Neidio i'r prif gynnwy

Ei amcan cyffredinol yw asesu sut yr eir ati i ddatblygu Cynlluniau a'u rhoi ar waith ym mhob un o 22 awdurdod lleol Cymru, gyda golwg ar ddatblygu polisi ac arfer.

Er yr amrywiaeth o ffyrdd y mae'r Cynlluniau wedi'u cynhyrchu, ymddangosodd chwe thema gyson: y cynllun a'i fethodoleg; y sail dystiolaeth a'i dadansoddiad (mae hynny'n cwmpasu'r ddwy thema - dadansoddi'r sefyllfa a dadansoddi'r ymateb), ymwneud â'r dinesydd, adnoddau a monitro cynnydd. Y themâu hyn fydd strwythur yr adroddiad terfynol.

Mae ein hadolygiad interim yn tynnu sylw at nifer o gyfyngiadau ‘ar lawr gwlad’ sy’n debygol o effeithio ar waith gan y BGLlau ar ddatblygu CIUau, yn bennaf yng nghyswllt gallu dadansoddol ac adnoddau sy’n ymwneud â methodolegau seiliedig ar ganlyniadau. Yn y cyd-destun hwn, rydym yn disgrifio ac yn awgrymu nifer o ffyrdd o weithredu y gallai awdurdodau lleol eu hystyried yn fewnol. Rydym hefyd yn tynnu sylw at nifer o faterion y gallai Llywodraeth Cymru weithredu arnynt yn y dyfodol.

Adroddiadau

Gwerthuso Cynlluniau Integredig Sengl: adolygiad Interim , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 410 KB

PDF
410 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

John Broomfield

Rhif ffôn: 0300 025 0811

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.