Neidio i'r prif gynnwy

Nod y cynllun yw datblygu capasiti a gallu sefydliadau cenedlaethol sector gwirfoddol Cymru i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a sefydliadau sector gwirfoddol eraill.

Amcanion y cynllun yw:

  • dylanwadu ar yr amodau sydd eu hangen er mwyn i bobl fyw bywydau iach a gwella eu hiechyd
  • cefnogi unigolion a grwpiau i wneud yr hyn a allant i wella eu hiechyd eu hunain ac iechyd eu teuluoedd
  • hyrwyddo negeseuon iechyd a llesiant yn effeithiol.

Amcanion y gwerthusiad yw ateb y cwestiynau ymchwil canlynol:

  • I ba raddau y mae cynllun 2013-15 wedi bodloni ei nodau ac amcanion fel y’u hamlinellir uchod?
  • Pa ddylanwad/ effaith, os o gwbl, y mae’r cynllun wedi eu cael ar y sefydliadau, y prosiectau, y cymunedau a’r unigolion a gymerodd ran?
  • Pa newidiadau, os o gwbl, sydd eu hangen i sicrhau bod y cynllun mor effeithiol â phosibl?
  • A yw’r cynllun wedi dylanwadu ar gynlluniau’r sefydliadau sy’n cymryd rhan i gynnal y gweithgareddau prosiect y tu hwnt i’r cyfnod ariannu?

Mae'r adroddiad terfynol yn darparu asesiad cyffredinol o gynnydd y prosiect yn erbyn amcanion y cynllun, yn ystod y ddwy flynedd gyntaf o gyllido’r prosiectau presennol.

Adroddiadau

Gwerthuso Cynllun Grantiau Sector Gwirfoddol Her Iechyd Cymru: adroddiad terfynol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthuso Cynllun Grantiau Sector Gwirfoddol Her Iechyd Cymru: adroddiad terfynol (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 505 KB

PDF
505 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Janine Hale

Rhif ffôn: 0300 025 6539

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.