Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd gwerthusiad ffurfiannol ei gomisiynu i helpu i ddatblygu a phrofi'r rhaglen o archwiliadau iechyd.

Yn yr adroddiad hwn, nid asesir Ychwanegu at Fywyd ar gyfraddau cwblhau ond yn ôl sut mae defnyddwyr yn ymateb i’r cwestiynau yn yr arf ar-lein ac i gyngor a gwybodaeth yr adborth.

Canfyddiadau allweddol

  • Roedd lefel y cymorth a roddwyd gan staff Cymunedau yn Gyntaf y tu hwnt i'r hyn a fwriedir yn wreiddiol. Yn ymarferol, roedd staff Cymunedau yn Gyntaf yn ymwneud ag egluro cwestiynau ac ymatebion, trafod adborth, a chynnig cyngor ymarferol a chefnogaeth emosiynol.
  • Roedd y staff a oedd yn darparu'r gwasanaeth yn adrodd am heriau wrth ennyn diddordeb dynion, pobl nad ydynt yn cysylltu â gwasanaethau, a'r rhai hynny sydd dros 70 oed. Roedd y bobl hynny sydd â sgiliau llythrennedd TG isel yn amau pecynnau ar y we, gan greu rhwystr rhag cwblhau'r archwiliad neu gofrestru.
  • Ar y cyfan, derbyniwyd dyluniad Ychwanegu at Fywyd yn gadarnhaol. Fe’i hystyriwyd yn hawdd ei lywio. Ystyriwyd bod cwblhau Ychwanegu at Fywyd o gymorth i’r defnyddwyr a gafodd gefnogaeth gan staff, oherwydd rhoddodd gyfle iddynt drafod eu dewisiadau iechyd a ffordd o fyw. Yn benodol, gwerthfawrogwyd yr agwedd gymdeithasol ar gwblhau Ychwanegu at Fywyd mewn sefyllfa grŵp gyda chymorth. Teimlwyd ei fod yn llai defnyddiol ymhlith y rhai a’i cwblhaodd heb gymorth.
  • Y fersiwn Gymraeg - teimlwyd bod yr iaith yn rhy ffurfiol yn y fersiwn Gymraeg, ac felly roedd defnyddwyr Cymraeg iaith gyntaf yn ystyried ei bod yn llai hygyrch na'r fersiwn Saesneg.
  • Y cynnwys - bu gwrthwynebiad gan fod defnyddwyr o'r farn bod y pecyn 'yn rhy gyffredinol' neu nad oedd yn 'ddigon personol'.
  • Yr adborth - roedd defnyddwyr yn disgwyl y byddent yn derbyn adborth a oedd yn fwy personol. Ystyriwyd bod cynnwys yr adborth  yn rhy ddwys, rhy hir, ac nad oedd yn ddigon deniadol yr olwg.
  • At ei gilydd, roedd y cyngor a’r wybodaeth yn yr adborth a gafodd y defnyddwyr yn cadarnhau’r hyn roeddent eisoes yn ei wybod am statws eu hiechyd a’u lles. Mewn rhai achosion, ailddatganodd fwriad i newid ymddygiad. Roedd hi’n rhy gynnar ym mywyd y fenter hon i adrodd yn gynhwysfawr ar y cynnydd a wnaed tuag at ddeilliannau sy’n gysylltiedig â ‘chynnydd mewn ymddygiadau iach’. Roedd yr awgrymiadau i helpu cyflawni newid mewn ymddygiad yn cynnwys: gosod nodau, darparu gwybodaeth am wasanaethau lleol ac olrhain cynnydd a newid trwy gwblhau Ychwanegu at Fywyd yn rheolaidd.

Adroddiadau

Gwerthusiad o'r rhagarweiniad yr archwiliad iechyd a lles 'Ychwanegu at Fywyd' i bobl 50 oed a hŷn , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o'r rhagarweiniad yr archwiliad iechyd a lles 'Ychwanegu at Fywyd' i bobl 50 oed a hŷn: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 189 KB

PDF
189 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Janine Hale

Rhif ffôn: 0300 025 6539

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.