Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi camau cynharach y gwerthusiad, Damcaniaeth Newid y prosiect a pherthnasedd PaCE yn hinsawdd polisi 2022.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o'r prosiect Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth
Effeithiau PaCE
Heb os, mae PaCE wedi cyflawni ei brif nod o helpu rhieni nad ydynt yn gweithio i symud i gael gwaith. Mae'r dadansoddiad yn amcangyfrif bod 1,567 yn fwy o unigolion (nag y byddai wedi gwneud fel arall) wedi dod o hyd i waith erbyn mis Hydref 2021. Mae cymryd rhan yn PaCE hefyd yn debygol o fod wedi cyflymu'r broses o symud ymlaen i gael gwaith i fwy fyth o gyfranogwyr.
Mae PaCE hefyd wedi cael effeithiau ehangach. I'r cyfranogwyr, mae'r rhain yn cynnwys: mwy o hyder; mwy o ymdeimlad o bwrpas; boddhad, cysylltiad cymdeithasol; cael mwy o arian a darparu model rôl da i'w plant. I deuluoedd y cyfranogwyr, mae’r rhain yn cynnwys: plant yn ffynnu o ganlyniad i brofi gofal plant ffurfiol a chael mwy o strwythur i'w bywydau.
Fodd bynnag, mae'r rhaglen wedi bod yn llai llwyddiannus nag a ragwelwyd yn wreiddiol o ran helpu cyfranogwyr i ennill cymwysterau/tystysgrifau cysylltiedig â gwaith neu wrth symud pobl ifanc i addysg neu hyfforddiant.
Adroddiadau
Gwerthusiad o'r prosiect Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE): gwerthuso crynodol terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Launa Anderson
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.