Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Rhaglen Plant Iach Cymru yn rhaglen iechyd gynhwysol ar gyfer pob teulu sydd â phlant 0 – 7 mlwydd oed.

Cafodd ei chyflwyno ar draws yr holl fyrddau iechyd yng Nghymru ym mis Hydref 2016, gyda'r disgwyliad y byddai pob bwrdd iechyd yn darparu ‘r amserlen newydd, gynhwysol o gysylltiadau monitro a datblygiad plant yn llawn o fewn dwy flynedd. Mae'r Rhaglen yn cynnwys amrywiaeth gyson o fesurau ataliol ac ymyrraeth gynnar, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal â chyngor ac arweiniad i helpu gyda magu plant a gwneud dewisiadau i fyw'n iach.

Mae'r gwerthusiad interim hwn o'r Rhaglen yn canolbwyntio ar roi'r rhaglen ar waith yn gynnar ledled Cymru. Diben yr astudiaeth ffurfiannol hon oedd edrych ar y problemau sy'n codi wrth roi’r rhaglen ar waith, ac addasu i ffyrdd newydd o weithio sy'n ofynnol yn ôl y Rhaglen. 

Canfyddiadau allweddol

  • Mae ymarferwyr ar draws Cymru wedi croesawu'r dull gweithredu cyson sydd wedi codi yn sgil Rhaglen Plant Iach Cymru.
  • Mae Ymwelwyr Iechyd yn gweld bod manteision yn ddeillio o'r rhaglen, gan gynnwys cynnal ymrwymiad i hybu iechyd, gweithio gyda thadau a gwella'r gwaith o nodi problemau ac atgyfeiriadau mewn rhai meysydd datblygiadol penodol.
  • Mae'r dulliau gweithredu a'r rhestrau gwirio amrywiol sydd yn eu lle yn cael eu croesawu ar y cyfan, a'u defnyddio i sicrhau arferion cyson, ond mae lle i wella.
  • Mae angen i'r cymorth digidol, gan gynnwys y seilwaith technoleg gwybodaeth, gael ei ddatblygu ymhellach er mwyn osgoi tanseilio'r gwaith o ddarparu'r rhaglen.
  • Dylid nodi pa effaith y gallai'r rhaglen ei chael ar wasanaethau ehangach (ee arferion cyffredinol a therapi lleferydd ac iaith) a dylid cynllunio yn unol â hynny.
  • Er gwaetha'r ffaith ein bod yn gweld mwy o gysondeb, mae lle i leihau'r amrywiaethau rhwng byrddau iechyd ac ymarferwyr unigol yn y ffordd y caiff y rhaglen ei darparu.
  • Yn gyffredinol, mae nifer o'r materion a godir yn debygol o fod yn faterion pontio, a dylid canmol yr ymarferwyr am y ffordd y mae'r rhaglen wedi cael ei gweithredu hyd yma.    

Cafodd dulliau gweithredu cymysg eu defnyddio, gan gynnwys adolygiad desg o'r dogfennau a'r gwaith maes gydag amrywiaeth o randdeiliaid sy’n ymwneud â rheoli a darparu gwasanaethau (e.e. ymwelwyr iechyd, nyrsys meithrin a nyrsys ysgol). 

Adroddiadau

Gwerthusiad Rhaglen Plant Iach Cymru: adroddiad interim , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1019 KB

PDF
1019 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Chris Roberts

Rhif ffôn: 0300 025 6543

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.