Gwerthusiad o gyrchfannau twristiaeth dethol a gyllidir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) ac a gyflenwir drwy Raglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2014 hyd 2020.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o’r Cyrchfannau Denu Twristiaeth
Gwybodaeth am y gyfres:
Caiff y gwaith ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’r nod yw cyflawni buddsoddiad sylweddol yn economaidd mewn asedau twristiaeth allweddol a fyddai’n denu rhagor o fuddsoddiad gan fusnesau a thwf i fusnesau. Canolbwyntiodd y gwaith am Gyrchfannau Denu Twristiaeth ar 12 o safleoedd ar gyfer buddsoddi.
Prif gasgliadau
- Mae’r angen strategol am Gyrchfannau Denu Twristiaeth yn parhau.
- Roedd y Cyrchfannau Denu Twristiaeth yn llwyddiannus at ei gilydd o ran y canlyniadau a gyflawnwyd yn erbyn yr ymrwymiadau cyflenwi.
- Mae safleoedd wedi llwyddo i ddenu ymwelwyr newydd.
- Mae’r gwaith wedi cyfrannu’n helaeth at Themâu Trawsbynciol amrywiol.
- Ni allai marchnata posibl ar y cyd rhwng gwahanol Gyrchfannau Denu Twristiaeth ddigwydd.
- Mae Cyrchfannau Denu Twristiaeth wedi trawsnewid safleoedd, gan godi Safonau ac ehangu’r hyn a gynigir i ymwelwyr.
Adroddiadau

Gwerthusiad o’r Cyrchfannau Denu Twristiaeth: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.