Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Lansiwyd y cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru ('y cynllun peilot') ym mis Gorffennaf 2022. Gwnaed y taliadau cyntaf i bobl ifanc 18 oed a oedd yn gymwys ar gyfer y cynllun ym mis Awst 2022 (Llywodraeth Cymru, 2022). 

Mae'r gwerthusiad o'r cynllun bellach yn ei drydedd flwyddyn. Dyma grynodeb o'r ail adroddiad blynyddol o'r gwerthusiad. 

Trosolwg o’r cynllun peilot

Mae'r cynllun peilot yn talu incwm sylfaenol i bobl ifanc sy'n gadael gofal am ddwy flynedd. Mae rhagor o fanylion am natur y cynllun peilot ar gael yn nogfen Llywodraeth Cymru Cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal: trosolwg o'r cynllun.

Roedd y cynllun peilot ar agor i bobl ifanc gofrestru rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Mehefin 2023 ar gyfer pawb a oedd yn cael ei ben-blwyddyn 18 oed yn ystod y cyfnod hwnnw. Cyfanswm y taliad incwm sylfaenol oedd £1,600 gros y mis, a oedd yn cael ei drethu o flaen llaw fel bod y derbynwyr yn cael swm net o £1,280 y mis, am ddwy flynedd, oni bai eu bod yn dewis gadael y cynllun peilot yn gynnar.

Parhaodd pobl ifanc i dderbyn y cymorth y mae pawb sy'n gadael gofal fel arfer yn ei dderbyn gan eu hawdurdod lleol tra oeddent ar y cynllun peilot, a chynigiwyd cymorth ychwanegol iddynt hefyd ynglŷn â rheoli cyllid.

Cytunodd cyfanswm o 97% o'r rhai a oedd yn gymwys ar gyfer y cynllun peilot i gymryd rhan (644 o unigolion). 

Trosolwg o'r gwerthusiad

Dechreuodd y gwerthusiad ym mis Tachwedd 2022. Disgwylir iddo ddod i ben yn 2027 fel y gellir casglu data ar effeithiau tymor hwy.

Mae cwestiynau’r ymchwil

  • Cwestiwn Ymchwil 1: Beth yw effaith y cynllun peilot?
  • Cwestiwn Ymchwil 2: A yw'r cynllun peilot yn cael ei roi ar waith fel y bwriadwyd?
  • Cwestiwn Ymchwil 3: Sut brofiad yw'r cynllun peilot?
  • Cwestiwn Ymchwil 4: Sut mae’r cynllun peilot yn cyd-fynd â’r cynnig cyffredinol i bobl sy’n gadael gofal yng Nghymru?
  • Cwestiwn Ymchwil 5: Pa mor gost-effeithiol yw'r cynllun peilot?

Mae'r gwerthusiad wedi'i gynllunio o amgylch pum maes craidd o'r enw 'pecynnau gwaith.’ Crynhoir y rhain fel a ganlyn.

  1. Cyd-gynhyrchu: Mae grŵp o oedolion ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cyfarfod yn rheolaidd i roi cyngor i'r astudiaeth. Gwnaed nifer o newidiadau i'r astudiaeth yn dilyn eu cyngor.
  2. Gwella theori: Mae'r astudiaeth yn werthusiad sy'n seiliedig ar theori, ac mae'r gwerthusiad yn ceisio cynyddu dealltwriaeth o sut a pham y gallai'r cynllun peilot gael yr effeithiau bwriadedig ar wahanol bobl sy’n gysylltiedig, neu beidio.
  3. Gwerthuso effaith: Mae effaith y cynllun peilot ar fywydau pobl ifanc yn cael ei mesur mewn perthynas ag iechyd a lles, eu cyllid, eu hymgysylltiad ag addysg a chyflogaeth, a’u hymgysylltiad â'u cymunedau.
  4. Gweithredu a gwerthuso’r broses: Mae'r rhan hon o'r ymchwil yn archwilio sut mae'r cynllun peilot yn cael ei weithredu, ei ddarpariaeth barhaus, a sut mae'r cynllun yn cael ei brofi a'i ystyried gan y rhai sy’n gysylltiedig.
  5. Gwerthusiad economaidd: Bydd y gwerthusiad economaidd yn ystyried p’un a yw'r cynllun peilot yn cynrychioli gwerth am arian o ran y canlyniadau a gyflawnwyd. 

Nodau a chwmpas yr adroddiad hwn

Mae'r ail adroddiad blynyddol yn agor gyda diweddariad gan ein grŵp cyd-gynhyrchu, sy’n crynhoi eu gwaith dros ddwy flynedd gyntaf y gwerthusiad. 

Yna, byddwn yn adrodd ar ddwy set o ganfyddiadau o becyn gwaith 4: safbwyntiau a phrofiadau cynnar pobl ifanc sy'n derbyn y taliad a gweithrediad cychwynnol y cynllun peilot. Mae'r rhain yn mynd i'r afael â chwestiynau ymchwil 2 a 3.

Mae'r ail adroddiad blynyddol yn darparu gwybodaeth fanwl am y dulliau ymchwil a ddefnyddiwyd i gasglu a dadansoddi'r data. Yn yr adroddiad cryno hwn, adroddir ar y canfyddiadau yn unig. 

Yn yr un modd, mae'r adroddiad yn cynnwys canfyddiadau manylach; crynodebau trosfwaol a geir yma yn unig.

Cyfraniad gan ein cynghorwyr sydd â phrofiad o ofal

Mae'r adran hon wedi'i hysgrifennu gan ein grŵp cyd-gynhyrchu.

Rydym yn grŵp o oedolion ifanc sydd â phrofiadau tebyg o ofal i'r rhai sy'n derbyn yr incwm sylfaenol. Gan fod y rhan fwyaf ohonom yn ein hugeiniau cynnar i ganol ein hugeiniau, mae gennym atgofion byw o'n sefyllfa ariannol a byw rhwng 18 ac 20 oed ac rydym mewn lle da i gynghori'r ymchwilwyr ar gwestiynau a dulliau ymchwil. Rydym yn cael ein cefnogi gan Lleisiau mewn Gofal, Cymru.

Mae’r ail adroddiad blynyddol yn cynnwys cynrychiolaeth weledol o weithgareddau ein grŵp ers 2022, sydd wedi cyfarfod 9 gwaith rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Tachwedd 2024.

Dyma rai enghreifftiau o sut rydym wedi ffurfio'r ymchwil

  • O restr o gwestiynau a brofwyd yn flaenorol, dewisom gwestiynau iechyd meddwl ar gyfer yr arolwg yr oeddem yn credu eu bod yn bwysig ac yn sensitif.
  • Ychwanegom gwestiynau a phynciau ar gyfer y cyfweliadau â gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc, e.e. i ofyn ynglŷn â newidiadau i hyder wrth gymdeithasu â ffrindiau – mynd am goffi, pryd o fwyd neu ddiwrnod allan.
  • Rhoesom gyngor ar sut i helpu pobl ifanc i deimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus mewn cyfweliadau.
  • Rhoesom gyngor ar sut i holi ynglŷn â phynciau sensitif fel alcohol a chyffuriau mewn cyfweliadau.
  • Awgrymom fod yr ymchwilwyr yn cynnig cyfweliadau unigol, pâr neu grŵp i bobl ifanc, nad oedd yn y cynllun ymchwil gwreiddiol ond a weithiodd yn dda.
  • Rhoesom gyngor ar sut i gynnal cyfweliadau grŵp gyda phobl ifanc.
  • Diystyriom rai syniadau yr oedd yr ymchwilwyr yn credu eu bod yn greadigol, ond yr oeddem ni'n credu eu bod yn rhy gymhleth!

Dyma farn rhai o aelodau ein grŵp am gymryd rhan

Dwi'n gallu cofio bod yn 18 oed. Aeth bron popeth o chwith. Roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr na fyddai hyn yn digwydd i fy mrodyr a chwiorydd iau a phobl eraill.

Dwi eisiau helpu pobl ifanc eraill. Roeddwn i'n poeni sut byddai rhai yn ymdopi â'r arian.

Aeth y grwpiau'n dda, ac roedd gan bawb yr hawl i siarad a gwrandawyd ar yr holl safbwyntiau.

Roedd yn well gen i gyfarfodydd wyneb yn wyneb gan fy mod i'n teimlo bod pobl yn cyfathrebu'n well.

Profiadau a safbwyntiau derbynwyr a chefnogwyr ym mlwyddyn gyntaf y cynllun peilot

Safbwyntiau ar ddyluniad y cynllun peilot

Y garfan a ddewiswyd

Roedd cefnogaeth gyffredinol i'r garfan a ddewiswyd a darparu cymorth ychwanegol i bobl ifanc sy'n gadael gofal. Yn aml, cyfeiriodd y cyfranogwyr at heriau niferus sy'n wynebu'r rhai sy'n gadael gofal ac roeddent yn ystyried bod eu carfan dan anfantais yn emosiynol ac yn ymarferol.

Er eu bod yn fuddiolwyr y polisi, amlygodd y cyfweliadau ymdeimlad rhai pobl ifanc o gyfrifoldeb cymdeithasol, gan obeithio y byddai’n cael ei ddefnyddio'n gyfrifol gan dderbynwyr eraill. 

Oedran

Roedd rhai cyfranogwyr yn credu na ddylai'r cynllun peilot fod wedi cael ei gyfyngu i'r rhai sy'n troi'n 18 oed rhwng cyfnod diffiniedig, gan ddadlau y dylai gael ei roi i bawb sy'n gadael gofal - ni waeth beth fo'u hoedran na'u cyfnod pontio. Fodd bynnag, wrth fyfyrio ar yr agwedd hon ar ddyluniad y cynllun peilot, roedd y cyfranogwyr yn teimlo’n gyffredinol bod 18 oed yn adeg briodol i ddechrau derbyn yr incwm sylfaenol.

Swm yr arian

Mae cyfres o ddyfyniadau yn yr ail adroddiad blynyddol yn awgrymu bod y cyfranogwyr yn credu bod swm yr incwm sylfaenol yn galluogi pobl ifanc i dalu eu treuliau a hefyd yn caniatáu rhywfaint o ddewis a rheolaeth mewn perthynas â'r arian sy'n weddill. Roedd y graddau yr oedd y cyfranogwyr yn teimlo bod ganddynt arian dros ben ar ôl costau byw yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau penodol (e.e. lleoliad daearyddol a threfniadau byw). Nodwyd bod y canfyddiad nad oedd y swm o arian yn ormodol yn arbennig o wir i'r rhai sy'n talu costau tai uchel.

Hyd

Wrth drafod hyd y cynllun peilot, cytunodd y cyfranogwyr fod y ffaith bod yr incwm sylfaenol ar gael rhwng 18 ac 20 oed yn ddefnyddiol. Byddai rhai wedi ffafrio tair blynedd, tra bod eraill yn ofni y byddai cyfnod hwy yn arwain at ddibyniaeth ar yr incwm.

Trafodwyd diwedd y cynllun peilot yn aml yn y cyfweliadau, a dywedodd bron pob person ifanc eu bod wedi meddwl amdano a'u bod yn ymwybodol ei fod am gyfnod cyfyngedig.

Profiadau cynnar o'r cynllun peilot

Ymgysylltu â chyngor ariannol

Ar wahân i'r trosglwyddiadau arian parod bob mis, mae gan y derbynwyr fynediad parhaus at wasanaethau arferol i’r rhai sy'n gadael gofal, gan gynnwys mynediad at Gynghorydd Personol. Fel rhan o'r cynllun peilot, gallai pobl ifanc gael mynediad at gyngor ariannol wedi’i deilwra, a ddarparwyd gan Gyngor ar Bopeth yn y rhan fwyaf o leoliadau. Mae Cyngor ar Bopeth yn wasanaeth eiriolaeth a chyngor.

I leiafrif o’r ymatebwyr a gymerodd ran mewn cyfweliadau, roedd cyflwyno cynghorydd Cyngor ar Bopeth neu gynghorydd cyfatebol wedi arwain at wiriadau ariannol rheolaidd. Roedd eraill yn amwys ynghylch argaeledd y gwasanaeth hwn neu'n gwybod amdano ond nid oedd arnynt ei angen. 

Ymgysylltu â Chynghorwyr Personol a gweithwyr proffesiynol eraill

Cyfeiriodd llawer o bobl ifanc at eu rhyngweithio ag ystod o weithwyr proffesiynol, ond yn enwedig Cynghorwyr Personol, gan eu disgrifio fel ffynonellau pwysig o wybodaeth a chyngor ynglŷn â’r incwm sylfaenol. Byddai rhai wedi hoffi cael cyngor mwy gwybodus am y cynllun peilot, gan ddweud bod eu Cynghorwyr Personol yn dysgu ochr yn ochr â nhw.

Cymorth anffurfiol

Yn ogystal â chymorth proffesiynol, cyfeiriodd pobl ifanc hefyd at y cymorth a oedd ar gael gan aelodau'r teulu a gofalwyr. Roedd rhai yn ystyried bod aelodau'r teulu, gofalwyr a phartneriaid yn ffynonellau da o gyngor gan eu bod yn deall eu sefyllfa.

Fodd bynnag, roedd cymhlethdod perthnasoedd pobl ifanc yn amlwg weithiau wrth i gyfranogwyr ddatgelu profiadau negyddol neu ddewis peidio â dweud wrth aelodau'r teulu neu ffrindiau am y cynllun peilot. 

Dywedodd llawer eu bod wedi rhoi rhoddion neu fenthyciadau bach i deulu, ffrindiau a phartneriaid, ac roedd yn ymddangos eu bod yn gwerthfawrogi'r gallu i wneud hynny.

Effeithiau canfyddedig ym mlwyddyn gyntaf y cynllun peilot

Datblygu llythrennedd ariannol

Disgrifiodd llawer o’r cyfranogwyr broses o ddysgu ac addasu i dderbyn yr incwm sylfaenol. Yn rhan o hyn, roedd pobl ifanc weithiau'n hunan-feirniadol am wario ar bethau yr oeddent yn teimlo nad oedd eu hangen arnynt mewn gwirionedd, er enghraifft consolau gemau ac alcohol. Fodd bynnag, cyfeiriodd llawer ohonynt at gromlin ddysgu, gyda llythrennedd ariannol yn cynyddu yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf.

Trafodwyd cynilo’n fynych mewn cyfweliadau. Roedd yn gyffredin adrodd am gynilo ar gyfer car, gwersi gyrru neu’r brifysgol.

Trafododd rhai pobl ifanc ddewisiadau ynghylch amlder taliadau (yn fisol neu bob pythefnos), gan gysylltu hyn â chylchoedd ariannol eraill yr oeddent wedi'u sefydlu, fel rhent, taliadau ar gyfer biliau a ffonau.

Iechyd meddwl a lles

Yn ystod y cyfweliadau, cyfeiriodd pobl ifanc yn aml at straen ac ansicrwydd sy'n gysylltiedig â gadael gofal, a bod yr incwm sylfaenol wedi lleddfu pryderon neu eu helpu i’w rheoli.

Dywedodd sawl un eu bod yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda ffrindiau, gan leihau ymdeimlad o fod yn wahanol i’w cyfoedion. Adroddodd eraill am welliant i’w lles trwy ddilyn hobïau newydd, chwaraeon a chael 'trîts' fel teithiau dydd, cael lliwio eu hewinedd, prynu lliw gwallt, ac, mewn rhai achosion, gwyliau.

Ymreolaeth a rheolaeth

Roedd yn ymddangos bod y cyfuniad hwn o fuddion emosiynol a materol yn arwain at ymdeimlad o ymreolaeth a rheolaeth dros eu bywydau, gyda llai o ddibyniaeth ar eraill.

Adroddodd rhai am fwy o ddewis a rheolaeth mewn perthynas â thai, gallu mynd i'r ysbyty mewn tacsi mewn argyfwng meddygol, a derbynnydd beichiog yn prynu ymlaen llaw ar gyfer baban. 

ran cynllunio at y dyfodol, dywedodd pobl ifanc hefyd eu bod yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth, wrth i rai dreulio amser yn archwilio llwybrau gyrfa, ymgymryd â chyflogaeth ran-amser yn hytrach nag amser llawn, neu beidio â gweithio tra oeddent yn y brifysgol. Soniodd sawl person ifanc am drafferthion parhaus i ddod o hyd i waith ac, er y gallai'r incwm sylfaenol leihau anfantais pobl ifanc a chynyddu eu hopsiynau a'u cyfleoedd, mae anghenion a heriau hirsefydlog yn parhau.

Canfyddiadau: gweithredu a chamau cynnar cyflawni

Mae symlrwydd ymddangosiadol trosglwyddiadau arian parod a chynlluniau incwm sylfaenol yn rhan bwysig o'u hapêl ond, fel y gwelwyd mewn mannau eraill, mae cyd-destun y cynllun peilot hwn yn golygu ei fod yn gymhleth i'w weithredu. Hwn oedd y cynllun peilot incwm sylfaenol cyntaf a gynhaliwyd gan y llywodraeth o'r natur a'r raddfa hon; yn gweithredu o fewn cyd-destun llywodraethu datganoledig; gweithio ar ei ddarparu gyda gwahanol weithredwyr ar wahanol lefelau; ac yn gweithio gyda grŵp y mae ei aelodau'n aml yn wynebu llawer o heriau cymdeithasol ac economaidd.

Cyhoeddiadau Cychwynnol a Chefndir

Erbyn yr hydref 2021, roedd y Prif Weinidog ar y pryd, sef Mark Drakeford AS, wedi cadarnhau cynllun yn gyhoeddus i brofi cynllun peilot incwm sylfaenol, i wneud hynny gyda'r rhai sy'n gadael gofal fel grŵp targed, a bwriad i lansio'r cynllun erbyn mis Ebrill 2022 [troednodyn 1]

Roedd y tîm polisi eisoes wedi cynnal llawer o ymgynghori ac ymchwil, ond bellach roedd rhaid iddynt gwblhau'r holl drefniadau logistaidd (e.e. partneriaeth â Chyngor ar Bopeth, partner talu dibynadwy a pharatoi canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol) o fewn amserlenni cymharol fyr. Roedd hyn yn golygu cyfnod ymgynghori dwys a ffurfio partneriaeth â rhanddeiliaid perthnasol er mwyn datblygu canllawiau a logisteg gweithredu.

Partneriaethau a rhyngweithio

Roedd gweithredu'r cynllun peilot yn gofyn am bartneriaethau rhwng lefelau llorweddol a fertigol o lywodraeth, a grwpiau allanol. Yr aelodau allweddol oedd awdurdodau lleol (sy'n gyfrifol am wasanaethau gadael gofal) ledled Cymru a Chyngor ar Bopeth (sy’n gyfrifol am elfen cyngor ariannol ychwanegol y cynllun peilot).

Partneriaethau ag awdurdodau lleol

Datblygodd y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ystod camau cynnar y cynllun peilot. O safbwynt y Cynghorwyr Personol sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phobl ifanc, datblygodd o ddryswch cychwynnol ynglŷn ag amserlenni ac arweiniad i berthynas gryfach a mwy cynhyrchiol o lawer. Roedd tair her allweddol ar y dechrau. 

Yn gyntaf, roedd pryder eang, ond nid cyffredinol, ymhlith ymarferwyr ynglŷn ag anghenion cymorth uchel llawer yn y garfan derbynwyr a ddewiswyd, ynghyd â swm uchel canfyddedig yr incwm misol a'r penderfyniad i'w wneud yn ddiamod.

Yn ail, roedd ymarferwyr yn pryderu nad oedd yn ymddangos bod yr arweiniad yn ymdrin â'r holl gwestiynau a oedd yn debygol o godi gyda grŵp o bobl ifanc ag amgylchiadau amrywiol iawn. Bu'n rhaid i swyddogion polisi ymdrin â rhywfaint o amrywiaeth o ran sut mae timau gadael gofal awdurdodau lleol a gwasanaethau cysylltiedig yn cael eu trefnu ledled Cymru. Cyfyngodd hyn ar ba mor rhagnodol y gallai Llywodraeth Cymru fod mewn canllawiau ysgrifenedig.

Yn drydydd, dywedodd ymarferwyr eu bod yn teimlo nad oeddent wedi paratoi digon erbyn i'r cynllun peilot ddechrau, oherwydd amserlenni byr. Roedd rhai yn teimlo eu bod 'ar y droed ôl' ac yn methu â pharatoi’r bobl ifanc a oedd yn eu gofal am y cynllun peilot ac ateb eu cwestiynau'n gywir.

Mae cofnodion polisi a thrafodaethau grwpiau ffocws gydag ymarferwyr a thîm polisi Llywodraeth Cymru yn adrodd am rai cyfnewidiadau heriol rhwng swyddogion polisi a chynrychiolwyr awdurdodau lleol mewn cyfarfodydd cynnar, ond daeth y rhain yn arferol yn raddol. Adroddodd ymarferwyr a swyddogion polisi am berthynas gynyddol gadarnhaol a oedd yn fynych, yn onest ac weithiau'n ddigrif.

Partneriaeth â Chyngor ar Bopeth Cymru

Trefnwyd cyngor ariannol ychwanegol, yn debyg i sawl rhaglen incwm sylfaenol arall. Darparwyd yr elfen cyngor ariannol mewn partneriaeth â Chyngor ar Bopeth. Roedd gan Gyngor ar Bopeth rôl allweddol yn ystod y cam cofrestru, yn enwedig wrth gynnal cyfrifiadau 'gwell eu byd' i sicrhau na fyddai unrhyw berson ifanc yn waeth ei fyd yn ariannol ar y cynllun peilot. Dywedwyd bod y berthynas gychwynnol rhwng cynghorwyr Cyngor ar Bopeth a thimau gadael gofal yn llawn tensiwn mewn rhai rhannau o Gymru, gan fod staff Cyngor ar Bopeth yn teimlo bod Cynghorwyr Personol yn gweithredu fel porthorion i'r bobl ifanc a oedd yn eu gofal. Yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf, roedd rhai Cynghorwyr Personol o'r farn nad oedd gan Gyngor ar Bopeth y wybodaeth a'r profiad i ddeall cymhlethdod anghenion oedolion ifanc sydd â phrofiad o ofal. Serch hynny, yn ystod y flwyddyn gyntaf, roedd yn ymddangos bod y berthynas rhwng y ddau grŵp hyn o ymarferwyr wedi datblygu'n gadarnhaol ac yn gweithio'n dda mewn sawl ardal.

Er gwaethaf adroddiadau cenedlaethol Cyngor ar Bopeth sy’n dangos bod cannoedd o bobl sy'n derbyn incwm sylfaenol wedi bod mewn cysylltiad â'r gwasanaeth yn ystod pob chwarter o'r cynllun peilot, mae llawer o gynghorwyr Cyngor ar Bopeth unigol yn dweud eu bod yn teimlo nad ydynt yn cael eu defnyddio digon, gan ddisgrifio diffyg ymgysylltu fel eu rhwystr mwyaf. Bydd y datgysylltiad rhwng y ffurflenni ystadegol gan Gyngor ar Bopeth yn genedlaethol a chanfyddiadau ymarferwyr lleol o ymgysylltiad isel yn cael ei archwilio ymhellach wrth i'r gwerthusiad fynd yn ei flaen.

Datblygiad perthynol: adborth a datblygu ymddiriedaeth

Y farn gyffredinol ar draws grwpiau cyfranogwr (pobl ifanc, ymarferwyr gofal cymdeithasol a Chyngor ar Bopeth) oedd bod llawer o'r materion a oedd yn arwyddocaol ac yn frys yn ystod y cam cyflwyno, wedi derbyn sylw’n raddol wrth i'r cynllun peilot fynd yn ei flaen. 

Mae cyfathrebu parhaus llwyddiannus gan Lywodraeth Cymru ac ymdrechion cyson i feithrin perthnasoedd a mynd i'r afael â phryderon ymarferwyr wedi cryfhau ymddiriedaeth a datrys materion sy'n dod i'r amlwg yn ystod y cynllun peilot. Er enghraifft, adroddodd staff awdurdodau lleol fod tîm polisi Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i bob ymholiad. 

Ffactor arall a gyfrannodd at ddatrys y materion yn gyflym oedd bod swyddogion polisi yn ymddangos yn agored ac yn ymatebol i'r pryderon parhaus a oedd yn cael eu codi gan ymarferwyr. Er enghraifft, wrth ymateb i adborth, datblygwyd opsiynau i gael taliadau bob pythefnos a thaliadau rhent uniongyrchol dewisol.

Cymhlethdod

Yn ogystal â'r angen i ffurfio partneriaethau'n gyflym, mae'r cyd-destun datganoledig a'r amrywiadau mewn amgylchiadau bywyd pobl ifanc yn ddau faes pwysig o gymhlethdod a archwilir yn yr adran hon.

Datganoli

Mae'r trefniadau datganoli presennol yn gosod galluogwyr a chyfyngiadau ar allu llywodraeth ddatganoledig i weithredu cynllun peilot incwm sylfaenol.

Defnyddiodd Llywodraeth Cymru y meysydd lle mae ganddi gymhwysedd polisi o dan y trefniant datganoli (e.e. gwasanaethau cymdeithasol a thai) i fynd ati i gynnal y cynllun peilot. Serch hynny, o ystyried nad yw meysydd fel lles a threthiant wedi'u datganoli'n llwyr, roedd angen i Lywodraeth Cymru lywio llwybrau llywodraethu cymhleth o hyd i wireddu'r cynllun peilot.

Amrywioldeb

Mae gan sefyllfaoedd bywyd unigryw gwahanol dderbynwyr oblygiadau cyfreithiol, cyllidol a pholisi pellgyrhaeddol i wahanol bobl ifanc o dan amodau’r cynllun peilot. Daeth yr amrywioldeb hwn i’r amlwg fwyaf mewn dau faes: tai a lloches.

(a) Tai

Mae gan bobl ifanc sy'n gadael gofal drefniadau tai amrywiol, gan gynnwys rhentu preifat, byw gyda theuluoedd/perthnasau, byw mewn llety â chymorth, ac aros gyda gofalwyr maeth mewn trefniant 'Pan fyddaf yn barod.’

Datgelodd y cynllun peilot bolisïau gwahanol rhwng awdurdodau lleol o ran faint yr oedd disgwyl i bobl ifanc ei gyfrannu at gostau 'Pan fyddaf yn barod’ neu dai â chymorth. Roedd gwybodaeth a hyder ymarferwyr yn amrywio hefyd ynghylch cymhwysedd derbynwyr incwm sylfaenol mewn tai â chymorth i gael budd-dal tai.

Bydd materion tai yn cael eu harchwilio ymhellach wrth i'r gwerthusiad fynd yn ei flaen.

(b) Lloches (asylum)

Fel rhai sy'n gadael gofal, roedd cyn-blant digwmni a oedd yn ceisio lloches yn gymwys i'w cynnwys yn y cynllun peilot. Er bod cynnwys y grŵp hwn wedi denu llawer o sylw gwleidyddol ac yn y cyfryngau, gan gynnwys beirniadaeth gan y Prif Weinidog ar y pryd, sef Rishi Sunak AS, roedd Gweinidogion yn glir mai cynnwys cyn-blant digwmni a oedd yn ceisio lloches oedd y peth iawn i'w wneud yn gyfreithlon.  Roedd hefyd yn cyd-fynd ag uchelgais Llywodraeth Cymru i Gymru fod yn Genedl Noddfa. 

Roedd y ddadl gyhoeddus hon, a fynnodd sylw ac amser swyddogion a Gweinidogion, yn haen ychwanegol o gymhlethdod a nodwyd eisoes o ran sut mae bod ar y cynllun peilot yn effeithio ar gymhwysedd unigolyn i dderbyn cymorth cyfreithiol. Roedd y mater hwn yn debygol o effeithio ar lawer o gyn-geiswyr lloches digwmni y mae arnynt angen cymorth cyfreithiol i wneud hawliadau lloches fel arfer, ond hefyd unrhyw gyfranogwr yr oedd arno angen cymorth cyfreithiol, er enghraifft, y rhai sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol. Ni chytunodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i eithrio derbynwyr o'r prawf modd cymorth cyfreithiol, fel y cynigiwyd gan Lywodraeth Cymru. 

Yn gynnar yn y cynllun peilot, roedd yn anodd i Gyngor ar Bopeth ac ymarferwyr eraill gynghori pobl ifanc y gallai fod arnynt angen cymorth cyfreithiol p’un a fyddent yn well eu byd ar y cynllun peilot. Awgrymodd trafodaethau â swyddogion polisi fod Cynghorwyr Personol yn defnyddio gwahanol strategaethau ar lefel unigol, yn amrywio o barhau i wneud cais am gymorth cyfreithiol ar gyfer eu pobl ifanc i gytuno ar ffioedd sefydlog gyda chyfreithwyr.

Darparu ymyrraeth 'syml' mewn systemau 'cymhleth': Ailadrodd ac addasu

Mae’r ffaith bod taliadau wedi cael eu rhoi'n ddibynadwy i bobl ifanc yn llwyddiant cynnar a pharhaus. Bu’n rhaid wrth ddull mwy ailadroddol ar gyfer agweddau eraill ar ddylunio a gweithredu'r cynllun peilot. Un enghraifft o sut y datblygodd y polisi drwy brofiad ar lawr gwlad oedd newid canllawiau i ganiatáu ceisiadau hwyr. Mewn rhai achosion, ni ellid cofrestru pobl ifanc erbyn eu pen-blwydd yn 18 oed yn y camau cynnar, oherwydd heriau gweinyddol a oedd y tu hwnt i'w rheolaeth. 

Mae'n ymddangos bod y dull hwn o addasu a dysgu trwy wneud wedi bod yn allweddol wrth leddfu tensiynau a dryswch cychwynnol yn ystod cam cyflwyno'r cynllun peilot, yn ogystal â ffurfio perthnasoedd cryfach rhwng y rhai sy'n ymwneud â'r broses.

Y camau nesaf

Mae’r adroddiad hwn wedi ceisio cofnodi a dadansoddi profiadau cynnar pobl ifanc ar y cynllun peilot, y daith weithredu gychwynnol a'r ffactorau sydd wedi creu'r gwahanol lwyddiannau a heriau ar hyd y ffordd. Bydd tonnau dadansoddi pellach yn cynnwys barn pobl ifanc dri mis ar ôl gadael y rhaglen, barn uwch randdeiliaid, myfyrdodau ymarferwyr wrth i'r cynllun peilot ddirwyn i ben, yn ogystal â dadansoddiadau meintiol o ymgysylltu, llwyddiannau a methiannau cyflawni, a goblygiadau economaidd. Maes o law, byddwn hefyd yn adrodd ar sut mae’r canlyniadau'n cymharu â grwpiau cymaradwy o bobl ifanc nad ydynt wedi derbyn yr incwm sylfaenol.

Manylion cyswllt

Awduron: Vibhor Mathur [troednodyn 2], Louise Roberts [troednodyn 2], Zoe Bezeczky [troednodyn 2], Harriet Lloyd [troednodyn 2], Dimitris Vallis [troednodyn 3], Michael Sanders [troednodyn 3], Kate E Pickett [troednodyn 4], Matthew Johnson [troednodyn 5], Rod Hick [troednodyn 6], Elizabeth Schroeder [troednodyn 7], Patrick Fahr [troednodyn 7], Stavros Petrou [troednodyn 7], Hannah Lee[troednodyn 8], Sally Holland [troednodyn 2] a David Westlake [troednodyn 2] gyda'r Grŵp Cydgynhyrchu Gwerthuso.

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Yr Is-adran Tystiolaeth a Chymorth Cydraddoldeb, Tlodi a Phlant
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: ymchwilcyfiawndercymdeithasol@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 20/2025
ISBN digidol: 978-1-83715-377-0

GSR logo

Troednodiadau

[1] Cofnod y Trafodion, Senedd Cymru, 19 Hydref 2021, Paragraff 83

[2] Y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd

[3] Y Sefydliad Polisi, Coleg y Brenin, Llundain

[4] Yr Adran Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Efrog

[5] Yr Adran Gwaith Cymdeithasol, Addysg a Lles Cymunedol, Prifysgol Northumbria

[6] Yr Adran Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Efrog

[7] Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd

[8] Ymunodd Hannah Lee â'r tîm ymchwil yn ystod cam dadansoddi'r adroddiad hwn, ac ni sicrhawyd cymeradwyaeth iddi gael mynediad at ddata sensitif tan 09/12/24. Felly, cafodd y dasg o ddadansoddi data nad oedd yn sensitif a drafftio/golygu rhannau o'r testun. Mae ei chyfraniad yn cyrraedd trothwy CASCADE ar gyfer awduraeth adroddiadau.