Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaeth Arloesi Ewrop (yn prosiectau gan Grwpiau Gweithredol, dan arweiniad ffermwyr neu goedwigwyr. Wedi’i cynlluniwyd i dreialu technolegau arloesol mewn busnesau ffermio a choedwigaeth.

Prif ganfyddiadau

  • Nod craidd EIP oedd darparu mecanwaith y gall ffermwyr a choedwigwyr ei ddefnyddio i dreialu eu syniadau, ac i hyn gael ei ddangos i’r sector ehangach, gan arwain at fwy o bobl yn manteisio arnynt ac felly newid mwy trawsnewidiol.
  • Mae'r cynllun wedi llwyddo i gyflawni nifer y prosiectau a fwriadwyd ac wedi rhagori ar y targed ar gyfer nifer y sefydliadau a fu’n rhan o Grwpiau Gweithredol
  • Roedd yr effaith ar aelodau’r Grwpiau Gweithredol yn sylweddol, gyda’r rhan fwyaf o ffermwyr/coedwigwyr yn dweud eu bod wedi gwneud newidiadau i’w harferion o ganlyniad i’r ymchwil.
  • Gwnaeth y gwerthusiad hefyd ganfod buddion diriaethol yn gysylltiedig â'r newidiadau hynny, yn enwedig gwelliannau i iechyd anifeiliaid a gostyngiad mewn costau’n ymwneud ag iechyd; gwelliannau i gynnyrch busnesau; a chanlyniadau amgylcheddol
  • Roedd yr arbenigedd a gynigiwyd gan y cynllun yn ysgogiad pwysicach er mwyn i fusnesau ymwneud ag ef na’r cymorth ariannol a roddwyd i gyflawni'r prosiectau. Mae hwn yn bwynt pwysig i'w ystyried wrth feddwl am sut y dylai cynlluniau edrych yn y dyfodol ac a ddylai fod elfen hwyluso. 
  • Mae'n bwysig nodi bod y cynllun wedi llwyddo i ymgysylltu â rhai busnesau ffermio nad ydynt wedi ymwneud ag ymyriadau blaenorol i'r un graddau (e.e. dywedodd 30% nad oeddent wedi cael unrhyw gymorth ariannol yn y pum mlynedd diwethaf).

Adroddiadau

Gwerthusiad Partneriaeth Arloesedd Ewropeaidd yng Nghymru: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Richard Self

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.