Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn 2015, sicrhaodd Llywodraeth Cymru arian gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) i gefnogi rhan o ddarpariaeth ei Rhaglen Brentisiaethau sy’n cynnwys pedwar gweithrediad ESF ledled Cymru ar gyfer y cyfnod o fis Ionawr 2015 i fis Mawrth 2019, a gafodd ei estyn wedyn hyd 2023. Dyfarnwyd arian i bedwar prosiect o dan ddau o Amcanion Penodol (AP) ESF yn Echel Blaenoriaeth 2 (Sgiliau ar gyfer Twf).

  1. Amcan Penodol 1 (AP1): cynyddu lefelau sgiliau, gan gynnwys sgiliau sy'n berthnasol i waith, y rhai yn y gweithlu sydd â sgiliau isel os o gwbl;
  2. Amcan Penodol 2 (AP2): cynyddu nifer y bobl yn y gweithlu sydd â sgiliau technegol a phenodol i waith ar lefel ganolraddol ac uwch.

Mae’r amcanion hyn wedi eu rhannu ymhellach yn ddau ranbarth NUTS2[1] a ddynodwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, sef Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, a Dwyrain Cymru. Asesir y perfformiad yn erbyn yr amcanion hyn mewn perthynas â’r targedau a osodwyd ar gyfer y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghynlluniau Busnes ESF (Ionawr 2015, fe’u hadolygir yn rheolaidd). Ar gyfer targedau sy’n ymwneud â nifer gyfan y prentisiaid, gosodir targedau absoliwt mewn perthynas â nifer y cofrestriadau. O ran y targedau ar gyfer cyfranogaeth mewn prentisiaethau ymysg is-grwpiau, neu ar gyfer canlyniadau prentisiaethau, mynegir y rhain yn nhermau canrannau o brentisiaid. Dylid nodi bod canfyddiadau’r adroddiad hwn felly’n canolbwyntio ar brentisiaid a ariennir gan y rhaglen ESF, ac nid yw’r data a’r canfyddiadau’n cynnwys prentisiaid nad ydynt yn cael eu hariannu gan fentrau ESF.

Mae’r adroddiad yn nodi’r canfyddiadau a gafwyd o werthusiad a wnaed o’r Rhaglen Brentisiaethau, ar gyfer y Prentisiaethau hynny a redwyd rhwng Ionawr 2015 a Mawrth 2019. Nod y gwerthusiad oedd asesu effeithioldeb, effeithlonrwydd ac effaith y Rhaglen dros y cyfnod hwnnw.

Gwerthusiad

Roedd ffocws y gwerthusiad ar berfformiad ac effaith y Rhaglen, gyda rhywfaint o adolygiad o’r prosesau dylunio a darparu. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi sut y perfformiodd y Rhaglen wrth gael ei gweithredu, barn y dysgwyr, darparwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid ynglŷn â pha mor dda y cafodd ei darparu, a’r effaith y mae’r Rhaglen wedi’i chael arnyn nhw.

Cafodd y gwerthusiad wedi’i seilio ar ystod o ffynonellau gwybodaeth, gan gynnwys ymchwil cynradd gyda dysgwyr, darparwyr hyfforddiant a rhanddeiliaid, yn ogystal â data eilaidd, sydd wedi eu crynhoi ym Mhennod 2 yr adroddiad. Roedd y rhanddeiliaid a fu’n cymryd rhan yn yr ymchwil cynradd hwn yn cynnwys cyrff cyhoeddus, ffederasiynau hyfforddiant, sefydliadau trydydd sector, a chyrff cynrychioli darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr, yn ogystal â swyddogion polisi Llywodraeth Cymru.

[1] Mae rhanbarthau NUTS2 (Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth Lefel 2) yn ardaloedd daearyddol a enwir gan yr Undeb Ewropeaidd (UE), ac a ddefnyddir i gynllunio a monitro nifer o fentrau’r UE.

Prif ganfyddiadau

Cynllun y rhaglen: gweinyddiaeth a chomisiynu

Cafodd y polisi ar brentisiaethau yng Nghymru ei ddiweddaru ddiwethaf ym mis Chwefror 2017, yn y Cynllun Polisi Sgiliau Prentisiaethau[2] (‘Cysoni’r model Prentisiaethau ag anghenon economi Cymru)’. Mae crynodeb o bolisïau Llywodraeth Cymru ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn ym Mhennod 3.

Yn gyffredinol, roedd y rhanddeiliaid a darparwyr a gymerodd ran mewn cyfweliadau ansoddol yn teimlo bod y broses ar gyfer comisiynu’r Rhaglen Brentisiaethau 2015-2019 yn gadarn, yn deg a thryloyw, er ei bod yn hir ac yn gofyn llawer o adnoddau. Fodd bynnag, roedd yr ansicrwydd ynglŷn â’r broses fidio’n fater difrifol i ddarparwyr lle’r oedd prentisiaethau’n cyfrif am gyfran fawr o’u busnes cyffredinol. 

Roedd gan ddarparwyr hefyd bryderon am gyflwyniad rhai o’r mentrau newydd. Beirniadwyd cyflwyniad Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) yn arbennig. Roedd y cyfweliadau manwl gyda darparwyr yn awgrymu bod nifer ohonynt wedi ei chael hi’n anodd gwneud y newidiadau i’w harferion gweithio o fewn y cyllidebau a luniwyd cyn cyflwyniad yr ESW.

Cynllun y rhaglen: strwythur a hyd

Cafwyd sylwadau cadarnhaol yn arolwg y cyflogwyr am strwythur a hyd y prentisiaethau; roedd tri chwarter (75%) y cyflogwyr yn teimlo bod y strwythur a’r hyd yn addas i’w hanghenion. Roedd nifer o’r cyflogwyr a gymerodd ran yn y cyfweliadau manwl o blaid y drefn lle’r oedd prentisiaethau’n arwain at gymwysterau achrededig, er mwyn gwarantu bod prentisiaid wedi derbyn hyfforddiant digonol ac i’w galluogi i symud ymlaen i rolau lefel uwch o fewn y busnes. Yn gyffredinol, dywedodd y dysgwyr a gyfwelwyd bod y strwythur a’r hyd yn addas i’w hanghenion.

Cynllun y rhaglen: pynciau, lefelau a chwricwlwm

Ar y cyfan, roedd y cyflogwyr a atebodd yr arolwg yn fodlon gyda’r amrywiaeth o feysydd pwnc a lefelau oedd ar gael (73%), a gyda chynnwys y fframweithiau (76%). Roedd y mwyafrif yn teimlo bod y symudiad tuag at brentisiaethau STEM yn gadarnhaol i economi Cymru, ond roedd busnesau nad oeddent yn cynnig pynciau STEM yn bryderus y gallai’r prentisiaethau a gynigiant golli eu blaenoriaeth.

Cynllun y rhaglen: prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog

Roedd rhanddeiliaid ac, i raddau llai, ddarparwyr yn hynod o gefnogol o’r polisi o gyflwyno prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Roedd y cyflogwyr a gyfwelwyd yn weddol gadarnhaol, er bod y rheiny oedd â’r diddordeb mwyaf yn gwsmeriaid neu’n gleientiaid oedd yn siarad yr iaith, ac roedd hi’n ymddangos mai dim ond nifer isel oedd yn gwybod bod cymwysterau cyfrwng Cymraeg ar gael.

Cynllun y rhaglen: yr ardoll brentisiaethau[3]

Yn gyffredinol, roedd rhanddeiliaid yn teimlo bod Treth Ardoll Brentisiaethau Llywodraeth y DU wedi cynyddu’r galw gan gyflogwyr am brentisiaethau. Roedd rhai darparwyr yn bryderus ynglŷn â’r tensiwn rhwng galwadau’r cyflogwyr oedd yn talu ardollau, a’u goblygiad cytundebol i roi ffocws ar lwybrau blaenoriaeth a symud i ffwrdd oddi wrth ddarpariaeth Lefel 2.

Cynllun y rhaglen: meysydd i’w gwella

Roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo mai un gwelliant allweddol fyddai hwyluso llwybrau cynnydd gwell i brentisiaethau drwy eu cysylltu ar draws y gwahanol lefelau. Byddai hyn yn annog prentisiaid, cyflogwyr a darparwyr i weld y Rhaglen mewn ffordd fwy cyfannol ac edrych arni mewn ffordd debyg i gymwysterau academaidd. Roedd rhai o’r rhanddeiliaid a darparwyr eraill a gyfwelwyd yn teimlo y byddai modd sicrhau parch cydradd i brentisiaethau a phrifysgolion drwy weithio gyda chynghorwyr gyrfaoedd, disgyblion ysgol ac, yn ehangach, gyda phobl ifanc a rhieni.

Wrth iddynt ateb yr arolwg, gwelwyd bod blaenoriaethau’r darparwyr yn ymwneud yn amlach â gweinyddiad y Rhaglen; a’r ymateb mwyaf poblogaidd o bell ffordd pan ofynnwyd iddynt pa welliannau y bydden nhw’n hoffi eu gweld oedd bod cynllun y gofynion gan ESW yn cael eu hail asesu (30%).

Darpariaeth a gweithrediad y rhaglen: partneriaethau a hyrwyddo

Yn gyffredinol, roedd barn yr ymatebwyr yn gadarnhaol am y berthynas rhwng y sefydliadau oedd yn ymwneud â darparu’r Rhaglen Brentisiaethau. Roedd y rhanddeiliaid yn fodlon gyda’r strwythurau oedd wedi esblygu (neu gael eu creu) i hwyluso cyfathrebiad rhwng y sefydliadau oedd yn darparu prentisiaethau.

Roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i gryfhau ei pherthynas â chyflogwyr. Roedd y berthynas rhwng y cyflogwyr a’r darparwyr yn gryf; ond roedd hi’n her o hyd i ddarbwyllo cyflogwyr i gymryd rhan yn y Rhaglen yn y lle cyntaf.

Yn y cyfweliadau ansoddol, roedd cyflogwyr yn dweud yn aml mai’r unig ffynhonnell wybodaeth roeddent yn ymgynghori â hwy am brentisiaethau oedd darparwyr hyfforddiant lleol. Er bod cyflogwyr yn ymddangos yn wybodus iawn am yr hyn yr oedd angen iddynt ei wneud i helpu eu prentisiaid cyfredol, roedd tystiolaeth i ddangos bod bylchau gwybodaeth ymysg rhai cyflogwyr o ran yr amrywiaeth o brentisiaethau oedd ar gael, ac atgyfnerthwyd hynny gan y cyfweliadau â rhanddeiliaid.

Roedd hi’n elfen gyffredin bod y darparwyr yn teimlo y dylai Llywodraeth Cymru wneud rhagor ar lefel genedlaethol i hyrwyddo prentisiaethau i bob cynulleidfa. Ond, roedd rhai rhanddeiliaid yn weddol feirniadol o ddarparwyr yn y maes hwn ac yn teimlo y dylent gymryd mwy o gyfrifoldeb am hyrwyddo prentisiaethau

Darpariaeth a gweithrediad y rhaglen: perfformiad y darparwr

Roedd bron i dri chwarter (72%) y cyflogwyr yn gadarnhaol am eu prif ddarparwr prentisiaethau, gan roi 4 neu 5 allan o bump iddynt ar y brif lefel. Yn gyffredinol, roedd y mwyafrif llethol o brentisiaid a arolygwyd yn fodlon gyda’u darparwr hyfforddiant (88%) a’u cyflogwr (85%).

Roedd gan y rhanddeiliaid o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru a gyfwelwyd ar gyfer yr ymchwil farn gymysg am ddarparwyr hyfforddiant. Er bod y mwyafrif o’r ymatebwyr hyn yn teimlo, yn gyffredinol, bod y darparwyr hyfforddiant yn ateb gofynion y Rhaglen, roedd rhai’n credu bod meysydd o’r ddarpariaeth – ansawdd yr addysgu a’r ymgysylltiad â chyflogwyr – yn anghyson.

Darpariaeth a gweithrediad y rhaglen: rhwystrau i’r ddarpariaeth

Roedd y mwyafrif o gyflogwyr (86%) yn teimlo ei bod hi’n debygol y byddent yn parhau i ddarparu prentisiaethau yn y dyfodol, gyda bron i ddwy ran o dair o’r cyflogwyr hyn (64%) yn dweud ei bod hi’n debygol y byddent yn cynyddu nifer y prentisiaethau y maent yn eu darparu.

Dywedodd ychydig dros chwarter y darparwyr hyfforddiant eu bod wedi wynebu rhwystrau wrth geisio sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau (27%), recriwtio mwy o brentisiaid gydag anableddau neu anawsterau dysgu (12%) neu fwy o bobl o leiafrifoedd ethnig (14%). Dywedodd mwy na hanner y cyflogwyr (56%) nad oedd cydbwysedd rhwng y rhywiau ymysg eu prentisiaid; fel arfer roedden nhw’n teimlo mai’r rheswm am hyn oedd natur y sector/diwydiant (49%). Roedd llawer llai ohonynt wedi sôn am anawsterau gyda chyflogi prentisiaid gydag anableddau neu anawsterau dysgu (12%). Dywedodd bron i hanner y rhain (48%) mai’r rheswm am hyn oedd nad oedd y rolau i brentisiaid yn eu sefydliad hwy’n addas i unigolion gydag anableddau.

Roedd llawer o’r darparwyr hyfforddiant (66%) wedi wynebu rhwystrau mewn perthynas â darparu prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog, a byddent yn esbonio hyn fel arfer drwy ddweud bod prinder staff oedd yn siarad Cymraeg (60%). Roedd rhai rhanddeiliaid yn dadlau nad oedd darparwyr dysgu’n creu digon o gyfleoedd ar gyfer dysgu dwyieithog, ar sail y camsyniad bod y galw’n isel. Roedd yr hyn a ganfuwyd mewn cyfweliadau â chyflogwyr yn awgrymu bod yr ymwybyddiaeth yn gyfyngedig yn y grŵp hwn, gyda nifer ohonynt yn ymateb i gwestiynau fel petai prentisiaethau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog heb ddod ar gael eto.

Perfformiad y rhaglen

Yn gyffredinol, roedd y rhanddeiliaid a’r cyflogwyr yn fodlon gyda’r ffordd yr oedd y rhaglen yn perfformio. Roedd y targedau oedd heb eu cyflawni ar lefel gyflawn yn ymwneud â’r cydbwysedd rhwng y rhywiau a’r gyfran o ddysgwyr gydag anabledd neu gyflwr iechyd oedd yn cyfyngu ar eu gallu i weithio, ond dim ond o nifer fechan y methwyd y targedau hyn. Methwyd y targedau AP1 a AP2 ar wahân i ddysgwyr iau o nifer fawr; ond y rheswm pennaf am hynny oedd cyflwyniad y Prentisiaethau pob oed, nas rhagwelwyd ar yr adeg pan osodwyd y targedau amser. Er hynny, mae’n nodedig bod y nifer absoliwt o ddysgwyr 19 i 24 oed wedi bod yn gostwng ers 2015, a bod y nifer dan 19 oed wedi cynyddu o ddim ond 9%.

Mae’n debyg bod gan y gostyngiad hwn mewn dysgwyr iau ryw gysylltiad â’r ffaith y methwyd y targedau - o ymylon sylweddol - ar gyfer nifer y prentisiaethau yng Ngweithredu Strategol 1 yn Nwyrain Cymru a Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Mae’r Gweithredu Strategol hwn yn ymwneud yn bennaf â dysgu ar Lefel 2 (82% o’r holl brentisiaethau yn GS1) - rhaglenni sy’n tueddu i gael eu dewis gan ddysgwyr iau. Nid yw’r gostyngiad mewn prentisiaethau Lefel 2 a welwyd ymysg dysgwyr iau na 25 yn cael ei wrthbwyso gan unrhyw gynnydd yn y defnydd o brentisiaethau Lefel 3 ymysg yr un grŵp.

Yn gyffredinol, fodd bynnag, ystyriwyd bod y rhaglen yn rhoi gwerth da am arian i randdeiliaid a chyflogwyr fel ei gilydd, er bod strwythurau gweinyddol cymhleth yn amharu ar hynny i rai cyflogwyr a darparwyr.

Roedd rhai darparwyr yn teimlo y dylai’r targedau a osodir fod ag arlliw mwy daearyddol a sectoraidd. Gellid dadlau bod angen addasu rhai targedau (cyfranogaeth BAME, a phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn arbennig) er mwyn rhoi ystyriaeth i gyfansoddiad demograffig yr ardal y mae’r targed yn ymwneud â hi.

O ran y mannau lle gellid gwella, mae’r ffaith fod amrywiaeth eang yn y perfformiad rhwng gwahanol Feysydd Pwnc Sector yn awgrymu y gallai mentrau sydd wedi eu teilwra’n benodol i sectorau unigol fod yn gynhyrchiol. Efallai y gellid cyfiawnhau gwneud rhagor o ymchwil i’r rhesymau manwl pam nad yw’r gostyngiad mewn pobl dan 25 oed sy’n cymryd Prentisiaethau Lefel 2 yn cael ei wrthbwyso’n sylweddol gan gynnydd yn y nifer sy’n cymryd Prentisiaethau Lefel 3 ymysg yr un grŵp oedran.

Effeithiau’r rhaglen: prentisiaid

Roedd y mwyafrif o gyflogwyr a gymerodd ran yn yr arolwg cyflogwyr yn teimlo bod y Rhaglen wedi cael effaith gweddol gadarnhaol ar y prentis(iaid) yr oeddent wedi eu cyflogi (86%). Roedd y mwyafrif o’r prentisiaid a arolygwyd yn Arolwg Cyfranogwyr ESF i Gymru yn gadarnhaol hefyd am y gwelliant yn eu sefyllfa, er enghraifft ei bod wedi gwella eu hyder yn eu galluoedd (85%), yn ogystal â gwella eu cynnydd gyrfaol (76%).

Cafodd hyn ei gefnogi gan y dadansoddiad budd a chost oedd yn defnyddio data am incwm a chyflogaeth o’r Deilliannau Addysg Arhydol (LEO), oedd yn dangos bod mantais gref i’r gymhareb gostau ar gyfer y Rhaglen (1.48 i 1.59, yn dibynnu ar y tybiaethau a ddefnyddiwyd) o’i gymharu â’r ddarpariaeth nad oedd yn brentisiaethau (y ‘gwrthffeithiol’), hyd yn oed ar orwel amser byr iawn (dwy flynedd) [4]. Roedd effeithiau’r Rhaglen yn ôl y dadansoddiad hwn yn cynnwys cynnydd o 29 pwynt canran yn y gyfradd fynediad i swyddi o’i gymharu â darpariaethau eraill (y ‘gwrthffeithiol’) ac, yn y flwyddyn gyntaf ar ôl cwblhau, cynnydd o 119 o ddyddiau mewn cyflogaeth a £7,866 mewn enillion.

Roedd rhai meysydd oedd angen eu gwella; roedd rhai o’r prentisiaid a gyfwelwyd yn teimlo’n rhwystredig bod rhaid iddynt gwblhau elfennau ESW eu cwrs, am eu bod yn teimlo mai ychydig iawn yr oedden nhw wedi’i ddysgu nad oedden nhw’n ei wybod yn barod. Gallai hyn fod yn gysylltiedig â’r anawsterau y soniodd y darparwyr hyfforddiant amdanynt gyda’r broses o achredu cymwysterau blaenorol.

Effeithiau’r rhaglen: cyflogwyr

I gyflogwyr, y gallu i siapio prentisiaid i ateb anghenion newidiol y busnes ac ymdrin â bylchau sgiliau oedd effeithiau mwyaf cadarnhaol y rhaglen. Roedd y mwyafrif o gyflogwyr yn yr arolwg meintiol wedi sôn am effeithiau cadarnhaol iddyn nhw eu hunain (76%) a’r sector ehangach (65%). Pe na bai’r Rhaglen Brentisiaethau’n bodoli, roedd y mwyafrif o gyflogwyr yn teimlo y byddent yn gallu canfod ffyrdd eraill o recriwtio a hyfforddi eu gweithwyr cyfredol a gweithwyr newydd, er nad oedd unrhyw rai o’r rheiny a gyfwelwyd yn y trafodaethau ansoddol yn credu y byddai hyn yn opsiwn gwell. 

Effeithiau’r rhaglen: sgiliau

O ran yr effaith gyffredinol a ddymunir, nod sylfaenol y ddau weithrediad ESF yw gwella sgiliau yn y gweithlu ar ddwy lefel.

  1. Amcan Penodol Un (AP1): cynyddu lefelau sgiliau, gan gynnwys sgiliau sy'n berthnasol i waith, y rhai yn y gweithlu sydd â sgiliau isel os o gwbl.
  2. Amcan Penodol Dau (AP2): cynyddu nifer y bobl yn y gweithlu sydd â sgiliau technegol a phenodol i waith ar lefel ganolraddol ac uwch.

Er eu bod yn gadarnhaol ar y cyfan, roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo bod y gostyngiad mewn cyllid i brentisiaethau Lefel 2 wedi cyfaddawdu’r nod cyntaf, ond bod mwy o gynnydd yn yr ail nod ers 2015 oherwydd y prentisiaethau pob oed a’r ffocws ar lefelau uwch. Roedd canlyniadau Arolwg Cyfranogwyr ESF i Gymru o brentisiaid hefyd yn awgrymu bod y Rhaglen yn cefnogi’r nodau hyn yn ymarferol. Dywedodd y mwyafrif o’r prentisiaid (82%) eu bod wedi dysgu sgiliau penodol i swydd o ganlyniad i’w cyrsiau.

Awgrymodd nifer o’r prentisiaid a gymerodd ran mewn cyfweliadau manwl eu bod wedi dysgu’r sgiliau oedd yn cael eu darparu ar eu prentisiaethau yn barod, a hynny drwy eu profiad blaenorol. Fodd bynnag, roedd rhai ohonynt yn falch bod y Rhaglen wedi cadarnhau eu gwybodaeth ac roedd hyn wedi rhoi hyder iddynt. Roedden nhw hefyd yn teimlo ei bod hi’n ddefnyddiol ennill cymhwyster sy’n cydnabod y sgiliau sydd ganddynt yn barod.

Gofynnwyd i randdeiliaid, cyflogwyr a darparwyr hyfforddant i ba raddau yr oedd y Rhaglen wedi gwneud dysgu’n hygyrch i drawstoriad ehangach o gymdeithas. Er bod y mwyafrif yn gadarnhaol, dim ond rhai ohonynt oedd yn teimlo y gallent roi barn derfynol.

Teimlwyd hefyd bod y rhaglen yn cael effaith gadarnhaol ar economi ehangach Cymru, o ran codi lefelau sgiliau pobl oedd heb sgiliau neu oedd â lefel isel o sgiliau a chynyddu’r nifer o bobl yn y gweithlu oedd â sgiliau penodol i swydd, er bod rhanddeiliaid wedi ei chael hi’n anodd dangos tystiolaeth gadarn o hyn.

[2] Llywodraeth Cymru. (2017). Cynllun Polisi Prentisiaethau: Cysoni’r model Prentisiaethau ag anghenion economi Cymru. Chwefror 2017.

[3] Mae’r Ardoll Brentisiaethau’n ardoll ar gyflogwyr drwy’r DU gyfan a ddaeth yn weithredol ym mis Ebrill 2017. Mae cyflogwyr gyda bil cyflogau blynyddol o £3m neu fwy yn talu’r Ardoll, sy’n gyfatebol â 0.5% o fil cyflog y cyflogwr.

[4] Mae’r cyfyngiadau data’n golygu na allwn asesu canlyniadau am fwy na dwy flynedd ar ôl cwblhau prentisiaeth ar hyn o bryd; gydag amser, daw hi’n bosibl asesu’r effeithiau tymor hirach.

Manylion cyswllt

Adroddiad Ymchwil Llawn Foster, R; Winterbotham, M; Luanaigh, A; Morris, S; Downing, C; & Felton, F; IFF Research (2020) Gwerthusiad o Brentisiaethau a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop 2015 i 2019: Adroddiad Terfynol. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, Rhif Ymchwil Cymdeithasol 10/2021.

Barn yr ymchwilydd a fynegir yn yr adroddiad hwn, nid barn Llywodraeth Cymru o anghenraid.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Hannah Davies
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: hannah.davies018@llyw.cymru

Image
GSR logo

ISBN 978-1-80082-712-7