Adolygu i ba raddau y mae'r dyletswyddau yn y Cod Ymarfer Awtistiaeth yn cael eu bodloni.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nod y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Awtistiaeth yw sicrhau bod anghenion plant, pobl ifanc ac oedolion ag awtistiaeth yn cael eu deall a'u bod yn cael eu cefnogi i fyw bywydau boddhaus. Mae'r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth yn nodi'r hyn y gall pobl awtistig, eu teulu a'u gofalwyr ei ddisgwyl gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Cynhaliwyd gwerthusiad o'r Cod i adolygu'r graddau y mae'r dyletswyddau yn y Cod yn cael eu cyflawni ac i ddatblygu argymhellion ar gyfer gwella wrth gyflawni'r dyletswyddau.
Mae'r gwerthusiad wedi'i strwythuro mewn dau gam a dyma'r cam cyntaf sy'n canolbwyntio ar gydymffurfiaeth â'r Cod a'i ddyletswyddau o safbwynt ymarferwyr.
Mae'r adroddiad yn nodi cydymffurfiaeth â'r Cod, yn ogystal â ffactorau ehangach sydd wedi cynorthwyo neu lesteirio’r cydymffurfio.
Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion i bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol wneud gwelliannau wrth gyflawni dyletswyddau'r Cod.
Adroddiadau

Gwerthusiad o'r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth: Cam Un (asesiad ymarferwyr o gydymffurfio) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

Gwerthusiad o’r Cod Ymarfer Awtistiaeth: Cam 1. Beth mae pobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau awtistiaeth yn ei feddwl , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

Gwerthusiad o'r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth: Crynodeb o Gam Un (asesiad ymarferwyr o gydymffurfio) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 677 KB
Cyswllt
Laura Entwistle
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.