Neidio i'r prif gynnwy

Mae Amodoldeb Sgiliau yn fecanwaith cyfeirio ar gyfer gorfodi unigolion sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra i dderbyn hyfforddiant mewn sgiliau hanfodol.

Nod y cynllun peilot ar gyfer Amodoldeb Sgiliau yw edrych ar ba mor effeithiol yw amodoldeb o ran annog unigolion i oresgyn y rhwystrau, sy’n ymwneud â sgiliau hanfodol, sy’n eu hatal rhag cael gwaith.  Bydd y dystiolaeth empirig sy’n deillio o’r cynllun peilot o gymorth wrth wneud penderfyniadau polisi tymor hir ynghylch parhau â pholisi gorfodi.

Mae canfyddiadau’r gwerthusiad yn cynnwys:

  • roedd gorfodi cyfranogwyr i dderbyn hyfforddiant wedi cael effaith gadarnhaol ar eu hymwneud â’r hyfforddiant o’i ddefnyddio mewn amgylchiadau priodol
  • dylid ystyried dulliau ar wahân i orfodaeth yn achos yr unigolion hynny y nodwyd bod ganddynt faterion penodol o gymhleth ac nad ydynt, efallai, yn barod i dderbyn hyfforddiant yn y ffordd hon
  • yr oedd dryswch go gyffredin ynglŷn â gorfodaeth
  • roedd cydleoli darparwyr hyfforddiant ac Anogwyr Gwaith yn arwain at gyfradd lawer uwch o’r unigolion a gâi eu hatgyfeirio yn symud ymlaen i dderbyn hyfforddiant.

Adroddiadau

Gwerthusiad o'r peilot ar gyfer Amodoldeb Sgiliau: adroddiad terfynol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o'r peilot ar gyfer Amodoldeb Sgiliau: adroddiad terfynol (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 517 KB

PDF
517 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joanne Corke

Rhif ffôn: 0300 025 1138

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.