Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cwmni ymchwil Arad, mewn partneriaeth ag OB3 a Phrifysgol De Cymru, i werthuso'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth a'r safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu (y cyfeirir atynt yn y ddogfen hon fel y 'safonau proffesiynol' neu'r 'safonau'). Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno crynodeb o ganfyddiadau blwyddyn gyntaf y gwerthusiad hwn.

Ynglŷn â’r safonau proffesiynol

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel fel y nodir yn ei strategaeth ar gyfer y sector addysg hyd at 2021, Addysg yng Nghymru: cenhadaeth Ein Cenedl (y Strategaeth) a'i chynllun gweithredu a ddiweddarwyd yn fwy diweddar. Mae'r safonau yn un o wyth elfen sy'n rhan o'r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol.

Cyhoeddwyd y safonau ym mis Medi 2017 ac maent yn cynnwys tair adran rhyng-gysylltiedig:

  1. Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth
  2. Safonau proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth ffurfiol
  3. Safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu (cyhoeddwyd yn ddiweddarach, yn 2019)

Mae’r tair set o safonau yn seiliedig ar bum elfen hanfodol addysgu a dysgu effeithiol:

  1. Addysgeg
  2. Arweinyddiaeth
  3. Dysgu proffesiynol
  4. Arloesi
  5. Cydweithredu

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn cynnig pasbort dysgu proffesiynol (PDP) ar-lein i ymarferwyr cofrestredig fyfyrio ar eu harfer a chofnodi eu dysgu proffesiynol. Ariennir y PDP gan Lywodraeth Cymru, ac mae PDP pob defnyddiwr yn cynnwys templedi dysgu proffesiynol a 'llyfr gwaith safonau' lle gall ymarferwyr fapio eu profiadau dysgu proffesiynol ac uwchlwytho tystiolaeth yn erbyn pob un o'r safonau.

Ynglŷn â’r gwerthusiad

Nod y gwerthusiad yw 'gwerthuso gweithrediad, effeithiolrwydd ac effeithiau disgwyliedig y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arweinyddiaeth a chynorthwyo addysgu o ran eu gallu i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithlu sy’n meddu ar y sgiliau priodol ac sy’n barod i ymateb i heriau diwygio addysg yng Nghymru' (Llywodraeth Cymru, 2019: Manyleb ar gyfer: Gwerthusiad o'r Safonau Addysgu ac Arweinyddiaeth Broffesiynol. Heb ei gyhoeddi).

Yn bennaf, mae'r gwerthusiad wedi mabwysiadu dull ansoddol o gasglu data yn ogystal ag adolygu’r data eilaidd sydd ar gael ar ymgysylltiad gyda’r safonau. Mae’r cyfweliadau wedi canolbwyntio ar archwilio:

  • lefelau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r safonau ymhlith ymarferwyr ysgol a rhanddeiliaid
  • sut mae ymarferwyr a rhanddeiliaid wedi defnyddio neu ymateb i'r safonau o ddydd i ddydd
  • effeithiolrwydd gweithrediad y safonau, gan gynnwys ffactorau ac amodau sy'n eu galluogi ac yn eu rhwystro rhag cael eu gweithredu'n effeithiol
  • barn ynghylch y cymorth a ddarperir i hwyluso gweithredu
  • barn ar yr effeithiau disgwyliedig yn sgil gweithredu'r safonau (ynghyd ag unrhyw ddeilliannau cychwynnol a welwyd)

Cynhaliwyd gwaith maes Blwyddyn 1 rhwng mis Hydref 2020 a mis Ebrill 2021 (Bwriadwyd dechrau ar y gwaith maes ym mis Mai 2020, ond cafodd ei ohirio o ganlyniad i'r pandemig COVID-19). Cyfwelwyd â chyfanswm o 83 o ymarferwyr ar draws 20 o ysgolion, gyda chyfanswm o 49 o randdeiliaid wedi'u cyfweld hefyd. O blith y rhain, roedd 40 yn rhanddeiliaid 'cenedlaethol' neu 'ranbarthol' a nodwyd yn ystod y cam cwmpasu ac roedd 9 yn 'rhanddeiliaid sy'n rhoi cymorth i ymarferwyr' a nodwyd gan leoliadau. Defnyddiwyd dull pwrpasol o samplo, gan ddefnyddio tystiolaeth ansoddol gan randdeiliaid i adnabod ysgolion a ystyriwyd i fod wedi ymgysylltu’n ‘helaeth’ â’r safonau, ac ysgolion a ystyriwyd i fod ar ‘gam ymgysylltu cynharach’. Cyflwynir disgrifiad llaw o’r fethodoleg yn y prif adroddiad.

Canfyddiadau: ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r safonau

Mae ystod o wybodaeth, canllawiau ac offer hunanwerthuso ar gael o wahanol ffynonellau i hysbysu ymarferwyr am y safonau, a chaiff y rhain eu defnyddio'n eang. Mae ymarferwyr hefyd yn dibynnu'n fawr ar wybodaeth ac adnoddau ar lefel ysgol wrth ymgysylltu â'r safonau. Mae arweinwyr ysgol yn chwarae rhan allweddol o ran codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o'r safonau ymhlith staff ac mae ysgolion yn cynnal sesiynau HMS a chyfarfodydd staff ar y safonau.

Roedd arweinwyr ac ymarferwyr ysgol a gyfrannodd at yr astudiaeth yn gyfarwydd iawn â'r safonau, er bod adborth gan randdeiliaid yn awgrymu bod lefelau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yn fwy amrywiol nag ymysg sampl yr astudiaeth.

Mae’r canfyddiadau yn awgrymu mai’r ymarferwyr sydd fwyaf cyfarwydd â'r safonau yw Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG), myfyrwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA), mentoriaid sefydlu ANG a dilyswyr allanol. Staff cymorth ac athrawon dosbarth profiadol, hirsefydlog yw'r lleiaf cyfarwydd â nhw.

At ei gilydd, mae barn ymarferwyr am y safonau'n fwy cadarnhaol na'u barn am safonau blaenorol ac maent yn ystyried eu bod yn fwy hylaw ac yn caniatáu iddynt adeiladu ar eu cryfderau fel ymarferwyr. Mae'r rhanddeiliaid yn eu hystyried yn ddull mwy cyfannol, datblygiadol ac uchelgeisiol na'r safonau blaenorol.

Mae ymgysylltu â'r safonau wedi bod yn llethol i rai ymarferwyr, yn enwedig cynorthwywyr addysgu, oherwydd y defnydd o derminoleg ac iaith anghyfarwydd, ond dywedwyd bod rhai ymarferwyr wedi magu hyder gyda'r derminoleg dros amser.

Mae'r safonau wedi'u halunio’n dda iawn â datblygiadau polisi allweddol eraill, yn enwedig y Cwricwlwm i Gymru, ond mae'r broses o'u hyrwyddo a'u gweithredu wedi cael ei bwrw i'r cysgod gan y datblygiadau strategol eraill hyn.

Mae cymhwyso'r safonau ar draws darpariaeth AGA wrth ddyfarnu Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn creu heriau i ddarparwyr, gan eu bod yn rhy eang i'w defnyddio fel mecanwaith pasio neu fethu effeithiol wrth benderfynu dyfarnu SAC i fyfyriwr.

Defnydd o’r safonau

Cyfyngedig yw'r data sydd ar gael ar ymgysylltiad ymarferwyr â'r safonau. Ar lefel genedlaethol, casglwyd data ar yr ymgysylltiad â'r safonau blaenorol drwy Arolwg Cenedlaethol o'r Gweithlu Addysg (CGA, 2017), ac roedd rhywfaint o ddata hefyd yn cael eu casglu drwy'r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Nid yw defnydd o'r PDP o reidrwydd yn adlewyrchu lefelau ymgysylltiad â'r safonau, oherwydd gall ymarferwyr fewngofnodi i'r platfform i gofnodi tystiolaeth o'u gweithgaredd dysgu proffesiynol heb ei fapio i'r safonau. Fodd bynnag, mae data ar ddefnyddio'r platfform, a ddyluniwyd i hwyluso ymgysylltiad â'r safonau, yn rhoi dealltwriaeth ddefnyddiol o ymddygiad athrawon o ran cofnodi eu datblygiad

Cyflwynir trosolwg o’r data ar ddefnydd o’r PDP yn y prif adroddiad. Mae data ar gyfer Mawrth 2021 yn dangos:

  • fod 13,923 o athrawon cofrestredig (gan gynnwys penaethiaid ac ANG) a 10,652 o weithwyr cymorth dysgu wedi creu eu PDP eu hunain [1] [2]
    • mae hyn yn cynrychioli 40% o'r holl athrawon cofrestredig a 28% o'r holl weithwyr cymorth dysgu cofrestredig ym mis Mawrth 2021
    • mae twf sylweddol wedi bod yn y niferoedd yn creu eu PDP eu hunain ers ei lansio, wedi ei yrru’n sylweddol gan ANG yn defnyddio’r platfform
  • fod ychydig yn llai na hanner yr athrawon sydd wedi creu eu PDP eu hunain (41%) wedi mewngofnodi i'r platfform yn ystod y deuddeg mis hyd fis Mawrth 2021
    • dros hanner (61%) y gweithwyr cymorth dysgu sydd wedi creu eu PDP eu hunain wedi mewngofnodi yn ystod y deuddeg mis hyd fis Mawrth 2021

[1] Mae 2,783 o ddefnyddwyr PDP wedi'u cofrestru fel athrawon yn ogystal â gweithwyr cymorth dysgu, ac maent wedi'u cynnwys yn y ddau gategori.

[2] Defnyddir y term ‘gweithwyr cymorth dysgu’ i gyfeirio at Gynorthwywyr Addysgu a Chynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch.

Dengys y canfyddiadau o gyfweliadau bod i ba raddau y mae ymarferwyr yn defnyddio'r safonau yn amrywio ar draws a rhwng lleoliadau. Awgryma'r canfyddiadau fod hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys:

  • y pwyslais a roddir arnynt gan arweinwyr lleoliadau
  • i ba raddau y maent wedi'u hymgorffori mewn prosesau rheoli perfformiad gan gynnwys y templedi a'r offer hunanasesu sy'n cael eu defnyddio mewn lleoliadau
  • a oes amser penodol yn cael ei ddyrannu i ymarferwyr fyfyrio ar y safonau (e.e. i gwblhau offer hunanasesu neu'r PDP)
  • a yw'r lleoliad a/neu ei ymarferwyr yn cymryd rhan mewn prosesau AGA neu sefydlu
  • a yw ymarferwyr yn dilyn cyrsiau arweinyddiaeth ffurfiol, ymgymryd a chyfnod sefydlu neu yn ceisio statws Cynorthwywr Addysgu Lefel Uwch

Mae lleoliadau sydd wedi ymgorffori'r safonau yn nhrefniadau datblygu eu hysgol a'u staff yn eu gwerthfawrogi ac yn eu hystyried yn fuddiol, er bod y defnydd o'r safonau'n amrywio fesul rôl yn yr ysgolion hyn. Mae'r safonau'n tueddu i gael eu defnyddio'n llai aml gan rai ymarferwyr, yn benodol CA ac athrawon mwy profiadol nad ydynt wedi dilyn cyrsiau arweinyddiaeth ffurfiol.

Defnydd cyfyngedig a wneir o'r safonau mewn rhai lleoliadau, gyda rhywfaint o weithgaredd codi ymwybyddiaeth cychwynnol wedi'i nodi ond llai o dystiolaeth bod y safonau'n cael eu hymgorffori mewn gweithgaredd dysgu proffesiynol a rheoli perfformiad.. Mae rhai lleoliadau wedi ymgorffori'r safonau yn eu gweithgaredd dysgu a datblygu proffesiynol; fodd bynnag, mae'r mwyafrif yn ystyried eu bod ar 'gam cynnar' o ran eu gweithredu.

Mae COVID-19 wedi arwain at ohirio neu gyfyngu gweithgareddau a gynlluniwyd yn ymwneud â'r safonau yn ystod 2020 a 2021. Fodd bynnag, mae lleoliadau o'r farn bod llawer o gynnydd wedi'i wneud o ran datblygiad proffesiynol yn erbyn rhai o'r safonau, yn enwedig arloesi.

Ystyrir bod y safonau yn offeryn effeithiol i nodi'r disgwyliadau ar gyfer ymarferwyr fel gweithwyr proffesiynol. Cânt eu gwerthfawrogi fel offeryn datblygu ond mae gwahaniaeth barn ynghylch eu defnyddio mewn strwythurau mwy ffurfiol fel swydd-ddisgrifiadau.

Mae lleoliadau o'r farn ei bod yn bwysig bod y Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu wedi'u datblygu gan eu bod yn helpu i ategu gweithgaredd dysgu proffesiynol ar gyfer staff cymorth.

Mae'r safonau'n cael eu gwerthfawrogi gan ymarferwyr mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion gan eu bod yn teimlo eu bod yn rhoi mwy o statws i weithwyr proffesiynol yn y sector.

Mae lleoliadau lle mae ymarferwyr yn credu bod y safonau'n cael eu defnyddio'n effeithiol yn tueddu i:

  • fod ag arweinwyr sydd wedi rhoi cryn bwyslais ar y safonau, a hynny'n aml ers nifer o flynyddoedd
  • meddu ar ddiwylliant o ddysgu proffesiynol gyda chyfleoedd rheolaidd i staff drafod a dadansoddi agweddau ar y safonau mewn ffordd anfygythiol fel rhan o ddeialog broffesiynol
  • meddu ar ddull dysgu proffesiynol cydweithredol sy'n annog ymarferwyr i gymryd perchnogaeth o'u gweithgaredd dysgu proffesiynol
  • mabwysiadu offer i ymarferwyr hunanasesu yn erbyn y safonau, hyfforddi staff i'w defnyddio a defnyddio'r offer hyn (neu fwriadu eu defnyddio) fel rhan o brosesau rheoli perfformiad
  • datblygu dulliau sy'n eu galluogi i sicrhau cydbwysedd rhwng defnyddio'r safonau ar gyfer myfyrio ar lefel unigol a chasglu data a all lywio'r gwaith o gynllunio dysgu proffesiynol ar lefel lleoliad
  • annog ymarferwyr i ddefnyddio safonau fel rhan 'naturiol' o drafodaethau wrth rannu eu myfyrdodau a'u profiadau gyda chydweithwyr

Y cymorth sydd ar gael i ddefnyddio'r safonau

Gofynnwyd barn gyfweleion ar y cymorth sydd ar gael i ymarferwyr i ddefnyddio'r safonau a sut y gellid gwella'r cymorth hwn ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol ac ysgol.

Roedd amrywiad yn y cymorth a oedd ar gael i ymarferwyr gyda rhai yn nodi eu bod wedi cael cymorth rhagorol gan eu hysgol a'u consortia, ac eraill yn dweud nad oeddent wedi cael hynny. Roedd ymarferwyr o'r farn bod mwy o gymorth a gwybodaeth ar gael pan lansiwyd y safonau i ddechrau, a dywedwyd bod llai o gymorth ar gael yn fwy diweddar. Dywedodd yr ymarferwyr fod y pandemig wedi effeithio ar fomentwm wrth ymgysylltu â'r safonau, gan nodi bod angen cynyddu'r cymorth a'r wybodaeth sydd ar gael.

Adroddwyd bod cymorth da ar gael i ymarferwyr ac ysgolion i gefnogi'r ymarferwyr hynny ar ddechrau eu gyrfaoedd a'r rhai ar raglenni arweinwyr canol.

Mae'r ymarferwyr a'r rhanddeiliaid o'r farn bod diffyg arweiniad a hyfforddiant clir wedi'u hanelu'n benodol at Gynorthwywyr Addysgu, a bod angen mwy o gymorth i gynyddu'r defnydd o'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu mewn ysgolion.

Roedd nifer o enghreifftiau o ANG yn arwain sesiynau ar y safonau i staff eraill yn ystod diwrnodau HMS, gan fod ANG yn fwy cyfarwydd ag iaith y safonau a'r defnydd ohonynt.

Byddai cymorth ychwanegol i ymarferwyr ar ddefnyddio'r safonau yn cael ei werthfawrogi. Roedd hyn yn cynnwys:

  • canllawiau cliriach ar gyfer gwahanol lefelau o ymarferwyr / staff ategol ar sut i ddehongli'r safonau
  • gweithgareddau codi ymwybyddiaeth parhaus i gefnogi rhagor o ymgysylltu â'r safonau
  • yr angen i raeadru cymorth mewn ffordd fwy strwythuredig ledled Cymru i sicrhau cysondeb o ran y cymorth sydd ar gael i ymarferwyr / staff cymorth
  • rhagor o amser a chapasiti i athrawon allu gweithio ar y safonau yn ystod cyfnodau hunanfyfyrio

Effeithiau ganfyddedig a disgwyliedig

Dywedodd y rhan fwyaf o'r ymarferwyr a'r rhanddeiliaid a gyfwelwyd na fyddai effeithiau'r safonau i'w gweld am nifer o flynyddoedd. Esboniodd y cyfweleion fod hyn, yn eu barn nhw, oherwydd bod y rhan fwyaf o ysgolion ar gam ymgysylltu cynnar â'r safonau, a bod hyn yn golygu nad oedd pob ymarferydd yn defnyddio'r safonau mor helaeth ag yr oeddent yn gobeithio yn y dyfodol. Yn gysylltiedig â hyn, esboniodd y rhai a gyfwelwyd fod y defnydd o'r safonau ar ei uchaf ymhlith ANG, ac y byddai'n cymryd amser i'r ymarferwyr ar gam cynnar yn eu gyrfa symud drwy'r system addysg ac i'r holl weithlu addysg ddod yn gyfarwydd ac yn gyfforddus â defnyddio'r safonau.

Mae’r o gyfweleion yn ystyried ei bod yn rhy gynnar i weld effaith y safonau ar lefel y gweithlu neu leoliad, ac mae'r mwyafrif yn teimlo na allant briodoli effeithiau iddynt eto. Fodd bynnag, darparodd ymarferwyr a rhanddeiliaid nifer o enghreifftiau o effeithiau sy'n dod i'r amlwg a welwyd ganddynt. Soniwyd am enghreifftiau o effaith sy'n dod i'r amlwg yn amlach gan ymarferwyr mewn lleoliadau lle yr ystyriwyd bod y safonau wedi bwrw gwreiddiau i raddau mwy mewn gweithgaredd dysgu a datblygiad proffesiynol. 

Mae ymarferwyr a rhanddeiliaid yn disgwyl y bydd y safonau'n debygol o gael mwy o effaith ar y rhai sy'n eu defnyddio fwyaf, yn bennaf myfyrwyr AGA ac ANG. Mae rhanddeiliaid yn nodi eu bod wedi gweld gwell dealltwriaeth o sgiliau arwain a dilyniant gyrfa ymhlith ANG ac ymarferwyr sydd ar gam cynnar yn eu gyrfa yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dywed ymarferwyr fod y safonau wedi annog hunanfyfyrio drwy ddarparu fframwaith uchelgeisiol ac iaith gyffredin ar gyfer trafodaethau;

Mae ymarferwyr mewn rhai lleoliadau yn nodi bod y safonau wedi helpu i wella eu prosesau hunanasesu ymarferwyr drwy ddarparu strwythur datblygiadol mwy uchelgeisiol i seilio'r prosesau hyn arnynt. Yn benodol, noda ymarferwyr mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion a CA fod y safonau wedi helpu i 'broffesiynoli' trafodaethau ynghylch dysgu proffesiynol gan nodi y gallai hyn gyfrannu at wella llesiant ymarferwyr. Roedd rhai yn rhagweld y byddai'r safonau'n gwella canfyddiadau o weithio mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion ac mewn rolau CA.

Mewn rhai lleoliadau, darparodd uwch arweinwyr a rhanddeiliaid enghreifftiau o ymarferwyr yn cymryd mwy o ymreolaeth a pherchnogaeth o'u dysgu proffesiynol.   Dywed ymarferwyr a rhanddeiliaid eu bod wedi gweld enghreifftiau lle mae'r safonau wedi cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymarferwyr o arweinyddiaeth, ac wedi annog lefelau uwch o gydweithredu ac arloesi.

Mae rhai ymarferwyr a rhanddeiliaid yn rhagweld y bydd y ffocws cynyddol ar addysgeg yn y safonau yn cyfrannu at welliannau yn ansawdd yr addysgu a'r dysgu. Roedd rhai yn rhagweld y byddai effeithiau yn fwy tebygol o gael eu gweld unwaith y byddai’r Cwricwlwm i Gymru yn cael ei roi ar waith.

Manylion cyswllt

Adroddiad Ymchwil Llawn: Thomas, Hefin; Duggan, Brett; Grover, Tanwen; Glyn, Eluned, Bryer, Nia; a Bebb, Heledd (2021)

Safbwyntiau’r ymchwilydd ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Cangen ymchwil ysgolion
E-bost: ymchwilysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 73/2021
ISBN digidol: 978-1-80391-313-1

Image
GSR logo