Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyno Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru

Ym mis Rhagfyr 2022, lansiodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Môr a Physgodfeydd Cymru (WMFS). Cynlluniwyd WMFS i “gefnogi twf amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy yn niwydiant bwyd môr Cymru ac annog cymunedau arfordirol Cymru i ffynnu”.[troednodyn 1]

Mae’r WMFS yn defnyddio pwerau newydd i Weinidogion Cymru sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Pysgodfeydd 2020 y DU, a chyfres o reoliadau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn 2022 gan ddefnyddio pwerau a roddwyd iddynt gan y Ddeddf (Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022’).

Mae WMFS yn cynnwys cylchoedd ariannu cyfnodol sy’n targedu amcanion polisi penodol. Gall pob cylch gwmpasu un neu fwy o 18 gweithgaredd cymwys gwahanol.[troednodyn 2] Cyflenwir y cylchoedd ariannu trwy Daliadau Gwledig Cymru (RPW). 

Y tri chylch ariannu cyntaf oedd: Mesurau Marchnata (Cylch 1), Effeithlonrwydd Ynni a Lliniaru Newid yn yr Hinsawdd (Cylch 2), ac Iechyd a Diogelwch (Cylch 3). Roedd Cylchoedd 1 a 2 yn golygu proses ymgeisio dau gam, gyda Datganiad o Ddiddordeb a chais llawn. Defnyddiodd Cylch 3 (Iechyd a Diogelwch) broses un cam, gan gymhwyso dull cost safonol.

Cyflwynwyd 41 o geisiadau (llawn) ar draws y tri chylch cyntaf. Roedd chwe chais, ond dim ceisiadau llwyddiannus, o dan y cylch Mesurau Marchnata. Roedd saith cais, ac un cais llwyddiannus, o dan y cylch Effeithlonrwydd Ynni a Lliniaru Newid yn yr Hinsawdd (a hawliwyd ac a gymeradwywyd). Roedd 28 o geisiadau, gyda 22 o’r rhain yn llwyddiannus, o dan gylch Iechyd a Diogelwch (gyda 13 o grantiau wedi’u hawlio a’u cymeradwyo).

Y gwerthusiad

Ym mis Rhagfyr 2023, comisiynodd Llywodraeth Cymru SQW i gynnal gwerthusiad proses o dri chylch cyntaf WMFS. Cynhaliwyd y gwerthusiad rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Medi 2024.

Prif nodau’r gwerthusiad oedd

  • Archwilio sut mae’r cylchoedd ariannu cyntaf wedi’u cyflawni gan gynnwys eu llwyddiannau, meysydd i’w gwella a’r gwersi a ddysgwyd.
  • Deall a ellir dysgu unrhyw wersi gan Weinyddiaethau eraill y DU sy’n darparu cynlluniau tebyg.
  • Deall a yw WMFS yn diwallu anghenion y sector morol a physgodfeydd mewn perthynas â marchnata, effeithlonrwydd ynni a lliniaru newid yn yr hinsawdd, ac iechyd a diogelwch.

Mabwysiadodd y gwerthusiad ddull ansoddol yn bennaf. Roedd hyn yn cynnwys:

  • pedwar cyfweliad cwmpasu gyda Llywodraeth Cymru (gan gynnwys tîm polisi Ariannu’r Môr a Physgodfeydd ac RPW)
  • adolygiad o’r rhaglen gefndir a dogfennaeth strategol
  • dadansoddiad o ddata eilaidd ar y sector morol a physgodfeydd yng Nghymru
  • cyfweliadau gyda chwe ymgeisydd llwyddiannus a dau ymgeisydd aflwyddiannus o ddau gylch (Effeithlonrwydd Ynni a Lliniaru Newid yn yr Hinsawdd ac Iechyd a Diogelwch)
  • cyfweliadau â saith rhanddeiliad o'r sector morol a physgodfeydd
  • cyfweliadau â thri chynrychiolydd sy’n ymwneud â dylunio/gweithredu cynlluniau perthnasol eraill Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr ag adolygiad o ddogfennau/data ar y cynlluniau hyn
  • cyfweliadau â thri chynrychiolydd o gynlluniau tebyg yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ochr yn ochr ag adolygiad o ddogfennau/data ar y cynlluniau hyn

Arolwg ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus (Iechyd a Diogelwch yn unig) a dderbyniodd bum ymateb a (ii) arolwg o’r rhai na dderbyniodd arian, a oedd yn agored i’r rheini a ymgeisiodd am gyllid WMFS ond a oedd yn aflwyddiannus a’r sector ehangach na wnaeth gais am gyllid. Ni dderbyniodd yr arolwg unrhyw ymatebion gan ymgeiswyr aflwyddiannus a chwe ymateb gan y sector ehangach. Oherwydd maint bach y sampl, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli’r canfyddiadau.

Crynodeb o’r canfyddiadau allweddol

Gweithgareddau a gyflawnwyd trwy dri chylch ariannu cyntaf WMFS

Yn gyffredinol, cymedrol oedd maint y gweithgaredd a gyflawnwyd o dan y tri chylch ariannu cyntaf. Gyda’i gilydd, cafodd £73k mewn grantiau eu hawlio a’u cymeradwyo gan 14 o fuddiolwyr o dan gylchoedd ariannu Effeithlonrwydd Ynni a Lliniaru Newid yn yr Hinsawdd ac Iechyd a Diogelwch. Nid oedd unrhyw ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer y cylch Mesurau Marchnata – ac felly ni chyflawnwyd unrhyw weithgaredd.

Lle cafodd gweithgarwch ei ariannu trwy WMFS, yn gyffredinol fe’i darparwyd fel y’i bwriadwyd yn ôl ymgeiswyr llwyddiannus a gyfwelwyd/a ymatebodd i’r arolwg ar-lein. Galluogodd y cylch Iechyd a Diogelwch i amrywiaeth o eitemau gael eu prynu - gan gynnwys goleuadau chwilio, siacedi achub, radios llaw, ysgolion, biniau rhwyd, a systemau awtobeilot. Dywedodd yr holl ymgeiswyr bod yr offer hwn bellach yn cael ei ddefnyddio (neu ar gael i’w ddefnyddio pan gaiff ei fwriadu ar gyfer defnydd brys yn unig).

Beth sydd wedi a heb weithio’n dda o ran proses ymgeisio a chyflawni WMFS hyd yn hyn, a gwelliannau a awgrymwyd ar gyfer cylchoedd ariannu’r dyfodol?

Mae adborth gan ymgeiswyr llwyddiannus yn awgrymu bod y broses asesu, contractio a hawlio wedi gweithio’n dda ar y cyfan ar gyfer y rhai a gefnogwyd. Fodd bynnag, nodwyd rhai problemau gan gynnwys amserlenni (gyda pheth oedi wrth wneud penderfyniadau a chontractio), a chymhlethdod y gofynion hawlio.

Roedd yr ymgeiswyr llwyddiannus a gymerodd ran yn y gwerthusiad a’r rhanddeiliaid hefyd yn teimlo bod marchnata a hyrwyddo’r cynllun yn briodol ar y cyfan. Wedi dweud hyn, awgrymodd nifer fach o ymgeiswyr a rhanddeiliaid y gellid bod wedi gwella marchnata a hyrwyddo er mwyn sicrhau bod negeseuon yn glir ac yn hygyrch i’r sector.

Cafwyd adborth sylweddol ar agweddau ar y broses ymgeisio nad oedd wedi gweithio cystal. Awgrymwyd llawer o’r pwyntiau a godwyd hefyd fel cyfleoedd i wella’r prosesau ymgeisio a chyflawni yn y dyfodol. Roedd lefel uchel o gonsensws gan ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus, a gan randdeiliaid, ar agweddau ar y broses ymgeisio nad oedd yn gweithio cystal. Roedd y pwyntiau allweddol fel a ganlyn.

Prif bwyntiau

  • Nid theimlwyd bod yr amser a lefel y wybodaeth oedd ei angen i gwblhau’r cais yn gymesur, yn enwedig ar gyfer busnesau/sefydliadau sy’n gwneud cais am grant bach. Roedd peth o’r dystiolaeth oedd ei hangen yn anodd i fasnachwyr unigol/microfusnesau ei darparu. 
  • Roedd diffyg eglurder ynghylch y mathau o weithgareddau y gellid eu hariannu trwy’r cynllun. Arweiniodd hyn at geisiadau anghymwys a pheth rhwystredigaeth gan ymgeiswyr. 
  • Dywedwyd bod system RPW ar-lein - a ddyluniwyd yn wreiddiol ar gyfer y sector amaethyddiaeth - yn anodd ei defnyddio, gan fod y sector morol a physgodfeydd yn anghyfarwydd i raddau helaeth â’r system. Hefyd, roedd rhai o’r cwestiynau’n anodd i fusnesau/sefydliadau morol a physgodfeydd eu cwblhau (er enghraifft, cyfrifo’r defnydd o danwydd yn y dyfodol a dalfeydd dyddiol), yn enwedig o ystyried yr amodau masnachu ansicr presennol. 
  • Gallai fod mwy o gefnogaeth yn ystod y broses ymgeisio. Gallai ymgeiswyr gysylltu ag RPW, ond codwyd rhai anawsterau gan gynnwys diffyg dealltwriaeth ymarferol/canfyddedig o ddealltwriaeth ymarferol o’r sector morol a physgodfeydd gan RPW.

I ba raddau y diwallwyd anghenion y sector mewn perthynas â thri chylch ariannu cyntaf WMFS?

Yn gyffredinol, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y dull wedi’i dargedu yn nhri chylch ariannu cyntaf y cynllun wedi diwallu’n llawn anghenion y sector morol a physgodfeydd. Mae hyn yn amlwg yn yr adborth ansoddol gan ymgeiswyr, yr arolwg sector ehangach, a rhanddeiliaid. Mae hefyd yn cael ei nodi gan lefel isel y galw am y ddau gylch ariannu cyntaf (Mesurau Marchnata ac Effeithlonrwydd Ynni a Lliniaru Newid yn yr Hinsawdd), a maint bychan dilynol y gweithgarwch a gyflawnwyd. Yn ymarferol, ychydig iawn o weithredwyr yn y sector sydd wedi’u cefnogi gan y tri chylch ariannu cyntaf, a llai nag a ddisgwyliwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyd-destun y mae WMFS wedi’i ddarparu ynddo hefyd yn bwysig ac yn debygol o ddylanwadu ar nifer y ceisiadau - fel y trafodir ymhellach ym mharagraffau 3.9 - 3.12. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ac addasu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau a gafwyd. Roedd hyn yn cynnwys darparu cyllid cyfalaf yng Nghylch 3, a throi Cylch 4 (sydd y tu allan i gwmpas y gwerthusiad hwn) i gynnwys cyllid cyfalaf a refeniw, darparu mwy o gategorïau cyllid i gefnogi ystod eang o brosiectau, a datblygu dangosyddion canlyniadau mwy perthnasol.

Pwysleisiodd adborth gan randdeiliaid fod y math o gyllid (h.y. refeniw yn unig) a’r dull wedi’i dargedu wedi lleihau’r galw am y ddau gylch cyntaf. Gwelodd y cylch Iechyd a Diogelwch fwy o ymgysylltu ac yn gyffredinol roedd yn diwallu anghenion ymgeiswyr llwyddiannus. Wedi dweud hyn, gyda thua thraean o ymgeiswyr cymeradwy (7 o 22) heb hawlio’r grant, roedd y gyfradd drosi o gymeradwyo cais i gymeradwyo hawliad yn isel o ystyried natur yr ymyriad (h.y. cost safonol ar gyfer eitemau cymwys a oedd wedi’u rhag-gymhwyso). Y prif reswm pam na hawliodd ymgeiswyr cymeradwy oedd anallu i ddod o hyd i’r offer a oedd yn ymateb i’r manylebau gofynnol.

Amlygodd adborth gan randdeiliaid ac ymgeiswyr llwyddiannus/aflwyddiannus bwysigrwydd ymgysylltu a chydweithio parhaus rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector i roi eglurder ynghylch anghenion a blaenoriaethau, a ddylai yn ei dro lywio dyluniad a chyflwyniad y cynllun ar gyfer cylchoedd yn y dyfodol. Yn ogystal, roedd rhanddeiliaid o’r farn bod lle i wella ansawdd yr ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a’r Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid Cyllid y Môr a Physgodfeydd, a sefydlwyd yn benodol ar gyfer y cynllun. Gallai hyn gynnwys darparu diweddariadau mwy rheolaidd ar gynnydd i’r Grŵp, a Llywodraeth Cymru yn annog ac yn hwyluso trafodaeth a her adeiladol gan y Grŵp.

Beth yw’r rhesymau pam y gallai unigolion, sefydliadau a busnesau yn y sector morol a physgodfeydd fod wedi dewis peidio â gwneud cais am gyllid trwy WMFS?

Ceisiodd y gwerthusiad ymgysylltu’n eang â’r sector trwy arolwg ar-lein a ddosbarthwyd sawl gwaith gan Lywodraeth Cymru a chymdeithasau sector, cyrff a sefydliadau yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd y gyfradd ymateb yn isel. Felly, mae’r sylfaen dystiolaeth ar y rhesymau pam y gallai busnesau/sefydliadau yn y sector fod wedi dewis peidio â gwneud cais am gyllid trwy WMFS yn gyfyngedig a dylid bod yn ofalus wrth ddehongli’r canfyddiadau.

Awgrymodd yr arolwg â’r sector ehangach – a gwblhawyd gan chew ymatebydd na wnaeth gais am gyllid –ddiffyg capasiti i gwblhau’r broses ymgeisio ac aliniad cyfyngedig rhwng blaenoriaethau busnes/sefydliad a’r math o weithgaredd y gellid ei ariannu a’r math o gyllid sydd ar gael (h.y. cyfalaf / refeniw) yn rhesymau allweddol dros beidio â gwneud cais.

Hefyd, mae’r adborth gan ymgeiswyr a rhanddeiliaid ar agweddau ar ddylunio a gweithredu’r cynllun nad oedd yn gweithio cystal a nodir uchod yn rhoi tystiolaeth bellach ynghylch pam y gallai busnesau/sefydliadau fod wedi dewis peidio â gwneud cais i’r cynllun. Thema gyson gan randdeiliaid oedd cymhlethdod gwirioneddol neu ganfyddedig y broses ymgeisio, y teimlwyd oedd wedi atal ymgeiswyr. Roedd yr amserlenni tynn ar gyfer cyflawni hefyd yn rhwystr.

Yn ehangach, mae’n bwysig ystyried y cyd-destun y mae’r cynllun wedi’i weithredu ynddo. Mae data eilaidd yn dangos bod y sector pysgodfeydd yng Nghymru wedi lleihau mewn termau absoliwt yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sy’n cynnwys nifer y cychod, tunelledd gros a physgotwyr rheolaidd. Mae’n debygol y gall y tueddiadau hyn gael eu hegluro’n rhannol gan ddylanwadau allanol (e.e. ymadael â’r UE a chynnydd mewn costau ynni). Mae’r adborth gan randdeiliaid hefyd yn nodi bod y ffactorau allanol hyn wedi dylanwadu ar y galw am y tri chylch ariannu cyntaf oherwydd eu heffaith ar hyfywedd hirdymor, a gallu i fuddsoddi, llawer o fusnesau/sefydliadau ar draws sector pysgodfeydd a morol Cymru.

A fu unrhyw ganlyniadau anfwriadol o ddarparu cyllid trwy WMFS?

Mae adborth gan randdeiliaid ac ymgeiswyr yn awgrymu y bu rhai canlyniadau anfwriadol andwyol o dri chylch ariannu cyntaf y cynllun. Mynegodd rhai ymgeiswyr eu hamharodrwydd i wneud cais am unrhyw gylchoedd ariannu yn y dyfodol os bydd y broses yn aros yr un fath, oherwydd ystyrir bod y broses ymgeisio yn anghymesur â’r dyfarniad ariannol posibl.

Yn ogystal, cododd rhanddeiliaid bryderon bod gan y sector ganfyddiadau negyddol o’r WMFS oherwydd y problemau gyda’r tri chylch ariannu cyntaf, a gallai hyn atal busnesau/sefydliadau rhag ymgeisio yn y dyfodol.

Wedi dweud hynny, roedd cydnabyddiaeth ymhlith rhai rhanddeiliaid yn y sector bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio ymateb mewn amser real i’r gwersi a ddysgwyd fel y nodir uchod. Teimlwyd bod hyn yn helpu i liniaru’r canlyniadau anfwriadol andwyol hyn.

Pa wersi gellir eu dysgu gan Weinyddiaethau eraill y DU sy’n darparu cynlluniau ariannu tebyg?

Nododd yr adolygiad cymaryddion o raglenni tebyg mewn gweinyddiaethau eraill yn y DU sawl pwynt dysgu allweddol ar gyfer WMFS.

Goblygiadau cylchoedd ariannu blynyddol

Mewn rhai achosion, nodwyd ffafriaeth o ran y gallu i gefnogi prosiectau amlflwyddyn, gyda mecanweithiau cyllidebol cysylltiedig i alluogi hyn.

Tryloywder

Mae cyhoeddi'r grantiau/prosiectau a ddyfarnwyd ar-lein yn darparu gwybodaeth hygyrch a thryloyw i’r sector am yr hyn sydd wedi’i gefnogi. Gall hyn helpu i annog ymgysylltiad a manteisio ar y cylchoedd yn y dyfodol, a dangos natur a chwmpas y cymorth a ddarperir.

Ymgynghori ac ymgysylltu â diwydiant a rhanddeiliaid

Pwysigrwydd neilltuo digon o amser ac adnoddau i ymgysylltu â’r diwydiant, gan gynnwys busnesau unigol a rhanddeiliaid allanol i lywio’r broses o ddylunio cynlluniau, a chefnogi’r broses o’i rhoi ar waith wedi hynny.

Gweithio traws-lywodraeth

Dylid annog ymgysylltu a chreu cysylltiadau effeithiol ag adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, ar lefel ddatganoledig/cenedlaethol a’r DU. Mae hyn yn helpu i leihau dyblygu a sicrhau’r aliniad mwyaf posibl ar draws gwahanol gynlluniau ariannu.

Materion capasiti

Gan drawstorri’r pwyntiau uchod, mae digon o gapasiti cyflawni a rheoli yn allweddol, i alluogi ymgysylltu effeithiol â rhannau eraill o’r llywodraeth, diwydiant a rhanddeiliaid, a chyfathrebu gweithredol, ochr yn ochr â gweithgareddau craidd rheoli rhaglen.

Gwersi o ddyluniad a gweithrediad rhaglenni eraill Llywodraeth Cymru sy’n cyd-fynd â’r rhai uchod. Amlygwyd pwysigrwydd systemau a phrosesau ymgeisio a chyflawni cymesurol, ac eglurder diben strategol hefyd o’r adolygiad o gynlluniau eraill Llywodraeth Cymru.

A oes modd nodi unrhyw effeithiau tymor byr o’r WMFS?

Cyfyngedig yw’r dystiolaeth o effeithiau tymor byr o WMFS ar hyn o bryd. Mae hyn yn adlewyrchu i raddau helaeth y lefelau isel o ymgysylltu â’r tri chylch ariannu cyntaf. Wedi dweud hyn, mae rhywfaint o dystiolaeth o effeithiau tymor byr cadarnhaol yn ymwneud ag arferion gwaith mwy diogel, mwy o gapasiti ar gyfer dal/storio, ac offer mwy effeithlon yn arwain at fuddiannau posibl o ran cynhyrchiant a chost.

Argymhellion

Ar sail y dystiolaeth o’r gwerthusiad hwn o’r broses, mae deg argymhelliad wedi’u nodi i lywio’r gwaith o ddylunio a gweithredu cylchoedd ariannu’r WMFS yn y dyfodol.

Argymhellion ‘strategaeth a dyluniad’ y cynllun

  1. Diffinio nodau a diben cyffredinol y cynllun yn fwy penodol, cyson a chlir.
  2. Gwella cyfathrebu ac ymgysylltu â’r sector lle bo hynny’n ymarferol ac yn gymesur er mwyn llywio’r gwaith o gynllunio cylchoedd ariannu yn y dyfodol.
  3. Archwilio’r posibilrwydd o addasu’r model ariannu blynyddol presennol gyda Llywodraeth y DU.
  4. Parhau i gynnig cymysgedd o gymorth cyllid cyfalaf a refeniw lle bo’n briodol.

Argymhellion ‘gweithrediad a rheolaeth’ y cynllun

  1. Ar gyfer unrhyw gylchoedd cost safonol yn y dyfodol, archwilio’r posibilrwydd o ymgorffori mwy o hyblygrwydd o ran manylebau (e.e. cyfarpar pwrpasol) a/neu’r gallu i ymgeiswyr gyflwyno’r achos dros brynu offer arall i annog galw ac aliniad ag anghenion y diwydiant.
  2. Ar gyfer cylchoedd ariannu’r dyfodol, gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant a rhanddeiliaid i sicrhau bod nodau’r cylch a gyhoeddir yn dryloyw, yn ddiamwys ac yn cael eu deall yn llawn gan y sector.
  3. Rhoi cyfres o gamau gweithredu ar waith i sicrhau proses ymgeisio symlach a mwy cymesur, sy’n cynnwys mynediad at gymorth.
  4. Cynnwys amod y gellir rhannu gwybodaeth gyswllt ymgeisydd â Llywodraeth Cymru ac unrhyw werthuswyr dan gontract at ddiben gwerthuso yn hysbysiad preifatrwydd y cynllun.
  5. Gwella tryloywder y cynllun trwy gyhoeddi data blynyddol ar brosiectau a gefnogir gan y cynllun (o fewn canllawiau GDPR y DU) o Gylch 3 ymlaen.
  6. Ceisio sefydlu fforwm rheolaidd a phwrpasol ar gyfer pedair gwlad y DU i rannu gwybodaeth ac arfer gorau ar ddylunio a gweithredu cynlluniau morol a physgodfeydd.

Troednodiadau

[1] Llywodraeth Cymru (2022) Cynllun y Môr a Physgodfeydd Cymru: canllawiau perthnasol i bob rownd

[2] Ibid (gweler yr adran ‘Gweithgareddau y gellir eu hariannu o dan y cynllun’)

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Joe Duggett, Joanne Barber, Luke Bailey-Withers, Ana Luísa Pires Fernandes, Mark Beynon

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Aimee Krishan
Ebost: ymchwilhinsawddacamgylchedd@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 88/2024
ISBN digidol 978-1-83625-984-8

Image
GSR logo