Mae'r adroddiadau hyn yn cwmpasu cyfres o werthusiadau a fydd yn cyfrannu at werthusiad trosfwaol o'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn 2015.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o'r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg
Hwn yw adroddiad terfynol gwerthusiad Cwmni Arad o Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddwyd y Strategaeth ym mis Ebrill 2010, gydag ymrwymiad i gefnogi ‘[t]wf parhaus mewn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg ym mhob sector ac ystod oedran’. Nod y gwerthusiad oedd mesur effeithiolrwydd a thraweffaith y Strategaeth, gan ystyried i ba raddau y mae wedi gwireddu’r nodau, yr amcanion a’r deilliannau disgwyliedig. Ceir gwerthusiad o’r Strategaeth yn ei chyfanrwydd, ochr yn ochr ag adolygiadau o rai o’r rhaglenni penodol sy’n rhan o gynllun gweithredu’r Strategaeth. Cyflwynir y dystiolaeth o dan y penawdau canlynol: Gweithredu’r Strategaeth, Cynllunio darpariaeth, Datblygu’r gweithlu, Cymorth canolog, a Sgiliau iaith a defnydd o’r Gymraeg. Cyflwynir 21 o argymhellion, sydd yn cwmpasu meysydd cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid gweithredu eraill.
Mae’r adroddiad yn datgan bod cefnogaeth i weledigaeth a nodau’r Strategaeth ymysg y swyddogion (cenedlaethol a lleol), rhanddeiliaid ac ymarferwyr sydd wedi ymwneud â hi. Mae rhai cynlluniau sydd yn cael eu gweithredu fel rhan o’r Strategaeth wedi arwain at ddeilliannau cadarnhaol i unigolion ac ysgolion. Fodd bynnag, nid yw gweledigaeth y Strategaeth wedi’i gwreiddio mewn ffordd gyson ar draws yr holl bartneriaid gweithredu ac ar hyd gwahanol haenau’r gyfundrefn addysg, o Lywodraeth Cymru i lawr i awdurdodau lleol a darparwyr.
Dangoswyd rhywfaint o lwyddiant wrth gyrraedd y targedau a osodwyd yn 2010. Fodd bynnag, yn achos mwyafrif y dangosyddion ni chyflawnwyd y cynnydd a ragwelwyd yn 2010.
Adroddiadau
Gwerthusiad o'r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Gwerthusiad o'r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg: adroddiad terfynol - Crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 599 KB
Cyswllt
Catrin Redknap
Rhif ffôn: 0300 025 5720
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.