Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil i lywio polisi yn y dyfodol ar greadigrwydd yn y cwricwlwm.

Hyd yma mae canfyddiadau’r broses werthuso yn parhau i fod yn gadarnhaol yn gyffredinol, er bod rhai meysydd allweddol wedi’u nodi ar gyfer eu datblygu ymhellach, eu mireinio neu eu gwella er mwyn gwireddu’n llawn nodau a photensial Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau. 

Prif ganfyddiadau

Mae’r mwyafrif llethol o athrawon yn parhau i fod o’r farn bod y cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol wedi cael effaith gadarnhaol ar ddiddordeb a chyrhaeddiad dysgwyr. Serch hynny, nid yw’n waith hawdd cael gafael ar ddata i brofi’r safbwynt goddrychol hwn am nifer o resymau.

Fel yr amlygwyd yn yr adroddiad cynt, mae Cwricwlwm i Gymru yn dod yn ffactor cyd-destunol allweddol mewn perthynas â’r rhaglen Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau. Roedd hefyd yn farn gyffredinol fod rhaglen  Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau yn arbennig o berthnasol i Faes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol ac i addysgeg yn fwy cyffredinol o fewn Cwricwlwm i Gymru wrth iddo ddatblygu. Mae potensial gan y cwricwlwm newydd i gynyddu effaith a gwaddol bosibl y rhaglen, ei gwneud yn fwy perthnasol ac i greu mwy o ddiddordeb ynddi.

Mae adborth ysgolion ac athrawon ynghylch y gwaith o reoli’r rhaglen gan Gyngor y Celfyddydau yn parhau i fod yn gadarnhaol.

Adroddiadau

Gwerthusiad o’r rhaglen Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau: adroddiad 4 (gwerthusiad interim) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Cangen ymchwil ysgolion

Rhif ffôn: 0300 025 6812

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.