Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) yn rhan o Gynllun Datblygu Gwledig (RDP) 2014–2020, ac wedi’i ariannu o dan Fesur 16: Cydweithredu (Erthygl 35 o Reoliadau’r Cyngor (UE) 1305/2013) [troednodyn 1].

Y ‘weledigaeth’ ar gyfer y cynllun, fel y nodwyd yn ei ganllawiau, oedd y dylai busnesau, sefydliadau a chymunedau gydweithio i fod yn fwy cydnerth drwy fynd i’r afael â materion fel tlodi gwledig, cynaliadwyedd ariannol, newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd, tlodi mewn gwaith ac allgáu cymdeithasol. Ymhellach, disgrifir y CSCDS i fod wedi’i gynllunio i ‘wneud i bethau ddigwydd’, gyda chymorth ar gael ar gyfer cwmpas llawn prosiect, o’r camau cychwynnol hyd at gyflawni ac ymlaen i’r camau lledaenu a gwerthuso, a’r cynllun wedi cefnogi datblygu rhwydweithiau a chlystyrau newydd sy’n gysylltiedig â chynnal prosiectau penodol.

Roedd pob cais i’r CSCDS wedi mynd drwy broses dau gam cystadleuol, gyda cheisiadau’n cael eu gwahodd o bryd i’w gilydd drwy ‘ffenestri ymgeisio’. Defnyddiwyd Datganiad cychwynnol o Ddiddordeb (EOI) i gael amlinelliad o weithgareddau ac amcanion y prosiect ac i gynnal asesiad cychwynnol i weld a oedd y prosiect arfaethedig yn gymwys ai peidio, gyda mewnbwn gan dimau polisi Llywodraeth Cymru. Ar gwblhau’r asesiad hwn yn llwyddiannus gwahoddid ymgeiswyr wedyn i gyflwyno cais prosiect llawn (yr ail gam).

Nid oedd niferoedd terfynol y prosiectau, data gwariant, a ffigurau allbwn ar gael ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, gan eu bod yn destun prosesau archwilio. Bydd y ffigurau terfynol felly yn cael eu hadrodd fel rhan o werthusiad ex-post yr RDP yn ei gyfanrwydd yng Nghymru. Ffocws y gwerthusiad hwn, fel y dangosir isod, oedd deall natur y gweithgareddau a gefnogwyd a’r canlyniadau yr esgorwyd arnynt, gan fod yn ddadansoddiad dangosol yn unig o bwysigrwydd cymharol gwahanol fathau o brosiectau ym mhortffolio cyffredinol y prosiectau.

Amcanion a methodoleg y gwerthusiad

Nod y gwerthusiad oedd cael asesiad annibynnol o weithrediad y cynllun a’i effaith er mwyn helpu i lywio penderfyniadau sy’n cefnogi cynlluniau domestig tebyg yng Nghymru ar ôl i Gynllun Datblygu Gwledig (RDP) 2014–2020 ddod i ben. Roedd yn ymwneud â thri is-fesur a gynhaliwyd o dan Fesur 16 drwy’r CSCDS, sef:

  • cymorth i brosiectau peilot a chymorth i ddatblygu cynhyrchion, arferion, prosesau a thechnolegau newydd
  • cymorth ar gyfer cydweithredu llorweddol a fertigol ymysg gweithredwyr yn y cadwyni cyflenwi a’r marchnadoedd lleol ac i hyrwyddo gweithgareddau mewn cyd-destun lleol sy’n gysylltiedig â datblygu cadwyni cyflenwi byr a marchnadoedd lleol
  • y Cynllun Cydweithio i Gynllunio Coedwigaeth

Tasgau ymchwilio

Dyma’r prif dasgau a wnaed fel rhan o’r gwerthusiad.

Adolygu dogfennau

Roedd hyn yn cynnwys dogfennau’n ymwneud â’r rhesymeg y tu ôl i’r CSCDS yng nghyd-destun pensaernïaeth ehangach yr RDP yn ogystal â holl ganllawiau a dogfennau prosesau’r CSCDS sydd ar gael.

Cyfweliadau cwmpasu

Cyfanswm o 12 cyfweliad cwmpasu a oedd wedi canolbwyntio ar ddealltwriaeth fanwl o’r CSCDS a’i gyd-destun, prosesau’r cynllun, a disgwyliadau rhanddeiliaid ynghylch y gwerthusiad.

Meta-adolygiad o’r gwerthusiadau ar y prosiectau unigol

roedd hyn wedi cynnwys 29 o brosiectau (37% o’r holl brosiectau) a oedd yn cyfateb i 18% o gyfanswm y grant a ddyfarnwyd a 28% o gyfanswm y grant a dalwyd hyd at 24 Hydref 2022.

Arolygon ar-lein

Cynhaliwyd dau arolwg ar-lein i gasglu barn ynghylch: (a) profiadau arweinwyr prosiectau am brosesau’r CSCDS a’u barn am yr etifeddiaeth sy’n debygol o gael ei chreu gan brosiectau’r CSCDS (derbyniwyd 27 o ymatebion), a (b) profiad cyfranogwyr prosiectau’r CSCDS (derbyniwyd 16 o ymatebion). Roedd y ddau arolwg yn y maes am 10 wythnos (o 13 Chwefror i 30 Ebrill 2023).

Cyfweliadau â rhanddeiliaid

Datblygwyd ‘map rhanddeiliaid’ manwl a oedd yn tynnu ar awgrymiadau o’r cyfweliadau cwmpasu yn ogystal â gwybodaeth a phrofiad y tîm gwerthuso. Roedd profiad, neu o leiaf ymwybyddiaeth, o’r CSCDS yn faen prawf samplu allweddol ochr yn ochr â’r math o sefydliad, y prif sector gweithgaredd, a natur a dyfnder eu rhyngweithio â’r CSCDS. Cynhaliwyd cyfanswm o 28 o gyfweliadau.

Astudiaethau achos

Datblygwyd wyth astudiaeth achos o brosiectau CSCDS penodol i ddangos natur a chanlyniadau amrywiol iawn y prosiectau a ariannwyd.

Cynhaliwyd yr ymchwil rhwng mis Medi 2022 ac Ebrill 2023, ac yna’r tasgau dadansoddi ac adrodd o fis Mai 2023 ymlaen.

Problemau wrth gael gafael ar ddata

Roedd y fframwaith gwerthuso wedi rhagdybio y byddai’n bosibl coladu’r data meintiol ac ansoddol oedd ei angen i gwmpasu’r holl amcanion gwerthuso trwy ddadansoddi data’r cynllun presennol ynghyd ag ymchwil maes ychwanegol. Ond roedd hyn yn anodd oherwydd nifer o broblemau, gan gynnwys:

  • cael gafael ar adroddiadau gwerthuso ar lefel prosiectau ar gyfer y meta-adolygiad (dim ond 29 o adroddiadau gwerthuso terfynol y llwyddwyd i’w cael)
  • dod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer ymchwil sylfaenol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, arweinwyr prosiectau, ac ymgeiswyr aflwyddiannus oherwydd problemau yn ymwneud â staff wedi symud a data sydd wedi dyddio
  • argaeledd data monitro a data gwariant cynhwysfawr

Mae’n bwysig pwysleisio bod yr amseru (yn bennaf bod y gweithgarwch yn mynd rhagddo ar adeg y gwerthusiad) a’r heriau methodolegol eraill a wynebwyd wrth gynnal y gwerthusiad hwn wedi golygu y gall y canfyddiadau a’r casgliadau fod o natur ddangosol yn unig. Fodd bynnag, mae sawl mewnwelediad allweddol yn dod i’r amlwg, wedi’u hategu gan gysondeb y dystiolaeth sydd ar gael, fel y nodir isod.

Prif ganfyddiadau ac argymhellion

Ystod y prosiectau a gefnogwyd

Mae’n amlwg fod y prosiectau a gynhaliwyd wrth ddefnyddio cyllid y CSCDS yn amrywiol iawn, gan gwmpasu gwaith dichonoldeb, gweithgareddau peilot ac arddangos, yn ogystal â datblygu cynhyrchion, arferion, prosesau a thechnolegau newydd. Yn thematig, roedd y gweithgareddau’n amrywio o weithgarwch amaethyddol/garddwriaeth, marchnata bwyd a diod a thwristiaeth, i brosiectau sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy, gwasanaethau ecosystem pridd a dŵr, a thrafnidiaeth gynaliadwy, yn ogystal â gweithgareddau datblygu gwledig ehangach sy’n cynnwys teithio llesol, y Gymraeg, a chynhwysiant digidol.

Roedd natur y cydweithio a oedd wrth galon prosiectau’r CSCDS yr un mor amrywiol, gan gynnwys partneriaethau prosiectau bychain a gynlluniwyd i ysgogi arbenigedd cyflenwol ar gyfer cyfle datblygu penodol, cydweithredu rhwng academyddion neu gyfryngwyr economi wledig gydag ymarferwyr mewn meysydd gweithgaredd amrywiol, yr holl ffordd i gynghreiriau eang o randdeiliaid allweddol a oedd yn cynnwys gweithgareddau allweddol y diwydiant, y byd academaidd, a phartneriaid polisi.

Strategaeth y cynllun a chymorth datblygu prosiectau

Mae gan gynllun fel y CSCDS botensial strategol sylweddol ar gyfer economïau gwledig Cymru. Fodd bynnag, gwelwyd bod asesu gwerth strategol cynigion prosiect ar ôl i’r rheiny gael eu cyflwyno yn rhy adweithiol i gael y gwerth gorau posibl.

Gallai’r mewnwelediadau strategol sydd gan adrannau polisi Llywodraeth Cymru, o’u defnyddio’n dda, ddarparu cyfeiriad strategol pwysig i sicrhau bod y garfan o brosiectau sy’n cael cyllid yn cyfrannu’n effeithiol at amcanion strategol a nodwyd. Mae sicrhau ‘cyfeiriad strategol’ fodd bynnag yn dibynnu ar y canlynol:

  • mae angen i fframio strategol y cynllun yn ei gyfanrwydd gyfleu’n glir sut yr ystyrir bod gweithgareddau cydweithredu a datblygu, profi a threialu neu arddangos cynhyrchion, prosesau, arferion neu dechnolegau newydd yn bwysig mewn gwahanol sectorau a meysydd gweithgaredd
  • mae angen i weithgareddau allgymorth allu cyrraedd ac ymgysylltu â’r rheini sy’n cynnig gwir safbwynt ymarferol ar lawr gwlad ar faterion strategol y mae sefydliadau yn economïau gwledig Cymru yn eu hwynebu
  • gall cyfranogiad gweithredol timau polisi Llywodraeth Cymru fyfyrio ar amcanion strategol a’u cyfoethogi ac wedyn eu cymhwyso i ddatblygu a dethol prosiectau

Er bod Mesur 16 i fod i gynnwys sefydliadau gwledig amrywiol mewn gweithgareddau cydweithredu, mae adborth rhanddeiliaid yn awgrymu ei bod yn annhebygol y byddai gan sefydliadau bychain y sefyllfa ariannol a’r gallu gweinyddol angenrheidiol i ddatblygu a chynnal prosiect o dan y math hwn o gynllun. O ganlyniad, mae grwpiau targed buddiolwyr terfynol yn dibynnu ar sefydliadau mwy o faint i ddarparu capasiti o’r fath a gweithredu fel ‘corff arweiniol’ ar gyfer prosiectau. Mae proffil a chymhellion, galluoedd cynllunio prosiectau, a natur y rhyngweithio â buddiolwyr felly yn bwysig iawn.

Mae cam datblygu’r prosiect, felly, yn allweddol bwysig wrth osod prosiectau ar gyfer llwyddiant neu fethiant. Ar y cam hwn gellir sicrhau cydweddiad da rhwng cymhelliant ac arbenigedd y sefydliad arweiniol ac union anghenion buddiolwyr, a gellir datblygu cynllun prosiect cadarn a all sicrhau canlyniadau diriaethol yn erbyn amcanion strategol ar gyfer yr economi wledig ehangach yng Nghymru.

Rheoli’r rhaglen ac adrodd

Roedd adborth rhanddeiliaid yn gyson yn sôn am y ffaith nad oedd y prosesau a’r systemau gweinyddol a ddefnyddiwyd ar gyfer y rhyngweithio rhwng rheoli rhaglen CSCDS a phrosiectau unigol yn briodol ar gyfer natur a graddfa’r math o brosiectau a gefnogwyd drwy’r cynllun. Roedd y problemau y daethpwyd ar eu traws yn cynnwys:

  • oedi wrth gymeradwyo prosiectau ynghyd â diffyg hyblygrwydd wrth ailstrwythuro cynlluniau prosiect mewn ymateb i’r oedi hwnnw
  • diffyg mynediad at gyngor a chymorth priodol
  • proses hawlio feichus

Ystyriwyd felly fod elfennau rheoli’r rhaglen yn wendid allweddol yng nghynllun y CSCDS. Yn benodol, beirniadwyd y broses hawlio yn gryf am fod yn rhy anhyblyg, yn anhryloyw ac angen llawer o adnoddau. Roedd newidiadau ôl-weithredol i feini prawf cydymffurfio a newidiadau i’r dystiolaeth yr oedd angen ei darparu wedi gwaethygu’r mater hwn ymhellach. Y farn gyffredinol a gododd oedd bod yr anghydweddu hwn yn her ddifrifol i’r gwerth am arian cyffredinol y gellir ei ddarparu gan gynllun fel y CSCDS.

Er bod tystiolaeth fod rheolaeth fewnol ar y cynllun wedi canolbwyntio ar ddeall elfennau cyfatebol rhwng prosiectau ac osgoi dyblygu, nid yw’n ymddangos bod hyn wedi bod yn ddigon i sicrhau cyd-ddealltwriaeth o’r materion hynny â rhanddeiliaid allanol.  Roedd rhanddeiliaid, gan gynnwys arweinwyr prosiectau eu hunain, yn teimlo’n gryf iawn bod cyfle wedi’i golli i drafod canlyniadau prosiectau fel rhan o berthynas adrodd y CSCDS neu eu rhannu’n helaeth â grŵp ehangach o sefydliadau. Gwelwyd bod hyn yn angenrheidiol er mwyn cael mewnwelediadau mwy cyflawn, ymgysylltu â grŵp ehangach o fuddiolwyr posibl, a chynhyrchu momentwm strategol mewn gwahanol feysydd gweithgarwch.

Gwneud y gorau posibl o ganlyniadau ac effeithiau prosiectau

Er bod tystiolaeth glir bod llawer o brosiectau’r CSCDS yn ymgysylltu’n effeithiol â buddiolwyr uniongyrchol prosiectau, mae’r meta-adolygiad a chyfweliadau â rhanddeiliaid hefyd yn dangos mai anaml y cafodd prosiectau’r CSCDS unigol unrhyw sylw gyda grŵp targed ehangach o sefydliadau â diddordeb.

Mae’r meta-adolygiad a’r cyfweliadau â rhanddeiliaid yn awgrymu’n glir, yn unol â natur beilot y gweithgareddau a ariennir, fod mwyafrif o brosiectau’r CSCDS wedi cyflawni canlyniadau canolradd yn hytrach na chael effaith uniongyrchol, mesuradwy ar fuddiolwyr uniongyrchol neu garfan ehangach o sefydliadau mewn economïau gwledig yng Nghymru.

Bydd sicrhau’r gwerth am arian llawn o fuddsoddiad y CSCDS felly yn dibynnu ar sicrhau y gall cymunedau gwledig Cymru fanteisio’n llawn ar ganlyniadau prosiectau a bod dysgu o’r prosiectau a gefnogir yn cael ei roi ar waith. Mewn llawer o achosion, bydd angen buddsoddiadau strategol ychwanegol ar gyfer camau pellach sy’n gysylltiedig â dwyn cynhyrchion, prosesau, arferion neu dechnolegau newydd i ffrwyth. Mewn eraill, ar y llaw arall, bydd angen defnyddio’r hyn a ddysgir o brosiectau i lywio gweithgarwch pellach yn y sectorau a’r meysydd gweithgarwch hynny.

Argymhellion

Argymhelliad 1

Dylid sicrhau bod gweithgareddau allgymorth yn cael eu hysgogi er mwyn i fewnwelediadau strategol timau polisi Llywodraeth Cymru gyfuno â safbwyntiau ar lawr gwlad er mwyn sicrhau y gall amcanion strategol clir arwain datblygiad a dewis prosiectau.

Argymhelliad 2

Dylid canolbwyntio sylw ac adnoddau ar rôl ragweithiol rheoli’r cynllun yn ystod y cam datblygu prosiectau, gan roi arweiniad a chefnogaeth a chynnig ‘swyddogaeth herio’ ar gyfer rhesymeg a dulliau gweithredu prosiectau

Argymhelliad 3

Dylid sicrhau bod yr holl brosesau gweinyddol a fabwysiedir ar gyfer cynllun fel y CSCDS yn gymesur â chapasiti’r grŵp targed a natur a graddfa’r prosiectau a ragwelir. Mae’n hanfodol osgoi newidiadau ôl-weithredol i brosesau hawlio a rheoli ariannol.

Argymhelliad 4

Dylid defnyddio proses adrodd sy’n seiliedig ar berthynas ac sydd â digon o gapasiti ac adnoddau i ystyried cynnydd prosiectau, nodi synergeddau posibl rhwng prosiectau wrth iddynt ddatblygu, a sicrhau parhad ymgysylltiad strategol trwy hwyluso rhyngweithio rhwng prosiectau a ariennir o dan gynllun fel y CSCDS. Mae angen i reolaeth Llywodraeth Cymru ar gynllun fel y CSCDS ymgorffori swyddogaeth cymorth a hwyluso i gael y gorau posibl o’r gwerth am arian cyffredinol y gellir ei gyflawni gan y garfan lawn o brosiectau.

Argymhelliad 5

Dylid trefnu gweithgareddau lledaenu a rhwydweithio ychwanegol i rannu’r canlyniadau a’r mewnwelediadau a gafwyd o brosiectau’r CSCDS a’u gwneud ar gael i brosiectau eraill ac i garfan ehangach o fuddiolwyr posibl mewn gwahanol sectorau a meysydd gweithgarwch.

Argymhelliad 6

Y tu hwnt i ffocws ar strategaeth ymadael ar gyfer prosiectau unigol, dylid sicrhau bod y gwaith cau prosiectau yn cynnwys ystyriaeth fanwl o ganlyniadau prosiectau ac unrhyw ofynion i sicrhau eu bod yn cyflawni’r canlyniadau a’r effeithiau a ragwelwyd.

Troednodiadau

[1] Dylid nodi er bod cyfnod y rhaglen yn rhedeg tan ddiwedd 2020, gellir gwario hyd at ddiwedd 2023 oherwydd yr hyn a elwir yn rheol N+3, sy’n berthnasol i raglenni a ariennir gan Ewrop.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Eva Trier ac Endaf Griffiths

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Richard Self
Ebost: gwerthuso.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 67/2024
ISBN digidol 978-1-83625-513-0

Image
GSR logo