Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn bydd yn canolbwyntio ar asesu’r cynnydd a wnaed hyd yma a dechrau archwilio tystiolaeth o ganlyniadau sy’n dod i’r amlwg.

Yr ymchwil a gynhaliwyd yn ystod y cam hwn o’r gwerthusiad yn cynnwys:

  • Arolygon o athrawon, artistiaid a sefydliadau celfyddydol sy’n ymwneud â’r rhaglen, yn bennaf drwy Gynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol;
  • Ymweliadau ‘astudiaeth achos’ â saith ysgol a gefnogir gan Gynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol;
  • Cyfweliadau â rhanddeiliaid a fu’n ymwneud ag amryw elfennau o raglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau, gan gynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru, staff Cyngor Celfyddydau Cymru, ac unigolion a fu’n ymwneud â chyflawni gwahanol elfennau’r rhaglen (e.e. Rhwydweithiau Rhanbarthol y Celfyddydau ac Addysg).

Canfyddiadau allweddol

  • Er ei bod yn dal yn gynnar yn y broses werthuso, mae canfyddiadau’r cam hwn o’r broses werthuso yn gyffredinol gadarnhaol, gyda chynnydd yn cael ei wneud mewn perthynas â chyflawni’r rhaglen a rhywfaint o dystiolaeth o ganlyniadau cadarnhaol yn cael eu cyflawni.   
  • Mae maint rhaglen Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau yn wahanol i unrhyw beth a gyflawnwyd yn flaenorol. Bellach, mae cannoedd o athrawon, Asiantau Creadigol ac Ymarferwyr Creadigol wedi elwa o’r hyfforddiant a’r cysondeb o ran dull ledled Cymru, o gymharu â’r hyn oedd yn llond dwrn o ysgolion yn y gorffennol
  • Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol yw elfen fwyaf datblygedig y rhaglen hyd yma, gyda’i gynnydd, i ryw raddau o leiaf, ar draul datblygu gweithgareddau Maes 2 ymhellach. Dangosodd ysgolion ddiddordeb mawr yn y cynllun, ac mae amrywiaeth eang o ysgolion wedi cymryd rhan hyd yma
  • O safbwynt gweinyddol, bydd Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol yn cyrraedd brig yn ystod y flwyddyn academaidd sydd ar ddod, 2017/18, pan fydd yn debygol y bydd tua 400 o ysgolion yn cymryd rhan yn y cynllun
  • Mae’r astudiaethau achos hefyd yn dechrau nodi gwersi pwysig a ddysgwyd, gan gynnwys y canlynol:
  • Mae’r cynllun yn benodol o effeithiol lle y mae’n adeiladu ar ymrwymiad cyffredin a phenodol presennol yn yr ysgol i amlygu’r disgyblion i amrywiaeth eang o weithgareddau’r celfyddydau creadigol;
  • Mae’r cyflawni’n amrywio’n sylweddol rhwng yr ysgolion sy’n rhan o’r cynllun, yn dibynnu ar y mater(ion) y ceisiwyd mynd i’r afael â hwy a’r cyfrwng y maent yn cyflenwi ynddo yn ystod eu hamser fel Ysgol Greadigol Arweiniol;
  • Mae Cydlynydd yr Ysgol a’r Asiant Creadigol (a’r berthynas rhyngddynt) yn chwarae rôl hanfodol, yn arbennig mewn perthynas â’u gweledigaeth a’u dealltwriaeth ar gyfer manteisio’n llawn ar y cyfleoedd a gyflwynir gan y rhaglen;
  • Pwysigrwydd cydbwysedd effeithiol rhwng yr artist a’r athro; 
  • Mae myfyrio’n barhaus cyn cynllunio yn helpu i dargedu dysgwyr a rhoi ffocws i ddyluniad yr ymyriad; 
  • Mae cynnwys dulliau ar gyfer rhannu gwybodaeth yn golygu y gall yr holl athrawon mewn ysgol ymgysylltu â dull yr artist a chael dealltwriaeth ohono; 
  • Mae sicrhau cefnogaeth yr uwch arweinwyr yn golygu mai haws yw i bawb fabwysiadu’r arfer o ddefnyddio’r dulliau creadigol;
  • Mae dull penodol o gasglu tystiolaeth ar ran yr ysgol yn golygu y gall canfyddiadau’r disgyblion, dyfyniadau, gwaith wedi’i safoni gan athrawon, adborth rhieni a myfyrdodau athrawon fod yn rhan o’r adroddiad gwerthuso terfynol. 

Adroddiadau

Adroddiad 2: Adroddiad gwerthuso interim , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

David Roberts

Rhif ffôn: 0300 062 5485

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.