Neidio i'r prif gynnwy

Diben y rhaglen yw ceisio cryfhau sgiliau a gallu'r sector cyhoeddus yng Nghymru ym maes caffael.

Mae'r rhaglen yn cynnwys pum rhan wahanol:

  • Arweinyddiaeth
  • Cyrsiau hyfforddiant
  • Rhaglen Swyddogion Gweithredol Caffael dan Hyfforddiant
  • Cymorth ar gyfer prosiectau e-gaffael
  • Cymorth ar gyfer prosiectau arloesi.

Nodau’r gwerthusiad terfynol

Yn 2013, cwblhawyd gwerthusiad canol tymor o’r rhaglen Wella'r Byd Caffael. Bryd hynny, roedd tair o’r pum cainc yn mynd rhagddynt. Mae’r gwerthusiad terfynol yn adeiladu ar ganfyddiadau’r gwerthusiad canol tymor. Prif amcanion y gwerthusiad hwn yw:

  • asesu cynnydd ar draws pob un o bum cainc y gwerthusiad a ph’un a fodlonwyd amcanion y rhaglen ai peidio
  • asesu sut mae’r rhaglen wedi rhoi’r argymhellion o’r gwerthusiad canol tymor ar waith
  • deall y mewnbynnau, gweithgareddau a’r prosesau sydd wedi gwneud y canlyniadau a gyflawnwyd gan y rhaglen yn bosibl (adrodd ar y
    ffactorau allweddol sydd wedi helpu neu lesteirio cynnydd)
  • asesu effaith y rhaglen, i’r graddau y mae’n bosibl ei chanfod yn yr amser ers rhoi’r gweithgareddau ar waith
  • amlinellu’r prif wersi a ddysgwyd wrth gyflwyno’r rhaglen hon, a gwneud argymhellion ar gyfer cyflwyno rhaglenni gwaith tebyg yn y dyfodol.

Adroddiadau

Gwerthusiad o'r rhaglen defnyddio doniau i Wella'r Byd Caffael: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o'r rhaglen defnyddio doniau i Wella'r Byd Caffael: adroddiad terfynol (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 415 KB

PDF
415 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joanne Corke

Rhif ffôn: 0300 025 1138

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.