Gwerthusiad o'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd a'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig: crynodeb
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi gwerthusiad terfynol ar gyfer cynlluniau grant cyfalaf a ariennir o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig. Cafodd y cynlluniau eu cynllunio i wella perfformiad a datblygu bwyd a diod.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi gwerthusiad terfynol o'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd a'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig – Bwyd. Cynlluniau grant cyfalaf yw’r rhain sydd â chyllideb o ychydig o dan £70 miliwn, a ariennir gyda'i gilydd o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 i 2020.
Mae’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd wedi'i ddylunio i helpu cynhyrchwyr cynradd cynhyrchion amaethyddol yng Nghymru i ychwanegu gwerth at eu hallbynnau. Mae'n gwneud hynny drwy ddarparu cymorth ar ffurf buddsoddiad grant cyfalaf i'r busnesau hynny sy'n cynnal gweithgareddau prosesu cam cyntaf a/neu ail-gam, gan gynyddu eu capasiti a'r galw am gynnyrch cynradd. Mae'r cynllun wedi'i ddylunio i wella perfformiad a chystadleurwydd busnesau prosesu i ymateb i'r galw gan ddefnyddwyr, annog arallgyfeirio, a nodi, gwasanaethu a manteisio ar farchnadoedd newydd, rhai sy’n dod i’r amlwg, a rhai presennol. Mae'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig – Bwyd yn gynllun grant cyfalaf llai sy'n darparu buddsoddiadau i wella a datblygu gweithgareddau prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod nad ydynt yn gymwys ar hyn o bryd o dan y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd.
Roedd yr ymgeiswyr yn mynd drwy broses ymgeisio dau gam ar gyfer y ddau gynllun, sef Datganiad o Ddiddordeb ac yna cais llawn. Y tîm yn Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am arfarnu cyflwyniadau Datganiad o Ddiddordeb a Thaliadau Gwledig Cymru oedd yn gyfrifol am sgorio ac arfarnu'r ceisiadau llawn. Gallai'r grantiau gyfrif am hyd at 40% o'r buddsoddiad yn unig, ac roedd yn ofynnol i ymgeiswyr gyfrannu 60 y cant mewn cyllid cyfatebol. Un gwahaniaeth allweddol rhwng y cynlluniau yw y gall y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd gael ei ddefnyddio’n unig i gynorthwyo prosiectau lle mae o leiaf 90 o fewnbynnau'r gweithgaredd prosesu yn gynhyrchion amaethyddol cymwys sy'n dod o'r tu mewn i'r UE, ac nid oes gan y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig – Bwyd y cyfyngiad hwnnw. Mae'r prif wahaniaeth arall yn ymwneud â maint y grantiau, gyda chyllideb o £65m ac uchafswm o £5m (isafswm o £2.4k) o grant yn cael ei gynnig yn achos y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd, o gymharu â chyllideb o gyfanswm o £3.5m ac uchafswm o £150k (lleiafswm o £5k) o grant yn cael ei gynnig yn achos y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig – Bwyd.
Mae'r buddsoddiadau a wnaed drwy’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd a’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig – Bwyd yn cael eu hystyried yn ymyriadau blaenllaw gan Lywodraeth Cymru i gyflawni eu hamcanion polisi i gynhyrchu twf yn y sector, cynyddu cynaliadwyedd a diogelwch bwyd trwy adeiladu, a hybu asedau cyfalaf.
Methodoleg
Comisiynwyd Wavehill gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad terfynol o'r ddau gynllun gyda ffocws ar asesu effeithiolrwydd amryw brosesau sy’n rhan o’r cynlluniau (ymgeisio, arfarnu, ymgysylltu â buddiolwyr, a rheoli’r cynlluniau) ynghyd â gwerthusiad o'r effeithiau cyffredinol, gwerth am arian, a chyfraniad tuag at amcanion polisi strategol Llywodraeth Cymru a'r UE, cyn darparu argymhellion a gwersi a ddysgwyd i helpu i ffurfio'r dystiolaeth a fydd yn bwydo i benderfyniadau yn y dyfodol sy'n ymwneud â buddsoddiadau sy'n cefnogi'r diwydiant bwyd yng Nghymru.
Datblygwyd Adroddiad Sefydlu a Fframwaith Gwerthuso Cam 1 ym mis Mehefin 2022, yn seiliedig ar ymarfer cwmpasu cynhwysfawr, i sefydlu’r dull gweithredu ar gyfer y gwerthusiad terfynol. Dechreuodd Cam 2 yn Hydref 2022 ac roedd yr holl waith maes a’r dadansoddi wedi'u cwblhau erbyn Gwanwyn 2023.
Gweithgareddau ymchwil yng Ngham 2
- Cyfweliadau manwl â swyddogion a rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru.
- Arolygwyd 65 o fuddiolwyr sy'n cyfateb i gyfradd ymateb gyffredinol o 44%.
- Arolygwyd 53 o bobl nad oeddent yn fuddiolwyr (h.y. busnesau a oedd wedi gwneud cais am gymorth ond a oedd yn aflwyddiannus neu a oedd wedi tynnu yn ôl) sy'n cyfateb i gyfradd ymateb gyffredinol o 14 y cant
- Dadansoddiad eilaidd o Wybodaeth Reoli Llywodraeth Cymru.
- Pum astudiaeth achos i dynnu sylw at enghreifftiau penodol o'r effaith ar fusnesau.
Roedd sawl cyfyngiad ar ein dull gweithredu, yn enwedig o ran yr asesiad o’r effaith economaidd a oedd yn dibynnu ar ddefnyddio data hunan-gofnodedig i nodi’r hyn a briodolwyd i'r cynlluniau. Er bod y sampl o’r rhai nad oeddent yn fuddiolwyr yn cael ei defnyddio fel grŵp cymharu, roedd gwahaniaethau sylweddol ym maint a math y busnesau o fewn pob grŵp. Roedd hyn yn cyfyngu ar werth y dadansoddiad fel rhan o'r asesiad effaith gwrthffeithiol. Ystyriwyd ffurfio grŵp rheoli o setiau data eilaidd fel opsiwn arall, ond nid oedd yn ymarferol oherwydd bylchau yn y data yn y wybodaeth reoli a oedd yn cyfyngu ar y gallu i greu grŵp rheoli addas. O ystyried y cyfyngiadau methodolegol hyn, dylid trin yr amcangyfrifon o’r effaith economaidd a ddarperir yn ofalus, er eu bod yn darparu amcangyfrifon dangosol dilys ar faint yr effaith a gynhyrchwyd.
Canfyddiadau allweddol
Allbwn cyflawni
Gyda'i gilydd, gwnaeth busnesau 520 o geisiadau i’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd gyda 127 yn llwyddiannus, sy'n cynrychioli cyfradd llwyddiant o 24%. Ym mhob ffenestr gyllido roedd mwy’n cael ei geisio na’r hyn oedd ar gael, gyda 63% o geisiadau yn aflwyddiannus ar gam y Datganiad o Ddiddordeb, gan ddangos galw a natur gystadleuol iawn y broses. Gwnaeth 469 o fusnesau gais am gymorth grant y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd gyda 119 yn llwyddiannus (25%) gan gynnwys wyth busnes a fu’n llwyddiannus ar ddau achlysur gwahanol.
Mae ychydig o dan £60m o gyllid grant wedi'i ddyfarnu drwy'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd ar gyfartaledd o ychydig o dan £470k ar gyfer y 127 prosiect, gan ddangos maint sylweddol y gweithgarwch a gynhaliwyd. Yn wir, er bod maint y grantiau a ddyfarnwyd drwy’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd yn amrywio’n sylweddol, o £2,459 i £5,000,000, roedd y mwyafrif yn weddol fawr gyda 54 y cant yn fwy na £100,000, gan gynnwys 11% a oedd yn fwy na £1m.
Mae data'r ceisiadau am grant yn dangos rhywfaint o leihad yn nifer y ceisiadau yng Ngham 2 sy'n debygol o fod yn gysylltiedig â rhai o'r materion a brofwyd yn ystod y broses ymgeisio ac arfarnu, gydag oedi hir yn arwain at ymgeiswyr yn tynnu allan o'r broses. Roedd yr oedi hwn yn arbennig o broblemus o gyfuno hynny â lefelau uchel o chwyddiant, gan arwain at fusnesau yn gorfod talu mwy na'r disgwyl am eu prosiectau. Gwaethygwyd hyn gan y ffaith na allai'r cynllun ymrwymo mwy o gyllid i gyfrif am gostau cynyddol (dim ond y swm y cytunwyd arno yn ystod cam y Datganiad o Ddiddordeb y gellid ei ddyfarnu). Cyfeiriodd sawl busnes at rwystredigaeth ynghylch hyn.
Gwnaed penderfyniad i gau’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig – Bwyd yn gynt na'r bwriad a chyn y gellid defnyddio'r gyllideb oherwydd cyfyngiadau ar adnoddau o fewn Llywodraeth Cymru. Dyfarnwyd cyfanswm o 28 o brosiectau i gyd, sy'n cyfateb i tua £811,000, sef dim ond 23% o'r gyllideb a oedd ar gael i’r cynllun.
Microfentrau oedd y mwyafrif o’r buddiolwyr, er bod y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd hefyd wedi cefnogi sefydliadau mwy gyda 15% yn cyflogi mwy na 50 o weithwyr. Roedd gan sefydliadau mwy gyfradd llwyddiant uwch o ran cael cyllid grant, sy'n debygol o fod yn gysylltiedig â'r adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu ceisiadau effeithiol yn yr hyn a ddisgrifiwyd gan lawer fel proses gymhleth a oedd yn cymryd llawer o amser.
Busnesau fferm oedd cyfran fawr o fuddiolwyr y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd, gyda chwarter yn dweud nad oedd ganddynt unrhyw weithrediadau prosesu blaenorol (a thrwy hynny’n defnyddio’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd i arallgyfeirio eu gweithrediadau) ac roedd 15% arall yn ceisio gwella gweithrediad prosesu ar eu fferm. Ni chafodd unrhyw is-sector ei dargedu'n benodol, fodd bynnag, roedd pum is-sector yn arbennig o gyffredin yn y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd sef buddiolwyr prosesu wyau, busnesau llaeth, cynhyrchion cig, alcohol a garddwriaeth.
Y dyluniad a’r cyflawni
Mae agweddau ar ddyluniad y ddau gynllun wedi cael derbyniad da o ran maint y grant, y gyfradd ymyrraeth, a'r costau a'r gweithgareddau cymwys. Yn yr un modd, cwestiynwyd y rhesymeg dros ddarparu grantiau mor fach â £2.5k, yn enwedig o ystyried yr adnodd oedd ei angen i wneud y cais.
Efallai mai'r prif ffactor a oedd yn cyfyngu yn nyluniad y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd oedd bod y cynllun ond yn agored i fuddiolwyr sy'n prosesu cynnyrch amaethyddol cynradd sydd â 90 y cant yn dod o ffynonellau o'r tu mewn i'r UE. Mae hyn yn esbonio cyfansoddiad yr is-sectorau a oedd yn canolbwyntio'n bennaf ar laeth, cynhyrchu wyau, a chig. Mae busnesau sy'n cynhyrchu diodydd meddal a rhai mathau o felysion a nwyddau pobi i gyd yn enghreifftiau o brosiectau na ellid eu hariannu o dan y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd.
Yn gyffredinol, roedd y cynlluniau'n agored iawn o ran y mathau o fusnesau a allai dderbyn cymorth. Roedd rhai safbwyntiau cymysg ar hyn o fewn y tîm cyflawni. Awgrymodd rhai y dylai'r cynlluniau gael eu targedu'n well at feysydd twf penodol er mwyn cyd-fynd yn well â'r amcanion polisi (e.e. drwy nodi pa is-sectorau sydd fwyaf tebygol o gynhyrchu twf i economi Cymru).
Defnyddiwyd dau brif lwybr i hyrwyddo'r cynlluniau. Yn gyntaf, sianeli arferol Llywodraeth Cymru gan gynnwys gwefannau amrywiol a chyhoeddiadau cysylltiedig. Yn ail, cyfarwyddwyd prosiectau cymorth eraill Llywodraeth Cymru fel Cywain ac Arloesi Bwyd Cymru i roi gwybod i’r cannoedd o fusnesau y maent yn eu cefnogi. Roedd yr ail lwybr yn arbennig o effeithiol gan ei fod yn caniatáu ffordd i greu cyswllt rhwng elfennau eraill o gynllunio a chefnogi twf busnes a'r buddsoddiad cyfalaf.
Cymysg oedd ymateb yr ymgeiswyr pan ofynnwyd iddynt am eu bodlonrwydd â'r broses ymgeisio. Mae'n ymddangos bod proses ymgeisio lawn Cam 2 wedi bod yn fwy problemus, gyda sawl sylw yn cyfeirio at anfodlonrwydd ynghylch y broses araf, a diffyg cyfathrebu, tra bod heriau’n ymwneud â chymhlethdod y broses a'r amser oedd ei angen i ddatblygu ceisiadau. Am y rhesymau hyn, roedd 58 y cant o fuddiolwyr yn teimlo bod rhaid iddynt gael mynediad at gymorth gan ddarparwyr allanol i ddatblygu eu ceisiadau gan gynnwys 38% a dalodd am wasanaethau ymgynghorwyr annibynnol, a oedd yn gwneud y cymorth o bosibl yn llai hygyrch i fusnesau llai. Yn yr un modd, mae'n bwysig nodi, o ystyried maint y grantiau a ddarparwyd, y barnwyd ei bod yn bwysig ac yn rhesymol cael proses ymgeisio gynhwysfawr a oedd yn craffu ar y cynigion yn fanwl.
Er bod y broses ymgeisio yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr nodi sut y byddent yn darparu buddion strategol o ran twf, buddion yn y gadwyn gyflenwi, cynaliadwyedd, a gwaith teg, nid oedd mecanwaith i fonitro cynnydd yn erbyn yr uchelgeisiau hynny a sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni.
Cafwyd ymateb cymysg iawn pan ofynnwyd i fuddiolwyr am y broses hawliadau a monitro a chyfeiriwyd at ystod eang o heriau yn cynnwys materion yn ymwneud â’r amser yr oedd pethau’n ei gymryd, anawsterau â'r system TG, diffyg cymorth, a'i bod yn rhy hir.
Er gwaethaf rhai o'r materion a adroddwyd ynghylch y prosesau amrywiol o fewn y cynlluniau grant, roedd buddiolwyr yn fodlon iawn â'r cymorth a dderbyniwyd yn gyffredinol.
Canlyniadau ac effeithiau
Nid oedd llawer o brosiectau'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd wedi'u cwblhau ar adeg cynnal ein dadansoddiad. Er hyn, roedd y cynllun eisoes wedi cyflawni pedwar o bum targed y Dangosyddion Perfformiad Allweddol a oedd yn canolbwyntio ar ganlyniadau'n ymwneud â chreu effeithiau economaidd cadarnhaol, fel datblygu cynnyrch a chreu swyddi. Mae thema debyg i’w gweld yn nata cyrhaeddiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig – Bwyd, wrth i’r cynllun ragori o gryn dipyn ar ei dargedau ar gyfer swyddi a grëwyd ac a ddiogelwyd.
Y prif ganlyniadau a adroddwyd gan fuddiolwyr oedd gwelliannau i'w gallu trwy well offer a chyfleusterau; mwy o gynaliadwyedd yn eu busnes; arallgyfeirio eu gweithrediadau, mynd i mewn i farchnadoedd newydd neu dyfu marchnadoedd presennol; a chynyddu eu cynhyrchiant. Roedd buddiolwyr yn gallu cyflenwi contractau mwy gan gynnwys rhai a lwyddodd i gyflenwi manwerthwyr a chyfanwerthwyr cenedlaethol neu fynd i mewn i farchnadoedd allforio am y tro cyntaf. Roedd yn ymddangos bod lefel uchel o ychwanegedd oddi mewn i’r canlyniadau hyn ac mae’r data'n awgrymu bod y ddau gynllun grant yn hynod effeithiol o ran trosoli buddsoddiad na fyddai wedi digwydd fel arall.
Roedd mwyafrif llethol y buddiolwyr wedi cynyddu eu gweithlu ers derbyn cymorth ac roedd tua hanner yn priodoli o leiaf rhywfaint o’r cynnydd hwn i’r cymorth. Ar sail yr amcangyfrifon a ddarparwyd, gallwn amcangyfrif bod y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd wedi creu neu ddiogelu cyfanswm o 761 o swyddi cyfwerth ag amser llawn. Gan ddefnyddio'r un dull, rydym yn amcangyfrif bod y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig – Bwyd wedi creu neu ddiogelu 65 o swyddi cyfwerth ag amser llawn (net).
Mae'r dadansoddiad o ddata trosiant yn darparu tystiolaeth gref o dwf a gynhyrchwyd gan gymorth y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd yn benodol. Roedd mwyafrif llethol y busnesau wedi gweld cynnydd ers derbyn cymorth ac, ar gyfartaledd, roedd buddiolwyr yn amcangyfrif y gellid priodoli tua chwarter eu trosiant i effaith y cymorth a gafwyd.
Mae'n ymddangos hefyd y bu rhywfaint o effaith ar y gadwyn gyflenwi, wrth i 21% o'r ymatebwyr nodi bod cyfran uwch o'u gwariant yn cael ei wneud yng Nghymru yn dilyn y cymorth a 33% nodi cyfran uwch o werthiant o'r tu allan i Gymru o gymharu â chyn cael cymorth. Mae'r dystiolaeth bod buddiolwyr yn ehangu eu marchnadoedd y tu hwnt i Gymru yn bwysig o ran hybu enillion y cynlluniau ar lefel Cymru h.y. drwy leihau’r potensial i ddisodli cyfran cystadleuwyr o Gymru o’r farchnad.
Ar sail y data a ddarparwyd, ac ar ôl ystyried y pum ffactor ychwanegedd y dylid eu hystyried mewn asesiadau effaith economaidd, rydym yn amcangyfrif bod y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd wedi cynhyrchu tua £76m, a bod y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig – Bwyd wedi cynhyrchu tua £928k, a bod y ddau gynllun gyda'i gilydd wedi cynhyrchu tua £77m mewn effaith ychwanegol net o ran Gwerth Ychwanegol Gros. Roedd yr asesiad hwn yn cynnwys rhai rhagdybiaethau a chamau symleiddio pwysig – a gallai newid y rhain gael effeithiau sylweddol ar yr amcangyfrifon a gynhyrchir trwy gyfrifiadau darluniadol o'r fath.
Dywedodd 41% o fuddiolwyr fod eu prosiectau wedi creu effeithiau amgylcheddol cadarnhaol gydag ymatebwyr fel arfer yn cyfeirio at effeithlonrwydd ynni yn eu prosesau newydd, cyflwyno ynni adnewyddadwy a newid i dechnolegau carbon is, a gwelliannau i'w prosesau ailgylchu a gwell rheolaeth gwastraff. Mae angen cydbwyso'r manteision cadarnhaol hyn yn erbyn cynhyrchu mwy ac ehangu marchnadoedd daearyddol.
Roedd effeithiau'r cynlluniau hyn a'r amcanion strategol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn cyd-fynd yn dda, yn enwedig o ran yr amcanion twf, cynyddu enw da a safonau, a rhywfaint o dystiolaeth o effeithiau amgylcheddol cadarnhaol. Fodd bynnag, mae yna rai meysydd, fel gwaith teg a chynaliadwyedd amgylcheddol, lle nad oedd gan y cynllun fecanwaith efallai i sicrhau y byddai'r rhain yn cael eu cyflawni.
Gwnaeth y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd gyflawni yn erbyn ei Faes Ffocws Blaenoriaeth yn y Rhaglen Datblygu Gwledig – 'gwella cystadleurwydd cynhyrchwyr cynradd drwy eu hintegreiddio'n well i'r gadwyn bwyd-amaeth drwy gynlluniau ansawdd, gan ychwanegu gwerth at gynhyrchion amaethyddol, hyrwyddo mewn marchnadoedd lleol a chylchoedd cyflenwi byr, grwpiau cynhyrchwyr a sefydliadau rhyng-gangen' – ar ddwy lefel: a) trwy'r cymorth a ddarparwyd i fusnesau fferm i arallgyfeirio a thyfu neu ddatblygu gweithrediadau newydd, a b) y budd anuniongyrchol i gynhyrchwyr cynradd yn deillio o'r twf a gynhyrchwyd ar gyfer y busnesau gweithgynhyrchu a phrosesu bwyd y maent yn cyflenwi iddynt.
Casgliadau ac argymhellion
Mae ein gwerthusiad yn canfod bod ymyriadau’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd a’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig – Bwyd wedi cefnogi miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn y seilwaith prosesu, gan arwain at wella offer a chyfleusterau, a thrwy hynny alluogi busnesau i dyfu dros y cyfnod dan sylw. Gyda'i gilydd, mae'r cynlluniau wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni eu huchelgeisiau twf ar gyfer y sector. Yn unol â hynny, mae'r cynlluniau hyn wedi dangos gwerth cynorthwyo busnesau bwyd a diod i fuddsoddi yn eu prosesau cynhyrchu a pharhau i wneud hynny yn y dyfodol, er y dylid adolygu'r rhesymeg dros gymorth ar yr adeg briodol i sicrhau bod hyn yn parhau i fod yn berthnasol.
Argymhelliad 1
Dylai Llywodraeth Cymru barhau i ddarparu cymorth cyfalaf priodol i fusnesau bwyd a diod, gan dargedu’r cymorth yn effeithiol i gynhyrchu’r gwerth mwyaf posibl.
Er ei bod yn ymddangos bod y cynlluniau wedi creu effeithiau amgylcheddol cadarnhaol, mae angen cydbwyso hyn hefyd yn erbyn effeithiau niweidiol posibl wrth gynhyrchu mwy ac ehangu marchnadoedd daearyddol. Er na allwn fesur yr effeithiau hyn, byddai'r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu, at ei gilydd, ei bod yn ymddangos bod y cynlluniau wedi cyfrannu'n gadarnhaol.
Argymhelliad 2
Dylai cynlluniau'r dyfodol ystyried cyflwyno mecanweithiau i fonitro a rheoli'n well ar gyfer effeithiau amgylcheddol y prosiectau a gefnogir. Gellid hefyd ystyried comisiynu astudiaeth ymchwil ar wahân yn benodol ar effeithiau amgylcheddol cadarnhaol a negyddol y cynlluniau hyn.
Argymhelliad 3
Dylai unrhyw gynlluniau yn y dyfodol sicrhau bod prosesau monitro mwy cadarn (e.e. gan gynnwys cipio data am oedran busnesau a’u trosiant hanesyddol a blynyddol) yn cael eu gweithredu i alluogi amcangyfrifon mwy manwl o effeithiau economaidd.
Mae'r dystiolaeth yn dangos bod y ddau gynllun wedi'u dylunio'n dda yn gyffredinol o ran paramedrau’r grantiau. Wedi dweud hynny, roedd rhywfaint o awgrym y dylai'r trothwy isaf fod wedi bod yn uwch. Y prif ffactor a oedd yn cyfyngu yn nyluniad y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd, fodd bynnag, oedd gofyniad y Rhaglen Datblygu Gwledig ynghylch cyfyngu'r cymorth i fusnesau sy'n prosesu cynnyrch amaethyddol cynradd, a thrwy hynny atal is-sectorau eraill, mwy priodol o bosibl, rhag derbyn y cymorth. Roedd hyn oherwydd Maes Ffocws Blaenoriaethol y Rhaglen Datblygu Gwledig a ddefnyddiwyd i ariannu'r cynllun, sydd efallai’n dangos rhywfaint o densiwn rhwng yr amcanion strategol hynny a rhai Llywodraeth Cymru.
Argymhelliad 4
Dylai fod dealltwriaeth fwy cydlynol o'r amcanion strategol yn y cynllun grant cyfalaf nesaf, sy'n ymwneud ag asesiad clir o'r rhesymeg dros ymyrryd sy'n berthnasol bryd hynny er mwyn adlewyrchu datblygiadau'r farchnad. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru egluro'r amcanion hynny cyn gynted â phosibl a chyfleu'r amcanion i'r holl bersonél sy'n gyfrifol am weinyddu'r cynllun newydd. Byddai hyn hefyd yn gyfle i gael safbwynt mwy ystyriol ar yr amcanion amgylcheddol a sut mae'r rhain yn cyd-fynd ag amcanion polisi ynghylch datblygu economaidd.
Argymhelliad 5
Os nad yw wedi'i addasu eisoes, dylid dileu'r cyfyngiad ynghylch busnesau sy'n prosesu cynnyrch amaethyddol cynradd yn unig o'r cynllun nesaf (oni bai bod ychwanegu gwerth at gynhyrchion amaethyddol yn parhau i fod yn flaenoriaeth graidd).
Yn gyffredinol, dyluniwyd y cynlluniau i fod yn agored i bob busnes cymwys ac nid oeddent yn targedu carfannau penodol o fusnesau. Mae hyn wedi arwain at fuddsoddiad sylweddol mewn rhai is-sectorau, fel cynhyrchu wyau a microfragdai. Gwnaeth swyddogion polisi dynnu sylw at hyn fel gwendid gyda phryderon ynghylch buddsoddi mewn sectorau nad ydynt yn darparu'r gwerth strategol a fwriadwyd.
Argymhelliad 6
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried defnyddio dull o dargedu mwy yn y cynllun grant nesaf naill ai drwy'r sianeli marchnata a ddefnyddir neu drwy roi mwy o bwysau tuag at sectorau twf uchel neu fathau o brosiectau yn ystod y broses arfarnu. Dylai hyn gael ei ategu gan asesiad o amodau'r farchnad wedi’i arwain gan dystiolaeth a’r posibilrwydd o fwydo i mewn i ddyluniad y cynllun a’r modd y mae’n targedu.
Roedd gan fusnesau mwy gyfradd llwyddiant uwch yn ystod y broses ymgeisio. Mae'n ymddangos bod hyn yn mynd yn groes i ffocws polisi allweddol Llywodraeth Cymru ar gynyddu sylfaen o gwmnïau canolig eu maint yn y sector trwy gynorthwyo microfusnesau a busnesau bach i gymryd y cam nesaf.
Argymhelliad 7
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno mecanweithiau penodol i sicrhau bod y cymorth yn cael ei dargedu'n well at ficrofusnesau a busnesau bach. Un dull fyddai neilltuo cyfran o'r cyllid (e.e. 60%) ar gyfer busnesau o’r carfannau maint hynny. Dull arall fyddai lleihau terfyn uchaf y grantiau.
Roedd gan y mwyafrif helaeth o fuddiolwyr uchelgeisiau twf cryf a chynllun clir ar gyfer twf cyn derbyn cymorth, ac roedd gan gyfran fawr achrediad eisoes, gan ddangos eu parodrwydd ar gyfer twf. Yn yr ystyr hwnnw, mae'r cynlluniau wedi llwyddo i ymgysylltu â set briodol o fusnesau sy'n gyson â'r weledigaeth a fynegwyd gan swyddogion polisi Llywodraeth Cymru am yr angen i "gefnogi'r enillwyr". Mae'r pwynt ynghylch achrediadau yn allweddol gan fod angen angen i ficrofentrau sydd ag uchelgeisiau difrifol ynghylch datblygu i fod yn fusnesau mwy yn gyffredinol fod wedi’u hachredu.
Argymhelliad 8
Gallai'r cynllun nesaf ymgorffori gofyniad i fusnesau naill ai fod wedi’u hachredu neu ymrwymo i ennill achrediad i fod yn gymwys i gael cymorth, fel ffordd o sicrhau bod y buddsoddiad yn cyrraedd y busnesau sydd yn y sefyllfa orau i dyfu.
Cafodd y cynlluniau eu hyrwyddo'n dda, fel y tystiwyd gan nifer y ceisiadau a dderbyniwyd. Gwelwyd yr anawsterau mwyaf arwyddocaol yn y prosesau ymgeisio, gwerthuso a hawlio yn ogystal ag ymgysylltiad busnesau yn gyffredinol. Roedd rhai o'r prif rwystredigaethau yn ymwneud â'r broses ymgeisio, Cam 2 yn bennaf, gydag adroddiadau o oedi hir a chyfathrebu gwael.
Argymhelliad 9
Dylai cynlluniau'r dyfodol flaenoriaethu camau i osgoi oedi yn y broses gymeradwyo (e.e. drwy adolygu'r broses ymgeisio dau gam a/neu drwy sicrhau bod mwy o adnoddau i gyflymu'r broses). Gellid hefyd ystyried defnyddio dull mwy hyblyg. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys mecanwaith i gynyddu cyllid grant yn unol â chwyddiant pan fydd oedi hir o'r Datganiad o Ddiddordeb i’r cam o brynu eitemau cyfalaf (er na fyddai hyn yn atal rhai o'r materion eraill sy'n digwydd oherwydd oedi fel amodau'r farchnad, cystadleuwyr ac ati a all effeithio ar gryfder yr achos busnes).
Roedd anawsterau hefyd ynghylch cymhlethdod y broses ymgeisio a'r adnoddau a'r ddealltwriaeth oedd eu hangen, gan arwain at nifer yn penodi ymgynghorwyr allanol a allai fod o bosibl yn rhoi mantais annheg i fusnesau a allai fforddio cymryd camau o'r fath.
Argymhelliad 10
Dylid ystyried y broses ymgeisio ymhellach i alluogi casglu'r wybodaeth angenrheidiol yn effeithlon a theg i helpu i asesu ceisiadau’n effeithiol. Dylid naill ai symleiddio'r broses i sicrhau y gall busnesau ei chyflawni ar eu pen eu hunain, neu dylai fod lefel gyson o gymorth i bob ymgeisydd i wneud y cynllun mor hygyrch â phosibl a darparu chwarae teg.
Byddai'r ychwanegedd uchel a nodwyd yn y cynllun gwerthuso hwn yn awgrymu bod y broses arfarnu wedi bod yn effeithiol o ran sicrhau nad yw'r busnesau hynny sy'n gallu ariannu'r prosiectau eu hunain yn derbyn y cymorth. Yn wir, roedd elfen benodol o fewn y broses arfarnu a oedd yn ystyried mater ychwanegedd yn benodol.
Argymhelliad 11
Dylai'r cynllun nesaf gadw arferion tebyg ynghylch arfarnu a ellid cyflawni prosiectau heb arian cyhoeddus (a gwneud gwelliannau pellach lle bo hynny'n briodol).
Elfen arall a gyflwynwyd i'r cynllun nesaf yw ffurfioli'r cysyniad o lofnodi contract economaidd ar adeg gwneud cais am gymorth. Credwn fod hwn yn ychwanegiad synhwyrol a ddylai, os caiff ei wneud yn dda, sicrhau bod buddiolwyr yn parhau i gyflawni rhai o'r amcanion strategol ehangach ynghylch gwaith teg a chynaliadwyedd.
Gwnaeth ein gwerthusiad ganfod anawsterau yn ymwneud ag oedi, diffyg cymorth a diffyg cyfathrebu yn ystod y broses hawlio yn ogystal â'r cam ymgeisio. Yn ogystal, mae'r system TG a ddefnyddiwyd ar gyfer y cynllun wedi bod yn destun rhwystredigaeth arall ac wedi arwain at oedi pellach.
Argymhelliad 12
Dylid cryfhau sut y mae’r broses hawlio yn cael ei rheoli yn y cynllun nesaf lle dylai adnoddau ychwanegol fod yn brif flaenoriaeth.
Mae’r cynlluniau grant cyfalaf hyn yn cyd-fynd yn dda â darpariaethau cymorth eraill yn y sector sy'n canolbwyntio ar gymorth datblygu busnes, uwchsgilio, ac arloesi. Mae'r rhan fwyaf o fuddiolwyr wedi derbyn cymorth gan rai o'r gwasanaethau eraill hynny, a thrwy hynny fanteisio ar y modd y maent yn ategu ei gilydd fel pecyn. Fodd bynnag, achlysurol fu’r ymgysylltiadau hyn.
Argymhelliad 13
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried integreiddio'r cynlluniau ymhellach i safoni'r math o gymorth y mae busnesau yn ei dderbyn sy'n amgylchynu’r cyllid grant. Er enghraifft, un cam syml fyddai rhoi gwybod i bob busnes am y cymorth sydd ar gael gan ddarparwyr eraill yn ystod yr ymgysylltiad cychwynnol. Gallai'r tîm hefyd weithio ochr yn ochr â darparwr arall fel Busnes Cymru neu Cywain i greu cymorth pwrpasol i bob ymgeisydd pe bai ei angen arnynt.
Manylion cyswllt
Awduron: Ioan Teifi, Endaf Griffiths
Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Ymchwil, Monitro a Gwerthuso
Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: gwerthuso.ymchwil@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 10/2025
ISBN digidol: 978-1-83715-167-7