Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad yn archwilio: llwyddiannau a heriau yn trosglwyddiad graddol estyniad Dechrau’n Deg, effeithiau ar randdeiliaid ac enghreifftiau o arfer da.

Mae'r gwaith o ehangu Dechrau'n Deg yn cynnwys dau gam sy'n ehangu'r rhaglen i ardaloedd newydd ar draws holl awdurdodau lleol Cymru. Derbyniodd ardaloedd sy'n gymwys ar gyfer Cam 1 bob un o'r pedair elfen o Dechrau'n Deg (gofal plant; gwell cefnogaeth i ymwelwyr iechyd; mynediad at gefnogaeth rhianta; a chefnogaeth ar gyfer datblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu). Roedd Cam 2 yn cynnwys ehangu elfen gofal plant Dechrau'n Deg yn unig.

Disgrifiwyd cyflwyno'r gwaith o ehangu Cam 1 Dechrau'n Deg fel proses esmwyth. Er bod cyflwyno Cam 2 yn cael ei ystyried yn llwyddiannus, daeth nifer o heriau i'r amlwg. Yn benodol, nododd awdurdodau lleol y byddai caniatáu mwy o amser cyn cyflwyno Cam 2 wedi galluogi iddynt gynnwys mwy o leoliadau gofal plant, hysbysu rhieni yn gynharach ac addasu capasiti mewnol.

Nododd awdurdodau lleol rai effeithiau cadarnhaol ar leoliadau gofal plant yn sgil ehangu Dechrau'n Deg, o ran ansawdd y ddarpariaeth gofal plant a hyfforddiant ar gyfer lleoliadau gofal plant. Canfuwyd bod nifer o leoliadau gofal plant ychwanegol wedi ymuno fel darparwyr ar gyfer Dechrau'n Deg, ac wedi'u hannog i wneud hynny gan brosesau caffael symlach a chefnogaeth gan awdurdodau lleol.

Nododd y gwerthusiad heriau o ran recriwtio a chadw staff gofal plant cymwys, yn enwedig y gweithlu sy'n siarad Cymraeg, yn ogystal ag ymwelwyr iechyd. Ystyriwyd bod hyn yn cyfyngu ar gapasiti Dechrau'n Deg mewn ardaloedd difreintiedig a allai arafu'r broses ehangu.

Adroddiadau

Gwerthusiad proses o ehangu graddol Dechrau’n Deg: prif adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 976 KB

PDF
976 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Hannah Davies

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.