Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad annibynnol o ail flwyddyn y broses o weithredu Cynnig Gofal Plant Cymru.

Mae canfyddiadau gwerthusiad yr ail flwyddyn yn gadarnhaol ar y cyfan. Mae’r rhan fwyaf o’r rhieni yn dweud eu bod naill ai ar eu hennill yn ariannol, yn medru fforddio mwy o ofal plant ffurfiol a/neu wedi gwella eu rhagolygon o ran cyflogaeth, ac mae darparwyr yn adrodd am effeithiau cadarnhaol o ran cynaliadwyedd a phroffidioldeb.

Mae’r gwerthuswyr wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth bellach i:

  • annog mwy o gysondeb mewn polisïau addysg y blynyddoedd cynnar ar draws Cymru er mwyn sicrhau cynaliadwyedd a hyfywedd ehangach y Cynnig Gofal Plant
  • symleiddio darpariaeth y Cynnig wrth ystyried polisïau yn y dyfodol o ran ei ddarparu, a datblygu gweledigaeth ar gyfer system integredig Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar
  • sicrhau bod rhagor o wybodaeth, arweiniad a sefyllfaoedd enghreifftiol ar gael i rieni a darparwyr ynghylch y gofal plant wedi’i ariannu gan y Cynnig sydd ar gael yn ystod gwyliau’r ysgol
  • y ffordd mae gofal plant wedi’i ariannu yn ystod gwyliau’r ysgol wedi’i gynnwys yn y Cynnig
  • adolygu’r gyfradd gyllido bresennol sy’n cael ei thalu i ddarparwyr sy’n darparu gofal plant wedi’i ariannu gan y Cynnig
  • darparu rhagor o wybodaeth ac arweiniad i awdurdodau lleol a darparwyr er mwyn eu galluogi i gael gwell dealltwriaeth o’r ffordd y gellid neu y dylid defnyddio’r grant cymorth ychwanegol
  • darparu rhagor o wybodaeth ac arweiniad yn ymwneud â thaliadau ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol yn ogystal â darparwyr, o bosib wrth ochr enghreifftiau o gontractau ac anfonebau sampl
  • parhau i ganolbwyntio ar fwy o wybodaeth gliriach i rieni ar yr amrywiol opsiynau ariannu sydd ar gael i helpu gyda chostau gofal plant.
  • gweithredu system weinyddu ganolog genedlaethol cyn gynted â phosib
  • parhau i roi gwybodaeth, arweiniad a chymorth i awdurdodau lleol mewn perthynas â nodi a gwirio cymhwysedd cyflogaeth rhai rhieni hunangyflogedig.

Newidiadau i'r adroddiadau

Ar 07 Ionawr 2020 cywirwyd gwall ar y tudalennau canlynol:

Tudalen 9 o’r crynodeb gweithredol Cymraeg a Saesneg.
Tudalen 58 o’r adroddiad llawn Saesneg.
Tudalen 59 o’r adroddiad llawn Cymraeg.

Roedd y gwall hwn yn datgan bod '39% o’r rhieni wedi defnyddio gofal plant cyfrwng Cymraeg', ac mae hyn wedi’i gywiro i ddweud bod '39% o’r rhieni wedi defnyddio gofal plant cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog'.

Adroddiadau

Gwerthuso’r Cynnig Gofal Plant i Gymru: blwyddyn 2 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthuso’r Cynnig Gofal Plant i Gymru: blwyddyn 2 (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 677 KB

PDF
677 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Katrina Morrison

Rhif ffôn: 0300 025 8528

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.