Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio canfyddiadau’r gwerthusiad diwedd prosiect y Prosiect Twristiaeth Treftadaeth (HTP), ac mae’n rhoi dadansoddiad o gyflawniadau terfynol y prosiect.

Ariannwyd yr HTP gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’i nod oedd cael y gwerth economaidd gorau o dreftadaeth yng Nghymru trwy gynyddu nifer, hyd a gwerth ymweliadau â Chymru. Ymdrechodd y prosiect hefyd i agor treftadaeth Cymru i gynulleidfa ehangach trwy ei gwneud yn ddifyrrach i ymwelwyr ac i bobl sy’n byw yng Nghymru.

Amcan y gwerthusiad hwn oedd asesu llwyddiant yr HTP o ran cwrdd â’i dargedau, ei effeithiolrwydd wrth gyflawni, a’r gwahaniaeth a wnaeth y buddsoddiad i sefydliadau ac ymwelwyr.

Mae’r adroddiad gwerthuso yn seiliedig ar raglen waith a gynhaliwyd rhwng Gorffennaf a Medi 2015 oedd yn cynnwys:

  • adolygu dogfennau perthnasol i gynllunio a chyflawni’r HTP
  • cynnal arolwg desg o lenyddiaeth polisi ehangach yn ymwneud â thwristiaeth treftadaeth yng Nghymru
  • cyfweld â chynrychiolwyr oedd yn ymwneud â 14 o fentrau y cafodd eu hariannu gan HTP a’u harwain gan sefydliadau allanol, gan gynnwys staff o chwe awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru
  • cyfweld â deg o staff Cadw yn ogystal â chwech o warcheidwaid Cadw oedd wedi eu lleoli ar safleoedd a ariannwyd gan HTP
  • cyfweld swyddogion Croeso Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
  • dadansoddi cynnyrch a chyflawniadau’r prosiect er mwyn cynnal asesiad terfynol o effaith economaidd yr HTP.

Adroddiadau

Gwerthusiad o’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 377 KB

PDF
377 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Heledd Jenkins

Rhif ffôn: 0300 025 6255

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.