Neidio i'r prif gynnwy

Yn cyflwyno casgliadau ac argymhellion a fydd yn helpu i lywio cyfeiriad a fformat y gweithgareddau a gyflwynir fel rhan o’r Flwyddyn Ddarllen yn y dyfodol.

Nod y rhaglen weithgareddau oedd dwyn ynghyd awdurdodau lleol, llyfrgelloedd, ysgolion, colegau, cyhoeddwyr, siopau llyfrau, gweithleoedd, cymunedau a theuluoedd. Y bwriad oedd datblygu ymgyrch gyda ffocws cadarn ar weithgareddau lleol yn hytrach na rhai cenedlaethol.

Yn arbennig, bwriad y rhaglen hon oedd:

  • targedu, fel grŵp blaenoriaeth, plant a phobl ifanc o’r blynyddoedd cynnar hyd at Gyfnod Allweddol 3 (14 mlwydd oed) a rhieni plant ifanc, gyda ffocws arbennig ar dadau
  • rhoi pwyslais penodol ar hyrwyddo darllen i fechgyn
  • canolbwyntio ar ddwyn ynghyd partneriaid ar lefel leol gan gynnwys grwpiau y blynyddoedd cynnar, ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau ieuenctid i ddatblygu a chynnal gweithgareddau i hyrwyddo darllen.

Adroddiadau

Gwerthusiad o’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru, 2008 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 521 KB

PDF
521 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.