Neidio i'r prif gynnwy

Nod y gwerthusiad hirdymor yw asesu effaith ac effeithlonrwydd y prosiect ac adolygu i ba raddau y cafodd ei nodau ac amcanion eu cyflawni.

Y pedwerydd adroddiad hwn yw adroddiad olaf y gwerthusiad.

Prif ganfyddiadau

  • Roedd Llywodraeth Cymru a’r DU wedi creu cyd-destun polisi cefnogol ar gyfer cyflawni’r prosiect, ac roedd y gefnogaeth wedi cynyddu eto’n ddiweddar oherwydd pryderon ynghylch benthyciadau diwrnod cyflog.
  • Bu’r prosiect Undebau Credyd yn gymharol lwyddiannus yn cyrraedd ei nodau a gwnaed cynnydd rhesymol (er nad oedd yn gyson ar draws y mudiad) tuag at yr amcan o ddarparu gwasanaeth ariannol o ansawdd uchel, hawdd ei gael a fforddiadwy oedd yn cymharu’n dda ag eraill.
  • Gwnaed peth cynnydd tuag at yr amcan o greu mudiad undebau credyd cryf, cadarn ac effeithiol ond mae’r holltau o hyd tu mewn i’r mudiad, sy’n awgrymu nad yw’r nod hwn wedi’i gyflawni eto.
  • Ar y cyfan, mae’r prosiect wedi perfformio’n gymharol dda yn erbyn y targedau a gyllidwyd gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) ac yn eithriadol o dda yn erbyn ei darged ar gyfer cefnogi unigolion sydd wedi’u hallgáu yn ariannol – mae dros 23,000 o bobl wedi cael help.
  • Gwnaed cynnydd da yn erbyn y targedau ar gyfer 2020 sydd yng Nghynllun Gweithredu’r Undebau Credyd ac er bod y targedau hyn yn heriol mae’r ymchwilwyr yn barnu bod modd eu cyrraedd cyhyd ag y bo Llywodraeth Cymru’n dal ati i roi cefnogaeth ariannol.
  • But twf yn nifer yr aelodau o Undebau Credyd a thwf rhesymol yn yr asedau a’r portffolio benthyciadau trwy gydol oes y prosiect. Mae llawer o hyn i’w briodoli i’r cylid Gwasanaethau o Ddiddordeb Economaidd Cyffredinol a gafwyd.
  • Er bod gwelliant wedi digwydd (h.y. llai o ddyledion gwael), braidd yn wan o hyd yw strwythurau ariannol yr undebau credyd. Mae eu costau gweithredu’n uchel iawn o hyd ac maent yn dal mwy o arian wrth gefn nag sy’n ddymunol.
  • Casgliad yr astudiaeth yw y gallai’r prosiect fod wedi rhoi gwell gwerth am arian ond nid oedd modd cynnal asesiad cyflawn o’r effaith economaidd oherwydd cyfyngiadau llym y dyddiadau oedd ar gael.

Adroddiadau

Gwerthusiad o'r prosiect mynediad i wasanaethau ariannol drwy Undebau Credyd: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 735 KB

PDF
735 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o'r prosiect mynediad i wasanaethau ariannol drwy Undebau Credyd: adroddiad Terfynol - crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 233 KB

PDF
233 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ian Jones

Rhif ffôn: 0300 025 0090

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.