Neidio i'r prif gynnwy

Darperir amrywiaeth o weithgareddau drwy un brand Busnes Cymru.

Mae'r gweithgareddau hyn a’r ffocws y gwerthusiad hwn yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Craidd a Thwf Busnes Cymru
  • Y Rhaglen Cyflymu Twf
  • Entrepreneuriaeth ieuenctid
  • Rhaglen Sbarduno Entrepreneuriaeth Ranbarthol
  • Rhaglen Manteisio ar Fand Eang Cyflym Iawn.

Roedd yr ymchwil yn cynnwys archwilio gweithrediad y rhaglenni hyd yn hyn, asesu’r cynnydd a wnaed i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru a rhaglen Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) gan gynnwys themâu trawsbynciol. Mae hefyd yn ystyried yr effaith sy'n deillio o'r rhaglen ar fusnesau ac unigolion.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Gwerthusiad Canol Tymor o Wasanaethau Cymorth Busnes yng Nghymru. Cynhaliwyd yr ymchwil gan ICF Consulting rhwng mis Mehefin 2017 a mis Medi 2018.

Prif bwyntiau

  • Dychmygwyd y gwasanaeth Busnes Cymru fel ‘siop un stop’ ar gyfer busnesau a busnesau newydd i gael mynediad at gymorth ac mae hyn ar y ffordd i gael ei gyflawni.
  • Mae’r model gwasanaeth yn gweithredu’n dda ac mae’r rhaglenni yn cael eu darparu i safon uchel.
  • Mae brand Busnes Cymru wedi creu enw da ymysg buddiolwyr sy’n credu bod y cymorth a’r cyngor a gynigir yn ddiduedd, dibynadwy a hygyrch.
  • Mae cytundeb cyffredinol ymysg darparwyr cymorth busnes bod Busnes Cymru yn ategu at gymorth busnes arall gynigir ac yn llenwi bwlch mawr yn yr hyn sydd ar gael i entrepreneuriaid a busnesau.
  • Adroddodd busnesau ac entrepreneuriaid a gafodd eu cyfweld eu bod wedi gwneud gwelliannau i’w gweithgareddau busnes o ganlyniad i’r cyngor a chymorth a gawsant. Gallai’r rhan fwyaf gyfeirio at effeithiau cadarnhaol ar eu heffeithiolrwydd neu drosiant.
  • Mae’r rhaglenni wedi creu twf busnes. Ar yr adeg y cynhaliwyd dadansoddiad o’r wybodaeth monitro ar gyfer y gwerthusiad, roedd busnesau a gynorthwyir wedi cynyddu allforion £66m (£183,000 y busnes a gymhorthwyd) ac wedi creu 8,223 o swyddi.
  • Mae cynnydd yn erbyn targedau allbwn ERDF wedi bod yn gymysg.

Adroddiadau

Gwerthuso gwasanaethau Cymorth Busnes yng Nghymru: gwerthusiad canol tymor , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthuso gwasanaethau Cymorth Busnes yng Nghymru: gwerthusiad canol tymor (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 630 KB

PDF
630 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Tom Stevenson

Rhif ffôn: 0300 062 2570

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.