Gwerthusiad o berfformiad y gwasanaeth o ran lleihau diweithdra, effeithiolrwydd y broses gyflawni, a phrofiad y cyfranogwyr o’r gwasanaeth.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad y Gwasanaeth Di-waith
Gwybodaeth am y gyfres:
Mae’r gwerthusiad wedi amlinellu effaith ymddangosiadol y Gwasanaeth Di-waith.
Prif bwyntiau
- Mae’r gwasanaeth yn unigryw yng Nghymru ac mae’n llenwi bwlch pwysig o ran y gwasanaethau a ddarperir.
- Mae’r gwasanaeth yn cyflawni ei nodau o helpu i wella rhagolygon o ran y farchnad lafur i’r rheini sydd bellaf oddi wrthi. Yn gyffredinol, mae perfformiad yn erbyn y targedau wedi bod yn gadarnhaol ar gyfer dau o’r pum targed, ond yn llai cryf yn erbyn y tri arall.
- Ystyrir bod mentoriaid cymheiriaid yn nodwedd allweddol o lwyddiant y gwasanaeth.
- Mae model y gwasanaeth cyffredinol wedi parhau’r un fath i raddau helaeth. Fodd bynnag, mae rhai newidiadau allweddol i ddarpariaeth y gwasanaeth wedi gwella’r gwasanaeth ac wedi helpu tuag at gyflawni’r targedau terfynol.
- Mae’n ymddangos bod y cyfranogwyr yn fodlon iawn gyda’u profiadau a’r manteision sy’n codi o ymgysylltu â’r gwasanaeth.
Adroddiadau
Gwerthusiad y Gwasanaeth Di-waith: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Gwerthusiad y Gwasanaeth Di-waith: adroddiad terfynol (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 643 KB
PDF
643 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Rachael Punton
Rhif ffôn: 0300 025 9926
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.