Dyma bedwar adroddiad sy'n darparu tystiolaeth ategol o Flwyddyn 1 y Gwerthusiad Cenedlaethol o'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Mae'r casgliadau'n disgrifio'r syniadau a'r gwerthoedd sy'n sail i'r Gronfa fel y'u deallir o amrywiaeth o safbwyntiau.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Fframwaith ar gyfer newid
Mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg o'r gwerthoedd, y syniadau a'r dyheadau ar gyfer newid a ddisgrifir yn y Gronfa, yn erbyn cefndir o'r amrywiol ffactorau cyd-destunol a allai effeithio ar sut mae'n cael ei gweithredu a'i heffeithiolrwydd ledled Cymru.
Mae'n disgrifio nodau ac amcanion y Gronfa ac yn ystyried sut y bydd mentrau'r Gronfa yn cael eu gweithredu. Mae hefyd yn disgrifio sylfeini, gweithgareddau a chanlyniadau arfaethedig y Gronfa.
Mae'r adroddiad yn canfod bod y Gronfa yn lasbrint arweiniol, yn fecanwaith cynllunio a chyrchu adnoddau integreiddiol, ac yn ffordd o ddarparu dysgu i alluogi'r gwaith o ddatblygu modelau cenedlaethol cynaliadwy ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol integredig ac effeithiol. Mae'n dod i'r casgliad bod y modelau integredig hyn yn eu tro yn gweithio i gefnogi canlyniadau iechyd a lles unigolion, canlyniadau'r systemau, a chanlyniadau'r gweithlu.
Adolygiad ymarferoldeb
Yr adroddiad hwn yw cam cyntaf yr adolygiad ymarferoldeb – sef yr elfen adolygu llenyddiaeth - sy'n rhan o werthusiad y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Bydd yr adolygiad yn parhau i ehangu ar draws Blwyddyn 2 y gwerthusiad er mwyn darparu dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o'r llenyddiaeth berthnasol sy'n ymwneud â gofal integredig.
Mae canfyddiadau o'r cam hwn o'r adolygiad ymarferoldeb yn nodi ac yn pwysleisio llawer o elfennau pwysig rhaglenni gofal integredig llwyddiannus, yn ogystal â rhai o'r rhwystrau sy’n atal llwyddiant.
Mapio cysyniad grŵp
Gan ddefnyddio dull consensws ar-lein o'r enw Mapio Cysyniadau Grŵp, bu'r astudiaeth hon yn edrych ar safbwyntiau'r cyfranogwyr o ran y syniadau a'r cysyniadau y tu ôl i'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Roedd y cyfranogwyr yn cynrychioli pob rhanbarth ledled Cymru ac amrywiaeth o sefydliadau rhanddeiliaid.
Mae casgliadau'r astudiaeth fapio hon yn cynnwys y canlynol:
- eu bod yn adlewyrchu cyfranogiad gan drawstoriad eang iawn o randdeiliaid – roedd y cyfranogwyr yn cynrychioli'r holl ranbarthau yng Nghymru a safbwyntiau cenedlaethol, ac amrywiaeth o wahanol sefydliadau
- bod dau grŵp gwahanol o gysyniadau wedi dod i’r amlwg – y cysyniadau 'strategol' sy'n sail i'r Gronfa sy'n cael eu graddio'n gymharol gadarnhaol (uchelgais i newid, cyfathrebu, cysylltiadau a rhwydweithio, ac integreiddio a chydweithio), a bod y rhain yn cael eu gwrthbwyso gan y cysyniadau 'gweithredol' sy'n sail i'r Gronfa sy'n cael eu graddio'n gymharol negyddol (cymhlethdod a chyfyngiadau, rheoli cyllid a galw, a llywodraethu)
Cyfweliadau cwmpasu
Mae'r adroddiad ymchwil ansoddol hwn yn tynnu ar gyfweliadau cwmpasu manwl a gynhaliwyd gyda 24 o randdeiliaid allweddol rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2023.
Mae'r adroddiad yn canfod y canlynol yn ei gasgliadau:
- bod ymateb cadarnhaol i fwriad ac uchelgais y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
- bod cefnogaeth i weledigaeth ac uchelgais integreiddiol a chydweithredol y Gronfa, ac ar gyfer gweithredu ei phrif egwyddorion
- bod y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wedi defnyddio blwyddyn gyntaf y Gronfa i brofi cydnawsedd prosiectau a ariennir ag amcanion ehangach y Gronfa
- mae'r Cymunedau Ymarfer yn rhannu dysgu ac yn creu cysylltiadau pwysig â rhaglenni cenedlaethol perthnasol
Adroddiadau

Fframwaith ar gyfer newid , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 948 KB

Adolygiad ymarferoldeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

Mapio cysyniad grŵp , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

Cyfweliadau cwmpasu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Rachel Cohen a Sally Rees
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.