Neidio i'r prif gynnwy

Rhagymadrodd

Nod Cyswllt Ffermio yw gwella proffidioldeb, cysdadleurwydd, gwytnwch a chynaliadwyedd busnesau ffermio, coedwigaeth a bwyd ledled Cymru, gan gefnogi’r sector drwy gyfnod o newid sylweddol wrth iddo symud oddi wrth daliadau uniongyrchol drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Ariannwyd cyfnod 2014-20 y rhaglen drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP), rhaglen saith mlynedd Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru. Mae gan Cyswllt Ffermio ystod eang o gefnogaeth, gan gynnwys gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth, datblygiad proffesiynol parhaus a hyfforddiant, a chyngor un i un ac fel grŵp. Cyflenwyd y rhaglen gan Menter a Busnes (MaB) a Lantra ac fe’i goruchwyliwyd gan Lywodraeth Cymru.

Nodau a dull y gwerthuso

Comisiynwyd SQW, ynghyd ag Arad a’n harbenigwr amaethyddol Martin Collison, i gynnal gwerthusiad o’r Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesedd a Gwasanaeth Cynghori (2014-2020), a adnabyddir fel Cyswllt Ffermio. Roedd y gwerthusiad yn ceisio asesu effeithiolrwydd gweithrediad, casglu tystiolaeth am y canlyniadau a gafwyd, a dysgu beth sy’n gweithio (a pham) er mwyn llywio’r gwaith cyflenwi parhaus a chynllun rhaglenni eraill yn y dyfodol.

Cynhaliwyd y gwaith gwerthuso mewn dau gam: yn gyntaf, 2018 hyd at ddechrau 2019; ac yn ail, ar ddiwedd 2019 hyd at ganol 2020. Mae’r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd y canfyddiadau o’r ddau. Drwy gydol y gwaith, canolbwyntiodd y gwerthusiad yn bennaf ar gyfnod 2014-20 y rhaglen, a ddaeth i ben yn ffurfiol (o ran cyflenwi) ym mis Awst 2019.  Fodd bynnag, cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer Cam 2 yn fuan wedi lansio diweddariad i Cyswllt Ffermio (estyniad tan fis Awst 2022); er bod rhai ymgynghoreion yn gallu ystyried y manteision posibl a oedd yn deillio o’r diweddaru, roedd hi’n rhy gynnar i wneud sylw am hyn, neu i weld ei effeithiau yn ymarferol.

Yn unol â’r Fanyleb ar gyfer yr astudiaeth gan Lywodraeth Cymru, mabwysiadodd y gwerthusiad ddull seiliedig ar theori ac ansoddol yn bennaf[1]. Roedd hyn yn cynnwys cyfres o astudiaethau achos hydredol manwl yn ymdrin â 13 llinyn gweithgarwch Cyswllt Ffermio (yn cynnwys ymgynghoriadau gyda buddiolwyr a staff cyflenwi) i ddangos canlyniadau a phrofi theori o newid, grwpiau ffocws rhanbarthol gyda buddiolwyr i wirio a mireinio canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, ac ymgynghoriadau gyda staff llywodraethu, rheoli a chyflenwi a gyda rhanddeiliaid. Yn ogystal, cynhaliodd SQW adolygiad pen desg o ddogfennau’r rhaglen a’r monitro, a data cyfryngau cymdeithasol. Cyflwynwyd canfyddiadau’r gwerthusiad i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Cynghori Strategol Cyswllt Ffermio.

[1] Nid oedd casglu data meintiol (e.e., drwy arolygon dros y ffôn gyda buddiolwyr) a thechnegau gwerthuso effaith gwrthffeithiol o fewn cwmpas yr aseiniad hwn, fel y nodir ym Manyleb Llywodraeth Cymru. Ochr yn ochr â’r gwerthusiad hwn, roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu cynnwys buddiolwyr Cyswllt Ffermio yn y sampl ehangach ar gyfer Arolwg Arferion Fferm er mwyn gallu cymharu rhwng buddiolwyr a rhai nad sy’n fuddiolwyr a llywio’r ymchwil ansoddol. Fodd bynnag, nid yw’r gwaith arolwg hwn wedi’i wneud hyd yma gan Lywodraeth Cymru.

Prif ganfyddiadau

Pa weithgareddau sydd wedi’u cyflenwi hyd yma, o gymharu â’r disgwyliadau?

Cyfanswm gwariant y rhaglen dros y cyfnod contract 2014-20 (tan fis Awst 2019) oedd £25.72 miliwn, a oedd yn agos iawn i’r gwariant a gyllidebwyd sef £25.73 miliwn. Perfformiodd y rhaglen yn dda yn erbyn yr allbynnau targed ar gyfer y contract hwnnw, a chynigodd ystod eang o gefnogaeth, gan adlewyrchu’r gwahanol anghenion, camau datblygiad ac arddulliau dysgu a ffafrir sydd i’w gweld ar draws y sector ffermio. Mae’r rhaglen yn ‘gyfarwydd’ ac yn un yr ‘ymddiriedir’ ynddi ledled Cymru, ac mae hirhoedledd, sefydlogrwydd a pharhad Cyswllt Ffermio wedi bod yn bwysig.

Pa mor ddwys y mae ffermwyr yn ymgysylltu â’r rhaglen ac yn gwneud cynnydd drwy’r cynnig, a beth sy’n ysgogi hyn?

Gwnaed ymdrech sylweddol i gofrestru ffermwyr newydd yn Cyswllt Ffermio yn ystod y cyfnod 2014-20 y rhaglen er mwyn ehangu ei chyrhaeddiad. Fodd bynnag, ceir dadl nawr ynglŷn ag a ddylai’r rhaglen barhau i geisio cyrhaeddiad ehangach, neu a ddylai ganolbwyntio ar ffermwyr sydd eisiau newid; yng Ngham 2 y gwerthusiad, roedd pwysau’r ddadl ymhlith ymgynghoreion yn gogwyddo o blaid yr ail ddewis. Mae pryder hefyd y gall ymgysylltiad â Cyswllt Ffermio, i nifer, fod yn gymharol gul a/neu ysgafn: nid oedd chwarter y rheini a oedd wedi cofrestru wedi ymgysylltu[2] ag unrhyw gefnogaeth Cyswllt Ffermio, ac roedd tua hanner y rheini a oedd wedi ymgysylltu wedi derbyn cefnogaeth gan ddim ond un o dair elfen Cyswllt Ffermio.

Mae llywio drwy gynnig Cyswllt Ffermio wedi bod yn heriol[3]. Mae Swyddogion Datblygu yn chwarae rôl hollbwysig mewn annog ymgysylltu a hwyluso siwrneiau rhai ffermwyr drwy Cyswllt Ffermio, ond mynegodd buddiolwyr rwystredigaeth gyda diffyg un pwynt cyswllt o fewn y rhaglen. Mae ehangder Cyswllt Ffermio yn gryfder, ond gellid gwneud mwy i becynnu, integreiddio a chyfathrebu’r cynnig yn fwy effeithiol. Awgrymodd ffermwyr a rhanddeiliaid allanol fod cwmpas da i ddarparu cefnogaeth fwy ‘personol’ a ‘chyfannol’, gyda gweithgareddau Cyswllt Ffermio yn cael eu hintegreiddio’n well, wedi’u llywio’n well gan waelodlin effeithiol, ochr yn ochr â dull mwy effeithlon ar gyfer hwylusiad a ‘phrocio’ drwy siwrnai’r cwsmer. Roedd hyn yn angenrheidiol, er mwyn cael ‘gwir effaith’ a ‘newid sylweddol’ yn y sector[4].

[2] h.y. ymgysylltu ag un neu fwy o weithgareddau Cyswllt Ffermio, yn hytrach na derbyn deunyddiau Cyswllt Ffermio yn unig (mae pob ffermwr cofrestredig yn derbyn e-byst gwybodaeth gyffredinol ac ati)

[3] Cyflwynodd diweddariad Cyswllt Ffermio fesurau sydd wedi'u bwriadu i wella gallu ffermwyr i lywio drwy’r gefnogaeth, megis nodi llwybr(au) cliriach i ddilyn drwy’r cynnig ac ailgynllunio'r wefan.

[4] Mae ymdrechion mwy diweddar i greu ‘pecynnau blaengar’ o gefnogaeth Cyswllt Ffermio, gydag ymgyrchoedd yn rhedeg ochr yn ochr ag elfennau cefnogaeth rhyng-gysylltiedig, yn gam i'w groesawu i'r cyfeiriad cywir.

Pa mor effeithiol ac effeithlon y mae’r rhaglen yn cael ei chyflenwi, ei rheoli a’i llywodraethu?

Amlygwyd nifer o agweddau ar Cyswllt Ffermio fel arfer da ar draws dau gam y gwaith. Yn hollbwysig, mae’r cynnig yn canolbwyntio ar beth sydd angen newid, a pham a sut y gellir gwneud hyn mewn modd ymarferol a chost effeithiol. Mae nodweddion sydd wedi gweithio’n dda yn cynnwys dulliau hunangymorth a dysgu gweithredol, gan annog buddiolwyr i hunanddiffinio nodau ‘o’r gwaelod i fyny’ er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd yn dda â’u hanghenion ac yn ymrwymo i’r broses, dysgu ymarferol ar ffermydd a chefnogaeth rhwng cymheiriaid, a hyblygrwydd i addasu ffocws gweithgaredd mewn ymateb i amgylchiadau sy’n newid ac fel eu bod yn addas i batrwm gweithio’r rhai sy’n gysylltiedig. Mae hwyluso yn bwysig er mwyn rhoi strwythur, her a momentwm, ynghyd â mewnbwn gan gynghorwyr/siaradwyr o safon uchel a ‘dibynadwy’ i roi ysbrydoliaeth ac arbenigedd. Gwelwyd bod meincnodi yn ysgogwr allweddol ar gyfer newid ymddygiad, yn arbennig pan y’i gwneir mewn trafodaeth â chymheiriaid neu hwyluswyr.

Bu rhai newidiadau o ran cyflenwi, gan gynnwys amrywioldeb y soniwyd amdano yn ansawdd a chysondeb hwyluswyr/cynghorwyr, gallu’r Swyddogion Datblygu, y defnydd o ffenestri ceisiadau hyfforddiant, a rheoli’r defnydd o gefnogaeth sydd â ‘therfyn amser’ iddi. Gwnaeth ymgynghoreion hefyd awgrymu y gallai cyfleoedd fod yn cael eu colli ar gyfer ffermwyr sydd eisiau gwthio ymlaen; gellid rhoi llwybrau cliriach ar waith ar gyfer y ffermwyr mwyaf blaengar. Roedd pryder hefyd bod diffyg ffocws a diben clir mewn ymgysylltiad ffermwyr â Cyswllt Ffermio ar gyfer rhai cyfranogwyr, a bod asesiad anghenion ffermwyr ar y dechrau wedi bod yn ad hoc ac yn anghyson[5].

Teimlwyd bod rheolaeth y rhaglen wedi gweithio’n dda drwy gydol y gwerthusiad, gyda thîm profiadol a gwybodus iawn yn ei le. Roedd pwyslais cryf ar adborth a gwelliant parhaus yn gwneud Cyswllt Ffermio mor effeithiol â phosibl mewn amser real, a rheolwyd y rhaglen yn weithredol mewn ymateb i newid mewn anghenion ac amgylchiadau (fel y dangoswyd yn yr ymateb i COVID-19). Roedd newid sylweddol mewn trefniadau llywodraethu, a gafodd dderbyniad da, dros y flwyddyn ddiwethaf, yn cynnwys mwy o gynrychiolaeth sector preifat ar y Bwrdd Cynghori Strategol er mwyn rhoi mwy o her strategol a arweinir gan ddiwydiant. Mae gweithio mewn partneriaeth ar lefel weithredol wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ond roedd lle i gryfhau gweithio mewn partneriaeth ar lefel strategol o ran blaenoriaethu a chynllunio hirdymor. 

[5] Mae'r rhaglen wedi ceisio mynd i'r afael â'r materion hyn yn y diweddariad, trwy annog yr holl fuddiolwyr i gwblhau gwaelodlinau (gan gynnwys cynlluniau busnes, meincnodi, iechyd anifeiliaid a chynlluniau rheoli maetholion). Roedd ymgynghoreion yn teimlo bod hyn yn gam cadarnhaol ymlaen.

I ba raddau mae newidiadau a roddir ar waith ar ffermydd, yn arwain at y canlyniadau a’r effaith a fwriedir?

Dangosodd dystiolaeth y gwerthusiad sut y mae Cyswllt Ffermio wedi chwarae rhan hollbwysig mewn gosod ‘sylfeini ar gyfer newid’, gydag effaith sylweddol ar ganlyniadau personol megis newidiadau mewn cyfeiriad meddwl, agweddau, hyder ac uchelgais, ochr yn ochr â gwell sgiliau a gwybodaeth (o ran sgiliau busnes a thechnegol). Arweiniodd y manteision hyn at newid arferion rheoli, ac yn hollbwysig prosesau gwneud penderfyniadau mwy gwybodus a hyderus mewn busnesau. Mae Cyswllt Ffermio hefyd yn cael effaith (a gydnabyddir ond a dan-werthfawrogir yn aml) ar iechyd meddwl ffermwyr ac ar gryfhau rhwydweithiau yn y gymuned ffermio. 

Ar gyfer nifer o ffermwyr, mae’r gefnogaeth yn arwain at newidiadau graddol, ar raddfa fach dros gyfnod hir o amser. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod nifer o fusnesau bach iawn wedi’u ffrwyno oherwydd eu gallu a’u hadnoddau, felly mae angen i newidiadau fod yn fforddiadwy ac yn rhai y gellir eu rheoli. Efallai ei fod hefyd yn adlewyrchu’r modd y mae ymgysylltu â Cyswllt Ffermio (a llywio drwy’r cynnig) a diffiniad nodau o fewn nifer o’r gweithgareddau yn cael eu harwain gan y ffermwyr. Gwnaethom ganfod bod y datblygiadau bychan hyn ar draws nifer o agweddau o’r busnes yn cynorthwyo i greu mentrau mwy hyfyw a chynaliadwy yn y tymor hwy. Mae yna hefyd fanteision eang o ran effeithiau amgylcheddol ac iechyd anifeiliaid, yn arbennig o ran lleihad mewn defnydd gwrthfiotigau a gwrteithiau, rheoli adnoddau’n gynaliadwy a bioamrywiaeth. Yn ogystal, ar gyfer rhai sy’n cyfranogi, mae Cyswllt Ffermio wedi cael effaith fwy trawsnewidiol ar y busnes, er enghraifft drwy leihau costau’n sylweddol, gwella cynhyrchiant/cynnyrch neu arallgyfeirio.

Roedd neges gyson gan staff cyflenwi, rhanddeiliaid allanol a buddiolwyr mai cyfuniad o ymyriadau, ochr yn ochr â chefnogaeth Swyddog Datblygu neu fentor sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn sicrhau effaith. Mae buddiolwyr wedi cymryd nifer o lwybrau drwy’r cynnig, gan ei gwneud hi’n anodd sylwi ar batrymau neu wneud sylwadau ar pa lwybrau yw’r mwyaf effeithiol. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod cyfuniad o gefnogaeth grŵp cymheiriaid a chefnogaeth un i un yn hollbwysig i lawer, yn ogystal ag agweddau mwy dwys Cyswllt Ffermio (megis Agrisgôp ac Academi Amaeth) a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd bod â chynnig eang a’r gallu i lywio drwyddo.

Tynnwyd sylw at gyllid datblygu fel un o’r rhwystrau pwysicaf i roi newidiadau ar waith; ac er nad oedd hyn wedi’i gynnwys yn y Fanyleb wreiddiol ar gyfer Cyswllt Ffermio, mae’n ffactor bwysig sy’n llesteirio cyflawniad nodau’r rhaglen. Rhwystrau eraill i weithredu newid oedd materion amser/gallu/ymladd tân o fewn busnesau bach iawn, materion olyniaeth, a ffactorau allanol megis marchnadoedd, darpariaeth band eang ac amodau tywydd. Roedd rhai rhanddeiliaid allanol hefyd yn dadlau, er bod Cyswllt Ffermio wedi arwain at newidiadau mewn ymddygiad ac agwedd, mae’n ‘ceisio bod yn bopeth i bawb’ ac yn taenu’r gefnogaeth yn rhy eang a thenau - mae pryder bod hyn yn gwanhau effaith y rhaglen.

Ar y cyfan, mae Cyswllt Ffermio fel petai’n rhoi canlyniadau na fyddent wedi’u cyflawni o gwbl, neu a fyddai wedi cymryd mwy o amser, wedi bod o safon is neu’n llai cynaliadwy, heb y rhaglen. Hefyd, mae cyfraniad Cyswllt Ffermio o gymharu â ffactorau mewnol neu allanol eraill yn sylweddol - ychydig bach o’r buddiolwyr yr ymgynghorwyd â hwy oedd wedi gwneud newidiadau eraill i’w busnes ochr yn ochr â chefnogaeth Cyswllt Ffermio, ac os oeddent wedi gwneud hynny, cyfraniad prin neu dim cyfraniad o gwbl a wnaeth hyn i’r canlyniadau y sylwyd arnynt. Yr eithriad oedd grantiau, a oedd yn bwysig mewn galluogi ffermwyr i roi newidiadau ar waith.

Beth yw’r gwersi allweddol i lywio darpariaeth barhaus a chynllunio ymyriadau yn y dyfodol?

Roedd consensws ar draws y gwahanol randdeiliaid a buddiolwyr y bydd cefnogaeth i gynorthwyo’r sector ffermio i addasu a pharhau’n gystadleuol hyd yn oed yn bwysicach yn y dyfodol agos a thu hwnt, a bod y rhaglen bresennol yn darparu llwyfan cryf a werthfawrogir yn eang ar gyfer hyn. Fodd bynnag, mae canfyddiadau’r gwerthusiad yn codi rhai cwestiynau y credwn ni y dylai Llywodraeth Cymru a phartneriaid eu hystyried pan fyddant yn cynllunio rhaglenni yn y dyfodol.

Yn gyntaf, byddai’n ddefnyddiol i egluro a chanolbwyntio blaenoriaethau strategol Cyswllt Ffermio [6] yn arbennig yng nghyd-destun presennol Brexit a’r cyflymder y mae angen i’r sector ffermio addasu. Mae hyn yn cynnwys egluro rôl Cyswllt Ffermio o fewn ecosystem arloesi amaethyddol Cymru, a sut mae wedi’i integreiddio gyda chwaraewyr ac ymyriadau eraill yn y sector cyhoeddus/preifat.

Yn ail, dylai’r rhaglen ystyried gweithio mewn partneriaeth a rhwydweithio mwy ffurfiol a chyson gyda’r sector preifat a’r cyfryngwyr [7] i hwyluso rhwydweithio mwy effeithiol ar yr ‘ochr gyflenwi’, atgyfnerthu nodau allweddol Cyswllt Ffermio, ac annog gwell trosglwyddo gwybodaeth ar draws y gymuned ffermio’n ehangach (yn arbennig y rheini sy’n ymgysylltu â milfeddygon, banciau, cyfrifyddion ac ati, ond nid gyda Cyswllt Ffermio yn uniongyrchol). Dylai hyn adeiladu ar gydweithio gyda phractisau milfeddygon anifeiliaid mawr sy’n darparu Clinigau Iechyd Anifeiliaid ar gyfer Cyswllt Ffermio, er mwyn sicrhau bod ymgysylltu â chyfryngwyr yn fwy cyffredinol yn cael ei gynllunio a’i weithredu’n strategol.

Yn drydydd, asesu hyfywedd symud y model Cyswllt Ffermio tuag at ddull sydd wedi’i bersonoleiddio’n fwy, gyda rhywfaint o fynediad wedi’i hwyluso ar gyfer ffermwyr sy’n barod i newid. Nid yw hyn i ddweud y dylai Cyswllt Ffermio beidio â bod ar gael yn gyffredinol neu ganolbwyntio dim ond ar ffermwyr mwy ‘blaengar’, ond dylai’r rhaglen ystyried mecanweithiau mwy economaidd os yn bosibl (wedi’u hysbysu gan y profiad cadarnhaol yn ystod COVID-19 o gyflenwi ar-lein) ar gyfer yr elfennau cefnogaeth ‘eang neu bas’.

Yn bedwerydd, mae cwmpas - a galw amlwg gan rai ffermwyr - i gyflwyno syniadau mwy ysbrydoledig a heriau allanol i’r rhaglen er mwyn ysgogi ffyrdd newydd o feddwl. Yn y cyd-destun hwn, dylai’r rhaglen ystyried y cydbwysedd rhwng cefnogi’r sector ffermio ‘traddodiadol’ i ddod yn fwy cynhyrchiol/gwydn a galluogi cyfleoedd ar gyfer systemau cynhyrchu bwyd newydd ac arloesol[8].

Yn bumed, wrth i Gymru symud allan o’r UE, rhoddir mwy o bwyslais ar ganlyniadau ‘budd y cyhoedd’, yn arbennig mewn perthynas â’r amgylchedd. Dylai’r rhaglen ystyried cryfhau a hyrwyddo ei gynnig yn hyn o beth (mewn cydweithrediad â hwb gan y diwydiant yn gyffredinol).

Yn chweched, cryfhau’r sail tystiolaeth tanategol ar gyfer Cyswllt Ffermio, gan gynnwys: ymchwil wedi’i dargedu i ganfod nodweddion rhai nad ydynt yn gyfranogwyr a deall pam nad ydynt yn ymgysylltu â Cyswllt Ffermio; cryfhau casglu data o fewn rhaglen, yn arbennig o ran defnydd cyson a chynhwysfawr o waelodlinau a monitro cynnydd yn erbyn hyn; a chynnal dadansoddiad effaith ansoddol ar lefel rhaglen, drwy arolygon a/neu ganiatáu ar gyfer cysylltu data i setiau data cenedlaethol er mwyn cymharu perfformiad buddiolwyr a rhai nad sy’n cyfranogi dros amser.

[6] I'w nodi, ers cynnal yr ymchwil ar gyfer y gwerthusiad hwn a diweddariad y rhaglen, penodwyd SAB a Chadeirydd newydd ac mae strategaeth hirdymor ar gyfer Cyswllt Ffermio (gan ystyried Brexit a COVID-19) yn cael ei datblygu. 

[7] Yn ogystal â chyfarfodydd brecwast a gynhelir gyda chyfryngwyr a thaflenni a anfonir i werthwyr bwyd.

[8] I'w nodi, ers cynnal mae tystiolaeth o'r rhaglen yn hyrwyddo arloesedd, er enghraifft, trwy'r Sioe Arallgyfeirio ac Arloesi ym mis Hydref 2019 a ddenodd 1,500 o fynychwyr. Er y cynlluniwyd ar gyfer y digwyddiad yn ystod y cyfnod gwerthuso, cynhaliwyd y digwyddiad ar ôl y cyfnod gwerthuso.

Manylion cyswllt

Awduron: Hindle, R., Pates, R., and Barber, J. (SQW)

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tom Carwright
E-bost: RDPMandE@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 41/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-483-9

Image
GSR logo