Neidio i'r prif gynnwy

Sefydliad i Gymru gyfan yw Chwarae Teg sydd wedi'i greu i gynyddu cyfraniad menywod at economi Cymru i'r eithaf.

Fe'i sefydlwyd yn y lle cyntaf fel consortiwm o asiantaethau'r sector cyhoeddus, ac erbyn hyn mae'n gwmni annibynnol sy'n gyfyngedig drwy warant ac sydd â statws elusennol. Mae pencadlys Chwarae Teg yng Nghaerdydd ac mae swyddfeydd wedi bod ganddo bob amser ledled Cymru.

Mae'r hen Swyddfa Gymreig a Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu cymorth cyllid craidd yn seiliedig ar Gynllun Busnes y cytunwyd arno ers i'r sefydliad ddechrau ym 1992.

Yn dilyn argymhelliad archwiliad a wnaed ym mis Mawrth 2008, comisiynwyd ymgynghorydd mewnol gennym i werthuso'r defnydd o gymorth cyllid craidd Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar gyfer Chwarae Teg.

Adroddiadau

Gwerthusiad o'r defnydd o gymorth cyllid craidd yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar gyfer Chwarae Teg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 476 KB

PDF
476 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.