Gwerthusiad o'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol: arolwg o ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol (crynodeb)
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg yn edrych ar farn ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ynghylch gweithredu’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad a nod yr adroddiad
Comisiynwyd cwmni ymchwil Arad gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad ffurfiannol pedair blynedd o weithrediad y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY).[troednodyn 1]
Yn yr adroddiad hwn, cyflwynir canfyddiadau o arolwg o ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol mewn ysgolion[troednodyn 2], unedau cyfeirio disgyblion (UCDau), Sefydliadau Addysg Bellach (SABau), Sefydliadau ôl-16 Arbennig Annibynnol (ISPIs), awdurdodau lleol (ALlau) a byrddau iechyd lleol (BILlau), a gynhaliwyd fel rhan o’r gwerthusiad hwn. Cynhaliwyd yr arolwg ym misoedd Mehefin a Gorffennaf 2024 ac roedd yn casglu barn ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ar wahanol agweddau ar weithredu’r system ADY.
Methodoleg a sampl
Seiliwyd holiadur yr arolwg ar y theori newid ar gyfer y system ADY a amlinellwyd yn yr adroddiad cwmpasu a chafodd ei brofi'n wybyddol gyda Chydlynwyr ADY (CADYau) a rhanddeiliaid o'r sectorau AB, ALlau a BILlau.
Dosbarthwyd yr arolwg drwy e-bost i bob ysgol, UCD a SAB yng Nghymru, yn ogystal ag i gyfarwyddwyr addysg ALlau a Swyddogion Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDAau) BILlau. Gofynnwyd i’r unigolion hyn anfon yr arolwg ymlaen at unigolion perthnasol: CADYau ac uwch arweinwyr mewn ysgolion, UCDau a SABau; a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y system ADY mewn ALlau a BILlau. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r arolwg hefyd yng nghylchlythyrau Dysg a bwletin ADY Llywodraeth Cymru a rhoddwyd erthygl yn ymwneud â’r arolwg ar wefan Hwb.
Lansiwyd yr arolwg ar 14 Mehefin 2024 a daeth i ben ar 26 Gorffennaf 2024. Cafodd y sampl o ymatebion eu monitro’n barhaus, ac anfonwyd nodiadau atgoffa wedi’u targedu at ysgolion i sicrhau cynrychiolaeth dda yn ôl sector, cyfrwng iaith, daearyddiaeth, maint, a chanran y dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Cafwyd cyfanswm o 603 o ymatebion i’r arolwg, gyda’r niferoedd a ganlyn o bob sector:
- Ysgolion ac UCDau – 344 (CADYau oedd 75% o’r rhain).
- Roedd y rhain yn cynrychioli 302 o ysgolion ac UCDau unigryw ar draws pob un o’r 22 ALl.
- SABau a Sefydliadau Ôl-16 Arbennig Annibynnol[troednodyn 3] (ISPIs) - 33.[troednodyn 4]
- Roedd y rhain yn cynrychioli pob un o’r 13 SAB yn ogystal â 3 ISPI.
- ALlau – 139.
- Roedd y rhain yn cynrychioli 21 o'r 22 ALl.
- BILlau - 87.
- Roedd y rhain yn cynrychioli pob un o'r 7 BILl.
Cyflwynir y canlyniadau ar gyfer pob un o'r sectorau uchod yn yr adroddiad, gan amlygu'r gwahaniaethau nodedig rhwng sectorau.
Mae'r dull samplu a ddewiswyd, nad oedd yn seiliedig ar debygolrwydd, a lefelau'r diffyg ymateb yn golygu nad yw'n bosibl datgan yn hyderus i ba raddau y gellir cyffredinoli'r canfyddiadau i'r boblogaeth.[troednodyn 5] Felly, wrth ddadansoddi’r canlyniadau, ac yn enwedig wrth gymharu canfyddiadau ar draws sectorau, dylid nodi na ellir ystyried bod y canlyniadau’n gynrychioliadol o’r holl ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y sectorau hyn. Dylid dehongli'r canlyniadau, felly, fel rhai sy'n seiliedig ar sampl cyfleustra o ymatebwyr.
Canfyddiadau'r arolwg
Gwybodaeth a dealltwriaeth
Gofynnwyd i'r ymatebwyr i'r arolwg nodi i ba raddau yr oeddent yn cytuno neu'n anghytuno â chyfres o ddatganiadau'n ymwneud â'u gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r system ADY.
Roedd mwyafrif yr ymatebwyr o ysgolion/UCDau, SABau/ISPIs ac ALlau, yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” eu bod yn deall sut i ddehongli a rhoi'r diffiniadau o ADY a darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) ar waith. Roedd dros hanner yr ymatebwyr yn y sectorau hyn hefyd yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod diffiniadau o ADY a DDdY yn cael eu rhoi ar waith mewn ffordd gyson yn eu sefydliadau. Ar draws pob sector (gan gynnwys BILlau), roedd yr ymatebwyr yn llai tebygol o gytuno bod y diffiniadau’n cael eu rhoi ar waith mewn ffordd gyson gan eraill y tu allan i’w sefydliadau.
Roedd dros hanner yr ymatebwyr o ALlau, o gymharu â llai na hanner yr ymatebwyr o ysgolion/UCDau a SABau/ISPIs yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod gan ymarferwyr yn eu sefydliad y wybodaeth a’r sgiliau priodol i gefnogi gweithredu'r system ADY.
Roedd mwyafrif yr ymatebwyr o ALlau hefyd yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod ymarferwyr yn eu sefydliad yn rhannu gwybodaeth yn effeithiol i gefnogi gweithrediad y system ADY, o gymharu â thua hanner yr ymatebwyr o ysgolion/UCDau, a SABau/ISPIs.
Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion gan BILlau mewn perthynas â chwestiynau ynghylch gwybodaeth a dealltwriaeth o’r system ADY yn llai cadarnhaol nag ymatebion gan y sectorau eraill a gymerodd ran yn yr arolwg.
Roedd lleiafrif bach o ymatebwyr o SABau ac ISPIs (4 o blith 32, neu 12%) a lleiafrif o ysgolion ac UCDau (22%) wedi dilyn y Llwybr Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer ADY (LlDPC ADY) ar Hwb. O blith y rhai a oedd wedi gwneud hynny, roedd y mwyafrif (yn y ddau sector) yn cytuno, i raddau o leiaf, ei fod wedi gwella eu dealltwriaeth o’r system ADY a/neu wedi eu helpu i gyflawni eu rôl.
Roedd gwahaniaeth barn ymhlith ymatebwyr o ALlau a SABau/ISPIs ynghylch dyletswyddau'n ymwneud â dysgwyr ôl-16. Roedd yr ymatebwyr o ALlau yn llai tebygol na’r rhai o SABau ac ISPIs o “gytuno’n gryf” neu “gytuno” eu bod yn deall y dyletswyddau ar eu sefydliad mewn perthynas â’r garfan hon.
Ymhlith y lleiafrif o ymatebwyr a roddodd atebion i gwestiynau testun agored, thema gyffredin a gododd oedd pryder ynghylch yr anghysondebau o ran dehongli a/neu roi agweddau ar y system ADY ar waith, gan gynnwys diffiniadau o ADY a DDdY.
- Mynegodd ysgolion ac UCDau bryder ynghylch sut y mae hyn yn effeithio ar gywirdeb cofnodion/data ADY a gesglir. Dywedodd yr ymatebwyr hefyd y byddent yn elwa o gael hyfforddiant ychwanegol neu ganllawiau cliriach ar ddehongli a chymhwyso diffiniadau o ADY a DDdY a gofynnwyd am ragor o enghreifftiau ymarferol neu astudiaethau achos i helpu ysgolion i roi’r diffiniadau hyn ar waith.
- Pwysleisiodd SABau ac ISPIs yr angen am hyfforddiant parhaus i roi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i staff
- Nododd ALlau ddiffyg arweiniad ac eglurder digonol ynghylch y dyletswyddau mewn perthynas â dysgwyr ôl-16.
- Nododd BILlau bryderon nad oedd ADY yn cael eu hadnabod mewn modd amserol; cyfeiriwyd hefyd at y galwadau cynyddol ar amser gweithwyr iechyd proffesiynol.
Cefnogaeth i'r gweithlu
Yn gyffredinol, roedd barn ymatebwyr o ALlau yn fwy cadarnhaol na barn y rheini mewn sectorau eraill ynghylch argaeledd a digonolrwydd y cymorth. Roedd yr ymatebwyr o ALlau yn llawer mwy tebygol na’r rhai o sectorau eraill o ddweud eu bod yn cael digon o gymorth, ac yn llai tebygol o nodi bod angen cymorth pellach arnynt mewn perthynas ag agweddau penodol ar y system ADY.
Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr o ALlau a thros hanner y rhai o ysgolion/UCDau a SABau/ISPIs eu bod yn cael digon o gymorth[troednodyn 6] gan eu sefydliad mewn perthynas â'r system ADY. Roedd canran nodedig is o ymatebwyr o BILlau (llai na'u hanner) yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” â hyn.
Nododd mwyafrif yr ymatebwyr o SABau ac ISPIs, a mwy na hanner yr ymatebwyr o ysgolion ac UCDau[troednodyn 7] fod angen cymorth pellach arnynt mewn perthynas ag agweddau penodol ar y system ADY. Y math mwyaf cyffredin o gymorth yr oedd ei angen ar ymatebwyr yn y sectorau hyn oedd “Penderfynu pryd mae cyflwr iechyd – gan gynnwys cyflyrau iechyd meddwl – yn golygu bod gan ddisgybl ADY (ac felly bod angen CDU)”. Dywedodd mwy na hanner yr ymatebwyr o BILlau hefyd fod angen cymorth pellach arnynt mewn perthynas ag agweddau penodol ar y system ADY. Ymhlith y rhai a nododd hynny, y math mwyaf cyffredin o gymorth oedd ei angen oedd ar gyfer “Cyfrannu at CDUau”.
O gymharu ag ymatebwyr o sectorau eraill, nododd llai o ymatebwyr o ALlau (llai na'u hanner) fod angen cymorth pellach arnynt mewn perthynas ag agweddau penodol ar y system ADY. Ymhlith y rhai a nododd hynny, y mathau mwyaf cyffredin o gymorth oedd ei angen oedd “Y broses benderfynu ar gyfer pennu ADY: Penderfynu a yw anhawster dysgu neu anabledd dysgwr yn gofyn am DDdY” a “Cydweithio â phartneriaid allanol”.
Ymhlith y lleiafrif o ymatebwyr a roddodd ateb i gwestiynau testun agored, roedd y themâu cyffredin a godwyd yn cynnwys y pwysau'n gysylltiedig â’r llwyth gwaith ychwanegol sylweddol ar y gweithlu yn gysylltiedig â gweithredu’r system ADY. Tynnodd pob sector sylw hefyd at yr angen am gymorth pellach i uwchsgilio a helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall y diwygiadau'n well ac ymateb yn well iddynt.
- Nododd ysgolion ac UCDau anghysondebau a diffygion mewn hyfforddiant, gan fynegi pryderon nad oeddent wedi cael eu paratoi’n ddigonol ar gyfer y newidiadau a gyflwynwyd gan y Cod ADY. Cododd ymatebwyr o ysgolion ac UCDau bryderon am anghysondeb yn y cymorth gan ALlau hefyd, yn enwedig mewn perthynas â chyngor amserol a gwneud penderfyniadau. Soniwyd hefyd am heriau cyllido sylweddol, yr ystyriwyd eu bod yn effeithio ar allu ysgolion i ddiwallu anghenion cynyddol a chymhleth dysgwyr.
- Roedd ALlau yn tueddu i roi adborth mwy cadarnhaol ar y lefelau da o gymorth a ddarperir gan rwydweithiau lleol, er iddynt nodi hefyd eu bod yn awyddus i gael mwy o gymorth ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru.
- Roedd ymatebwyr o'r BILlau yn cydnabod y cymorth a’r arweiniad gwerthfawr a ddarparwyd gan SACDAau - gan nodi hefyd eu bod yn teimlo bod llai o gyfleoedd i weithwyr iechyd proffesiynol fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol.
Rôl y CADY
Ysgolion/UCDau
Dywedodd mwyafrif y CADYau o ysgolion ac UCDau a ymatebodd i’r arolwg eu bod yn rhan o’r uwch dîm arwain. Yn yr un modd, dywedodd y mwyafrif hefyd fod ganddynt gyfrifoldebau addysgu yn ychwanegol at eu rôl CADY a'u bod yn cael amser gwarchodedig er mwyn cyflawni eu rôl. Ar gyfartaledd, dywedodd y CADYau hynny a nododd eu bod yn cael amser gwarchodedig eu bod yn cael 1.9 diwrnod o amser gwarchodedig bob wythnos, ac adroddodd CADYau mewn ysgolion uwchradd eu bod yn cael mwy o amser ar gyfartaledd (3 diwrnod) na'r rhai mewn ysgolion cynradd (1.5 diwrnod).
Roedd tua hanner y CADYau mewn ysgolion ac UCDau a ymatebodd i’r arolwg yn “anghytuno” neu’n “anghytuno’n gryf”:
- eu bod yn gallu rheoli eu llwyth gwaith CADY yn effeithiol o fewn yr oriau a neilltuwyd yn swyddogol i'w rôl CADY (55%).
- bod ganddynt ddigon o amser i gyflawni eu cyfrifoldebau CADY (53%).
- eu bod yn gallu cydbwyso gofynion eu rôl CADY â gofynion y rolau eraill yr oeddent yn eu cyflawni (e.e. addysgu, prifathrawiaeth / arweinyddiaeth) (51%).
O ran y ffactorau sy’n effeithio ar eu rôl, nododd CADYau mewn ysgolion ac UCDau gyfyngiadau amser, gan nodi bod y llwyth gwaith sylweddol y maent yn ei wynebu yn golygu bod tasgau'n gysylltiedig ag ADY yn aml yn cael eu cwblhau y tu allan i oriau ysgol. Amlygodd CADYau mewn ysgolion ac UCDau hefyd yr anhawster o gydbwyso eu dyletswyddau o dan y Cod â’u cyfrifoldebau addysgu. Nododd yr ymatebwyr hyn eu bod yn teimlo bod swm y gwaith papur wedi cynyddu o dan y system ADY o gymharu â’r system flaenorol.
SABau[troednodyn 8]
Yn debyg i'r ymatebwyr o ysgolion ac UCDau, nododd mwyafrif y CADYau o SABau a ymatebodd i'r arolwg fod amser 'gwarchodedig' yn cael ei neilltuo iddynt er mwyn cyflawni eu rôl CADY. Fodd bynnag, yn wahanol i ymatebwyr o ysgolion/UCDau, nododd y mwyafrif o'r CADYau mewn SABau nad oedd ganddynt gyfrifoldebau addysgu yn ychwanegol at eu rôl CADY.
Mewn SABau, nododd 4 o bob 10 (40%) CADY eu bod yn “cytuno i raddau” eu bod yn gallu rheoli eu llwyth gwaith CADY yn effeithiol o fewn yr oriau a neilltuwyd yn swyddogol i’w rôl, roedd 3 o bob 10 (30%) arall yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” â hyn. Ymhellach, roedd 4 o bob 10 (40%) yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod ganddynt ddigon o amser i gyflawni eu cyfrifoldebau CADY gyda 40% arall yn nodi eu bod yn “cytuno i raddau” â hyn.
Adnabod ADY
Gofynnwyd i'r ymatebwyr i ba raddau yr oeddent yn cytuno â chyfres o ddatganiadau'n ymwneud ag adnabod ADY. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr o ysgolion/UCDau, SABau/ISPIs ac ALlau yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod y prosesau sydd ar waith yn eu sefydliad yn helpu i sicrhau bod ADY yn cael eu hadnabod yn amserol a bod rhieni a gofalwyr yn cymryd rhan weithredol yn y prosesau hyn.
Roedd yr ymatebion gan gyfranogwyr o BILlau yn fwy cymysg. Roedd llai na hanner yr ymatebwyr yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod y prosesau yn eu BILl yn helpu i sicrhau bod ADY yn cael eu hadnabod yn amserol mewn plant o dan oedran ysgol gorfodol.
Ymhlith y lleiafrif o ymatebwyr a roddodd atebion i gwestiynau testun agored, roedd y themâu cyffredin a godwyd yn cynnwys heriau i ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol yn ymwneud â’r prosesau sy’n gysylltiedig ag adnabod ADY. Roedd hyn yn cynnwys anawsterau o ran ymgysylltu â rhieni a rhai dysgwyr yn ystod cyfarfodydd Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn; gallu cyfyngedig i gyfrannu at brosesau neu ddarparu gwybodaeth mewn ymateb i geisiadau.
Cynllunio
Roedd mwyafrif yr ymatebwyr o ysgolion ac UCDau, SABau ac ISPIs, ac ALlau yn “cytuno” neu “cytuno’n gryf” bod y prosesau sydd ar waith yn eu sefydliad i gefnogi’r gwaith o baratoi CDUau yn glir, a bod arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael eu defnyddio yn ystod cyfarfodydd ynghylch ADY a CDUau. Fodd bynnag, pan ofynnwyd i ba raddau yr oeddent yn cytuno bod ganddynt ddigon o amser a chapasiti i gefnogi'r gwaith o baratoi CDUau, roedd y cyfranogwyr yn y sectorau hyn yn llai tebygol o gytuno. Roedd tua hanner yr ymatebwyr o SABau ac ISPIs a llai na hanner yr ymatebwyr o ALlau yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod ganddynt ddigon o gapasiti i gefnogi’r gwaith o baratoi CDUau, tra bod traean o ymatebwyr mewn ysgolion ac UCDau (y gyfran fwyaf o ymatebwyr) yn “anghytuno” neu “anghytuno’n gryf”.
Roedd tua hanner yr ymatebwyr o BILlau yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod y prosesau sydd ar waith yn eu BILl ar gyfer cyfrannu at baratoi CDUau yn glir. Fodd bynnag, yn debyg i ymatebwyr o sectorau eraill, roedd cyfranogwyr o BILlau yn llai tebygol o gytuno bod ganddynt ddigon o amser a chapasiti i gefnogi'r gwaith o baratoi CDUau; roedd 45% yn “anghytuno’n gryf” neu’n “anghytuno” â hyn. Yn yr un modd, roedd 42% o ymatebwyr o BILlau yn “anghytuno'n gryf” neu'n “anghytuno” eu bod yn cael digon o rybudd o flaen llaw i gyfrannu at CDUau (e.e. mynychu cyfarfodydd, paratoi tystiolaeth).
Ymhlith y lleiafrif o ymatebwyr a roddodd atebion i gwestiynau testun agored, roedd y themâu cyffredin a gododd yn cynnwys heriau'n ymwneud â chadw at amserlenni statudol, yn enwedig o ystyried y pwysau ar lwyth gwaith a chapasiti.
- Dywedodd yr ymatebwyr o ysgolion ac UCDau hefyd, er bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i baratoi CDUau a darparu DDdY yn Gymraeg, bod prinder adnoddau, ac y byddai angen cymorth ychwanegol ar gyfer y rhai nad oes ganddynt lawer o afael ar y Gymraeg.
- Nododd gweithwyr proffesiynol y BILl nad oeddent yn aml yn cael digon o rybudd i allu mynychu cyfarfodydd Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn.
Darpariaeth
Mae'r canfyddiadau'n dangos bod ymatebwyr ym mhob sector yn ystyried bod heriau'n ymwneud â'r adnoddau sydd ar gael i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY.
Roedd lleiafrif o ymatebwyr ym mhob sector yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod adnoddau digonol ar gael yn eu sefydliad i gynllunio a darparu darpariaeth effeithiol i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY. Roedd traean o'r ymatebwyr mewn BILlau ac ALlau, yn ogystal â 42% o'r ymatebwyr mewn ysgolion/UCDau a 26% (8 o blith 31) mewn SABau/ISPIs yn “anghytuno’n gryf” neu’n “anghytuno" â’r datganiad hwn.
Roedd pedwar o blith yr wyth (50%) Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar a ymatebodd i’r arolwg yn “anghytuno’n gryf” neu’n “anghytuno” bod adnoddau digonol[troednodyn 9] yn eu ALl i ddelio’n brydlon â chyfeiriadau ar gyfer carfan y Swyddogion Arweiniol ADY[troednodyn 10] (roedd dau ymatebydd arall yn “anghytuno i raddau”).
Roedd tua hanner yr ymatebwyr o SABau/ISPIs ac ALlau, ac (44%) o ysgolion ac UCDau yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod gwasanaethau, lle bo angen, yn cydweithio’n effeithiol i ddarparu cefnogaeth gydlynus ar gyfer dysgwyr ag ADY. Ymatebwyr o BILl oedd lleiaf tebygol o “gytuno” neu “gytuno’n gryf” â’r datganiad hwn (roedd 29% yn “cytuno” neu'n “cytuno’n gryf”, a 27% arall “cytuno i raddau” â hyn).
Roedd mwyafrif yr ymatebwyr o ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, a thros hanner yr ymatebwyr o ALlau, yn “cytuno’n gryf” neu’n “cytuno” bod DDdY ar gael yn Gymraeg lle bo angen.
Roedd mwyafrif yr ymatebwyr o SABau ac ISPIs (24 o blith 31, neu 77%) a thua hanner yr ymatebwyr o ysgolion ac UCDau (52%) ac ALlau (50%) yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod plant a phobl ifanc yn cael eu galluogi i gymryd rhan lawn mewn penderfyniadau am DDdY. I’r gwrthwyneb, roedd lleiafrif yr ymatebwyr o BILlau (19%) yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” â hyn, a 24% yn “cytuno i raddau” (dewisodd 29% yr ateb “ddim yn cytuno nac yn anghytuno”).
Roedd mwyafrif yr ymatebwyr o ysgolion ac UCDau (76%) a SABau/ISPIs (22 o blith 31, neu 71%) a thros hanner y rhai o ALlau (68%) yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod rhieni a gofalwyr, lle y bo'n briodol, yn cymryd rhan weithredol, mewn penderfyniadau'n ymwneud â DDdY. Mewn cymhariaeth, roedd llai na hanner yr ymatebwyr o BILlau (41%) yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” â'r datganiad hwn.
Mewn ymateb i gwestiynau testun agored, nododd yr ymatebwyr i'r arolwg[troednodyn 11] ar draws pob sector fod pwysau neu ostyngiadau yn y gyllideb yn cael effaith negyddol ar y gallu i ddarparu cymorth i ddysgwyr ADY. Roedd hyn yn cynnwys lleihad mewn cymorth un-i-un a mynediad mwy cyfyngedig at adnoddau arbenigol. Roedd yr ymatebion testun agored gan ymatebwyr mewn ysgolion/UCDau ac ALlau hefyd yn mynegi pryder nad oedd digon o ddarpariaeth ar gael i gefnogi DDdY drwy gyfrwng y Gymraeg.
Adolygu [troednodyn 12]
Roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr o ysgolion ac UCDau, SABau ac ISPIs ac ALlau yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” eu bod yn deall y gofynion a nodir yn y Cod ADY ar gyfer adolygu a diwygio CDUau a bod rhieni a gofalwyr, lle y bo’n briodol, yn cymryd rhan weithredol yn y prosesau adolygu. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr hefyd yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod prosesau adolygu’n cael eu cyflwyno'n effeithiol yn eu sefydliad.
Ymhlith y lleiafrif o ymatebwyr a ymatebodd i gwestiynau testun agored, roedd y themâu cyffredin a godwyd yn cynnwys heriau'n ymwneud â sicrhau bod rhieni a phlant yn mynychu cyfarfodydd adolygu. Dywedodd ymatebwyr o ysgolion ac UCDau fod y broses adolygu CDU yn cael ei hystyried yn broses lafurus, a bod angen mewnbwn sylweddol gan amrywiol aelodau o staff.
Prosesau pontio
Gofynnwyd i'r ymatebwyr i'r arolwg nodi i ba raddau yr oeddent yn cytuno neu'n anghytuno â chyfres o ddatganiadau'n ymwneud ag effeithiolrwydd prosesau pontio (e.e. rhwng gwahanol gyfnodau addysg a mathau o leoliadau) o ran sicrhau parhad y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ag ADY.
Roedd ymatebwyr o ysgolion ac UCDau yn fwyaf cadarnhaol eu barn am y prosesau pontio rhwng y cyfnodau cynradd ac uwchradd: roedd dros hanner yr ymatebwyr yn “cytuno’n gryf” neu'n “cytuno” bod y rhain yn effeithiol. Roedd ymatebwyr o ysgolion ac UCDau yn lleiaf cadarnhaol eu barn ynghylch y prosesau pontio rhwng ysgolion/UCDau a lleoliadau mewn gwahanol ALlau.
O ran prosesau pontio ôl-16, roedd tua hanner yr ymatebwyr o SABau ac ISPIs yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod y prosesau pontio rhwng ysgolion uwchradd a cholegau AB yn effeithiol o ran sicrhau parhad yn y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ag ADY.
Roedd ymatebwyr o ALlau yn fwyaf cadarnhaol eu barn am effeithiolrwydd prosesau pontio rhwng lleoliadau meithrin a chynradd, a rhwng y cyfnodau cynradd ac uwchradd, gyda thros hanner yr ymatebwyr yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod y trefniadau pontio rhwng y lleoliadau hyn yn effeithiol o ran sicrhau parhad yn y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ag ADY. Yn debyg i ymatebwyr o ysgolion ac UCDau, roedd ymatebwyr o ALlau yn lleiaf tebygol o “gytuno’n gryf” neu “gytuno” bod trefniadau pontio rhwng ysgolion/UCDau a lleoliadau mewn gwahanol ALlau yn effeithiol.
Rhoddodd lleiafrif o ymatebwyr sylwadau ychwanegol hefyd lle yr amlygwyd heriau'n ymwneud â phontio:
- Cyfeiriodd yr ymatebwyr o ysgolion ac UCDau at heriau gyda phrosesau pontio rhwng y blynyddoedd cynnar a'r cynradd, gan gynnwys diffyg adnabod ADY ymlaen llaw, gydag enghreifftiau o ddysgwyr ag ‘anghenion cymhleth’ yn pontio rhwng lleoliadau blynyddoedd cynnar neu’n cyrraedd dosbarthiadau meithrin ysgolion heb fod y gwasanaethau perthnasol yn gwybod amdanynt ymlaen llaw a heb CDU. Amlygodd yr ymatebwyr hefyd fod rhannu gwybodaeth a chyfathrebu yn amrywio ar draws y cyfnodau pontio, gyda chyfranogwyr yn nodi bod hyn yn arbennig o anodd pan oedd dysgwyr yn symud rhwng ardaloedd ALlau neu o Loegr. Teimlwyd hefyd bod ansawdd y trefniadau pontio, a’r profiad i ddysgwyr yn amrywio’n fawr.
- Eglurodd ymatebwyr o SABau eu bod wedi gweld lefelau amrywiol o ymgysylltu gan ysgolion uwchradd prif ffrwd.
- Teimlai ymatebwyr o ALlau fod y cymorth a ddarparwyd ganddynt yn effeithiol ac yn helpu trefniadau pontio rhwng lleoliadau, ond nododd yr ymatebwyr hefyd fod mwy o fylchau weithiau yn y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr hŷn wrth iddynt bontio i ysgolion uwchradd.
Cydweithio ag eraill
Roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr o ysgolion ac UCDau, SABau ac ISPIs ac ALlau yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod perthnasoedd gwaith effeithiol wedi’u datblygu gyda dysgwyr ac ymarferwyr yn eu sefydliadau eu hunain. At hynny, roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr o ysgolion ac UCDau, a mwyafrif yr ymatebwyr o SABau ac ISPIs ac ALlau hefyd yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod perthnasoedd gwaith effeithiol wedi’u datblygu gyda rhieni a gofalwyr.
Roedd dros hanner yr ymatebwyr o BILlau hefyd yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod perthnasoedd gwaith effeithiol wedi’u datblygu gydag ymarferwyr yn eu BILl, rhieni a gofalwyr, a dysgwyr wrth gefnogi dysgwyr ag ADY.
Fodd bynnag, yn gyffredinol, wrth fyfyrio ar effeithiolrwydd y berthynas waith a ddatblygwyd gyda sefydliadau eraill wrth gefnogi dysgwyr ag ADY, roedd barn y cyfranogwyr yn fwy cymysg.
Gofynnwyd hefyd i ymatebwyr o ALlau a oedd yn Swyddogion Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar (N=8) i ba raddau yr oeddent yn cytuno bod cydweithio a rhannu gwybodaeth effeithiol yn digwydd rhwng yr ALl a sefydliadau eraill mewn perthynas â charfan y Swyddog Arweiniol ADY.[troednodyn 13] Roedd Swyddogion Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar yn fwyaf tebygol o “gytuno’n gryf” neu “gytuno” bod trefniadau cydweithio a rhannu gwybodaeth effeithiol rhwng yr ALl a CADYau mewn ysgolion a gynhelir y gallai plant yng ngharfan y Swyddog Arweiniol ADY fynd ymlaen i’w mynychu. Pan holwyd yr ymatebwyr am effeithiolrwydd cydweithio a rhannu gwybodaeth rhwng rhaglenni a gwasanaethau'r ALl, roedd mwyafrif yr wyth Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar a ymatebodd i'r arolwg yn “cytuno'n gryf” neu'n “cytuno” bod y rhain yn effeithiol.
Ymhlith y lleiafrif o ymatebwyr a ymatebodd i gwestiynau testun agored, datgelodd y themâu cyffredin a godwyd ar draws pob sector awydd ar ran partneriaid i gydweithio’n effeithiol i gefnogi dysgwyr a’r teuluoedd. Fodd bynnag, roedd y themâu a gododd dro ar ôl tro yn cynnwys prinder amser a diffyg capasiti i gydweithio'n llawn. Tynnodd yr ymatebion testun agored gan ysgolion sylw at y rhestrau aros hir ar gyfer rhai gwasanaethau a ddarperir gan BILlau, a allai lesteirio'r cymorth a ddarperir i ddysgwyr. Awgrymodd ymatebwyr o ysgolion hefyd fod angen gwell hyfforddiant i ymarferwyr ynghylch sut a phryd i gynnwys partneriaid allanol i gefnogi prosesau ADY. Cyfeiriodd ymatebwyr o ALlau a BILlau at drefniadau rhannu gwybodaeth annigonol – gyda systemau TG yn cael eu crybwyll fel rhwystr penodol.
Crynodeb o'r farn am gynnwys rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc yn y system ADY
Cynnwys rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc mewn prosesau i adnabod ADY
Roedd dros hanner yr ymatebwyr mewn ysgolion ac UCDau (61%) ac ALlau (68%) yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod dysgwyr yn cael eu galluogi i gymryd rhan yn briodol mewn prosesau i adnabod eu ADY; roedd hyn yn nodedig uwch na'r ganran gyfatebol ar gyfer yr ymatebwyr mewn BILlau (30%). Roedd mwyafrif llethol (27 o blith 31, neu 87%) yr ymatebwyr mewn SABau ac ISPIs hefyd yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” â’r datganiad hwn.
Roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr mewn ysgolion ac UCDau (84%) a mwyafrif yr ymatebwyr mewn ALlau (76%) a SABau/ISPIs (22 o blith 31, neu 71%) yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod rhieni a gofalwyr, lle y bo'n briodol, yn cymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau sy’n ymwneud ag adnabod ADY; roedd hyn yn nodedig uwch na'r ganran gyfatebol ar gyfer y rhai mewn BILlau (48%).
Cynnwys rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau sy'n ymwneud â DDdY
Roedd mwyafrif yr ymatebwyr o SABau ac ISPIs (24 o blith 31, neu 77%) a thua hanner yr ymatebwyr o ysgolion ac UCDau (52%) ac ALlau (50%) yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod plant a phobl ifanc yn cael eu galluogi i gymryd rhan lawn mewn penderfyniadau am DDdY. I’r gwrthwyneb, roedd lleiafrif yr ymatebwyr o BILlau (19%) yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” â hyn (24% “yn cytuno i raddau” a 29% “ddim yn cytuno nac yn anghytuno”).
Roedd mwyafrif yr ymatebwyr o ysgolion ac UCDau (76%) a SABau/ISPIs (22 o blith 31, neu 71%) a thros hanner y rhai o ALlau (68%), o gymharu â llai na hanner yr ymatebwyr o BILlau (41%) yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod rhieni a gofalwyr, lle y bo'n briodol, yn cymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau’n ymwneud â DDdY.
Cynnwys rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc mewn prosesau adolygu
Roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr o SABau ac ISPIs (21 o blith 23, neu 91%), mwyafrif y rhai o ysgolion ac UCDau (76%) a thros hanner y rhai o ALlau (69%) yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod plant a phobl ifanc/dysgwyr yn cael eu galluogi i gymryd rhan lawn mewn prosesau adolygu.
Roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr ym mhob sector hefyd yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod rhieni a gofalwyr, lle y bo'n briodol, yn cymryd rhan weithredol yn y prosesau adolygu.
Perthnasoedd gwaith effeithiol gyda rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc
Roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr o ysgolion ac UCDau, SABau ac ISPIs ac ALlau yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod perthnasoedd gwaith effeithiol wedi’u datblygu gyda rhieni a gofalwyr.
Roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr o ysgolion ac UCDau, a mwyafrif yr ymatebwyr mewn SABau/ISPIs ac ALlau yn “cytuno” neu’n “cytuno’n gryf” bod perthnasoedd gwaith effeithiol wedi’u datblygu gyda rhieni a gofalwyr.
Deilliannau a ragwelir ar gyfer y system ADY
Pan ofynnwyd iddynt i ba raddau yr oeddent yn cytuno neu’n anghytuno â chyfres o ddatganiadau'n ymwneud â’r deilliannau a ragwelir ar gyfer y system ADY, roedd cyfranogwyr o ysgolion ac UCDau yn fwyaf tebygol o “gytuno’n gryf” neu “gytuno” y byddai’r system ADY yn arwain at well profiadau i deuluoedd ac yn lleiaf tebygol o gytuno y byddai’r system ADY yn arwain at ddarpariaeth o ansawdd uwch.
Yn achos SABau ac ISPIs, roedd yr ymatebwyr yn fwyaf tebygol o “gytuno’n gryf” neu “gytuno” y bydd y system ADY yn arwain at well prosesau adnabod, lle caiff anghenion eu hadnabod cyn gynted â phosibl ac yn lleiaf tebygol o “gytuno’n gryf” neu “gytuno” y byddai’r system ADY yn arwain at well cydweithio amlasiantaeth a datrys anghydfodau'n well.
Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr o ALlau yn fwy tebygol na’r rhai mewn ysgolion ac UCDau a BILlau o “gytuno’n gryf” neu “gytuno” y byddai’r system ADY yn arwain at welliannau mewn perthynas â nifer o ddeilliannau[troednodyn 14]. Roedd ymatebwyr o ALlau yn fwyaf tebygol o “gytuno” neu “gytuno’n gryf” y bydd y system ADY yn arwain at well prosesau adnabod, lle caiff anghenion eu hadnabod cyn gynted â phosibl. Yn debyg i ymatebwyr o ysgolion ac UCDau, roedd cyfranogwyr o ALlau yn lleiaf tebygol o “gytuno'n gryf” neu “gytuno” y byddai'r system ADY yn arwain at ddarpariaeth o ansawdd uwch.
Yn olaf, roedd ymatebwyr o ALlau yn fwyaf tebygol o “gytuno” neu “gytuno’n gryf” y bydd y system ADY yn arwain at well prosesau adnabod, lle caiff anghenion eu hadnabod cyn gynted â phosibl. Roedd ymatebwyr o BILlau yn lleiaf tebygol o “gytuno’n gryf” neu “gytuno” y byddai’r system ADY yn arwain at ddatrys anghydfodau’n well a darpariaeth o ansawdd uwch.
Gofynnwyd i’r cyfranogwyr hefyd pa mor hyderus oeddent y byddai cyfres o ddeilliannau'n ymwneud â’r system ADY yn cael eu cyflawni. Yn gyffredinol, roedd barn gymysg ymhlith ymatebwyr o bob sector mewn perthynas â’r cwestiynau hyn, er bod ymatebwyr mewn ALlau yn fwy hyderus na’r rhai mewn ysgolion ac UCDau a BILl y byddai’r diwygiadau i’r system ADY yn:
- cyfrannu at system addysg sy’n diwallu anghenion pob dysgwr.
- cyfrannu at system addysg sy'n deg i bob dysgwr.
- cyfrannu at greu system addysg sy'n gynhwysol i bob dysgwr.
- cefnogi gwell dyheadau ar gyfer pob dysgwr.
- cefnogi cynnydd a chyrhaeddiad gwell i bob dysgwr.
Datgelodd ymatebion testun agored[troednodyn 15] ar draws pob sector ymrwymiad ymhlith ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol i nodau a dyheadau’r diwygiadau, yn arbennig gwell deilliannau i ddysgwyr. Roedd cefnogaeth yn arbennig i ddulliau gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Fodd bynnag, cyfeiriwyd droeon at yr anawsterau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r system ADY yng nghyd-destun y pwysau ar gyllidebau a phwysau staffio a wynebir gan ysgolion, ALlau a BILlau. Dywedwyd bod y system yn gymhleth ac yn fiwrocrataidd. Ystyriwyd bod yr anghysondebau wrth ddehongli a chymhwyso agweddau ar y Cod – yn nodedig mewn perthynas â diffiniadau o ADY a DDdY – yn broblematig. Nododd yr ymatebwyr yr amrywioldeb ar draws y system ac y gallai’r canlyniadau ar gyfer dysgwyr ag ADY ddibynnu ar ystod o ffactorau, gan gynnwys pa mor rhagweithiol oedd ysgolion ac asiantaethau allanol wrth sicrhau mynediad at gymorth i ddysgwyr; pa mor gynnar y caiff anghenion plentyn eu hadnabod; ac effeithiolrwydd y cydweithio rhwng ysgolion, ALlau a gweithwyr iechyd proffesiynol.
Rhwystrau a galluogwyr i weithrediad y system ADY
Gofynnwyd i'r ymatebwyr i'r arolwg roi sylwadau ar yr hyn yr oeddent yn credu oedd yn gweithio’n dda hyd yma fel rhan o weithredu'r system ADY, gan nodi unrhyw ffactorau sy’n galluogi gweithrediad y system a pha fuddion nas rhagwelwyd o flaen llaw sydd wedi codi. Roedd yr ymatebion i’r cwestiynau testun agored hyn yn nodi’r canlynol fel ffactorau allweddol sy’n galluogi gweithrediad y system ADY:
- Cydweithio a Chyfathrebu: Gwell cydweithio rhyngasiantaethol ymhlith ysgolion, ALlau, a gweithwyr iechyd proffesiynol, gan helpu i greu dull unedig o ddarparu cymorth ar gyfer ADY.
- Mae mabwysiadu dull cynllunio sy'n seiliedig ar yr unigolyn mewn cyfarfodydd CDU wedi arwain at gynnwys rhieni a dysgwyr yn fwy, ac mewn ffordd well, mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
- Mae adborth cadarnhaol ar hyfforddiant ac adnoddau yn cyfrannu at fwy o ymwybyddiaeth ymhlith y staff yn gyffredinol o ADY.
Pan ofynnwyd iddynt am y ffactorau sy’n rhwystr i weithrediad y system ADY, roedd yr ymatebion yn cyfeirio’n fynych at y themâu canlynol:
- Cyfyngiadau ar gyllid a thoriadau yn y gyllideb yn effeithio ar gapasiti ysgolion a gwasanaethau iechyd i gefnogi ADY yn effeithiol.
- Arferion a diffiniadau anghyson ar draws awdurdodau lleol ac ysgolion yn arwain at amrywioldeb mewn ymarfer a darpariaeth.
- Llwythi gwaith trwm.
- Straen ar adnoddau’r GIG, yn enwedig wrth gyflwyno therapi iaith a lleferydd, gan effeithio ar gyfranogiad mewn cyfarfodydd cynllunio ac ar gymorth cyffredinol i ddysgwyr.
Troednodiadau
[1] Defnyddir yr ymadrodd 'system ADY' i ddisgrifio'r Ddeddf ADY, y rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf, y Cod ADY a dyletswyddau cysylltiedig.
[2] Yn cynnwys ysgolion pob oed (3-16/18) ac ysgolion arbennig.
[3] Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ariannu lleoliadau mewn ISPIs o dan y system AAA. Bydd y cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau a sicrhau lleoliadau i bobl ifanc mewn ISPIs yn cael ei drosglwyddo’n llawn i ALlau o 1 Medi 2025 ymlaen. Dylid nodi nad yw’n ofynnol i ISPIs roi sylw i'r Cod ADY ond gallai'r canllawiau a'r wybodaeth yn y Cod fod yn ddefnyddiol i gyfrannu at eu dealltwriaeth o’r system ADY a’r rhan y gallant ei chwarae o ran sicrhau’r deilliannau gorau i ddysgwyr ag ADY.
[4] Mae'r canlyniadau ar gyfer SABau ac ISPIs yn seiliedig ar sampl bach (33) o fewn poblogaeth cymharol fach o ymatebwyr ac felly dylid ystyried eu bod yn ddangosol o'r sampl hwn yn hytrach nag yn nodedig wrth gymharu â sectorau eraill.
[5] Mae'r dull cyfrifiad o ddosbarthu'r arolwg i ysgolion ac UCDau a’r ddibyniaeth ar sefydliadau rhanddeiliaid sy'n ‘borthorion’ a chylchlythyrau i’w ddosbarthu i bob cynulleidfa yn golygu ei bod yn heriol pennu lefel y diffyg ymateb (h.y. nid yw’n hysbys faint o CADYau ac uwch arweinwyr yr anfonwyd y gwahoddiad ymlaen atynt).
[6] E.e. dysgu proffesiynol, arweiniad
[7] Yn “cytuno”, yn “cytuno’n gryf”, neu'n “cytuno i raddau” bod angen cymorth pellach arnynt mewn perthynas ag agweddau penodol ar y system ADY fel y mae’n berthnasol i’w rôl.
[8] Ni nododd unrhyw ymatebwyr o ISPIs bod ganddynt rôl CADY. Felly mae'r adran hon yn cyfeirio at SABau yn unig.
[9] (h.y. adnoddau ariannol, capasiti'r gweithlu)
[10] Yn y Cod ADY, cyfeirir at blant o dan oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgol a gynhelir fel “carfan y Swyddog Arweiniol ADY”.
[11] Wrth ddehongli’r canfyddiadau hyn, mae’n bwysig nodi bod llai o ymatebwyr wedi ateb cwestiynau testun agored yr arolwg o gymharu â'r cwestiynau caeedig.
[12] Ni ofynnwyd cwestiynau i ymatebwyr mewn BILlau yn ymwneud â phrosesau adolygu.
[13] Yn y Cod ADY, cyfeirir at blant o dan oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgol a gynhelir fel “carfan y Swyddog Arweiniol ADY”.
[14] Yn ymwneud ag adnabod ADY, ymyrraeth gynharach, gwell prosesau cynllunio, darpariaeth o ansawdd uwch, gwell cydweithio amlasiantaeth, datrys anghydfodau’n well, gwell deilliannau i ddysgwyr a gwell profiadau i deuluoedd.
[15] Wrth ddehongli’r canfyddiadau hyn, mae’n bwysig nodi bod llai o ymatebwyr wedi ateb cwestiynau testun agored yr arolwg o gymharu â'r cwestiynau caeedig.
Manylion cyswllt
Awduron yr adroddiad: Thomas, H; Lane, J; Lewis, S; Duggan, B; McAlister-Wilson, S; Williams, S (2025)
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Cangen Ymchwil Ysgolion
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: YmchwilYsgolion@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 28/2025
ISBN Digidol: 978-1-83715-474-6