Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Comisiynwyd y gwerthusiad hwn i asesu gweithredu ac effaith Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru. Roedd ychydig o dan £2m ar gael gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig (2014 i 2020) fel cyllid grant uniongyrchol 100% i gynnal 46 o brosiectau fferm a choedwigaeth o dan gynllun EIP Cymru dros chwe blynedd o 1 Awst 2016 i 30 Mehefin 2023. Cynhaliwyd y prosiectau hyn gan Grwpiau Gweithredol, dan arweiniad ffermwyr neu goedwigwyr ochr yn ochr â rhanddeiliaid eraill megis sefydliadau ymchwil neu gyrff anllywodraethol, ac fe’u cynlluniwyd i dreialu technolegau neu syniadau arloesol mewn busnesau ffermio a choedwigaeth er mwyn meithrin arloesedd a gwella arferion. Rhedir y cynllun gan Menter a Busnes (MaB), mewn partneriaeth â Chyswllt Ffermio, gan gael cefnogaeth y Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth a Broceriaid Arloesi.

Methodoleg

Cynhaliwyd y gwerthusiad mewn tri cham. Cyflawnwyd y cam cyntaf rhwng mis Mawrth 2021 a mis Ionawr 2022 i sefydlu Theori Newid y cynllun a hwn wedyn wedi’i ddefnyddio yn sail i’n Fframwaith Gwerthuso. Roedd y broses hon yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o’r ddogfennaeth graidd a llenyddiaeth ehangach, cyfweliadau cwmpasu a sesiwn gweithdy.

Yn sail i’r gwerthusiad interim (Cam 2) a’r gwerthusiad terfynol (Cam 3) cynhaliwyd y canlynol: arolwg o 132 o aelodau Grwpiau Gweithredol (fe wnaeth 38 ohonynt hefyd cymryd rhan mewn cyfweliadau dilynol i gasglu data hydredol) a 30 o bobl nad oeddent yn fuddiolwyr; cyfweliadau â staff cyflenwi, Broceriaid Arloesi, rhanddeiliaid allanol, ac adolygiad cynhwysfawr o wybodaeth fonitro’r cynllun. Cynhaliwyd dau ymweliad arsylwi hefyd yn nigwyddiadau Diwrnod Agored Cyswllt Ffermio a oedd yn canolbwyntio ar brosiectau EIP er mwyn asesu’r elfen lledaenu (cyfwelwyd â 19 o fynychwyr hefyd fel rhan o’r ymarfer hwn).

Roedd sampl ein harolwg o aelodau’r Grwpiau Gweithredol yn cynnwys gwahanol fathau o aelodau (108 o fusnesau fferm, pedwar busnes coedwigaeth, ac 20 o sefydliadau eraill), a’r rhain gyda’i gilydd yn cynrychioli cyfradd ymateb o 42%. Roedd ymatebwyr hefyd wedi bod yn rhan o 42 o’r 46 o brosiectau a ariannwyd gan y cynllun. Rhoddodd hyn sampl gadarn ar gyfer ein gwerthusiad.

Y prif gyfyngiad yn ein dull gweithredu oedd y darlun cyfyngedig a gafwyd o ddefnydd ehangach ar yr arferion newydd a dreialwyd drwy’r cynllun. Er i ni gael rhywfaint o ddealltwriaeth am hyn drwy’r ymgynghoriad â buddiolwyr ac unigolion a fynychodd y digwyddiadau lledaenu, byddai angen arolwg ledled y diwydiant i bennu’n bendant lefel yr ymwybyddiaeth a’r nifer a fanteisiodd yn y sector drwyddo draw.

Prif ganfyddiadau ar effeithiau

Mae’r dystiolaeth a gyflwynir yn ein hadroddiad yn dangos bod cynllun EIP Cymru wedi bod yn llwyddiannus, gan gyflawni ei amcanion ac esgor ar ganlyniadau pwysig drwy reolaeth effeithiol.

Llwyddodd y cynllun i gynnal y nifer a fwriadwyd o brosiectau, gan ragori ar y targed ar gyfer nifer y sefydliadau a oedd yn ymwneud â Grwpiau Gweithredol. Y tu hwnt i hynny, roedd bodlonrwydd cyffredinol â’r ddarpariaeth ymhlith pob grŵp rhanddeiliaid. Credai’r mwyafrif helaeth o aelodau’r Grwpiau Gweithredol fod eu prosiectau’n llwyddiant a’u bod wedi elwa ar y buddion a fwriadwyd.

Roedd yr effaith ar aelodau’r Grwpiau Gweithredol yn sylweddol, gyda’r rhan fwyaf o ffermwyr/coedwigwyr yn adrodd eu bod wedi gwneud newidiadau i’w harferion o ganlyniad i’r ymchwil. Canfu’r gwerthusiad hefyd fanteision diriaethol yn gysylltiedig â’r newidiadau hynny, yn arbennig gwelliannau i iechyd anifeiliaid a gostyngiad mewn costau cysylltiedig ag iechyd; gwelliannau i gynnyrch busnesau; a chanlyniadau amgylcheddol. Canfuwyd bod y newidiadau a’r buddion hyn wedi’u cynnal i raddau helaeth flwyddyn ar ôl iddynt gael eu hadrodd gyntaf, a bod rhai yn welliannau sylweddol ym mherfformiad busnesau. Canfu ein gwerthusiad hefyd ei bod yn bosibl bod elw da ar fuddsoddiad eisoes wedi’i sicrhau ar gyfer y cynllun, gan y gellir priodoli llawer o’r newidiadau i gostau is a chynnydd mewn incwm (er mai damcaniaethol iawn oedd yr amcangyfrifon hyn).

Cafwyd nifer fach o sylwadau gan ymatebwyr o brosiectau wedi’u cwblhau, o bosibl gan aelodau’r Grwpiau Gweithredol nad oeddent wedi ymgysylltu cymaint, a oedd yn awgrymu nad oeddent wedi cael gwybod am y canlyniadau; felly, dylai’r cynllun sicrhau bod holl aelodau’r Grwpiau Gweithredol yn cael eu hysbysu.

Mae’r tîm yng Nghymru yn sicr wedi cyflawni nod trosfwaol EIP-AGRI, sef meithrin cystadleurwydd a chynaliadwyedd yn y sectorau ffermio a choedwigaeth drwy droi syniadau gan ffermwyr a choedwigwyr yn weithredu arloesol. Mewn gwirionedd, ymddengys bod EIP Cymru yn cymharu’n ffafriol â chynlluniau EIP eraill o ran yr effeithiau a gafwyd.

Nod craidd EIP oedd darparu mecanwaith y gall ffermwyr a choedwigwyr ei ddefnyddio i dreialu eu syniadau, a dangos hyn i’r sector ehangach, gan arwain at ragor o bobl yn mabwysiadu’r ymarferion ac felly yn esgor ar newid mwy trawsnewidiol. Er na allwn nodi’n bendant faint o newid a grëwyd gan y cynllun drwy’r sector cyfan, mae digonedd o dystiolaeth wedi’i chyflwyno yn yr adroddiad sy’n dangos enghreifftiau o drosglwyddo gwybodaeth i ffermwyr a choedwigwyr nad oeddynt wedi ymwneud ag EIP, yn ogystal ag enghreifftiau lle mae hyn wedi arwain at arferion gwell y tu hwnt i’r grŵp buddiolwyr uniongyrchol. Felly, gallwn ddweud, gyda pheth hyder, bod y cynllun wedi cyflawni ei gylch gwaith craidd.

Yn yr un modd, mae cyfoeth o wybodaeth wedi’i chipio a’i chasglu’n effeithiol mewn adroddiadau a chyhoeddiadau eraill y gellir eu defnyddio i drosglwyddo gwybodaeth ymhellach. Er y bu rhywfaint o weithgarwch i ledaenu canfyddiadau, ni wyddys lefel yr ymwybyddiaeth ledled y sector. Mae’n debygol y byddai effaith bosibl yr ymchwil hon yn gryfach, ac yn cynhyrchu mwy o waddol i’r rhaglen, pe bai’r gwaith o ledaenu canfyddiadau’n cael ei ymgorffori a’i gynnal. Heb hyn, y risg yw y bydd y dysgu yn cael ei golli ar ôl yr effeithiau cychwynnol hyn.

Gwersi ar gyfer darpariaeth y dyfodol

Yn gyntaf, nodwn fod y cynllun wedi dangos ei werth wrth ystyried yr effeithiau a amlinellir uchod. Mae achos cryf dros gadw’r math hwn o weithgarwch o ystyried yr effaith ar wella arferion a’r angen parhaus i’r sector arloesi a dod yn fwy proffidiol.

O ran sut y dylai cynllun yn y dyfodol edrych, mae llawer o wersi y gellir eu dysgu oddi wrth EIP Cymru i helpu i lywio’r ddarpariaeth yn y dyfodol.

Proffil buddiolwyr a chyfathrebu

Er bod y gweithgarwch hyrwyddo ar y dechrau wedi bod yn effeithiol wrth ymgysylltu â ffermwyr, nodwn fod yr hyrwyddo hwn wedi’i bwyso fwy tuag at fusnesau fferm blaengar a oedd eisoes yn arloesi ac yn gysylltiedig â’r rhwydwaith cymorth. Er bod tystiolaeth i awgrymu bod y cymorth wedi cynyddu’r gwerthfawrogiad o arloesedd ynghyd â’r hyder a’r gallu i arloesi, efallai bod hyn wedi’i gyfyngu i raddau o ystyried eu bod eisoes yn eithaf arloesol. Mae’n hollol gyfiawn cefnogi’r busnesau hyn oherwydd, fel y nodwyd eisoes, y prif fwriad oedd defnyddio’r prosiectau i arddangos syniadau er mwyn iddynt ddod yn arfer cyffredin. Wedi dweud hynny, efallai y byddai cynlluniau yn y dyfodol am ymgysylltu â rhagor o fusnesau sydd â mwy o anghenion o ran cynyddu eu proffidioldeb a’u tebygolrwydd i arloesi. Mae’n bwysig nodi bod y cynllun wedi llwyddo i ymgysylltu â rhai busnesau ffermio nad ydynt wedi ymwneud gymaint ag ymyriadau blaenorol (e.e. dywedodd 30% nad oeddent wedi cael unrhyw gymorth ariannol yn y pum mlynedd diwethaf). Fodd bynnag, mae’n bosibl y gellid sicrhau cydbwysedd gwell rhwng cyfran y busnesau ffermio a gefnogir sydd eisoes yn ymgysylltu’n helaeth â’r seilwaith cymorth a’r rhai nad ydynt yn ymgysylltu i’r fath raddau.

Y prosesau gwneud cais a gwerthuso

Roedd y prosesau ymgeisio a gwerthuso yn gadarn, ac yn rhoi modd asesu prosiectau yn ôl eu teilyngdod gwyddonol. Er bod y broses yn gynhwysfawr ac yn debygol o gymryd gormod o amser ac yn rhy anodd i’r rhan fwyaf o ffermwyr ei chwblhau, lliniarwyd hyn gan y ffaith bod Broceriaid Arloesi wedi cael trwydded i arwain y broses. Roedd y ffermwyr a choedwigwyr yn fodlon ar y cyfaddawd hwn ar y cyfan. Fodd bynnag, efallai y bydd cyfle mewn ymyriadau ar ôl yr RDP i symleiddio rhai elfennau o’r broses i’w gwneud yn fwy hygyrch ac o bosibl i leihau lefel y mewnbwn sydd ei angen gan ymgynghorwyr.

Roedd diffyg dethol yn y prosesau, gyda’r grantiau’n cael eu dyfarnu bron ar sail y cyntaf i’r felin (cyn belled â’u bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd). Gallai sicrhau grŵp ehangach o brosiectau i ddewis ohonynt fod wedi arwain at ddewis prosiectau gwahanol neu o bosibl ddewis rhai gwell.

Cymhelliant pwysicach i fusnesau i ymgysylltu oedd yr arbenigedd a gynigir gan y cynllun yn hytrach na’r cymorth ariannol a roddwyd i gynnal y prosiectau. Mae hwn yn bwynt pwysig i’w gadw mewn cof wrth feddwl am sut dylai cynlluniau yn y dyfodol edrych ac wrth ystyried yr angen am elfen hwyluso.

Asesu rôl y Broceriaid Arloesi

Mae’r Broceriaid Arloesi wedi bod â rhan hollbwysig wrth gefnogi pob agwedd ar y ddarpariaeth, o’r gwaith cychwynnol i sefydlu Grwpiau Gweithredol a chyflwyno ceisiadau, i gynnal y treialon ymchwil. Mae hyn wedi bod yn bwysig i sicrhau bod y prosiectau’n cael eu rheoli’n broffesiynol a bod iddynt strwythur priodol, a thrwy hynny yn sicrhau trylwyredd gwyddonol digonol i roi hygrededd i’r canlyniadau. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae aelodau’r Grwpiau Gweithredol wedi bod yn hynod gadarnhaol ynghylch eu cyfranogiad. Awgryma cydbwysedd y dystiolaeth fod y Broceriaid Arloesi wedi darparu gwerth da am arian, er ei bod hefyd yn bosibl y gallai llawer o’r gweithgarwch hwyluso fod wedi’i gyflawni’n fwy cost-effeithiol ar lefel swyddogion prosiect iau. Er bod yr arbenigedd a gynigir gan y Broceriaid Arloesi wedi bod yn werthfawr mewn rhai sefyllfaoedd, nodwn nad yr arbenigedd hwnnw gan amlaf oedd mewnbwn pennaf y Broceriaid Arloesi, gan fod mwy o angen am sgiliau rhyngbersonol a’r gallu i ddod â phobl ynghyd. Felly, y tu hwnt i unrhyw beth arall, mae’r cynllun wedi dangos pwysigrwydd cael cymorth hwyluso i gynnal y prosiectau.

Er bod pwysigrwydd cadw cymorth hwyluso yn amlwg, gall yr amrywioldeb yng nghymhlethdod prosiectau awgrymu dadl dros fodel cyfunol lle gellid cefnogi prosiectau symlach ar lefel is. Efallai y byddai hyn yn rhoi’r cydbwysedd gorau o ran sicrhau gwerth am arian, sicrhau trylwyredd gwyddonol, cynnal proses ymgeisio drylwyr i helpu i nodi’r prosiectau gorau, a chael dull gweithredu o’r gwaelod i fyny.

Cynnal menter a arweinir gan ffermwyr/gweithio mewn grŵp

O ran ystyriaethau dylunio eraill ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol, cytunwyd yn gyffredinol bod gwerth y grantiau a ddarparwyd o dan y cynllun hwn yn gweithio’n dda a’i fod yn arbennig o effeithiol o ran cefnogi prosiectau yr oedd gan ffermwyr a choedwigwyr fwy o ddiddordeb ynddynt, ac o ran gwneud yn siŵr y gallai’r cyllid fynd mor eang â phosibl.

Yn gyffredinol, syniadau ffermwyr a choedwigwyr oedd y rhan fwyaf o’r prosiectau ac felly yn seiliedig ar eu hanghenion hwy, er y cafwyd cefnogaeth helaeth gan y Broceriaid Arloesi i’w cyflawni. Fodd bynnag, mae’n bwysig pwyso a mesur ai dyma’r dull gorau. Teimlai rhai rhanddeiliaid nad oedd ffocws strategol clir bob amser, a hynny’n debygol o fod yn gysylltiedig â chael natur mor agored. I gymharu â chynlluniau EIP eraill ledled Ewrop a ddosbarthir i fod yn rhai â natur agored, roedd y rhan fwyaf o’r rhain wedi nodi anghenion a chyfleoedd penodol, neu sectorau i ganolbwyntio arnynt. Roedd rhanddeiliaid o blaid cael natur agored ond bod hynny o dan strategaeth gyffredinol sydd ag efallai bedair neu bum thema allweddol i ganolbwyntio arnynt. Byddai hyn yn helpu i sicrhau bod y prosiectau’n cyflawni amcanion strategol Llywodraeth Cymru yn ogystal ag anghenion neu ddymuniadau ffermwyr a choedwigwyr. Byddai gan hyn hefyd y fantais o symleiddio’r broses o fynegi a lledaenu canfyddiadau ar lefel cynllun, h.y. drwy gyfeirio at grwpiau o brosiectau tebyg yn hytrach na 46 o brosiectau cwbl wahanol.

Gwendid arall y soniodd rhanddeiliaid amdano oedd y diffyg arian penodol i ehangu prosiectau EIP. Roedd rhai’n ystyried y cynllun i fod yn un sy’n darparu ‘cyllid sbarduno’ i dreialu nifer o syniadau am gost gymharol isel ac yna’n cefnogi’r rheiny a ddangosai’r potensial mwyaf, er nad oedd mecanwaith ffurfiol ar gyfer cyflawni’r olaf.

Ymddengys mai amrywio’n sylweddol oedd lefel yr ymgysylltu a’r cydweithio ymhlith aelodau’r Grwpiau Gweithredol, gyda pheth tystiolaeth o ddiffyg ymgysylltu, yn enwedig ymhlith y rheiny nad ydynt yn ffermwyr a choedwigwyr. Oherwydd maint bychan y tîm, mae’n ymddangos bod diffyg goruchwyliaeth gan MaB ar ymgysylltiad unigolion ar lawr gwlad a rôl Broceriaid Arloesi wrth sicrhau’r ymgysylltiad hwnnw. Mae hyn yn awgrymu ymhellach y byddai tîm mwy o staff craidd yn ychwanegiad gwerth chweil i gynlluniau'r dyfodol. Ceisiodd EIP-Lloegr sicrhau ymgysylltiad trwy fandadu bod yn rhaid i holl aelodau’r Grwpiau Gweithredol gytuno i gylch gorchwyl, a thrwy hynny sicrhau eglurder ynghylch eu rolau (nid ymddengys fod hyn erioed wedi digwydd yng Nghymru).

Mae’n bosibl fod dadl dros ddyfarnu rhyw fath o iawndal i aelodau’r Grwpiau Gweithredol am yr amser a dreuliwyd ar y prosiect. Awgrymwyd hyn gan rai aelodau a rhanddeiliaid a byddai’n debygol o gynyddu ymgysylltiad, er y dylid rhoi prawf ar fesurau eraill yn gyntaf gan na soniodd y mwyafrif helaeth am yr elfen ariannol a gallai fod pryderon ynghylch yr effaith y gallai mesur o’r fath ei chael ar ethos y cynllun.

Casgliadau ac argymhellion

Ar y cyfan, mae EIP Cymru wedi bod yn gynllun hynod lwyddiannus sydd wedi sicrhau canlyniadau da i’r cyfranogwyr ac i’r sectorau amaethyddiaeth a choedwigaeth yn ehangach. Mae wedi dangos gwerth buddsoddi yn y math hwn o gynllun ac mae achos cryf dros barhau i wneud hynny yn y dyfodol. Os gwneir hynny, mae gwersi gwerthfawr yn yr adroddiad hwn y gellir eu defnyddio i lywio darpariaeth yn y dyfodol.

Gwnaed yr argymhellion canlynol, yn seiliedig ar y canfyddiadau a gyflwynwyd yn ein hadroddiad.

Argymhelliad 1

Dylai MaB weithio ochr yn ochr â Broceriaid Arloesi i sicrhau bod holl aelodau’r Grwpiau Gweithredol yn derbyn canlyniadau eu prosiect lle bo’n berthnasol.

Argymhelliad 2

Wrth symud ymlaen dylid ystyried y ffordd orau o ddefnyddio’r wybodaeth y mae’r gweithgaredd ymchwil yn esgor arni, e.e. drwy ei hymgorffori yn llenyddiaeth Cyswllt Ffermio neu hyfforddiant ar gyfer swyddogion datblygu, ac ymgysylltu ag ymgynghorwyr, gwasanaethau, a cholegau eraill yn y byd amaeth i sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei gwreiddio yn eu gweithrediadau ac yna’n cael eu trosglwyddo i’r unigolion a’r busnesau y maent yn eu cefnogi.

Argymhelliad 3

Dylid parhau â chynllun partneriaeth arloesi sy’n rhoi modd i’r sectorau ffermio a choedwigaeth dreialu technolegau a syniadau newydd.

Argymhelliad 4

Dylai cynlluniau yn y dyfodol ystyried ffyrdd o ymgysylltu â’r ffermwyr ‘anodd eu cyrraedd’ nad ydynt yn rhan o’r seilwaith cymorth. Y brif ffordd y daeth y busnesau hynny i wybod am EIP Cymru oedd trwy gymheiriaid. Gallai cynlluniau yn y dyfodol ystyried annog aelodau yn fwy penodol i wahodd cymheiriaid a phobl eraill nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan mewn darpariaethau cymorth.

Argymhelliad 5

Cyn lansio unrhyw gynllun yn y dyfodol, dylid adolygu’r broses ymgeisio a’i symleiddio lle bo modd.

Argymhelliad 6

Dylai cynlluniau yn y dyfodol ystyried defnyddio proses ymgeisio fwy cystadleuol i sicrhau cyllido’r prosiectau mwyaf priodol. Gallai hyn gynnwys defnyddio matrics sgorio cadarn wedi’i osod yn erbyn meini prawf allweddol y byddai angen sgorio pob cais yn ei erbyn waeth beth fo’r cyfnod ymgeisio.

Argymhelliad 7

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried rhoi mwy o bwyslais ar ddarparu arbenigedd a chymorth hwyluso mewn cynlluniau yn y dyfodol sy’n canolbwyntio ar dreialu dulliau arloesol yn y sectorau ffermio a choedwigaeth.

Argymhelliad 8

Dylai cynlluniau’r dyfodol ystyried mabwysiadu dull model cyfunol sy’n cyflogi tîm mwy o staff craidd (swyddogion prosiect) i ddarparu cymorth hwyluso gan gomisiynu’r ymgynghorwyr allanol mwy costus dim ond pan fydd cymhlethdod y prosiect arfaethedig yn gofyn am eu mewnbwn.

Argymhelliad 9

Dylai cynlluniau yn y dyfodol barhau i ddarparu grantiau bychain sy’n rhoi blaenoriaeth i syniadau ffermwyr a choedwigwyr.

Argymhelliad 10

Dylai cynlluniau yn y dyfodol ystyried addasu natur agored eu dull gweithredu drwy osod themâu a chanllawiau strategol.

Argymhelliad 11

Dylai cynlluniau yn y dyfodol ystyried ymgorffori cronfa ddilynol ar wahân y gellid ei chlustnodi ar gyfer y prosiectau mwyaf llwyddiannus a’r rhai sydd â’r potensial gorau i dyfu, gan roi modd i’r prosiectau hynny gynyddu gweithgarwch drwy ddenu mwy o ffermwyr.

Argymhelliad 12

Dylid cyfarwyddo Grwpiau Gweithredol i sefydlu cylch gorchwyl sydd â rolau a chyfrifoldebau clir.

Manylion cyswllt

Awduron: Ioan Teifi, Endaf Griffiths

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Ymchwil, Monitro a Gwerthuso
Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: gwerthuso.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 66/2024
ISBN digidol: 978-1-83625-519-2

Image
GSR logo