Mae'r astudiaeth yn cyflwyno canfyddiadau ar effeithiolrwydd ac effaith y prosiect.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad Sgiliau Twf Cymru
Llwyddodd rhaglen gyfan Sgiliau Twf Cymru (gan gynnwys ProAct) gynorthwyo 527 o gyflogwyr, sydd uwchlaw’r targed o 500. Hefyd, llwyddodd hyfforddi 30,835 o weithwyr, sy’n uwch na’r rhagolwg (27,037). Enillodd cyfanswm o 16,419 o weithwyr gymwysterau, sydd hefyd yn uwch na’r disgwyl (15,982).
Roedd gweithwyr wedi gwella’u gwybodaeth a sgiliau, ynghyd â dysgu pethau newydd a oedd yn berthnasol i’w swyddi o ganlyniad i hyfforddiant Sgiliau Twf Cymru. Dywedodd bron pob cyflogwr fod ganddynt weithlu â sgiliau gwell o ganlyniad i gymryd rhan yn Sgiliau Twf Cymru.
Heb Sgiliau Twf Cymru, byddai ychydig dros hanner y cyflogwyr wedi cyflwyno hyfforddiant tebyg ond dros gyfnod hirach, a byddai ychydig o dan hanner wedi cyflwyno hyfforddiant byrrach neu ratach yn lle hynny.
Adroddiadau
Gwerthusiad Sgiliau Twf Cymru: adroddiad terfynol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Gwerthusiad Sgiliau Twf Cymru: adroddiad terfynol (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 399 KB
Cyswllt
Joanne Corke
Rhif ffôn: 0300 025 1138
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.