Gwerthusiad o'r Cynllun Peilot Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd: cyfnod 1 a 2023 i 2024 (crynodeb)
Allbynnau o werthusiad tri cham y cynllun peilot Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd yn Nwyfor, Gwynedd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Bu pryder cynyddol am fforddiadwyedd tai yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf. Yn ôl Mynegai Prisiau Tai’r DU, [troednodyn 1], cyrhaeddodd pris eiddo cyfartalog yng Nghymru £217,000 ym mis Medi 2024, ac amcangyfrifwyd i’r pris blynyddol cyfartalog newid 6% dros y pum mlynedd ddiwethaf (2020-2024). Gellid priodoli’r cynnydd hwn i raddau helaeth i chwyddiant uwch na’r targed ers 2021, ond dylid hefyd ystyried y cyflenwad cyfyngedig o anheddau newydd yng Nghymru. Yn 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru amcangyfrifon wedi’u diweddaru o anghenion tai yn y dyfodol, gan awgrymu y byddai angen rhwng 6,200 ac 8,300 o unedau tai ychwanegol bob blwyddyn rhwng 2019/20 a 2023/24, gydag amcangyfrif canolog o 7,400 o unedau. [troednodyn 2] Fodd bynnag, mae’r lefelau cyflenwi presennol yn is na'r amcangyfrifon hyn. Dengys data StatsCymru [troednodyn 3] fod rhwng 4,300 a 5,700 o anheddau newydd wedi cael eu cwblhau bob blwyddyn rhwng 2020/21 a 2023/24.
Mae'n debygol bod y cyfuniad o ostyngiad mewn cyflenwad tai a'r cynnydd ym mhrisiau tai wedi cyfrannu at leihau fforddiadwyedd tai yng Nghymru. Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2024) fod angen 6.1 gwaith eu cyflog blynyddol ar weithwyr amser llawn yng Nghymru i brynu cartref yn 2023, sy’n uwch na’r trothwy fforddiadwyedd o 5 [troednodyn 4] Gwelwyd tuedd debyg yn y sector rhentu preifat, sydd hefyd wedi profi pwysau cynyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ers mis Hydref 2022, gwelwyd twf blynyddol cyson ym mhrisiau rhent, gan gyrraedd 7.9% erbyn mis Hydref 2024 ar ôl aros yn is na 2% rhwng Hydref 2015 a Hydref 2021, ac wedyn cynyddu’n gyflym i 5.5% yn 2022 a 9.7% yn 2023. [troednodyn 5] Mae costau rhent a phrisiau tai cynyddol, ynghyd â chwyddiant uwch na’r targed ers 2021, wedi dwysáu heriau fforddiadwyedd, yn enwedig i aelwydydd incwm is.
Mae presenoldeb ail gartrefi, eiddo gwag, a llety gosod tymor byr ledled Cymru yn cymhlethu problem fforddiadwyedd ymhellach. O 2024/25 ymlaen, adroddodd awdurdodau lleol fod tua 22,000 o ail gartrefi a 23,000 o eiddo gwag hirdymor a oedd â rhwymedigaeth i dalu treth gyngor [troednodyn 6] [troednodyn 7] Gall y ffactorau hyn gynyddu rhenti eiddo a phrisiau tai, gan ei gwneud yn anodd i unigolion, yn enwedig pobl ifanc, fforddio rhentu neu brynu eiddo yn eu cymunedau. Er y gall ail gartrefi a llety gosod tymor byr fod yn hwb i economïau lleol, maen nhw hefyd yn gallu tarfu ar gydlyniant cymunedol, effeithio ar gynaliadwyedd y Gymraeg fel iaith gymunedol a rhoi straen ar wasanaethau lleol.
Mewn ymateb, lansiodd Llywodraeth Cymru fentrau gyda'r nod o wella fforddiadwyedd tai. Un fenter o’r fath yw’r Cynllun Peilot Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd, a gyhoeddwyd yn ardal Dwyfor yng Ngwynedd ym mis Mehefin 2022. Nod y Cynllun Peilot hwn yw profi strategaethau i reoli niferoedd yr ail gartrefi, eiddo gwag a llety gosod tymor byr yn y dyfodol, gan wella fforddiadwyedd tai a chefnogi cymunedau lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Alma Economics ac OB3 Research i gynnal gwerthusiad cynhwysfawr o’r Cynllun Peilot, a gynhelir rhwng mis Awst 2023 a Rhagfyr 2026. Bydd tri cham i’r gwerthusiad, gan ddechrau gyda Cham 1, y cam cwmpasu, sy'n cynnwys mapio data ac ymchwil archwiliadol; wedyn cynhelir Cam 2, sef cam gwerthuso prosesau, ac i gloi Cam 3, sef effaith a gwerthusiad economaidd y Cynllun Peilot. Yn yr adroddiad hwn cyflwynir canfyddiadau’r cam cyntaf, a ddaeth i ben ym mis Hydref 2024.
Y fethodoleg a ddefnyddir
Roedd Cam 1 yn cynnwys ymchwil cwmpasu ac archwilio. Yn ystod y cam ymchwil cwmpasu, yr amcan cyntaf oedd egluro cwmpas a blaenoriaethau rhaglen y Cynllun Peilot. Cydnabuwyd bod y dirwedd bolisi yn un gymhleth, a bod ansicrwydd ymhlith rhanddeiliaid ynghylch yr ymyriadau amrywiol a’u heffeithiau arfaethedig. Er mwyn mynd i’r afael â’r cymhlethdodau hyn, aeth y tîm ymchwil ati’n gyntaf i gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r gwaith ymchwil presennol ar faterion sy’n ymwneud ag ail gartrefi, eiddo gwag a llety gosod tymor byr yng Nghymru yn benodol. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, ymgynghorwyd â rhanddeiliaid a oedd yn rhan o gynllunio a chyflawni’r Cynllun Peilot trwy gyfarfodydd rhagarweiniol â swyddogion Llywodraeth Cymru. Rhoddodd hyn ddealltwriaeth gliriach o’r cyd-destun o ran polisi, amcanion y Cynllun Peilot, argaeledd data, a risgiau a heriau posibl. Cyfwelwyd partneriaid cyflenwi hefyd er mwyn asesu cynnydd, effeithiau disgwyliedig, a meysydd y gellid eu gwella.
Hefyd, datblygwyd Theori Newid (ThN) ryngweithiol i nodi gweithgareddau’r Cynllun Peilot, yr allbynnau arfaethedig, y canlyniadau, a’r effaith, gan roi darlun gweledol o’r llwybr o’r gweithgareddau i’r nodau hirdymor. Wedyn troswyd y ThN yn llwyfan ar-lein sy'n galluogi defnyddwyr i olrhain canlyniadau yn ôl at ymyriadau penodol. Ar yr un pryd, dechreuodd y tîm ymchwil fapio setiau data allweddol i’w defnyddio mewn camau ymchwil yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar ddeall patrymau tai, statws ail gartrefi, eiddo gwag a llety gosod tymor byr, yn ogystal â fforddiadwyedd tai. Archwiliwyd ffynonellau data cyhoeddus a heb fod yn gyhoeddus i fynd i'r afael â bylchau a nodwyd. Yn seiliedig ar yr ymdrechion hyn, paratowyd cynllun dichonoldeb i werthuso effaith mewn camau ymchwil yn y dyfodol, gan fanylu ar sut y bydd effeithiolrwydd rhaglen y Cynllun Peilot yn cael ei asesu.
Yn y cam ymchwil archwiliadol, roedd y dull yn cynnwys arolwg ar-lein, cyfweliadau, a grwpiau ffocws gyda phobl ifanc, aelodau o'r gymuned leol, ymgeiswyr tai fforddiadwy, a pherchnogion ail gartrefi a llety gosod tymor byr. Cynhaliwyd arolwg a oedd yn targedu pobl ifanc 18 i 35 oed yn ardal Dwyfor, a chanlyniad hwn fu 139 o ymatebion gan bobl 18 i 35 oed a 383 o ymatebion gan rai 36 oed a hŷn. Yn ogystal, cynhaliwyd chwe chyfweliad â pherchnogion ail gartrefi a llety gosod tymor byr i gasglu canfyddiadau ansoddol. Ymgysylltwyd hefyd trwy gyfweliadau a grwpiau ffocws â 38 o unigolion, gan gynnwys pobl ifanc, aelodau o'r gymuned leol, ac ymgeiswyr am dai fforddiadwy. Er gwaethaf heriau recriwtio i ddechrau, llwyddodd yr ymgysylltu i gasglu canfyddiadau gan ystod eang o randdeiliaid, gan wella ehangder yr ymchwil archwiliadol.
Canfyddiadau’r cyfweliadau cwmpasu
Cynhaliwyd cyfweliadau cwmpasu ag 16 o bartneriaid cyflawni’r Cynllun Peilot a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru yn ystod mis Medi a mis Hydref 2023. Mae’r canfyddiadau’n rhoi cipolwg o’r cyd-destun a dealltwriaeth y grwpiau hyn o weithgareddau’r Cynllun Peilot yng nghamau cynnar y gwerthusiad. Llywiodd hyn ein dealltwriaeth ni o nodau, gweithgareddau, a chynnydd y Cynllun Peilot. Mae'n bwysig nodi bod rhai o'r canfyddiadau hyn fod wedi dyddio bellach, o bosibl, ond eu bod yn rhoi darlun defnyddiol o gyflwr y Cynllun Peilot ar ddechrau'r gwerthusiad hwn yn llinell sylfaen i lywio camau diweddarach y gwerthusiad.
Roedd nifer helaeth o’r farn fod y cynllun Prynu Cartref - Cymru a'r Grant Cartrefi Gwag yn cael effaith. Roedd brwdfrydedd hefyd dros Hunanadeiladu Cymru a chynllun cymorth blaendaliadau, ond roedd rhywfaint o ansicrwydd ynghylch ymarferoldeb y rhain. Ystyriwyd bod cydweithio rhwng Cyngor Gwynedd, tîm y Cynllun Peilot, a chymdeithasau tai yn hollbwysig i hyrwyddo’r gwaith o ddarparu tai dan arweiniad y gymuned.
Ym marn y rhai a gyfwelwyd, gallai Erthygl 4 gael effaith sylweddol ar sefydlogi marchnad dai Gwynedd. Fodd bynnag, nodwyd hefyd fod nifer o risgiau a allai effeithio ar bobl leol a phartneriaid cyflawni.
Dywedwyd mai premiwm y dreth gyngor fyddai’n ariannu cynigion yng Nghynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd. Ar y pryd, roedd cyfweleion wedi disgwyl i’r ardoll ymwelwyr ddod i rym yn 2025/26, a fyddai’n rhy hwyr ar gyfer y gwerthusiad hwn.
Argaeledd data a bylchau
Adolygodd ein tîm ymchwil setiau data sydd ar gael i’r cyhoedd ac sy’n ymwneud â thai, ail gartrefi, eiddo gwag, a fforddiadwyedd yng Nghymru. Y ThN a lywiodd yr adolygiad hwn gan amlinellu allbynnau, canlyniadau ac effeithiau allweddol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau’r Cynllun Peilot yn Nwyfor. Nodwyd setiau data amrywiol, yn cwmpasu agweddau megis prisiau tai a rhenti, y stoc dai, deiliadaeth, ac ansawdd tai, ar lefelau daearyddol gwahanol, yn amrywio o gymuned i awdurdod lleol.
Nodwyd nifer o fylchau yn y data. Cynhaliwyd cyfarfodydd â rhanddeiliaid o Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill sy’n ddeiliaid data i drafod y bylchau hyn ac i archwilio hygyrchedd y data. Roedd y prif heriau allweddol a gafwyd yn ystod yr adolygiad data yn cynnwys diffinio ffiniau ardal Dwyfor a diffyg data ar lefel gymunedol.
Mae’r argymhellion ar gyfer casglu data yn y dyfodol yn cynnwys gwella argaeledd a manylder gwybodaeth, megis data enillion gweithle manylach o safbwynt daearyddol sy'n angenrheidiol er mwyn cyfrifo'r gymhareb fforddiadwyedd tai, yn ogystal â chynyddu amlder data ar gyfanswm y stoc dai yng Nghymru. Mae’r gwelliannau hyn yn pwysleisio’r angen i olrhain allbynnau a chanlyniadau allweddol yn gyson, a fyddai’n helpu i asesu effeithiolrwydd ymyriadau tebyg yn y dyfodol.
Cynllun gwerthuso’r effaith
Er mwyn asesu effaith Rhaglen Cynllun Peilot Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd, byddwn yn defnyddio dull gwerthuso realistig sy'n gyson â chanllawiau Llyfr Magenta Trysorlys EF. [troednodyn 8] Mae'r fethodoleg hon yn cynnwys data meintiol ac ansoddol, dan arweiniad y ThN, i archwilio'r cysylltiadau rhwng gweithgareddau’r Cynllun Peilot a'r canlyniadau a arsylwyd. Ar yr un pryd, mae'n ystyried y cyd-destun economaidd-gymdeithasol sy'n dylanwadu ar ymatebion y rhanddeiliaid. Mae strategaeth dulliau cymysg yn defnyddio cyfuniad o ddadansoddiadau meintiol ac ansoddol. Yn gyntaf, defnyddir dulliau meintiol i gymharu, er enghraifft, niferoedd yr ail gartrefi neu fforddiadwyedd tai yn Nwyfor â rhanbarthau sy’n wynebu heriau tebyg (e.e., crynodiadau uchel o ail gartrefi neu broblemau tebyg o ran fforddiadwyedd tai). Wedyn cymharir y rhain ymhellach ag ystadegau swyddogol i archwilio'r newidiadau dros amser. Bydd dulliau ansoddol sy’n rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr o effeithiolrwydd cyffredinol y Cynllun Peilot, yn ategu'r dadansoddiad meintiol.
Byddwn hefyd yn archwilio gwerthusiad o ymyriadau penodol sydd eisoes yn weithredol ac ar waith ar hyn o bryd, megis Prynu Cartref - Cymru a'r Grant Cartrefi Gwag. Ein nod yw casglu tystiolaeth trwy ddulliau cymysg er mwyn deall effeithiau’r ymyriadau hyn. Byddwn yn cymharu’r nifer sy’n manteisio ar yr ymyriadau a dreialwyd yn Nwyfor â’r rhai a weithredwyd yn yr un modd, neu mewn modd tebyg, mewn ardaloedd eraill o Gymru sy’n wynebu heriau tebyg, megis nifer uchel o ail gartrefi neu broblemau sylweddol o ran fforddiadwyedd tai. Byddwn yn cyfuno’r data meintiol â chanfyddiadau yn sgil ymgysylltiadau â rhanddeiliaid lleol. Bydd elfennau eraill y Cynllun Peilot, megis gweithgareddau rheoleiddio nad ydynt wedi'u pennu'n llawn neu sy'n dal i fynd rhagddynt, yn cael eu hasesu'n bennaf drwy ddulliau ansoddol. Bydd y cynllun gwerthuso effaith presennol yn cael ei hysbysu yn ystod Cam 2 y gwerthusiad, wrth i’r dirwedd bolisi esblygu ac wrth i’r tîm gwerthuso ddiweddaru setiau data presennol a chael mynediad at rai newydd.
Canfyddiadau’r ymchwil archwiliadol
Roedd y gwaith ymchwil archwiliadol yn cynnwys arolwg ar-lein, cyfweliadau, a grwpiau ffocws i gasglu barn pobl ifanc, y rhai sy'n gymwys am dai fforddiadwy, perchnogion ail gartrefi, ac aelodau'r gymuned leol.
Roedd canfyddiadau o'r arolwg yn awgrymu bod y rhan fwyaf o ymatebwyr 18 i 35 oed yn teimlo bod eu sefyllfa dai bresennol yn fforddiadwy. Dywedodd y mwyafrif o ymatebwyr 18 i 35 oed hefyd fod ail gartrefi a llety gosod gwyliau yn cael effaith negyddol, at ei gilydd, ar eu hardal a’u bod yn cael effaith negyddol ar (i) yr ymdeimlad o gymuned, (ii) y Gymraeg, a (iii) fforddiadwyedd tai.
Dangosodd y canfyddiadau o gyfweliadau a grwpiau ffocws fod y mwyafrif o’r bobl ifanc, ymgeiswyr am dai fforddiadwy, ac aelodau'r gymuned leol yn teimlo bod tai yn rhy ddrud yn Nwyfor. Dywedodd y grwpiau hyn hefyd fod ail gartrefi a llety gwyliau yn yr ardal yn cael effaith negyddol ar yr ymdeimlad o gymuned a'r iaith Gymraeg. Fodd bynnag, dywedodd rhai cyfweleion hefyd fod yr ardal yn ddibynnol ar dwristiaeth ac y gall yr eiddo dan sylw greu cyfleoedd cyflogaeth. Cymysg fu’r ymwybyddiaeth o weithgareddau'r Cynllun Peilot ymhlith pobl ifanc, ymgeiswyr am dai fforddiadwy, ac aelodau o'r gymuned leol. Y gweithgareddau yr oedd pobl fwyaf ymwybodol ohonyn nhw oedd (i) premiwm y dreth gyngor i ail gartrefi, (ii) Erthygl 4, a (iii) cymorth a gynigir drwy’r cynllun Tai Teg. Roedd perchnogion ail gartrefi a llety gosod tymor byr yn ymwybodol o’r Cynllun Peilot trwy Gyngor Gwynedd, newyddion rhanbarthol a chenedlaethol, a grwpiau ar y cyfryngau cymdeithasol, ond dim ond un oedd yn teimlo bod cyfiawnhad dros ei fesurau. Buont yn trafod effeithiau’r Cynllun Peilot megis gorfod gwerthu eiddo, ansicrwydd i bobl leol ynghylch Erthygl 4, ac effeithiau cadarnhaol Prynu Cartref - Cymru.
Y camau nesaf
Bydd Cam 2 (Hydref 2024 i Medi 2025) yn cynnwys gwerthuso prosesau, mireinio strategaethau ymgysylltu â rhanddeiliaid, a chasglu rhagor o ganfyddiadau ansoddol. Ymgynghorir â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, a grwpiau cymunedol, drwy gyfweliadau a grwpiau ffocws i ddeall beth sydd wedi gweithio’n dda wrth roi’r Cynllun Peilot ar waith, beth sydd heb weithio’n dda, a pham. Bydd y tîm ymchwil hefyd yn datblygu astudiaethau achos ar ymyriadau penodol i lywio adroddiad Cam 2 cynhwysfawr.
Troednodiadau
[1] Cofrestrfa Tir EF, 2024. Mynegai Prisiau Tai Y DU Cymru: Medi 2024
[2] Llywodraeth Cymru, 2020. Amcangyfrifon o’r angen am dai: sail-2019
[3] StatsCymru: Anheddau newydd a ddechreuwyd yn ôl cyfnod a deiliadaeth
[4] Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2024. Hyfforddiadwyedd Tai yng Nghymru a Lloegr: 2023
[5] Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2024. Mynegai Prisiau Rhent Tai Preifat, Y DU: Ionawr 2024
[6] StatsCymru: Cartrefi gwag ac ail gartrefi sy’n daladwy, fesul awdurdod lleol (nifer yr anheddau)
[7] Nid oes unrhyw ddata cadarn ar nifer y llety gosod tymor byr ledled y wlad.
[8] Llyfr Magenta Trysorlys EF – Canllawiau’r Llywodraeth Ganolog ar werthuso
Manylion cyswllt
Awduron: Alma Economics (2025)
Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Ymchwil Tai
Is-Adran Ymchwil Cymdeithasol a Gwybodaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: TimYmchwilTai@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 14/2025
ISBN digidol: 978-1-83715-310-7