Yn darparu adroddiad strategol cynhwysfawr ar gyllid myfyrwyr ar draws addysg bellach.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthuso’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Grant Dysgu’r Cynulliad (addysg bellach)
Daeth yr adroddiad i'r casgliadau canlynol:
- mae gan gynlluniau gweinyddol y Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) nodau ac amcanion tebyg iawn o ran cymell rhai o oedran addysg ôl-orfodol i barhau neu ddychwelyd i addysg bellach
- cafodd y cynllun dewisol Cronfa Ariannol wrth Gefn (Addysg Bellach) ei ddarparu i roi cymorth i fyfyrwyr pan fod angen ond mewn gwirionedd mae’n cael ei weinyddu mewn ffordd fwy systematig i ariannu costau a darpariaethau sydd wedi'u cynllunio, yn enwedig o ran trafnidiaeth a gofal plant.
Mae'r adroddiad yma yn argymell cynllun grant gweinyddol sengl sydd â meini prawf incwm y cartref wedi ei osod ar lefel tebyg i drothwy cyfredol y Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (addysg bellach) o £18,370 neu lai, ac i chwilio am ffyrdd mwy effeithiol o ariannu rhai o'r costau lletya sy’n cael ei ariannu drwy'r Cynllun Gronfa Ariannol wrth Gefn (addysg bellach) ar hyn o bryd, yn enwedig costau cludiant a gofal plant.
Mae'r adroddiad yn gwneud 14 argymhelliad strategol sy'n cynnwys cyllid myfyrwyr ôl-orfodol.
Adroddiadau
Gwerthusiad o’r cymorth ariannol i fyfyrwyr mewn addysg bellach yng Nghymru: adroddiad strategol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 539 KB
Cyswllt
Joanne Corke
Rhif ffôn: 0300 025 1138
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.