Neidio i'r prif gynnwy

Nod y gwerthusiad oedd asesu cynllun, gweithrediad a chanlyniadau 18 prosiect clwstwr ysgolion fu'n profi dulliau o reoli darpariaeth cyflenwi pan fo absenoldeb o'r ysgol.

Prif ganfyddiadau

  • Mae amrywiol fodelau arloesol ac amgen wedi cael eu rhoi ar waith gan brosiectau clystyrau i roi sylw i ddarpariaeth cyflenwi pan fo absenoldeb o'r ysgol.
  • Mae'r dull hyblyg o reoli a monitro ynghyd â'r ymreolaeth a roddwyd i brosiectau clwstwr gan Lywodraeth Cymru wedi eu galluogi i asesu effeithiolrwydd eu modelau cyflawni a gwneud addasiadau lle bo'n ofynnol.
  • Mae prosiectau clwstwr yn adrodd am fuddsoddiad yn ansawdd a chapasiti athrawon cyflenwi. 
  • Adroddwyd am amrywiol ganlyniadau dysgu ac addysgu cadarnhaol, yn ogystal â gweithgarwch gwella ysgolion ehangach.
  • Mae'r prosiect wedi cryfhau cydweithio ac arferion gorau ar draws ysgolion clwstwr.
  • Ceir rhywfaint o dystiolaeth bod clystyrau a oedd fel rheol yn defnyddio asiantaethau cyflenwi allanol wedi adrodd am well effeithlonrwydd o ran rheolaeth a manteision gweinyddol ac o ran adnodd. 
  • Yn sgil yr amrywiaeth yn y dulliau o ddefnyddio athrawon ychwanegol a chyfyngiadau i'r data monitro, nid oedd yn bosib gwneud cymhariaeth gywir gyda chostau dulliau amgen o ddarpariaeth cyflenwi. 
  • Mae o gwmpas traean o'r prosiectau clwstwr naill ai yn parhau neu'n ystyried parhau gyda rhai elfennau o'u prosiectau. Er bod dyhead ymysg y clystyrau eraill i barhau, mae'n bosib bod rhwystrau ariannol rhag gwneud hynny.

 

Adroddiadau

Gwerthusiad o’r clwstwr cyflenwi mewn ysgolion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o’r clwstwr cyflenwi mewn ysgolion: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 700 KB

PDF
700 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ffeithlun: prosiect Clwstwr Cyflenwi mewn Ysgolion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 710 KB

PDF
710 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Katy Marrin

Rhif ffôn: 0300 062 5103

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.