Neidio i'r prif gynnwy

Nod y prosiect yw cynorthwyo rhieni di-waith i dderbyn hyfforddiant neu swydd os mai gofal plant yw eu prif rwystr rhag gwneud hynny.

Mae'r adroddiad hwn yn ystyried:

  • a yw'r rhaglen yn cael ei chyflwyno yn ôl y bwriad
  • nodweddion y bobl sy’n cymryd rhan
  • natur y cymorth a ddarperir
  • perfformiad y rhaglen hyd yma.  

Canfyddiadau allweddol

  • Roedd gan 100% o gyfranogwyr PaCE gyfrifoldebau gofal plant ac roedd 96% ohonynt yn fenywod. 
  • Mae dros draean o'r holl gyfranogwyr wedi symud i mewn i waith, sy'n  sylweddol uwch na’r targed, sef 20%. 
  • Cyn ymuno â PaCE, roedd y rhieni'n brin o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r gofal plant sydd ar gael.
  • Ymddengys bod achosion o faterion iechyd meddwl lefel isel ymysg y bobl a gymerodd ran. 
  • Mae rhesymau cyfranogwyr dros ymgysylltu â PaCE yn amrywio, ond mae gan lawer ohonynt awydd gwirioneddol i ddod o hyd i waith. 
  • Yn gyffredinol, roedd gan gyfranogwyr berthynas dda â'u hymgynghorwyr.
  • Roedd y cyfranogwyr a oedd wedi ymgymryd â lleoliadau gwirfoddoli yn y gwaith yn hynod bositif am y profiad.  
  • Ymddengys bod systemau rheoli a gweinyddu yn gweithio'n dda ar y cyfan.
  • Mae'r gwaith o hyrwyddo PaCE wedi bod ar lefel eithaf isel.
  • Mae cynghorwyr PaCE yn gweithio o amrywiaeth o leoliadau cymunedol.
  • Ymddengys bod PaCE yn cael effeithiau ehangach ar gyfranogwyr a'u teuluoedd y tu hwnt i'w galluogi i symud i waith, addysg, hyfforddiant neu gymwysterau.

Bydd yr adroddiad nesaf yn y gyfres yn archwilio’r prosiect, ei effeithiau a’r gwerth am arian a gafwyd.

Adroddiadau

Gwerthusiad o'r prosiect Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth: gwerthuso ar y broses a'r allbynnau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o'r prosiect Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth: gwerthuso ar y broses a'r allbynnau (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 497 KB

PDF
497 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Launa Anderson

Rhif ffôn: 0300 025 9274

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.