Mae'r gwasanaeth y Porth Sgiliau i Fusnes yn cynnig cyngor a chyfeiriadau ar sgiliau i fusnesau ledled Cymru trwy wasanaeth ar-lein, ar y ffôn ac wyneb yn wyneb.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Yr hyn roedd y gwerthusiad yn canolbwyntio arno oedd penderfynu pa mor effeithiol oedd y Porth Sgiliau i Fusnes wrth hwyluso gwell mynediad at gyflogaeth a hwyluso cymorth sgiliau i fusnesau. Bwriad y gwerthusiad oedd dysgu gwersi allweddol i gefnogi gwelliannau i wasanaeth y Porth a gweithgareddau tebyg.
Canfyddiadau allweddol
- Mae gwasanaeth y Porth Busnes i Sgiliau yn amlwg yn gweithredu’n gyson â’i yrwyr polisi. Mae’r gwasanaeth yn ddarbodus o ran cost ac mae’n cynnig gwasanaeth effeithlon a helaeth er hynny i fusnesau yng Nghymru.
- Ni chaiff gwasanaeth y Porth ei farchnata’n helaeth nac yn aml ar hyn o bryd.
- Roedd y cyngor a ddarparwyr gan y cynghorwyr sgiliau rhanbarthol yn cael ei ystyried i fod o ansawdd uchel.
- Er bod y Proffil Sgiliau’n hawdd i’w gwblhau ac yn gymharol fyr, gallai elwa o deilwra ychwanegol.
Adroddiadau
Gwerthusiad o’r Porth Sgiliau i Fusnes , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Gwerthusiad o’r Porth Sgiliau i Fusnes: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 412 KB
Cyswllt
Faye Gracey
Rhif ffôn: 0300 025 7459
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.