Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad o berfformiad y gwasanaeth o ran lleihau diweithdra, effeithiolrwydd y broses gyflawni, a phrofiad y cyfranogwyr o’r gwasanaeth.

Mae'r gwerthusiad wedi amlinellu canfyddiadau cynnar allweddol ar effaith ganfyddedig y Gwasanaeth Di-waith.

Mae wedi tynnu sylw penodol at y canlynol:

  • mae'n ymddangos bod y gwasanaeth yn llenwi bwlch yn y ddarpariaeth bresennol ledled Cymru
  • mae'r gwasanaeth yn cyflawni ei amcanion o ran helpu i wella'r farchnad lafur ar gyfer y rheini sydd bellaf i ffwrdd ohoni
  • mae arweinwyr prosiectau wedi sylwi bod mentoriaid yn rhan allweddol o lwyddiant y fframwaith.

O ran darparu'r gwasanaeth, mae'r gwerthusiad wedi nodi heriau sy’n ymwneud â chyfeirio a recriwtio. Mae'r heriau hyn yn ymwneud yn bennaf â chystadleuaeth gan wasanaethau eraill, diffyg ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth a throsiant uchel o ran staff. Mae’n amlwg bod y gwasanaeth wedi bod yn gweithio i ganfod atebion llwyddiannus i'r heriau hyn drwy feithrin perthynas gryfach â thimau recriwtio, gwneud rhagor o waith marchnata a chodi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth. 

Nododd y cyfranogwyr eu bod wedi cael profiadau cadarnhaol ar y cyfan wrth gael eu paru â'u mentoriaid. Mae'r gwasanaeth yn cynnig agwedd hyblyg tuag at ddarparu'r gwasanaeth, gyda'r lefel a'r math o gymorth a ddarperir yn cael eu haddasu yn unol ag anghenion y cyfranogwyr, anghenion y mae’r gwasanaeth yn cydnabod a all newid dros amser.

Er gwaetha'r llwythi achosion trwm, dywedodd mentoriaid cymheiriaid bod modd iddynt ddod i ben â nhw. Fodd bynnag, mae heriau wedi'u nodi mewn perthynas â throsiant uchel o ran mentoriaid a rhagor o gyfrifoldebau gweinyddol, sy'n ei gwneud yn anodd canolbwyntio ar ddarparu cymorth o ansawdd uchel bob amser. Mewn ardaloedd penodol, mae systemau wedi cael eu datblygu i reoli llwythi gwaith, gan leihau'r pwysau hwn.

Erbyn diwedd mis Ionawr 2019, roedd 8,391 o unigolion wedi cofrestru â'r Gwasanaeth Di-waith. Roedd 9% o'r holl gyfranogwyr a adawodd y gwasanaeth wedi cael eu cyflogi cyn pen 28 o ddiwrnodau ar ôl gadael, yn erbyn y targed o 15%, ac roedd yn ymddangos bod 3% o'r holl gyfranogwyr yn dal mewn gwaith ar ôl chwe mis. Fodd bynnag, mae'r rhaglen hon yn rhagori ar ei thargedau proffil ar gyfer chwilio am swyddi a chymwysterau.

Mae’r gwerthusiad hefyd wedi canfod bod nifer o ganlyniadau 'meddal' yn ymwneud â gwella iechyd a llesiant cyfranogwyr. Mae llawer o'r cyfranogwyr yn credu bod y gwasanaeth yn fwy na dim ond rhaglen sy'n cynnig cymorth ar gyfer cyflogaeth ac maent wedi rhoi gwybod am welliannau y maent wedi’u gweld mewn elfennau fel hyder a hunan-barch.
 

Adroddiadau

Gwerthusiad y Gwasanaeth Di-waith: adroddiad interim , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad y Gwasanaeth Di-waith: adroddiad interim (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 391 KB

PDF
391 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Rachael Punton

Rhif ffôn: 0300 025 9926

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.