Cafodd y rhaglen ‘Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru’, a elwir yn Cyflymu Cymru, ei sefydlu i ymestyn cwmpas band eang cyflym iawn i’r ardaloedd hynny sydd heb eu cynnwys yn y cyflwyniad masnachol.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad Rhaglen Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru
Ariannwyd y rhaglen gan raglenni ERDF 2007-13 yn ardaloedd Cydgyfeirio a Chystadleuol Cymru (£90 miliwn), Llywodraeth Cymru (£59 miliwn), a Broadband Delivery UK (£57 miliwn). Ymrwymwyd £52 miliwn pellach o fuddsoddiad gan BT, y partner cyflenwi masnachol a ddewiswyd.
Roedd y gwerthusiad yn cynnwys
- arolygon gyda mentrau a chartrefi (yn cynnwys y rheini oedd wedi a heb fabwysiadu band eang cyflym iawn)
- ymgynghoriadau gyda phartneriaid a rhanddeiliaid oedd yn rhan yn y rhaglen
- datblygiad model effaith er mwyn amcangyfrif effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol net y rhaglen
Hefyd cynhaliwyd ymchwil sylfaenol gyda phrentisiaid.
Adroddiadau
Gwerthusiad Rhaglen Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Gwerthusiad Rhaglen Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 403 KB
Cyswllt
Heledd Jenkins
Rhif ffôn: 0300 025 6255
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.