Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad y cynlluniau peilot yn Sir Gaerfyrddin a Wrecsam, yn ymwneud â  rheoliadau mwn perthynas â hawliau pobl ifanc i wneud apeliadau a hawliadau i’r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru.

Ni chafwyd unrhyw achos o apêl a dim ond un achos o hawliad o wahaniaethu ar sail anabledd a gyflwynwyd i Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC) yn yr ardaloedd peilot yn ystod y cyfnod peilot, a dewisodd y sawl a wnaeth yr hawliad beidio cymryd rhan yn yr astudiaeth. O ystyried y diffyg achosion i TAAAC trwy gydol y cynlluniau peilot, mae'n anodd gwerthuso eu heffeithiolrwydd oherwydd nad ydynt wedi cael eu profi'n ymarferol.  Fodd bynnag, o ganlyniad i'r amser a dreuliodd yr ymchwilwyr gyda'r timau peilot wrth gynnal yr ymchwil gweithredol mae nifer o ganfyddiadau yn deillio o’r ddwy ardal.

Prif bwyntiau

  • Dewisodd y ddwy ardal peilot ddulliau gwahanol o weithredu’r rheoliadau gweithredu. Anelodd Sir Gaerfyrddin at wella ei dulliau cyfathrebu gyda rhieni, gan anelu at leihau ei chyfradd cymharol uchel o apeliadau gan rieni i TAAAC. Roedd Wrecsam, ar y llaw arall, yn hyderus bod ei dulliau cyfathrebu yn effeithiol, ac yn hytrach fe ganolbwyntiodd ar hawliau’r plant yn hytrach na hawliau'r teulu. Datblygodd y ddwy ardal eu dulliau o gyflwyno’r rheoliadau yn dilyn cyfnod o ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol.
  • Adroddir bod plant a phobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y broses yn ymwybodol o’u hawliau ac yn eu deall. , Adroddir bod gweithwyr proffesiynol sy'n ymdrin â phlant a phobl ifanc yn ymwybodol o’r hawliau a’u goblygiadau i’w gwaith, ac yn eu deall.
  • Mae'r strwythurau cymorth mewn lle i helpu plant a phobl ifanc i wneud penderfyniadau ynghylch p'un ai i arfer eu hawliau, ac i’w cefnogi os byddant yn dewis arfer eu hawliau drwy wneud hawliad neu apêl.
  • Mae'r sefyllfa mewn perthynas â hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd yn llai clir. Mae'r prosesau sy'n galluogi plant i wneud hawliad, ac i gefnogi penderfyniadau ynghylch arfer eu hawl, wedi eu sefydlu. Fodd bynnag, roedd adnabod ac ymgysylltu â phobl ifanc a allai fod yn gymwys i wneud cais yn uniongyrchol yn anodd, ac oherwydd hynny mae lefelau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynghylch yr hawl hwn yn ansicr.
  • Mae’r rhai sy'n gweithio yn y system yn teimlo y dylid ystyried hawliad i TAAAC fel dewis olaf ac fel arwydd y gallai’r system fod wedi methu mewn rhyw ffordd. Gellid ystyried y ffaith na chafwyd unrhyw apeliadau a dim ond un hawliad, mewn rhai ffyrdd, yn arwydd o lwyddiant, a gallai ddangos bod  y systemau addysg a chymorth yn eu cyfanrwydd yn gweithio.

Adroddiadau

Gwerthuso cynllun peilot o hawliau pobl ifanc i wneud apeliadau a hawliadau i'r tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

David Roberts

Rhif ffôn: 0300 062 5485

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.