Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Roedd disgwyl i’r adolygiad ystyried: 

  • allbynnau’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP) hyd yma, gan gynnwys nifer y cyflogwyr a'r ymyriadau hyfforddiant a gefnogwyd, a’r mathau o ymyriadau hyfforddiant a ddarparwyd
  • canlyniadau ac effeithiau’r FSP mewn perthynas â chyflogwyr, gan gynnwys canlyniadau economaidd, yr effaith ar fusnes, y perthnasoedd a ffurfiwyd neu a gryfhawyd gyda darparwyr dysgu a’r hyn y byddai cyflogwyr wedi’i wneud heb y rhaglen
  • canlyniadau ac effeithiau'r FSP mewn perthynas â gweithwyr, gan gynnwys unrhyw ganlyniadau ac effeithiau'n ymwneud â'u cyflogaeth a'u sgiliau
  • gwelliannau posibl i’r FSP yn y dyfodol, gan gynnwys ystyried a yw’r cynllun a’r gyfradd ymyrraeth ar gyfer y rhaglen yn briodol, y cyrsiau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i ddiwallu'r galw, pa mor hyblyg ac ymatebol yw'r rhaglen i anghenion busnes, pa mor effeithlon yw taith y cwsmer o ran cael gafael ar gymorth drwy'r FSP a gwersi a ddysgwyd ar gyfer ymyriadau sgiliau yn y dyfodol.  

Cynhaliwyd yr adolygiad rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Ebrill 2024. 

Roedd y fethodoleg yn cynnwys ymchwil desg a gwaith maes gydag ystod eang o gyfranwyr gan gynnwys cyflogwyr a gweithwyr mewn busnesau sy'n derbyn cyllid FSP.

Prif ganfyddiadau

Canfu'r adolygiad fod yr FSP wedi parhau i sicrhau cyfatebiaeth gref â blaenoriaethau polisi sgiliau Llywodraeth Cymru ers ei sefydlu, er na roddir fawr o sylw i'r rhaglen ac na chaiff ei chrybwyll yn benodol mewn dogfennau polisi cenedlaethol trosfwaol cyfredol[troednodyn 1]. Mae'n cael cryn sylw mewn nifer o ddogfennau polisi sectoraidd allweddol, yn enwedig y ffrwd Gweithgynhyrchu Uwch a Pheirianneg[troednodyn 2] a'r ffrwd Greadigol[troednodyn 3], ac mae'n cyd-fynd â'r blaenoriaethau a nodir mewn nifer o ddogfennau polisi eraill yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â'r ffrydiau Digidol[troednodyn 4] a Sero Net[troednodyn 5]

Mae cynllun a strwythur yr FSP yn galluogi'r rhaglen i gefnogi prosiectau datblygu busnes mewn cwmnïau strategol bwysig yng Nghymru yn ogystal â hyrwyddo'r ffocws ar sgiliau sy'n flaenoriaeth i gyflogwyr allweddol yn fwy cyffredinol. Mae dyluniad y rhaglen yn caniatáu iddi wrando ar gynrychiolwyr diwydiant ac addasu ac esblygu'n barhaus. Yn hynny o beth, mae'n ymateb yn dda i anghenion diwydiannau a sectorau allweddol. Nid yw’r FSP yn rhaglen sy'n aros yn ei hunfan, ac mae tystiolaeth glir bod y tîm yn gwneud gwelliannau parhaus i’w chynllun a’i strwythur gan gadw’r baich gweinyddol mor fach ac ysgafn â phosibl. 

Mae’r FSP yn ategu’n dda raglenni sgiliau ehangach a gynigir gan Lywodraeth Cymru ac ni nodwyd unrhyw ddyblygu o bwys. Os rhywbeth, mae busnesau yn aml yn gwerthfawrogi hyblygrwydd a gallu’r FSP i ariannu cymorth pwrpasol ar gyfer hyfforddiant (gyda’r gyfradd ymyrraeth o 50 y cant) yn fwy felly na’r cyfraniad 100 y cant a ddarperir gan gynlluniau eraill, megis y Cyfrifon Dysgu Personol, sy’n awgrymu bod y dull gweithredu hwn yn ymateb yn dda i anghenion busnesau. 

Canfuwyd bod cwmnïau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu bod yn strategol bwysig yn gwerthfawrogi’r berthynas gref sy’n bodoli rhyngddynt a’r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ac roeddent yn teimlo bod y ffordd y dyluniwyd yr FSP yn caniatáu iddynt gomisiynu hyfforddiant sydd wedi’i deilwra i lenwi bylchau a symud y busnes yn ei flaen yn gyflymach ac ar raddfa fwy. Mae argaeledd posibl cyllid yr FSP hefyd yn chwarae rhan bwysig yng nghynnig Llywodraeth Cymru i gwmnïau sy'n awyddus i fuddsoddi yng Nghymru. 

Hyd yn hyn, mae’r FSP wedi cael ei hyrwyddo'n bennaf ar dafod leferydd neu drwy berthynas sy’n bodoli eisoes â pherson cyswllt yn Llywodraeth Cymru, ond mae tystiolaeth bod niferoedd cynyddol o gyflogwyr yn dod i wybod am y rhaglen drwy wybodaeth ar-lein a llenyddiaeth hyrwyddo. Dros y blynyddoedd nesaf, mae perygl y bydd gormod o alw am yr FSP, sydd â chyllideb fach, gan olygu y byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru ail-ddylunio’r rhaglen, er enghraifft drwy flaenoriaethu’r cymorth, tynhau’r meini prawf cymhwystra neu ostwng y cap ar y cyllid sydd ar gael fesul cyflogwr.  

Mae adborth gan gyflogwyr ar y broses ymgeisio a’r broses hawliadau ddilynol yn hynod gadarnhaol ac mae’r FSP yn enghraifft ragorol o sut y dylid rheoli rhaglen. Codwyd mân broblemau o ran eglurder a dehongli rhai o'r meini prawf cymhwystra neu gamddealltwriaeth o’r ffordd y mae’r rhaglen yn gweithredu – yn bennaf gan y cwmnïau hynny nad ydynt wedi cael cyswllt cychwynnol uniongyrchol â’r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr. 

Mae’r awdurdod a ddirprwywyd i’r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr i wneud penderfyniadau cyllido, a’r gallu i orglustnodi cyllid yn flynyddol yn cyfrannu at sicrhau bod y rhaglen yn rhedeg yn ddidrafferth. Yn gyffredinol, mae’r gofynion ar ymgeiswyr yn gymesur â’r swm o arian sy'n cael ei hawlio, ac mae’r FSP wedi symleiddio’r broses yn fwriadol ac yn bwrpasol gan sicrhau diwydrwydd dyladwy. Fodd bynnag, o ran y cyflogwyr sy'n tueddu i wneud hawliadau o flwyddyn i flwyddyn, byddai'n ddefnyddiol casglu adborth a thystiolaeth o ganlyniadau ac effeithiau ymrwymiadau cyllido blaenorol. 

Mae gan yr FSP gwmpas daearyddol da ar hyd a lled Cymru, ac mae'r galw o dde-ddwyrain Cymru yn arbennig o uchel, yn unol â dosbarthiad rhanbarthol busnesau yng Nghymru. Mae galw arbennig o uchel gan gwmnïau am y cymorth sydd ar gael drwy'r ffrwd Datblygu Busnes, yr elfen Gweithgynhyrchu Uwch a Pheirianneg a'r elfen Ddigidol. Ymddengys fod gwerth ariannol is i'r cyllid ar gyfer cwmnïau twristiaeth a lletygarwch ac mai cymharol isel yw'r galw am y cyllid a gellid ei ddadflaenoriaethu nawr bod effaith uniongyrchol Covid wedi lleihau. Mae'r galw am gymorth hyfforddiant drwy'r elfen Allforio yn isel hefyd. Mae’r data o'r wybodaeth fonitro, a’r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod ein gwerthusiad yn awgrymu y bydd y galw am gyllid yn y ffrydiau Creadigol a Sero Net yn cynyddu dros y blynyddoedd i ddod. 

Ychydig iawn o brosiectau partneriaeth sy'n gofyn am y swm llawn o gyllid hyfforddi sydd ar gael, sy'n awgrymu y gellid gostwng y cap i £20,000 yn y dyfodol. 

Mae’r FSP wedi cefnogi bron i 200 o geisiadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gan 144 o fusnesau, sy’n golygu bod tua 25 y cant yn ailgeisiadau gan fusnesau. Nid oes gan yr FSP ddata wedi’u holrhain ar wariant gwirioneddol (a darpariaeth) i’n galluogi i ddod i unrhyw gasgliadau penodol ynghylch gwerth am arian, ond ar sail y wybodaeth a ddarparwyd yn y ceisiadau llwyddiannus, cynlluniwyd dros 8,000 o ymyriadau hyfforddiant[troednodyn 6], sef cost gyfartalog o £384 fesul ymyriad i Lywodraeth Cymru.

Casglwyd tystiolaeth gref yn ystod y gwerthusiad sy'n dangos bod yr FSP yn cyfrannu at uwchsgilio'r gweithlu ac yn helpu cwmnïau gweithgynhyrchu uwch a pheirianneg yn arbennig i wella effeithlonrwydd a chystadleurwydd a sicrhau dyfodol cryfach yn eu rhanbarth. 

Nid yw’n bosibl adrodd ar ganlyniadau ac effeithiau ar lefel y rhaglen, gan nad yw tîm yr FSP yn casglu unrhyw ddata monitro gan gyflogwyr a gefnogir ar hyn o bryd i gynnal dadansoddiad o’r swyddi a grëwyd neu welliannau i drosiant neu broffidioldeb, ond mae rhywfaint o dystiolaeth anecdotaidd gan fusnesau bod hyfforddiant a ariannwyd gan yr FSP yn cyfrannu at y gwelliannau hyn mewn rhai achosion. 

Mae tystiolaeth bod yr FSP yn galluogi cyflogwyr i ddarparu mwy o hyfforddiant nag y byddent yn ei wneud fel arall. Mae cwmnïau'n defnyddio'r cyllid i ddyblu'r hyfforddiant a ddarperir yn hytrach na defnyddio'r FSP i haneru cost yr hyfforddiant y byddent wedi'i ddarparu beth bynnag. Ymddengys hefyd fod yr FSP yn galluogi cyflogwyr i gyllido hyfforddiant sy'n cyd-fynd â chynlluniau strategol tymor hwy ac anghenion y cwmnïau. Heb yr FSP, byddai cyllidebau hyfforddiant yn canolbwyntio'n bennaf ar gyllido hyfforddiant statudol a hyfforddiant sydd ei angen i ddarparu 'busnes fel arfer'. Felly, mae'n ymddangos bod cyllid yr FSP yn cael effaith gadarnhaol ar ba mor gyflym y gall busnesau wella eu cynhyrchiant a'u proffidioldeb. Ceir tystiolaeth hefyd bod yr FSP yn gwneud cyfraniad pwysig at wella sgiliau rheoli ac arweinyddiaeth mewn cwmnïau sydd wedi nodi hyn fel blaenoriaeth yn eu hamgylchiadau presennol. 

Mae gweithwyr yn gwerthfawrogi'r buddsoddiad a wneir ynddynt o ganlyniad i'r hyfforddiant ychwanegol sydd ar gael yn sgil cymorth yr FSP. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ac uniongyrchol ar forâl y staff ac mewn rhai achosion mae tystiolaeth bod hyfforddiant a ariannwyd gan yr FSP wedi cyfrannu at gadw staff. Dengys y dystiolaeth hefyd fod gweithwyr yn perfformio’n well ac yn cymryd mwy o gyfrifoldeb yn y gwaith o ganlyniad i ddilyn cyrsiau hyfforddi a ariennir gan yr FSP, ond mae llai o dystiolaeth o unrhyw effaith uniongyrchol ar gyflogau a dyrchafiad. 

Amlygodd sawl un o fusnesau'r astudiaethau achos effaith hyfforddiant arweinyddiaeth a rheoli nid yn unig o ran eu galluogi i wneud y defnydd gorau o dechnoleg newydd a phrosesau cynhyrchu, ond hefyd o ran ymateb i faterion yn ymwneud â chynllunio olyniaeth sy’n codi o weithlu sy’n heneiddio neu ymateb i bwysau ar weithluoedd presennol. 

Er bod yr FSP yn rhoi’r hyblygrwydd i gyflogwyr ddewis eu darparwyr hyfforddiant eu hunain, mae tystiolaeth bod hyn wedi galluogi cyflogwyr i fynnu hyfforddiant sydd wedi'i deilwra'n fwy i'w hanghenion, neu a ddarperir ar y safle, sydd yn ei dro yn galluogi niferoedd mwy o staff i gymryd rhan. Er na fu'n bosibl cynnal dadansoddiad manwl o leoliad daearyddol yr holl ddarparwyr hyfforddiant, mae'r dystiolaeth a gasglwyd drwy'r arolygon a'r archwiliadau manwl o gyflogwyr mewn astudiaethau achos yn awgrymu bod canran uchel o'r ddarpariaeth hyfforddiant yn dod o Gymru. Mae’r FSP hefyd yn helpu i ddatblygu neu wella perthnasoedd presennol rhwng cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yng Nghymru, gan gynnig cyfleoedd newydd anfwriadol i gyflwyno hyfforddiant a ddatblygwyd yn wreiddiol i ymateb i anghenion penodol cyflogwyr a ariennir gan yr FSP. 

Mae’r FSP yn rhaglen uchel ei pharch sy’n cael ei rheoli’n eithriadol o dda ac mae'n cael effaith gadarnhaol ar fusnesau Cymru. Mae arfer da a gwersi i’w dysgu o weithredu'r rhaglen a’i heffaith y dylid eu cyfleu a’u hefelychu'n ehangach ar draws Llywodraeth Cymru. 

Argymhellion

Isod, gwneir argymhellion ar lefel strategol a gweithredol ar gyfer darparu'r FSP yn y dyfodol:

Argymhellion Gweithredol

Argymhelliad 1

Dylai tîm yr FSP barhau i drafod anghenion y sector gyda chynrychiolwyr diwydiant priodol ac addasu'r meini prawf yn unol â hynny bob blwyddyn. Nid oes unrhyw fylchau amlwg yn y ddarpariaeth bresennol, ond awgrymwn y gellid dirwyn yr elfennau Allforio a Thwristiaeth/Lletygarwch i ben yn raddol dros y blynyddoedd nesaf. 

Argymhelliad 2

Rydym yn argymell bod yr FSP yn gostwng ei chap ar gyllid prosiectau partneriaeth i £20,000. Dylai hefyd ystyried pennu isafswm o £1,000 ar gyfer pob cais er mwyn osgoi denu gormod o geisiadau bach nad ydynt yn gost-effeithiol i'r tîm eu gweinyddu.

Argymhelliad 3 

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod meini prawf cymhwystra yr FSP yn cael eu hesbonio’n glir yn y canllawiau a'r deunyddiau hyrwyddo. Dylai'r ohebiaeth ag ymgeiswyr llwyddiannus hefyd amlygu bod modd diwygio ac addasu'r hyfforddiant yn ôl yr angen (e.e. os bydd darparwr yr hyfforddiant neu ddyddiad yr hyfforddiant yn newid). 

Argymhelliad 4 

Un o brif gryfderau'r FSP yw mai ychydig o wybodaeth y mae'n gofyn i ymgeiswyr ei darparu. Fodd bynnag, byddai’n fuddiol gofyn am rywfaint o dystiolaeth sylfaenol o allbynnau, canlyniadau ac effeithiau a gyflawnwyd gan yr holl ymgeiswyr llwyddiannus (drwy arolwg diwedd blwyddyn er enghraifft) neu o leiaf gan y rhai sy’n ymgeisio eto am gyllid (drwy gynnwys cwestiwn penodol ar eu ffurflenni cais) er mwyn casglu tystiolaeth o effaith yr FSP yn barhaus.

Argymhelliad 5 

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried a all unrhyw gyllid y cytunir arno fod ar gael i gwmnïau am 12 mis o’r dyddiad cymeradwyo yn hytrach na phennu gofyniad iddo gael ei wario erbyn diwedd blynyddoedd ariannol Llywodraeth Cymru, a hynny er mwyn cefnogi eu gwaith cynllunio ac ystyried yr amser y mae'n ei gymryd i drefnu ac amserlennu hyfforddiant o amgylch y galwadau dyddiol mewn rhai sectorau. 

Argymhelliad 6 

Dylai'r FSP barhau â'r hyfforddiant Arweinyddiaeth a Rheoli fel thema drawsbynciol lle mae'n cefnogi buddsoddiad technegol cysylltiedig (e.e. mewn meddalwedd neu brosesau newydd) a hefyd lle y ceir achos clir dros ymateb i anghenion cynllunio/olyniaeth yn y dyfodol. 

Argymhellion strategol

Argymhelliad 7 

O ystyried natur ysgafn y gwaith o weinyddu’r rhaglen FSP gan dîm bach o bobl, addasrwydd a hyblygrwydd ei dull gweithredu, y llwyddiant yn sgil cyfradd ymyrraeth o 50 y cant a’r effeithiau cadarnhaol y dywedir eu bod yn cael eu cyflawni gan gyflogwyr, byddai'n werth i Lywodraeth Cymru ystyried hyrwyddo’r rhaglen FSP yn ehangach a chynyddu'r gyllideb ar gyfer ei chyflawni. Drwy wneud hynny, gellid ystyried capasiti ychwanegol i ymgysylltu â BBaChau hefyd yn y model gweithredu. 

Argymhelliad 8

Mae'r FSP yn rhaglen sy'n esiampl i eraill, yn enwedig o ran y ffordd y mae wedi ceisio ymateb i'r galw a'r angen ac mae wedi symleiddio ei threfniadau gweinyddol yn unol â hynny ac mewn ffordd briodol. Dylid chwilio am gyfleoedd i dîm yr FSP rannu ei ddull gweithredu (gan gynnwys yr elfen gorglustnodi cyllid) yn ehangach a dylai Llywodraeth Cymru geisio efelychu’r math hwn o ddull yn ehangach ar draws ei rhaglenni cyllido eraill sydd wedi’u cynllunio i gefnogi anghenion busnesau Cymru.  

Troednodiadau

[1] Er enghraifft Rhaglen Lywodraethu: diweddariad, Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau a Cenhadaeth economaidd: blaenoriaethau ar gyfer economi gryfach

[2] Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru: Fframwaith Gweithredu

[3] Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol (Cymru Greadigol)

[4] Strategaeth Ddigidol i Gymru

[5] Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net

[6] Hynny yw, pob sesiwn hyfforddi a fynychwyd yn hytrach na phob unigolyn a hyfforddwyd. Gweithiwr sy'n mynychu mwy nag un sesiwn hyfforddi a fydd yn cael ei gyfrif bob tro fel 'ymyriad hyfforddiant'

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Heledd Bebb, Nia Bryer a Tanwen Grover, Ymchwil OB3

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Sean Homer
Ebost: cyflogadwyedd.sgiliau.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 50/2024
ISBN digidol 978-1-83625-207-8

GSR logo