Neidio i'r prif gynnwy

Nod y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd yw cynorthwyo oedolion di-waith i gael cyflogaeth gynaliadwy drwy wella eu sgiliau cyflogadwyedd.

Mae’r rhaglen yn wirfoddol ac wedi’i thargedu tuag at oedolion di-waith y credir y gallant fod yn gyflogadwy ymhen chwe mis.

Mae’r adroddiad yn gwneud wyth o argymhellion ar gyfer cyfnod cyflawni’r rhaglen sy’n weddill.

Prif ganfyddiadau

  • Gellir cyfeirio pobl i’r rhaglen o’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Cwmni Adsefydlu  Cymunedol a’r Ganolfan Byd Gwaith. Ar adeg y gwerthusiad, mae bron pob un o 3,273 o gyfranogwyr y Rhaglen wedi’u cyfeirio gan y Ganolfan Byd Gwaith.
  • Mewn perthynas â sicrhau canlyniadau cyflogaeth, ymddengys fod y rhaglen yn gweithio orau pan fydd hi’n gysylltiedig â chyfleoedd o ansawdd da o ran lleoliadau gwaith. Fodd bynnag, ni chafodd pob cyfranogwr gyfle i gael mynediad i leoliad gwaith. Fel arfer, roedd y cyfranogwyr hyn yn parhau’n ddi-waith ar ddiwedd y rhaglen.
  • Mae dichonoldeb masnachol y rhaglen yn parhau’n her i’r rhan fwyaf o ddarparwyr. Mae dichonoldeb masnachol y rhaglen yn ddibynnol ar sicrhau nifer digonol a nifer cyson o gyfranogwyr.
  • Mae’r ffodd y mae’r Rhaglen wedi’i dosbarthu’n ddaearyddol yn anghyson. Mae darpariaeth y rhaglen yn canolbwyntio ar yr ardaloedd trefol mwyaf poblog sef y llefydd y mae’r graddfeydd cyfeirio ar eu huchaf, ac maen nhw’n is yn yr ardaloedd gwledig llai poblog.
  • Nid cyflogaeth oedd unig ganlyniad cadarnhaol y Rhaglen ar gyfer cyfranogwyr. 
  • Roedd llawer o gyfranogwyr yn nodi eu bod wedi cael canlyniadau gwerthfawr mwy meddal fel datblygu sgiliau TGCh, cael profiad gwaith, meithrin cysylltiadau da, gwella eu CV a gwella eu sgiliau cyfweliad ar gyfer swydd.
  • Mae canlyniadau cyflogaeth llawer o’r cyfranogwyr (30%) yn parhau’n anhysbys, gan nad oedd darparwyr yn gallu cael manylion eu statws cyflogaeth.

Adroddiadau

Gwerthusiad o’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd: gwerthusiad canol rhaglen , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joanne Corke

Rhif ffôn: 0300 025 1138

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.