Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiadau'n dwyn ynghyd canfyddiadau dau gam y gwerthusiad sy'n cynnig adolygiad o'r modd y darperir Cyswllt Ffermio a'i effaith ar ffermwyr a busnesau fferm.

Prif ganfyddiadau

  • Mae’r rhaglen wedi perfformio’n dda ac mae’n ‘adnabyddus’, ‘ymddiriedol’ ac yn ‘uchel ei pharch’ yn y sector yng Nghymru. 
  • Roedd yr amrywiaeth o gefnogaeth a’r hyblygrwydd a gynigiwyd gan y rhaglen yn bositif ac yn galluogi ymgysylltu â ffermwyr ag anghenion amrywiol a chapasiti amrywiol.
  • Mae ymgysylltu â'r rhaglen wedi bod yn dda gyda Chyswllt Ffermio yn ymgysylltu â nifer fawr o fusnesau fferm.  Fodd bynnag, mae cwestiynau ynghylch a ddylai cymorth yn y dyfodol ganolbwyntio ar gymorth manylach gyda llai o fusnesau fferm.
  • Mae Cyswllt Ffermio yn chwarae rhan bwysig yn creu’r sylfeini ar gyfer newidiadau mewn busnesau fferm a gefnogir.  Mae’n arwain at newidiadau cynyddrannol ar raddfa fach sydd ar agregau yn cael cyfraniad positif i'r sector amaethyddol.

Cyswllt

Tom Cartwright

Rhif ffôn: 0300 025 6024

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.