Nod y rhaglen Cymraeg i Blant yw cynyddu nifer y plant sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad proses o’r rhaglen Cymraeg i Blant
Ei hamcanion yw cefnogi rhieni, darpar rieni ac aelodau teulu eraill wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y cartref, trosglwyddo’r Gymraeg i’w plant, a chefnogi datblygiad ieithyddol plant, mewn cyd-destun cymdeithasol ac addysgol.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau gwerthusiad proses o Cymraeg i Blant, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd â’r nod o gynyddu nifer y plant sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
Nod y gwerthusiad oedd archwilio a yw’r rhaglen wedi ei dylunio mewn modd sydd yn galluogi ei hamcanion i gael eu cyflawni, ac i asesu sut mae’r rhaglen yn cael ei gweithredu yn ei ffurf bresennol.
Canfyddiadau allweddol
- Mae gan Lywodraeth Cymru a swyddogion Cymraeg i Blant ddealltwriaeth gyson o nod ac amcanion y rhaglen, ond cydnabuwyd ganddynt hefyd bod y nod a’r amcanion yn eang ac wedi eu mireinio o ganlyniad i ddehongliad y contractwr ohonynt.
- Nid yw rhieni o hyd yn ymwybodol o lwybrau dilyniant o’r rhaglen Cymraeg i Blant i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg arall.
- Nid oes llwybrau dilyniant i Gylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin ar gael ym mhob ardal lle mae gweithgareddau Cymraeg i Blant yn cael eu darparu.
- Mae angen adolygu trefniadau ar gyfer casglu data monitro, i gefnogi’r sail dystiolaeth ar gyfer gwerthusiad o ddeilliannau’r rhaglen yn y dyfodol.
- Roedd gan rhan fwyaf y rhanddeiliaid a oedd wedi gweithio ar y cyd â swyddogion y rhaglen farn gadarnhaol ynghylch eu profiadau o weithio mewn partneriaeth. Fodd bynnag, mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu bod cryfder partneriaethau yn gallu dibynnu ar y gydberthynas rhwng unigolion a’r capasiti sydd ar gael, a bod trefniadau yn gallu bod yn ad hoc oherwydd hynny.
Adroddiadau
Gwerthusiad proses o’r rhaglen Cymraeg i Blant: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Gwerthusiad proses o’r rhaglen Cymraeg i Blant: adroddiad terfynol (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 514 KB
Cyswllt
Catrin Redknap
Rhif ffôn: 0300 025 5720
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.