Mae’r Porth Sgiliau yn un pwynt mynediad i unigolion sy’n chwilio am gymorth yn ymwneud â sgiliau yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Y bwriad oedd nodi anghenion unigolyn a rhoi cyngor ac arweiniad ar sut i gael gafael ar y gefnogaeth briodol i ddiwallu’r anghenion hynny.
Nod y gwerthusiad oedd asesu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y Rhaglen wrth:
- hwyluso mynediad i gymorth cyflogaeth a sgiliau i unigolion
- gan nodi gwersi a ddysgwyd i gefnogi datblygu
- gwella’r gwasanaeth.
Canfyddiadau allweddol
- Mae’r Porth Sgiliau i Oedolion ar y cyfan yn wasanaeth sydd wedi’i reoli a’i weithredu’n dda, gan gyflawni neu ragori ar ei dargedau allbwn.
- Dangosodd y gwerthusiad fod y Porth Sgiliau i Oedolion wedi bod yn llwyddiannus wrth feithrin cryn gefnogaeth ymysg y staff gweithredu ac ymdeimlad cryf o ymgysylltu a hunaneffeithiolrwydd (ymysg cleientiaid yn nodi gwelliannau eu hunain o’r ymgysylltu).
- Roedd anghysondeb o ran dulliau tracio a gwaith dilynol. Mae’r tîm gwerthuso yn cydnabod mai tracio ôl-ymgysylltu yw'r elfen anoddaf o'r gwasanaeth i’w gyflenwi'n gyson oherwydd ei natur gan gall cleientiaid fod allan o gysylltiad neu beidio â dychwelyd galwadau ac ati.
Adroddiadau
Gwerthuso Porth Sgiliau i Oedolion: gwerthusiad canol rhaglen , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Gwerthuso Porth Sgiliau i Oedolion: gwerthusiad canol rhaglen (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 553 KB
PDF
553 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Faye Gracey
Rhif ffôn: 0300 025 7459
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.