Neidio i'r prif gynnwy

Nod yr adroddiad

Nod gyffredinol y gwerthusiad hwn yw archwilio gweithrediad y system, adnabod traweffeithiau sy’n dod i’r amlwg, ac archwilio i ba raddau y mae’r system yn cwrdd â disgwyliadau. Mae’r gwerthusiad hefyd yn ceisio adnabod rhwystrau a ffactorau sy’n hwyluso gweithrediad y system, ac adnabod mesurau y gellid eu rhoi ar waith i gefnogi gweithredu a gwireddu amcanion polisi.  

Mae’r papur hwn yn crynhoi canfyddiadau cam cwmpasu’r gwerthusiad. Mae’n cynnwys theori newid ar gyfer y diwygiadau, canfyddiadau allweddol yn seiliedig ar synthesis o’r dystiolaeth gyfredol ar weithrediad y system ADY, ac ymarfer mapio data. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu blaenoriaethau ar gyfer camau nesaf y gwerthusiad. 

Ynglŷn â’r diwygiadau ADY

Y system ADY yw’r system newydd ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc 0-25 oed yng Nghymru sydd ag ADY. Mae’r system ADY yn disodli’r system anghenion addysgol arbennig (AAA) flaenorol a’r system ar gyfer cefnogi pobl ifanc gyda anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD). [troednodyn 1]

Cafodd y fframwaith deddfwriaethol ADY presennol ei greu gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (y Ddeddf), Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY) a rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf. Mae’r Ddeddf yn ceisio sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mynediad at y gefnogaeth a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt er mwyn cyflawni eu potensial, drwy sicrhau eu bod yn derbyn y ddarpariaeth y mae eu ADY yn galw amdani, a hynny mewn modd amserol ac effeithlon, gan eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd dysgu ac elwa ohono.

Mae’r Ddeddf yn creu:

  • fframwaith deddfwriaethol unedig i gefnogi pob plentyn a pherson ifanc 0-25 a chanddo ADY
  • proses integredig a chydweithredol o asesu, cynllunio a monitro’r cymorth a ddarperir i ddysgwyr ADY
  • system deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor, ac ar gyfer datrys pryderon ac apelau

O dan y system newydd, yn gyffredinol bydd gan bob plentyn a pherson ifanc ag ADY, beth bynnag fo difrifoldeb neu gymhlethdod ei anhawster neu anabledd dysgu, hawl i gynllun cymorth statudol a elwir yn gynllun datblygu unigol (CDU). Bydd plant a phobl ifanc ag ADY yn cael cymorth a elwir yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) a fydd yn cael ei hamlinellu yn y CDU.

Y cam cwmpasu

Y cam cwmpasu yw’r cyntaf o bump o gamau’r gwerthusiad.

Amlinelliad o gamau’r gwerthusiad

Cam 1

Theori newid a’r cam cwmpasu (Mawrth iHydref 2023)

Cam 2

Gwerthusiad o’r broses weithredu: astudiaethau ardal ADY (Tachwedd 2023 i Medi 2024)

Cam 3

Gwerthusiad o’r broses weithredu: arolygon o ymarferwyr a rhieni/gofalwyr (Ebrill iTachwedd 2024)

Cam 4

Gwerthusiad o effeithiau cynnar a chynnydd: astudiaethau ardal ADY (Medi 2024 i Medi 2025)

Cam 5

Gwerthusiad o effeithiau cynnar a chynnydd traweffeithiau: arolygon o ymarferwyr (Tachwedd 2025 i Medi 2026)

Mae’r adroddiad cwmpasu llawn yn cynnwys theori newid ar gyfer y system ADY, gan gyfeirio at ymchwil desg, cyfweliadau a gweithdai gyda rhanddeiliaid yn ystod gwanwyn a haf 2023. Bwriad y theori newid yw helpu i nodi’r cwestiynau ymchwil allweddol a’r meysydd ymchwilio sy’n flaenoriaeth ar gyfer y gwerthusiad.

Mae’r adroddiad hefyd yn cyflwyno synthesis o wybodaeth a thystiolaeth gyfredol mewn perthynas â’r system ADY. Roedd hwn yn ceisio adnabod materion yr oedd angen rhoi sylw arbennig iddynt yn ystod gwaith maes gydag ymarferwyr, rhanddeiliaid, dysgwyr a rhieni/gofalwyr.

Yn olaf, mae’r adroddiad yn amlinellu’r ffynonellau data sydd ar gael ar hyn o bryd er mwyn gallu archwilio’r mewnbynnau, y gweithgareddau, y deilliannau a’r traweffeithiau a nodir yn y theori newid

At ei gilydd, mae’r adrannau unigol hyn yn ceisio llywio’r broses o bennu blaenoriaethau ar gyfer camau nesaf y gwerthusiad.

Methodoleg

Roedd y dulliau ymchwil yn cynnwys:

  • datblygu theori newid ar gyfer y diwygiadau drwy broses iteraidd a chydweithredol, yn cynnwys:
    • adolygiad o ddogfennau polisi a chanllawiau yn ymwneud â’r system ADY
    • cyfres o gyfweliadau a gweithdai cwmpasu  gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, a chyfweliadau cwmpasu gyda chynrychiolwyr addysg bellach, awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, a’r trydydd sector; cwblhawyd cyfanswm o 21 cyfweliad a dau weithdy  
  • synthesis o dystiolaeth, gan dynnu ar gyhoeddiadau diweddar gan Estyn, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, papurau academaidd, ac adroddiadau a phapurau ar weithrediad y system ADY sydd heb eu cyhoeddi
  • adolygiad pen desg o ffynonellau data i nodi setiau data y gellid eu mapio yn erbyn yr eitemau yn y theori newid; ategwyd y broses hon gan gyfweliadau gydag ystadegwyr a rheolwyr data yn Llywodraeth Cymru

Theori newid

Un elfen bwysig yn yr adroddiad yw cyflwyno theori newid, sy’n esbonio sut y bwriedir i’r system ADY gyflawni ei nodau a’i hamcanion, drwy nodi’n glir y mewnbynnau, gweithgareddau, allbynnau, deilliannau a thraweffeithiau, yn ogystal â’r cysylltiadau tybiedig rhyngddynt. Bydd y theori newid yn cael ei ddefnyddio i lywio dulliau’r gwerthusiad, i gefnogi dyluniad offerynnau ymchwil, ac i gynnig ffordd o osod canfyddiadau’r gwerthusiad yn eu cyd-destun. 

Fel y nodwyd yn yr adran ar fethodoleg, mae'n seiliedig yn bennaf ar y dogfennau sydd ar gael a mewnbwn gan randdeiliaid strategol. Ein bwriad yw adolygu a mireinio'r theori newid drwy gydol y gwerthusiad. Cam nesaf pwysig yn y broses fireinio hon fydd profi’r theori a’r rhagdybiaethau sy'n sail iddi drwy ymgysylltu ag ymarferwyr ar wahanol lefelau ar draws pob sector yn ogystal â dysgwyr, a’u teuluoedd. 

Synthesis o dystiolaeth

Yn gyffredinol, mae’r llenyddiaeth sydd ar gael ar weithrediad y system ADY yn gyfyngedig ac mae’n ystyried profiadau ysgolion cynradd ag uwchradd yn bennaf. Mae diffyg canfyddiadau yn ymwneud â lleoliadau addysgol arall (gan gynnwys y blynyddoedd cynnar), y sector iechyd, awdurdodau lleol, dysgwyr, rhieni a gofalwyr. Un o’r blaenoriaethau ar gyfer camau nesaf y gwerthusiad fydd archwilio safbwyntiau a phrofiadau’r grwpiau hyn mewn perthynas â’r system ADY. 

Mae meintiau’r samplau sy’n gysylltiedig â llawer o’r prif ffynonellau tystiolaeth yn gymharol fach, gan gyfyngu ar y gallu i gyffredinoli canfyddiadau a dod i gasgliadau pendant ynghylch gweithredu’r system ADY hyd yma. Yn hytrach, dylid ystyried y canfyddiadau a nodir yn y bennod synthesis o dystiolaeth fel rhai sy’n rhoi darlun o'r materion y mae angen ymchwilio ymhellach iddynt fel rhan o’r gwerthusiad.   

Cyflwynir y synthesis mewn dwy ran ac mae’n ystyried y dystiolaeth o dan is-benawdau thematig yn ymwneud â: (i) y gwaith sydd wedi ei wneud i gefnogi a pharatoi ar gyfer y diwygiadau ADY, a (ii) gweithredu parhaus y system ADY. Cyflwynir crynodeb o’r prif ganfyddiadau isod. 

Rhan Un: gweithgareddau i gefnogi diwygiadau ADY

Datblygiad y gweithlu a dysgu proffesiynol

Mae'r dystiolaeth gyfredol yn canolbwyntio'n bennaf ar gyfleoedd i ymarferwyr addysg, gan dynnu sylw at yr angen i archwilio'r ddarpariaeth hyfforddi ar gyfer ymarferwyr iechyd, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill sy'n ymwneud â gweithredu'r system ADY. Mae'r llenyddiaeth yn pwysleisio effaith gadarnhaol cyfleoedd dysgu proffesiynol, yn enwedig ar gyfer Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADYau), tra hefyd yn pwysleisio'r rhwystrau sy'n wynebu ymarferwyr wrth gael mynediad at y cyfleoedd hyn. Mae'r dystiolaeth hefyd yn awgrymu bod angen datblygu cyfleoedd datblygiad proffesiynol pellach, wedi'u hanelu'n arbennig at y rhai sy'n ymuno â'r proffesiwn addysg a datblygiad proffesiynol parhaus sy'n canolbwyntio ar ymarfer addysgeg i gefnogi addysgu a dysgu plant ag ADY.  

Mae'r adolygiad o'r dystiolaeth gyfredol yn tanlinellu'r angen i’r gwerthusiad archwilio datblygiad y gweithlu a dysgu proffesiynol yn fanylach, yn enwedig mewn perthynas â chyfleoedd i'r rheini yn y sector iechyd, lleoliadau blynyddoedd cynnar ac mewn awdurdodau lleol, yn ogystal ag effeithiolrwydd a chwmpas y dystiolaeth honno.  

Gwybodaeth, cyngor a chanllawiau

Mae Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill wedi cyhoeddi gwybodaeth a chanllawiau i gefnogi codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o weithredu'r diwygiadau ADY. Mae tystiolaeth yn dangos bod y canllawiau hyn yn cael eu defnyddio gan ymarferwyr addysg, ond prin yw'r wybodaeth sydd ar gael ar safbwyntiau rhanddeiliaid eraill ar draws y system. Mae'r dystiolaeth bresennol yn awgrymu bod amrywioldeb wrth ddefnyddio a lledaenu canllawiau, gan arwain at ymwybyddiaeth gyfyngedig ymhlith rhai gweithwyr proffesiynol a rhieni am y diwygiadau ADY. Adroddir pryderon hefyd ynghylch cysondeb canllawiau a dealltwriaeth o arferion addysgol cynhwysol. Mae gan hyn y potensial i arwain at amrywiadau mewn dulliau o weithredu agweddau ar y diwygiadau ac mae'n faes y bydd angen i'r gwerthusiad ei archwilio'n fanylach. 

Cyllid

Mae'r dystiolaeth yn amlygu bod cyllid yn fewnbwn allweddol i’r system ADY. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn tynnu sylw at bryderon ynghylch digonolrwydd a thryloywder cyllid. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer AAA ac ADY, adrodda’r dystiolaeth hefyd bod costau ychwanegol sylweddol yn dod i awdurdodau lleol ac ysgolion wrth weithredu'r diwygiadau. Er gwaethaf cyfyngiadau'r sylfaen dystiolaeth, a'r ffaith bod y dystiolaeth sydd ar gael yn dibynnu ar ganfyddiadau arweinwyr ysgolion ar ddigonolrwydd cyllid, mae'n amlwg y dylai'r gwerthusiad archwilio safbwyntiau o bob rhan o'r system ar effeithiolrwydd dyraniadau cyllid ar gyfer ADY. Dylai hyn gynnwys archwiliad o sut mae cyfyngiadau cyllido canfyddedig neu wirioneddol yn effeithio ar weithrediad llwyddiannus y system ADY. Yn olaf, mae'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg hefyd yn tynnu sylw at yr angen am asesiad cynhwysfawr o dryloywder dyraniadau cyllid i gefnogi'r system ADY.

Rhan Dau: gweithredu’r system ADY

Rôl y CADY

Yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael, mae'n amlwg bod rôl y CADY yn hanfodol i weithredu’r system ADY, o ran cyfrifoldebau statudol y CADY ac fel ffynhonnell o arweiniad a chymorth i ymarferwyr eraill. Fodd bynnag, mae’r llenyddiaeth yn awgrymu bod pryderon ynghylch llwyth gwaith CADYau, a'r anawsterau a adroddwyd mewn achosion lle nad yw CADYau yn aelodau o uwch-dimau rheoli ysgolion. Bydd y gwerthusiad yn archwilio pryderon ynghylch llwyth gwaith CADYau a'i effeithiau posibl ar weithredu system ADY. 

Dehongli ADY ac DDdY

Mae tystiolaeth yn amlygu y gallai fod anghysondebau o ran sut mae diffiniadau o ADY a DDdY yn cael eu dehongli, gan arwain at wahanol ffyrdd o ddefnyddio’r termau hyn yn ymarferol. Yn ogystal, mae'r dystiolaeth hefyd yn cyfeirio at ymddangosiad terminoleg, nad yw wedi'i diffinio'n benodol yn y Cod ADY (e.e. 'darpariaeth gyffredinol') a allai gael ei ddefnyddio a'i roi ar waith gan ymarferwyr heb ddealltwriaeth gyffredin ar draws ysgolion a lleoliadau ac y gallai termau o’r fath fod yn ddryslyd i rieni a gofalwyr. Felly, bydd y gwerthusiad yn ceisio archwilio'r ffactorau sy'n sail i'r diffyg cysondeb a adroddwyd wrth ddehongli'r diffiniadau a goblygiadau hyn ar draws y system. 

Niferoedd AAA/ADY

Mae'n ymddangos bod y data diweddaraf sy'n ymwneud â  nifer y dysgwyr y nodwyd bod ganddynt AAA/ADY yn gwrth-ddweud y rhagdybiaeth polisi gwreiddiol na fyddai newid sylweddol yn nifer y dysgwyr y nodwyd eu bod ag AAA/ADY yn dilyn cyflwyno'r system ADY. Mae'r data hefyd yn dangos ei bod yn ymddangos bod amrywiad rhanbarthol yng nghanran y dysgwyr sydd ag CDUau. Mae'n bwysig nodi bod y broses weithredu yn dal i fynd rhagddi ac felly rhagwelir y bydd nifer y CDUau yn cynyddu ymhellach wrth i'r gweithredu fynd yn ei flaen. 

Serch hynny, un o brif flaenoriaethau'r gwerthusiad yw archwilio'r ffactorau posibl sy'n dylanwadu ar y newidiadau a welwyd yn niferoedd AAA/ADY a'r amrywiadau rhanbarthol. Mae'n debygol y bydd amrywiaeth gymhleth o ffactorau rhyng-gysylltiedig yn sail i hyn, ac nid yw'n bosibl dod i gasgliadau ar sail y sylfaen dystiolaeth gyfredol. Fodd bynnag, o ystyried y dystiolaeth sy'n tynnu sylw at anghysondebau posibl yn y ffordd y deallir ADY ac DDdY, dylai’r graddau y mae hyn o bosibl yn effeithio ar niferoedd AAA/ADY, gan gynnwys amrywiad rhanbarthol yng nghanran y dysgwyr â CDUau, fod yn drywydd ymchwil allweddol ar gyfer y gwerthusiad. Yng ngoleuni’r ffaith fod y diwygiadau i’r Cwricwlwm i Gymru ac ADY yn cael eu rhoi ar waith ochr yn ochr, bydd hefyd yn bwysig i'r gwerthusiad roi ystyriaeth ddyledus i’r cyd-destun ehangach hwn ac ystyried goblygiadau hyn ar gyfer gweithredu’r system ADY. 

CDUau

Mae'r dystiolaeth yn nodi, er bod CDUau yn hwyluso dull personol o fynd i'r afael ag anghenion dysgwyr, bod y gwaith sy'n gysylltiedig â pharatoi CDUau yn unol ag amserlenni statudol yn gosod pwysau sylweddol ar adnoddau, yn enwedig ar amser CADYau. Mae'r llenyddiaeth yn nodi rhai achosion lle mae'n ymddangos hefyd bod diffyg eglurder ymhlith ymarferwyr ynghylch pwy sy'n gyfrifol am gynnal CDUau: mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod angen archwilio'r gwahanol ddulliau a gymerir gan awdurdodau lleol i benderfynu pwy sy'n cynnal CDU fel rhan o'r gwerthusiad hwn, gan gynnwys ffocws ar gyfathrebu’r gwahanol ddulliau hyn gydag ysgolion, rhieni, gofalwyr a dysgwyr.

Ymgysylltu â rhieni a gofalwyr

Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod llawer o ymarferwyr addysg yn credu bod y defnydd cynyddol o ddulliau cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wedi cyfrannu at berthnasoedd cryfach rhwng sefydliadau addysgol a rhieni/gofalwyr plant ag ADY. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth sydd gan ysgolion a'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg gan rieni hefyd yn tynnu sylw at heriau parhaus, gan gynnwys amrywiadau yn ansawdd a hygyrchedd gwybodaeth i rieni, gan bwysleisio’r angen am well cyfathrebu a thryloywder. Yn bwysig ddigon, bydd y gwaith maes a gynllunnir fel rhan o gam nesaf y gwerthusiad hwn (yn enwedig yr astudiaethau ardal ADY) yn darparu cyfleoedd pellach i ymchwilio i brofiadau rhieni, gofalwyr a dysgwyr o'r system ADY.

Cydweithio a gwaith-clwstwr

Er bod cydweithio a gweithio amlasiantaethol yn elfennau hanfodol o weithredu’r system ADY, mae'r dystiolaeth yn amlygu bod cydweithio a rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau yn rhy amrywiol ar y cyfan. Adroddir bod llawer o ysgolion wedi datblygu dulliau cydweithredol cadarnhaol gydag awdurdodau lleol a chroesawyd cyflwyno rolau allweddol, megis y Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar a'r Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA). Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod problemau parhaus yn ymwneud â chapasiti a allai fod yn llesteirio gallu partneriaid iechyd i ymgysylltu'n llawn â lleoliadau addysg, a bod rhannu gwybodaeth yn her bwysig yn ystod cyfnodau pontio o un lleoliad addysgol i'r llall. 

Ar sail y dystiolaeth gyfredol sydd ar gael, mae angen i'r gwerthusiad archwilio sut mae partneriaid ar draws y system ADY yn cydweithio ac yn rhannu gwybodaeth i sicrhau cynllunio a darpariaeth effeithiol sy'n diwallu anghenion dysgwyr. Dylai'r gwerthusiad roi blaenoriaeth i ddeall nodweddion cydweithio effeithiol a nodi pa ffactorau sy'n hwyluso ac yn atal cydweithio effeithiol, gan gynnwys rhwng gweithwyr addysg a gweithwyr iechyd proffesiynol.

Dysgwyr Ôl-16

Mae'r dystiolaeth yn nodi pryderon a godwyd ynghylch dehongli'r hawl dwy flynedd i dderbyn addysg bellach a hyfforddiant, yn enwedig ar gyfer dysgwyr ag anghenion cymhleth. Mae'r llenyddiaeth yn pwysleisio bod sicrhau cysondeb mewn protocolau pontio a chapasiti digonol mewn sefydliadau addysg bellach yn hanfodol ar gyfer mynediad teg. Mae'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, felly, yn tynnu sylw at yr angen i'r gwerthusiad gynnal ymchwil ar y dehongliad o hawliau ôl-16 ac ar gysondeb gweithrediad y system ADY ar gyfer y grŵp oedran hwn.

Darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Mae'r dystiolaeth yn dangos bod heriau amlwg i wireddu'r nod craidd o greu system ADY ddwyieithog. Mae'r heriau hyn yn cynnwys gwendidau mewn cynllunio strategol i gefnogi a datblygu DDdY cyfrwng Cymraeg, adnoddau Cymraeg cyfyngedig, a phrinder staff cymwys sy'n gallu cefnogi dysgwyr ADY drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd angen i'r gwerthusiad archwilio sut yr eir i’r afael â’r materion hyn ac a yw’r system ADY yn cael ei gweithredu’n effeithiol mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg.

Mapio data

Prif ganfyddiadau

Mae canfyddiadau'r broses mapio data yn dangos bod sylfaen dystiolaeth gyfyngedig neu rannol ar hyn o bryd ar gyfer ateb y rhan fwyaf o'r cwestiynau ymchwil a nodwyd. Nid oes yr un o'r ffynonellau data presennol a nodwyd yn galluogi'r cwestiynau ymchwil a nodir yn y theori newid i gael eu hateb yn llawn.

Bylchau yn y data

Mae bylchau o ran data sy'n dangos profiadau dysgwyr, rhieni a gofalwyr o’r system ADY yn ogystal â data ar safbwyntiau gweithwyr proffesiynol mewn awdurdodau lleol, y sector iechyd, y blynyddoedd cynnar ac ôl-16. Mae hyn yn dangos y bydd angen casglu tystiolaeth gan y cynulleidfaoedd hyn yn ystod camau nesaf y gwerthusiad.

Mapio data

Ochr yn ochr â hyn, mae'r broses o fapio data yn amlygu bylchau yn y sylfaen dystiolaeth sy'n mynd y tu hwnt i gwmpas gwaith y gwerthusiad. Bydd mynd i'r afael â'r bylchau hyn yn gofyn am weithgarwch parhaus gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau rhanddeiliaid, i fonitro a dadansoddi’r data a gesglir trwy ffynonellau eilaidd.

Cynlluniau a blaenoriaethau ar gyfer camau nesaf y gwerthusiad

Prif ganfyddiadau

Mae canfyddiadau'r astudiaeth gwmpasu yn dangos y dylai'r astudiaethau ardal (Camau 2 a 4 y gwerthusiad) a'r arolygon (Camau 3 a 5) a gynlluniwyd fel rhan o'r gwerthusiad gynnwys ffocws ar y cwestiynau ymchwil gafodd eu hadnabod wrth ddatblygu’r theori newid. 

Mae canfyddiadau'r adolygiad o’r dystiolaeth hefyd yn awgrymu y dylai Camau 2 i 5 y gwerthusiad archwilio sawl thema benodol gan gynnwys:

  • tryloywder ac effeithiolrwydd dyraniadau cyllid ADY a hefyd digonolrwydd adnoddau ariannol a chapasiti’r gweithlu, i weithredu’r system ADY
  • y berthynas rhwng diwygiadau ADY a chapasiti'r gweithlu, lles staff, a datblygiad proffesiynol, yn enwedig ar gyfer CADYau
  • i ba raddau y mae dealltwriaeth a dehongliad clir a chyson o ADY ac DDdY ymhlith ymarferwyr, lleoliadau ac ar draws awdurdodau lleol
  • ffactorau sy'n cyfrannu at y gostyngiad ymddangosiadol yn nifer y plant y nodwyd bod ganddynt AAA neu ADY, yn ogystal ag amrywiadau ledled Cymru yn nifer y CDUau
  • archwilio'r data ar nifer yr CDUau a ffactorau sy'n cyfrannu at amrywiadau ledled Cymru
  • ystyried goblygiadau gweithredu diwygiadau’r Cwricwlwm i Gymru ac ADY ochr yn ochr ar gyfer gweithredu system ADY
  • dulliau o ymgysylltu â rhieni/gofalwyr a dysgwyr ynglŷn â’r system ADY a sut y maent yn cael eu cefnogi i ddeall eu hawliau
  • dulliau awdurdodau lleol o gynnal CDUau a sut mae'r dulliau hyn yn cael eu rhannu gydag ysgolion, rhieni, gofalwyr a dysgwyr
  • materion penodol yn ymwneud â dysgwyr ôl-16, gan gynnwys trosglwyddo cyfrifoldebau o Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol a sicrhau mynediad teg at addysg a hyfforddiant i'r garfan hon o ddysgwyr
  • heriau i wireddu'r nod craidd o greu system ADY ddwyieithog ac archwilio a yw’r system ADY yn cael ei gweithredu'n effeithiol mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg

Troednodiadau

[1] Mae’r Ddeddf ADY yn disodli’r ddeddfwriaeth anghenion addysgol arbennig (AAA) bresennol (y darperir ar ei chyfer yn Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996), Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru a deddfwriaeth anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD) (y darperir ar ei chyfer yn Neddf Dysgu a Sgiliau 2000).

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Duggan, B

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Cangen Ymchwil Ysgolion
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Ebost:  ymchwilysgolion@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 116/2023
ISBN digidol 978-1-83577-301-7

Image
GSR logo