Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad terfynol yn dwyn ynghyd canfyddiadau gwerthusiad rhaglen o bedair blynedd y Gronfa Iach ac Egnïol.

Roedd y Gronfa Iach ac Egnïol yn rhaglen ariannu grant pedair blynedd, a ddyrannodd £5.85 miliwn i 17 prosiect ledled Cymru a oedd yn ceisio gwella iechyd meddyliol a chorfforol cyfranogwyr trwy alluogi ffyrdd o fyw egnïol. 

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau gwerthusiad lefel rhaglen o'r Gronfa. 

Roedd y gwerthusiad yn cynnwys tair elfen allweddol: theori newid i ddarparu fframwaith ar gyfer y gwerthusiad; gwerthusiad proses i asesu dyluniad a gweithrediad y Gronfa a helpu i ddeall y canlyniadau; a gwerthusiad o ganlyniadau i asesu a gyflawnodd y rhaglen ei nodau.

Adroddiadau

Gwerthusiad o’r Gronfa Iach ac Egnïol: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Eleri Jones

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.