Diben y gwerthusiad yw asesu effaith ac effeithlonrwydd y Cronfeydd er mwyn rhoi gwybodaeth ar gyfer eu cyfeiriad yn y dyfodol ac ystyried os yw dyraniad CAWG.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'r adroddiad yma'n cyflwyno canfyddiadau gwerthusiad a gynhaliwyd rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2012 oedd yn cynnwys adolygiad desg o ddogfennau a setiau data Llywodraeth Cymru yn ogystal â gwybodaeth gan Sefydliadau Addysg Uwch/Sefydliadau Addysg Bellach unigol. Roedd hefyd yn cynnwys datblygu offerynnau ymchwil a chynnal gwaith maes gyda Sefydliadau Addysg Uwch a Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru a rhanddeiliaid eraill.
Roedd y gwaith maes yn cynnwys ymweliadau i bum Sefydliad Addysg Uwch a naw Sefydliad Addysg Bellach (yn cynnwys grwpiau ffocws/cyfweliadau gyda chyfanswm o 152 myfyriwr), yn ogystal â chyfweliadau ffôn gyda chynrychiolwyr pump o'r chwe Sefydliad Addysg Uwch arall a'r deg Sefydliad Addysg Bellach arall.