Cynnig ar gyflogaeth rhieni

Nod y gwerthusiad yw deall i ba raddau y gwnaeth y Cynnig wahaniaeth i gyfleoedd cyflogaeth rhieni drwy leihau costau gofal plant fel rhwystr i gyflogaeth. Roedd ychydig dros hanner y rhieni a gymerodd ran yn yr arolwg (58%) o'r farn y byddai eu sefyllfa gyflogaeth yr un fath neu'n debyg iawn pe na bai'r Cynnig ar gael iddynt,. Fodd bynnag, o ran ymatebwyr eraill i’r arolwg, mae'n bosibl y byddai eu sefyllfa gyflogaeth wedi bod yn wahanol pe na bai'r Cynnig ar gael iddynt. Roedd y rhieni hyn yn tueddu i fod yn rhai a oedd ar incwm is. Er enghraifft, credai bron draean o'r holl ymatebwyr (30%) y byddent yn gweithio llai o oriau pe na bai'r Cynnig ar gael iddynt; o blith yr ymatebwyr hyn, roedd y gyfran uchaf (44%) yn ennill cyflog incwm isel (hyd at £20,799) o'i gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol yn 2020 (£28,158 y flwyddyn); roedd ychydig dros draean (34%) o'r rhai a ddywedodd y byddent yn gweithio mwy o oriau yn ennill ychydig yn fwy neu ychydig yn llai na’r cyfartaledd cenedlaethol (rhwng £20,800 a £36,399); ac roedd llai nag un rhan o bump (17%) yn ennill incwm uwch (£36,400 ac uwch). Mae hyn yn awgrymu bod y Cynnig wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf i oriau gwaith y rhai sydd ar incwm is drwy eu galluogi i gynyddu'r oriau y maent yn gweithio.

Yn ogystal ag oriau gwaith, mae ymatebion i'r arolwg yn awgrymu bod y Cynnig wedi cael yr effaith fwyaf ar alluogi rhieni i gynyddu eu hincwm o ran y rhai sy'n ennill incwm is, o'i gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol. Yn gyffredinol, dim ond canran fach o ymatebwyr (6%) a nododd y byddent yn gweithio mewn swydd gyda chyflog is pe na bai'r Cynnig wedi bod ar gael iddynt. Fodd bynnag, o'r ymatebwyr hyn, y gyfran uchaf (44%) oedd y rhai a oedd yn ennill incwm isel (hyd at £20,799), o'i gymharu â chyfran lai (22%) a oedd yn ennill incwm uchel (£36,400 ac uwch).

Er mai dim ond cyfran fach o ymatebwyr yr arolwg a nododd y byddent yn gweithio mewn swydd gyda chyflog is pe na bai'r Cynnig wedi bod ar gael fel y nodir uchod, dywedodd bron hanner yr holl ymatebwyr (46%) fod gallu manteisio ar y Cynnig wedi rhoi'r potensial iddynt gynyddu eu henillion. Unwaith eto, y gyfran fwyaf o'r rhieni hyn (41%) oedd y rhai a oedd yn ennill incwm is. Mae hyn yn cefnogi ymhellach y canfyddiad bod y Cynnig wedi cael yr effaith fwyaf ar alluogi rhieni i gynyddu eu hincwm i'r rhai sy'n ennill incwm is o'i gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol.

At hynny, er bod cyfran gymharol fach o’r ymatebwyr i’r arolwg (9%) wedi nodi na fyddent mewn gwaith oni bai am y Cynnig, y rhai ar incwm isel (hyd at £20,799) oedd y rhan fwyaf o'r rhieni hyn (73%). Mae hyn yn darparu tystiolaeth bellach bod y Cynnig wedi cael yr effaith fwyaf ar sefyllfa gyflogaeth y rhai sydd ar incwm is o'i gymharu â'r rhai ar incwm uwch.

Yn ogystal ag oriau gwaith ac incwm, ymchwiliodd y gwerthusiad hefyd i a yw'r Cynnig wedi cael effaith ar hyblygrwydd o ran y ffordd y mae rhieni'n gweithio a'u cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant mewn gwaith. Ar gyfer ychydig dros hanner y rhieni (53% o'r rhai yn yr arolwg), mae'r Cynnig wedi rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt o ran y ffordd y maent yn gweithio. Roedd hyn yn fwy tebygol o gael ei adrodd gan rieni ar incwm is (44%) na rhieni ar incwm uwch (22%). Er bod llai o rieni'n teimlo bod y Cynnig wedi gwella eu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant mewn gwaith (36%), unwaith eto roedd hyn yn fwy tebygol o gael ei adrodd gan rieni ar incwm is (43%). Mae hyn yn dangos ymhellach sut y mae'r Cynnig wedi cael mwy o effaith ar sefyllfa waith rhieni sy'n ennill incwm is, mewn perthynas â'r cyfartaledd cenedlaethol, o'i gymharu â'r rhai ar incwm uwch.

Yn gyffredinol, mae'r canfyddiadau hyn yn dangos bod y Cynnig yn darparu'r cymorth mwyaf i rieni sy'n ennill incwm is, gan eu galluogi i aros mewn cyflogaeth; cynyddu eu horiau gwaith a/neu enillion; rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt o ran y ffordd y maent yn gweithio; a gwella eu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant mewn gwaith.

Effaith y Cynnig ar lesiant teuluol

Roedd bron pob un o'r rhieni a holwyd yn cytuno, neu'n cytuno i raddau, fod gallu manteisio ar ofal plant wedi cael effaith gadarnhaol ar eu llesiant eu hunain a/neu lesiant eu partner (88%) ac wedi lleihau baich ariannol gofal plant (74%). Mewn cyfweliadau, esboniodd rhieni fod yr arbedion wedi golygu ei bod yn haws talu costau gofal plant, a bod llai o bryder yn gysylltiedig â rheoli cyllid yr aelwyd, gan gynnwys bod yn llai tebygol o fynd i ddyled. At hynny, nododd llawer o rieni a ymatebodd i'r arolwg fod ganddynt lawer mwy o arian (34%) neu ychydig mwy o arian (51%) i'w wario ar bethau heblaw gofal plant bob mis o ganlyniad i ddefnyddio'r Cynnig. Mae enghreifftiau'n cynnwys gwario mwy o arian ar fwydydd, clybiau allgyrsiol i'r plant, diwrnodau allan i'r teulu, gwelliannau i'r cartref, talu dyledion a chynilion.

Eglurodd nifer o rieni a gyfwelwyd fod y Cynnig yn gyfle i'w groesawu i roi mwy o amser rhydd i neiniau a theidiau. Cyn defnyddio’r Cynnig, roedd y rhieni hyn yn dibynnu ar neiniau a theidiau i ofalu am eu plentyn gan nad oeddent yn gallu fforddio costau gofal plant llawn. Mae’r Cynnig wedi golygu eu bod yn gallu defnyddio gofal plant mwy ffurfiol a rhyddhau neiniau a theidiau o'r cyfrifoldebau gofalu hyn.

Cyfeiriodd rhieni at effeithiau cadarnhaol y gofal plant y mae eu plentyn yn ei gael, yn enwedig yr effeithiau cadarnhaol ar ddatblygiad cymdeithasol drwy gael y cyfle i ryngweithio a chwarae gyda phlant eraill yn y lleoliad gofal plant (94% o'r rhieni yn yr arolwg); yn ogystal ag effaith gadarnhaol ar ddatblygiad gwybyddol eu plentyn, gan gynnwys iaith, (88%); a datblygiad o ran ymddygiad (87%).

Manylion cyswllt

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r canlynol:
Faye Gracey
E-bost: trafodgofalplant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 77/2021
ISBN digidol: 978-1-80391-276-9

Image
GSR logo